Cynnwys yn deillio o EUR-Lex
Mae peth o'r ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk yn deillio o EUR-Lex, ac wedi ei chyhoeddi dan y ddyletswydd a'r grymoedd i gyhoeddi sy’n berthnasol i offerynnau a chytundebau’r UE sy’n cael eu haseinio i Argraffydd y Brenin (a Phrif Weithredwr yr Archifau Cenedlaethol) yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c. 16) Atodlen 5 Rhan 1.
Pan fyddwn wedi disgrifio deddfwriaeth gennym fel un sy'n 'deillio o'r UE', mae’r eitem yn deillio o EUR-Lex a'i chyhoeddi ar legislation.gov.uk. Porwch drwy'r holl ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r UE i weld y dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn y set data, sy’n cynnwys Rheoliadau, Penderfyniadau, Cyfarwyddebau a rhai Cytuniadau a Chytundebau. Cyhoeddir deddfwriaeth yr UE yn amodol ar hysbysiad hawlfraint EUR-Lex.
Yn ogystal â'r mathau o ddeddfwriaeth, ceir dogfennau cysylltiedig a gyhoeddir law yn llaw â'r ddeddfwriaeth fel y Corrigendum (slipiau cywiro) a fersiynau PDF o ddeddfwriaeth fel rhai a fabwysiadwyd yn wreiddiol gan yr UE ac fel rhai a 'ddiwygiwyd'. Rydym hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth diwygio yn ymwneud â diwygiadau rhwng dogfennau deddfwriaeth yr UE cyn i’r DU adael, sy’n deillio o’r CELLAR. Mae’r CELLAR yn cadw a rhannu’r holl gynnwys a metadata sy’n cael ei greu neu ei rannu gan Swyddfa Gyhoeddiadau’r Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd yn gyrru prif byrth y Swyddfa Gyhoeddiadau, gan gynnwys EUR-Lex.
Ail-ddefnyddio data sy'n deillio o EUR-Lex
Mae deddfwriaeth y DU ar gael i’w hailddefnyddio dan amodau Trwydded Llywodraeth Agored v3.0 (OGL).
Mae deddfwriaeth yr UE ar gael i’w hailddefnyddio dan amodau Penderfyniad y Comisiwn 2011/833/EU. Gallwch ailddefnyddio cyfraith y DU sy’n deillio o’r UE (deddfwriaeth yn deillio o’r UE) a chydymffurfio â’r ddwy drwydded trwy gydnabod y ddwy ffynhonnell yma a pheidio â hawlio unrhyw gefnogaeth swyddogol mewn unrhyw gyhoeddiad dilynol o’r ailddefnydd a wnaethoch. Awgrymir y geiriad canlynol i gydnabod yr hawlfraint:
Deunydd Hawlfraint y Goron © a hawl cronfa ddata yn cael ei ailddefnyddio dan y Drwydded Llywodraeth Agored (Logo yn cynnwys dolen). Deunydd yn deillio o’r Sefydliadau Ewropeaidd © Yr Undeb Ewropeaidd, 1998-2019 ac yn cael ei ailddefnyddio dan amodau Penderfyniad y Comisiwn 2011/833/EU.
Hysbysiad Hawlfraint EUR-Lex
Er gwybodaeth gallwch ddarllen yr hysbysiad hawlfraint o hysbysiad hawlfraint EUR-Lex isod.
Hysbysiad hawlfraint
© Yr Undeb Ewropeaidd, 1998-2019
Ac eithrio pan nodir yn wahanol, awdurdodir ailddefnyddio data EUR-Lex ar gyfer dibenion masnachol neu anfasnachol ar yr amod bod y ffynhonnell yn cael ei chydnabod ('© Yr Undeb Ewropeaidd, https://eur-lex.europa.eu, 1998-2019').
Gweithredir polisi ailddefnyddio’r Comisiwn Ewropeaidd gan Benderfyniad y Comisiwn 12 Rhagfyr 2011.
Gall rhai dogfennau, fel y Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol, fod yn amodol ar amodau arbennig i’w defnyddio, sy’n cael eu crybwyll yn y Cylchgrawn Swyddogol perthnasol.
Ni cheir defnyddio’r logo EUR-Lex heb ganiatâd y Swyddfa Gyhoeddiadau ymlaen llaw.
Disgrifir rheolau atgynhyrchu darnau arian ac arian papur yr Ewros yma.
Am bob mater hawlfraint sy’n ymwneud ag EUR-Lex, cysylltwch â: op-copyright@publications.europa.eu.
Cynnwys yn deillio o Westlaw
I gefnogi menter dadreoleiddio'r llywodraeth, mae Westlaw UK wedi cyfrannu fersiynau electronig o Offerynnau Statudol, Rheolau a Gorchmynion Statudol yn unol â'u ffurfiau gwreiddiol, i legislation.gov.uk. Dyma fersiynau gwreiddiol o'r ddeddfwriaeth, felly nid ydynt yn dangos sut mae'r wybodaeth wedi newid neu ei ffurf heddiw. Cyfrannwyd yr holl ddeddfwriaeth a roddwyd gan Westlaw UK cyn 1987 ac mae yn ei ffurf wreiddiol.
Mae Westlaw UK yn darparu gwasanaeth masnachol (i'w dalu amdano) sy'n rhoi'r fersiwn gyfredol o'r Offer Statudol, Rheolau a Gorchmynion Statudol hyn, sy'n dangos eu defnydd ar hyn o bryd. Am ragor o wybodaeth am wasanaethau masnachol Westlaw, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar-lein a threial am ddim, ewch i www.westlaw.co.uk. Mae cwmnïau eraill yn darparu gwasanaethau masnachol tebyg.
Yn sgil cyfraniad Westlaw UK i legislation.gov.uk gall y llywodraeth greu deddfwriaeth eilaidd o'r cyfnod cyn 1987 i fod ar gael i'r cyhoedd, yn rhad ac am ddim. Mae'r Archifau Cenedlaethol yn ddiolchgar i Westlaw UK am eu cyfraniad arwyddocaol a phwysig, gan alluogi i fwy o'r cyhoedd fedru gwneud defnydd o'r ddeddfwriaeth.
Ail-ddefnyddio data sy'n deillio o Westlaw
Gallwch ailddefnyddio'r cyfan o destun y ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk dan amodau’r Drwydded Llywodraeth Agored. Os ydych yn ailddefnyddio'r data a gyfrannwyd gan Westlaw, naill ai'r dudalen we HTML neu o API legislation.gov.uk, dylech gydnabod fel a ganlyn.
"Westlaw UK sy’n deillio o ddeunydd Hawlfraint y Goron ac a gyfrannodd at legislation.gov.uk"