Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

21Comisiynydd Safonau y Senedd: cymhwystra

(1)Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1(3) (personau nad ydynt yn gymwys i’w penodi’n Gomisiynydd)—

(a)ym mharagraff (b) hepgorer “yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae’r penodiad i ddod i rym”;

(b)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)yn aelod, neu wedi bod yn aelod ar unrhyw adeg, o—

(i)Tŷ’r Cyffredin,

(ii)Tŷ’r Arglwyddi,

(iii)Senedd yr Alban,

(iv)Cynulliad Gogledd Iwerddon,

(bb)yn dal neu wedi dal ar unrhyw adeg swydd comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru neu Loegr,

(bc)yn aelod, neu wedi bod yn aelod ar unrhyw adeg, o’r cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,

(bd)yn aelod, neu wedi bod yn aelod ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae’r penodiad i ddod i rym, o’r cyngor ar gyfer cymuned yng Nghymru,;

(c)ym mharagraff (e) hepgorer “neu”;

(d)ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)yn cael ei gymryd ymlaen gan Aelod o’r Senedd o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod,

(h)wedi ei gymryd ymlaen gan Aelod o’r Senedd, o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae’r penodiad i ddod i rym,

(i)yn cael ei gymryd ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu

(j)wedi ei gymryd ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 2 flynedd cyn y dyddiad y mae’r penodiad i ddod i rym.

(3)Yn adran 1(8) (penodiad Comisiynydd yn dod i ben)—

(a)o flaen paragraff (b) mewnosoder—

(aa)yn dod yn aelod o—

(i)Tŷ’r Cyffredin,

(ii)Tŷ’r Arglwyddi,

(iii)Senedd yr Alban,

(iv)Cynulliad Gogledd Iwerddon, neu

(v)y cyngor ar gyfer sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru,

(ab)yn dod yn gomisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru neu Loegr,;

(b)ym mharagraff (b), hepgorer “neu” yn yr ail le y mae’n digwydd;

(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)yn cael ei gymryd ymlaen gan Aelod o’r Senedd o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod, neu

(e)yn cael ei gymryd ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau.

(4)Ar ôl adran 1(8) (penodiad Comisiynydd yn dod i ben) mewnosoder—

(9)Yn yr adran hon, ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill