Mae deddfwriaeth yn mynd trwy sawl cam cyn dod yn ddeddf. Defnyddir ystod o offer er mwyn ei pharatoi a’i drafftio, ei diwygio yn ystod ei thaith trwy’r senedd, ei chyhoeddi ar legislation.gov.uk, a’i harchifo.
Yn 2012, sefydlodd Senedd San Steffan weithgor bach i edrych ar yr angen am offeryn drafftio newydd. Yn benodol roedd y Senedd eisiau ystyried yr opsiynau ar gyfer datblygu’r offer oedd yn bodoli neu greu rhai newydd a oedd:
- yn cyflenwi allbwn digidol mor effeithiol â phrint;
- yn cefnogi ymgysylltiad mwy effeithiol gyda’r cyhoedd ac aelodau seneddol;
- yn gydnaws ag offer deddfwriaethol eraill;
- yn cynnig ymarferoldeb gwell er mwyn cwrdd ag anghenion y rhai sy’n drafftio a diwygio deddfwriaeth yn well yn ystod ei thaith trwy’r senedd.
Oddeutu’r un amser, cynhaliodd Senedd yr Alban, ar y cyd â Swyddfa Cwnsler Seneddol yr Alban, adolygiad o’r offer meddalwedd a ddefnyddir i gynhyrchu a diwygio Biliau Albanaidd.
O ganlyniad i’r ddwy fenter hyn, sefydlwyd y rhaglen drafftio, diwygio a chyhoeddi deddfwriaethol yn 2013, yn cynnwys Yr Archifau Gwladol ac Argraffydd y Brenin dros yr Alban; dau Dŷ Senedd San Steffan, Senedd yr Alban; Swyddfa’r Cwnsler Seneddol; a Swyddfa Cwnsler Seneddol yr Alban. Cytunodd partneriaid y rhaglen ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth dolen i’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi sut mae’n gweithredu, a beth yw ei rhaglen waith.
Nod cychwynnol y rhaglen oedd profi dichonoldeb offeryn drafftio yn seiliedig ar borwr ar gyfer deddfwriaeth y DU a’r Alban; un a fyddai’n cysylltu’n nes â’r gronfa ddata ddeddfwriaeth ac a fyddai’n adeiladu ar y technolegau arloesol sy’n sylfaen i legislation.gov.uk. Y nod oedd datblygu offeryn a allai gefnogi drafftio, diwygio a chyhoeddi deddfwriaeth yn fwy effeithiol o ddechrau’r broses ddeddfwriaethol hyd y diwedd.
Ar ôl casglu gofynion o’r ystod amrywiol o ddefnyddwyr posibl, ac yn dilyn profi eang ymhlith defnyddwyr, datblygodd y tîm prosiect brototeip ffrâm wifrau (gwefan ysgerbydol yn darlunio’r prif swyddogaethau) a phrototeipiau gweithredol gan ddefnyddio safonau data agored. Mae fideo arddangos ar gyfer prototeip yr offeryn drafftio http://www.youtube.com/watch?v=a9F-ijSI8IM&feature=youtu.be a ffrâm wifrau o arddangosiad yr offeryn drafftio. http://www.youtube.com/watch?v=6Jwn4v6N22E&feature=youtu.be I weld Arddangosiad o’r Prototeip Teclyn Addasu ewch I http://www.youtube.com/watch?v=pTk1tErCNac&feature=youtu.be
Mae offeryn drafftio yn seiliedig ar borwr yn cynnig manteision sylweddol gan nad oes angen iddo gael ei lwytho’n lleol i gyfrifiaduron unigol. Gellir ei ddefnyddio ar Gyfrifiaduron Personol arferol, gliniaduron neu ddyfeisiau eraill. Bydd offeryn newydd yn cefnogi drafftio ar y cyd, gan alluogi drafftwyr i reoli dogfennau deddfwriaeth hir a chymhleth, yn unigol neu mewn timau. Dylai sicrhau ei bod yn haws diwygio deddfwriaeth yn ystod ei thaith trwy’r senedd hefyd, gan awtomeiddio prosesau a lleihau’r angen am ymyrraeth â llaw pryd bynnag y mae’n bosibl a helpu i symleiddio llifau gwaith. Gall yr offeryn gynhyrchu’r allbwn XML o ansawdd uchel sy’n caniatáu i Filiau, a data’n gysylltiedig â Biliau, gael eu hailddefnyddio a’u hailbennu, er enghraifft er mwyn gwella mynegeion a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig. Mae hyn yn helpu i wneud deddfwriaeth yn haws ei deall, yn cefnogi ymgysylltiad y cyhoedd a mwy o dryloywder yn y broses ddeddfwriaethol.
Erbyn hyn mae’r prosiect yn symud i’w gam nesaf: mireinio gofynion ac ymgysylltu â chyflenwyr posibl, cyn caffael. Hoffem ddiolch i bawb a gymrodd ran yn y gweithgareddau hyn. Bu i’ch cwestiynau a’ch adborth helpu i wneud yr ymgysylltiad marchnad rhag-dendr yn llwyddiant ac rydym yn hyderus yn awr y gallwn ddarparu offeryn pori pwrpasol.
Rydym yn parhau i ffafrio fframwaith Llywodraeth y DU fel ein dull o gaffael y cyfnod beta – Gwasanaethau Digidol neu G Gwmwl. Gall cyflenwyr sydd â diddordeb gael y wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddir gan Wasanaeth Masnachol y Goron ar gaffaeliadau’r fframwaith i’r dyfodol drwy fynd i procurement pipeline.