Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Adran 12 - Yr wybodaeth iʼw darparu iʼr swyddog prisio

34.Maeʼr adran hon yn cymhwyso i Gymru, gyda diwygiadau, y dyletswyddau darparu gwybodaeth aʼr gyfundrefn gydymffurfio gysylltiedig a ddarperir gan baragraffau 4I i 4M, 5ZC i 5ZF a 5BD i 5BF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988. Maeʼr darpariaethau yn gosod dyletswyddau ar dalwyr ardrethi (neu bersonau a fyddaiʼn dalwyr ardrethi pe bai eu hereditamentauʼn cael eu dangos mewn rhestr ardrethu) i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, system o gosbau am fethu â chydymffurfio, a gweithdrefnau ar gyfer adolygu cosbau ac apelio yn eu herbyn.

35.Mae is-adrannau (2), (3) a (5) yn diwygio paragraffau 4I a 4M(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 er mwyn dileu geiriau syʼn cyfyngu effaith y darpariaethau i Loegr.

36.Mae paragraffau 4I i 4M o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodiʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy i Asiantaeth y Swyddfa Brisio:

  • Mae paragraff 4I yn darparu bod y dyletswyddauʼn gymwys i bersonau syʼn dalwyr ardrethi ar gyfer hereditament (neu a fyddaiʼn dalwyr ardrethi pe baiʼr hereditament yn cael ei ddangos mewn rhestr ardrethu). Mae hyn yn cynnwys y rhai syʼn derbyn rhyddhad o 100% rhag y swm a godir.

  • Mae paragraff 4J yn darparu dyletswydd ar y person hwnnw i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy o fewn cyfnod hysbysadwy. Mae gwybodaeth yn hysbysadwy os ywʼn ymwneud â hunaniaeth y talwr ardrethi (neuʼr sawl a fyddaiʼn dalwr ardrethi), neu fodolaeth, maint neu werth ardrethol yr hereditament, ond dim ond pe gellid disgwyl yn rhesymol iʼr person hwnnw wybod y byddai hynnyʼn cynorthwyo Asiantaeth y Swyddfa Brisio i gyflawni ei swyddogaethau. Y cyfnod hysbysadwy ywʼr cyfnod o fewn 60 o ddiwrnodau iʼr newid mewn gwybodaeth hysbysadwy, neu unrhyw gyfnod hirach y gellir ei bennu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn hysbysiad. Mae is-adran (4) yn diwygio paragraff 4J(4) i ddarparu, mewn perthynas â hereditament yng Nghymru, y caniateir iʼr cyfnod hysbysadwy hefyd fod yn unrhyw gyfnod hirach a gytunir gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bydd hyn yn caniatáu i berson ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio roi estyniad iʼr cyfnod hysbysadwy.

  • Mae paragraff 4K yn datgan bod rhaid iʼr person baratoi cadarnhad blynyddol, o fewn 60 o ddiwrnodau syʼn dechrau ar 30 Ebrill bob blwyddyn, ei fod naill ai wedi darparu gwybodaeth hysbysadwy neu nad oedd yn ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth oʼr fath.

  • Mae paragraff 4L yn darparu iʼr wybodaeth gael ei chyflwyno gan ddefnyddio cyfleuster ar-lein a ddarperir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu mewn modd arall y cytunir arno.

  • Mae paragraff 4M yn ailddatgan pwerau presennol ym mharagraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988, syʼn caniatáu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd ofyn am wybodaeth a fydd yn ei barn hithau yn ei chynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau. Efallai y bydd angen i Asiantaeth y Swyddfa Brisio ofyn am wybodaeth o hyd gan ddefnyddioʼr pŵer hwn, gan gynnwys ar gyfer eiddo arbenigol a mathau penodol iawn o wybodaeth.

37.Mae is-adrannau (7) ac (8) yn diwygio paragraffau 5A(1) a 5C(2), yn y drefn honno, o Atodlen 9 i Ddeddf 1988, i estyn y dyddiad cau i dalwyr ardrethi ymateb i hysbysiad gwybodaeth a ddyroddir gan awdurdodau bilio (o 56 i 60 o ddiwrnodau) ac apelio yn erbyn hysbysiad cosb am fethu â chydymffurfio (o 28 i 30 o ddiwrnodau). Maeʼr newidiadau hyn yn cynnal amserlenni cyson ar gyfer darparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio aʼr awdurdodau bilio.

38.Mae paragraffau 5ZC i 5ZF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodi system o gosbau am fethiannau i gydymffurfio âʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy:

  • Mae paragraff 5ZC yn darparu ar gyfer y canlynol:

    i.

    Cosb sifil pan fo person yn methu â chydymffurfio âʼr dyletswyddau. Pennir y gosb o dan baragraff 5ZD(1).

    ii.

    Trosedd pan fo person yn gwneud datganiad ffug yn fwriadol neuʼn ddi-hid wrth honni ei fod yn cydymffurfio âʼr dyletswyddau. Mae person yn agored ar euogfarn ddiannod i garchar am gyfnod nad ywʼn fwy na 3 mis neu i ddirwy nad ywʼn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol neu iʼr ddau. Er mwyn gosod atebolrwydd troseddol, maeʼr prawf arferol yn gymwys; rhaid iddi fod y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y drosedd wedi ei chyflawni. Fel arall, gellir dal y person yn atebol am gosb sifil am wneud datganiad ffug oʼr un natur (er bod rhaid iddi fod y tu hwnt i amheuaeth resymol o hyd bod y drosedd wedi ei chyflawni). Pennir y gosb sifil o dan baragraff 5ZD(2).

    iii.

    Y trefniadau ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cosb, a chynnwys yr hysbysiadau hynny, pan fo person yn atebol am gosb sifil. Rhaid talu cosb o fewn 30 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad cosb (oni bai bod y cyfnod hwn yn cael ei estyn gan yr amser a gymerir i gwblhau unrhyw adolygiad neu apêl). Os cyflwynir hysbysiad cosb sifil i berson mewn cysylltiad â gwneud datganiad ffug yn fwriadol neuʼn ddi-hid, ni chaniateir cychwyn achos troseddol am yr un drosedd cyn y dyddiad cau ar gyfer taluʼr gosb. Os caiff yr atebolrwydd hwnnw ei ryddhau, yna ni all unrhyw achos troseddol nac euogfarn ddilyn ac ni ellir cyflwyno hysbysiad cosb arall, mewn perthynas â gwneud y datganiad ffug yn fwriadol neuʼn ddi-hid. Os yw person yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd syʼn codi o hysbysiad cosb am fethu â chydymffurfio âʼr dyletswyddau hysbysu ac wedi hynny yn cael ei euogfarnu o drosedd neu yn cael hysbysiad cosb arall wedi ei gyflwyno iddo mewn cysylltiad â datganiad ffug, yna rhaid iʼr ddedfryd neu swm y gosb adlewyrchu swm y gosb a ryddhawyd eisoes.

  • Mae paragraff 5ZD yn darparu ar gyfer lefel cosb sifil:

    i.

    Pan foʼr person wedi methu â chydymffurfio â gofyniad hysbysu, y gosb uchaf yw 2% oʼr gwerth ardrethol perthnasol neu £900, pa un bynnag ywʼr mwyaf.

    ii.

    Pan foʼr person wedi gwneud datganiad ffug yn fwriadol neuʼn ddi-hid wrth honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad hysbysu, y gosb uchaf yw cyfanswm 3% oʼr gwerth ardrethol perthnasol a £500.

    iii.

    Pan foʼr person yn atebol am fethu â chydymffurfio â gofyniad hysbysu, byddaiʼn agored i gosb bellach o £60 y dydd pe baiʼn methu â chydymffurfio âʼr gofyniad o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad cosb cysylltiedig. Ni chaiff cyfanswm yr atebolrwydd am gosbau dyddiol pellach fod yn fwy na £1,800.

  • Mae paragraff 5ZE yn darparu ar gyfer pennu gwerthoedd ardrethol, at ddibenion cyfrifo cosbau pan fo mater syʼn effeithio ar y gwerth ardrethol wedi newid rhwng y diwrnod y dylaiʼr wybodaeth hysbysadwy fod wedi ei darparu a diwrnod yr hysbysiad cosb. Maeʼr darpariaethau hyn yn sicrhau nad ywʼr gosb yn cael ei chynyddu naʼi lleihau oherwydd newidiadau iʼr hereditament ar ôl iʼr atebolrwydd iʼr gosb godi gyntaf.

  • Mae paragraff 5ZF yn darparu y caiff y swyddog prisio liniaru neu ddileu unrhyw un oʼr cosbau uchod. Bydd hyn yn caniatáu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio weithreduʼr dyletswyddau aʼr cosbau yn deg a chyda sylw dyladwy i amgylchiadau unigol.

39.Mae paragraffau 5BD i 5BF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodiʼr gweithdrefnau ar gyfer adolygu ac apelio yn erbyn cosbau am fethu â chydymffurfio âʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy:

  • Mae paragraff 5BD yn rhoi 30 o ddiwrnodau i berson i ofyn am adolygiad o hysbysiad cosb. Maeʼr adolygiad yn cael ei wneud gan swyddog adolygu o Asiantaeth y Swyddfa Brisio, syʼn swyddog gwahanol iʼr un a osododd y gosb. Mae natur a maint yr adolygiad yn unol âʼr hyn a ymddengys yn briodol iʼr swyddog adolygu. Rhaid cwblhauʼr adolygiad o fewn 45 o ddiwrnodau, neu fel arall trinnir y gosb fel pe bai wedi ei chadarnhau.

  • Mae paragraff 5BE yn darparu ar gyfer yr hawl i apelio iʼr tribiwnlys prisio yn erbyn casgliadauʼr adolygiad, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr hysbysiad (neuʼr hysbysiad tybiedig) ynghylch casgliadauʼr adolygiad.

  • Mae paragraff 5BF yn estyn y cyfnod ar gyfer talu cosb ac yn darparu nad yw achosion o adolygiad neu apêl yn atal rhoi cosb arall, pan foʼr person yn parhau i fethu â chydymffurfio âʼr gofyniad hysbysu. Mae hefyd yn sicrhau y byddai adolygiad neu apêl yn ystyried unrhyw gosb ddyddiol a osodir o dan baragraff 5ZD(3) yn ychwanegol at y gosb a osodir o dan baragraff 5ZC(1).

40.Mae is-adran (6) yn mewnosod is-baragraff newydd (4A) ym mharagraff 5ZC o Ddeddf 1988, i ddarparu bod rhaid i hysbysiad cosb a gyflwynir mewn perthynas â hereditament yng Nghymru gynnwys esboniad o effaith paragraff 5BD(9). O ganlyniad, bydd yr hysbysiad yn egluro y dylid trin y gosb fel pe bai wedi ei chadarnhau, pe baiʼr person yn gofyn am adolygiad, os nad ywʼr swyddog adolygu wedi rhoi hysbysiad oʼi benderfyniad o fewn 45 o ddiwrnodau. Bwriad hyn yw sicrhau ei bod yn eglur i’r person pryd y bydd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau, y caniateir apelio yn erbyn yr hysbysiad cosb yn ystod y cyfnod hwnnw, yn dechrau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources