Trosolwg
Llyfrgell y Rheolwr oedd archif Llyfrfa Ei Fawrhydi (HMSO), sef y cyn argraffydd i Lywodraeth y DU.
Rhwng 2021 a 2023, aeth Yr Archifau Gwladol ati i ddigido miloedd o gyfrolau o ddeddfwriaeth o Lyfrgell y Rheolwr, yn ogystal â rhai cyfrolau a argraffwyd gan olynydd HMSO, sef Y Llyfrfa. Nawr rydym yn rhoi’r cyfrolau hyn ar gael i’w gweld ar deddfwriaeth.gov.uk, ac yn ychwanegu mwy na 35,000 o eitemau o ddeddfwriaeth o’r tu mewn iddynt at y wefan.
Mae’r casgliad yma’n cynnwys:
- Holl Offerynnau Statudol y DU o gymeriad cyffredinol a luniwyd rhwng 1948 a 1990, yn ogystal â nifer o Offerynnau Statudol lleol y DU;
- Nifer o Offerynnau Statudol lleol a wnaed rhwng 1991 a 2002 nad oeddent ar gael gynt ar deddfwriaeth.gov.uk;
- Nifer fawr o Ddeddfau Cyhoeddus, Lleol a Phreifat a weithredwyd rhwng y 13eg a’r 20fed ganrif nad oeddent ar gael gynt ar deddfwriaeth.gov.uk, neu sydd ond ar gael ar-lein fel fersiwn diwygiedig.
Byddwn yn lanlwytho’r eitemau deddfwriaeth hyn i’r wefan fel PDFs unigol drwy gydol 2023 a 2024. Lle bo modd, rydym wedi prosesu pob PDF gan ddefnyddio Adnabod Nodau Gweledol (OCR) i adnabod y testun oddi mewn iddo, felly gallwch ddewis a chopïo’r testun oddi mewn i’r PDF yn ogystal â chwilio am y testun y tu mewn iddo.
Byddwn hefyd yn lanlwytho’r PDFs o’r cyfrolau gwreiddiol rhwymedig mewn lliwiau llawn. Bydd y PDFs yma hefyd yn cynnwys testun wedi ei fewnblannu o’r broses OCR lle mae ar gael.
Cyfyngiadau
Nid yw Llyfrgell y Rheolwr yn gasgliad cyflawn o ddeddfwriaeth. Dyma’r unig bethau sydd yn y casgliad:
- Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus y DU, Deddfau Lleol a Deddfau Preifat;
- Deddfau Cyhoeddus, Lleol a Phreifat Senedd Prydain Fawr;
- Rhai o Ddeddfau Seneddau Lloegr.
- Offerynnau Statudol y DU;
- Rhai Gorchmynion Offerynnau Cenedlaethol yn y Cyngor.
Hefyd, mae rhai eitemau o’r mathau uchod ar goll o’r casgliad. Ar gyfer unrhyw eitem benodol, efallai mai dyma’r rheswm am hyn:
- Nid oedd y gyfrol oedd yn cynnwys yr eitem yn cael ei dal yn Llyfrgell y Rheolwr neu nid oedd mewn cyflwr addas ar gyfer ei sganio;
- Cafodd yr eitem ei thynnu o’i chyfrol neu ei blwch i gael ei sganio ar ficroffilm ac ni chafodd ei dychwelyd i Lyfrgell y Rheolwr;
- Ni chafodd yr eitem ei hargraffu a’i rhoi ar gael i’w gwerthu, felly ni chafodd ei harchifo yn Llyfrgell y Rheolwr.