Cafodd yr Archifau Gwladol arian ‘data mawr’ gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) i gyflawni’r prosiect ‘Data Mawr ar gyfer y Gyfraith’. Bydd ychydig dros £550,000 yn galluogi’r prosiect i weddnewid ein dealltwriaeth o’r gyfraith a’n defnydd ni ohoni, yn darparu gwasanaeth newydd – Ymchwil legislation.gov.uk – erbyn mis Mawrth 2015.
Amcangyfrifir bod 50 miliwn o eiriau yn y llyfr statud, gyda 100,000 o eiriau’n cael eu hychwanegu neu’u newid bob mis. Mae peiriannau chwilio a gwasanaethau fel legislation.gov.uk wedi gweddnewid mynediad at ddeddfwriaeth. Mae grŵp llawer ehangach o bobl bellach yn cael mynediad at y gyfraith, ac nid yw’r mwyafrif ohonynt wedi eu hyfforddi na’u cymhwyso’n gyfreithiol.
Mae pawb sy’n defnyddio deddfwriaeth yn cael eu dychryn gan y swmp o ddeddfwriaeth sy’n bodoli, ei strwythur tameidiog, diwygiadau cyson a’r berthynas rhwng y llyfr statud â chyfraith gyffredin a chyfraith Ewropeaidd. Nid yw’n syndod bod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd deall a chydymffurfio â’r gyfraith.
Ni fu erioed adeg well i ymchwilio i strwythur a chynnwys cyfraith, yr iaith a ddefnyddir mewn deddfwriaeth a sut, drwy ddehongli mewn llys, y rhoddir deddfwriaeth ar waith. Ymchwil a fydd yn ganolbwynt i’r ymgyrch i ddarparu cyfraith dda, eglur ac effeithiol.
Yn nodweddiadol mae ymchwilwyr yn brin o’r data craidd, yr offer a’r dulliau i ymgymryd ag ymchwil drwy’r llyfr statud yn ei gyfanrwydd. Yn y cyfamser, mae’r cyfuniad o gyfrifiadura cwmwl rhad, meddalwedd ffynhonnell agored a dulliau newydd o ddadansoddi data - galluogwyr y chwyldro data mawr - yn gweddnewid ymchwil mewn meysydd eraill.
Mae ymchwil data mawr yn gwbl bosibl ar gyfer deddfwriaeth, petai’r cynhwysion - y data, yr offer a rhai dulliau dibynadwy - oll ar gael yr un mor rhwydd â phŵer cyfrifiadurol a’r gallu i storio. Gweledigaeth y prosiect hwn yw ymdrin â’r bwlch hwnnw drwy ddarparu Seilwaith Ymchwil Data Deddfwriaeth yn research.legislation.gov.uk. Wedi ei deilwra’n benodol ar gyfer anghenion ymchwilwyr, bydd yn cynnwys data i’w lawrlwytho, offer ar-lein ar gyfer defnyddwyr terfynol, ac offer ffynhonnell agored i ymchwilwyr ei lawrlwytho, ei addasu a’i ddefnyddio.
Mae tri phrif faes ymchwil:
- Deall anghenion ymchwilwyr: i sicrhau bod y gwasanaeth yn seiliedig ar dystiolaeth o’r angen, galluogrwydd a chyfyngiadau, rhoi technolegau data mawr yn nwylo ymchwilwyr annhechnegol am y tro cyntaf.
- Canfod data agored newydd o ddata caeëdig: nid oes gan neb yr holl ddata a allai fod o ddefnydd i ymchwilwyr. Er enghraifft, ni all y data personol adnabyddadwy posibl ynglŷn â defnyddwyr a’r defnydd o legislation.gov.uk fod ar gael fel data agored ond mae’n berffaith ar gyfer prosesu drwy ddefnyddio offer data mawr presennol; e.e. i adnabod clystyrau mewn deddfwriaeth neu “argymhellion” o setiau data o “bobl a ddarllenodd Deddf A neu B ond a edrychodd ar Ddeddf Y a Z hefyd”. Bydd y prosiect yn edrych a yw hi’n bosibl creu setiau o ddata agored newydd o’r math hwn o ddata caeëdig. Byddai set data N-Grams a rhyngwyneb defnyddiwr addas ar gyfer deddfwriaeth neu gyfraith achosion cysylltiedig, er enghraifft, yn cynnwys cyfres o eiriau/brawddegau/ystadegau ynglŷn â pha mor aml y byddant yn digwydd fesul dogfen. Mae N-Grams yn ddefnyddiol ar gyfer ymchwil i ieithyddiaeth neu hanes, a gellid eu defnyddio i ddarparu nodwedd testun rhagfynegol mewn offer drafftio ar gyfer deddfwriaeth.
- Iaith batrwm ar gyfer deddfwriaeth: Mae angen dulliau newydd arnom i godeiddio a modelu strwythur y llyfr statud er mwyn medru ymchwilio’r cyfan ohono’n haws drwy ddefnyddio technolegau data mawr. Bydd y prosiect yn ceisio dysgu gan ddisgyblaethau eraill, gan gyflwyno’r cysyniad o ‘iaith batrwm’ i ddeddfwriaeth. Mae ieithoedd patrwm wedi gweddnewid peirianneg meddalwedd dros yr ugain mlynedd diwethaf ac mae’r gallu ganddynt i wneud hyn eto yn ein dealltwriaeth o’r llyfr statud. Yn syml, dull strwythurol o ddisgrifio arferion dylunio da yw iaith batrwm, gan gynnig geirfa gyffredin rhwng defnyddwyr ac arbenigwyr, wedi ei strwythuro o amgylch problemau neu faterion, a chanfod datrysiad. Nid yw patrymau yn cael eu creu na’u dyfeisio – maent yn cael eu hadnabod fel ‘dyluniad da’ yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â pha mor ddefnyddiol ac effeithiol ydynt. Wrth gysylltu hyn â deddfwriaeth, gall arwain at eirfa gyffredin rhwng defnyddwyr deddfwriaeth a’r rhai sy’n llunio deddfwriaeth, i adnabod ymarferion llunio defnyddiol ac effeithiol yn ogystal â datrysiadau sy’n sicrhau cyfraith dda. Gallai hyn alluogi ymagwedd cwbl wahanol wrth baratoi deunydd dysgu neu ganllawiau ar gyfer deddfwyr.
