Adran 13 – Trefniadau artiffisial i osgoi ardrethu annomestig
41.Maeʼr adran hon yn mewnosod adrannau 63F i 63M (Gwrthweithio osgoi trethi: Cymru) yn Neddf 1988. Maent yn gwneud darpariaeth ynghylch gwrthweithio manteision syʼn deillio o drefniadau artiffisial i osgoi atebolrwydd am dalu ardrethi annomestig.
42.At ddibenion adrannau 63F i 63M, mae i drefniant artiffisial i osgoi ardrethu annomestig yr ystyr a roddir yn adrannau 63F i 63H.
43.O ran y cysyniad allweddol o artiffisial (“artificial”), mae adran 63H o Ddeddf 1988 yn darparu bod trefniant yn artiffisial os yw o fath sy’n cael ei bennu gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (a, phan fo Gweinidogion wedi gwneud darpariaeth ar gyfer hyn o dan is-adran (3), na phennwyd i’r gwrthwyneb). Dim ond os na fyddai gwneud trefniant o’r fath yn gam rhesymol mewn perthynas â darpariaethau deddfwriaethol ar gyfer ardrethu annomestig, ar ôl ystyried yn benodol y materion a restrir ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o is-adran (2), y caiff Gweinidogion Cymru bennu bod math o drefniant yn artiffisial. Mae’r materion hyn yn ymdrin â thechnegau sydd wedi eu cynllunio i fanteisio ar ‘fylchau’ canfyddedig yn y ddeddfwriaeth i sicrhauʼr fantais.
44.Bydd rheoliadau a wneir o dan adran 63H(1)(a) o Ddeddf 1988 yn disgrifio’r technegau neu’r ymddygiadau osgoi penodol y bydd y broses a nodir yn yr adrannau canlynol yn mynd i’r afael â hwy. Caiff y rheoliadau hefyd (gweler adran 63H(3)), ddarparu nad yw trefniant penodedig yn artiffisial mewn achos penodol os gwneir penderfyniad i’r perwyl hwnnw gan yr awdurdod bilio perthnasol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), wedi ystyried yr holl amgylchiadau. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru, pan fyddant yn gwneud y rheoliadau, i nodi mathau o drefniant y mae’n bosibl nad ydynt yn artiffisial ym mhob achos ac, ar gyfer y mathau hynny o drefniant, i roi disgresiwn i awdurdodau bilio (neu Weinidogion Cymru yn ôl y digwydd) i benderfynu, yn yr amgylchiadau penodol, nad yw’r math hwnnw o drefniant yn artiffisial.
45.Mae adrannau 63I (Atebolrwydd am ardrethi annomestig: rhestrau lleol) a 63J (Atebolrwydd am ardrethi annomestig: rhestrau canolog) yn darparu ar gyfer cymhwysoʼr darpariaethau gwrthweithio osgoi gan awdurdodau bilio a Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â hereditamentau a ddangosir mewn rhestr ardrethu leol neu ganolog, yn y drefn honno. Pan fo trefniant artiffisial i osgoi wedi ei wneud mewn perthynas â hereditament, rhaid iʼr awdurdod bilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) drin y talwr ardrethi (neu berson arall os mai’r person hwnnw a fyddai wedi bod y talwr ardrethi yn absenoldeb y trefniant) fel pe bai’n atebol am dalu’r swm a godir a fyddai wedi bod yn gymwys iʼr hereditament yn absenoldeb y trefniant. Mae hyn yn cael yr effaith, pan fo ymddygiad osgoi penodedig yn parhau ar ôl i reoliadau gael eu gwneud, y bydd yn ofynnol iʼr person daluʼr diffyg mewn atebolrwydd ers yr hwyraf o’r canlynol: y diwrnod y gwneir y trefniant; y diwrnod y dawʼr rheoliadau i rym; neu ddiwrnod a bennir yn y rheoliadau.
46.Mae adran 63K (Atebolrwydd am ardrethu annomestig: hysbysu) o Ddeddf 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod bilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) gyflwyno hysbysiad iʼr person sydd i gael ei drin fel pe baiʼn atebol pan fo trefniant osgoi trethi artiffisial wedi ei nodi, ac yn galluogi’r person i ofyn i’r hysbysiad gael ei adolygu. Bydd yr awdurdod bilio (neu Weinidogion Cymru) naill ai’n cadarnhau’r hysbysiad neu’n ei dynnu’n ôl (os tynnir yr hysbysiad yn ôl ystyrir nad yw’r trefniant a oedd yn destun yr hysbysiad yn drefniant artiffisial i osgoi ardrethi annomestig).
47.Mae adran 63L (Apelau iʼr tribiwnlys prisio) yn galluogi person i apelio yn erbyn hysbysiad a gadarnheir yn dilyn adolygiad. Caiff y tribiwnlys gadarnhauʼr hysbysiad neu ofyn iddo gael ei dynnuʼn ôl.
48.Mae adran 63M (Cosbau) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau’n darparu ar gyfer gosod cosb ariannol pan fo person yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n atebol am dalu ardreth ym methu â thalu swm sy’n ddyledus.
