Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 – Ardrethu Annomestig

Adran 12 - Yr wybodaeth iʼw darparu iʼr swyddog prisio

34.Maeʼr adran hon yn cymhwyso i Gymru, gyda diwygiadau, y dyletswyddau darparu gwybodaeth aʼr gyfundrefn gydymffurfio gysylltiedig a ddarperir gan baragraffau 4I i 4M, 5ZC i 5ZF a 5BD i 5BF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988. Maeʼr darpariaethau yn gosod dyletswyddau ar dalwyr ardrethi (neu bersonau a fyddaiʼn dalwyr ardrethi pe bai eu hereditamentauʼn cael eu dangos mewn rhestr ardrethu) i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, system o gosbau am fethu â chydymffurfio, a gweithdrefnau ar gyfer adolygu cosbau ac apelio yn eu herbyn.

35.Mae is-adrannau (2), (3) a (5) yn diwygio paragraffau 4I a 4M(1) o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 er mwyn dileu geiriau syʼn cyfyngu effaith y darpariaethau i Loegr.

36.Mae paragraffau 4I i 4M o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodiʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy i Asiantaeth y Swyddfa Brisio:

37.Mae is-adrannau (7) ac (8) yn diwygio paragraffau 5A(1) a 5C(2), yn y drefn honno, o Atodlen 9 i Ddeddf 1988, i estyn y dyddiad cau i dalwyr ardrethi ymateb i hysbysiad gwybodaeth a ddyroddir gan awdurdodau bilio (o 56 i 60 o ddiwrnodau) ac apelio yn erbyn hysbysiad cosb am fethu â chydymffurfio (o 28 i 30 o ddiwrnodau). Maeʼr newidiadau hyn yn cynnal amserlenni cyson ar gyfer darparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio aʼr awdurdodau bilio.

38.Mae paragraffau 5ZC i 5ZF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodi system o gosbau am fethiannau i gydymffurfio âʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy:

39.Mae paragraffau 5BD i 5BF o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 yn nodiʼr gweithdrefnau ar gyfer adolygu ac apelio yn erbyn cosbau am fethu â chydymffurfio âʼr dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth hysbysadwy:

40.Mae is-adran (6) yn mewnosod is-baragraff newydd (4A) ym mharagraff 5ZC o Ddeddf 1988, i ddarparu bod rhaid i hysbysiad cosb a gyflwynir mewn perthynas â hereditament yng Nghymru gynnwys esboniad o effaith paragraff 5BD(9). O ganlyniad, bydd yr hysbysiad yn egluro y dylid trin y gosb fel pe bai wedi ei chadarnhau, pe baiʼr person yn gofyn am adolygiad, os nad ywʼr swyddog adolygu wedi rhoi hysbysiad oʼi benderfyniad o fewn 45 o ddiwrnodau. Bwriad hyn yw sicrhau ei bod yn eglur i’r person pryd y bydd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau, y caniateir apelio yn erbyn yr hysbysiad cosb yn ystod y cyfnod hwnnw, yn dechrau.