- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, Adran 17 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 14 Chwefror 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn diwygio Pennod 3 o Ddeddf 2016 i wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â phwerau Gweinidogion Cymru i gynnal arolygiadau ac i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu, gan gynnwys mewn cysylltiad ag ymchwilio i droseddau.
(2)Yn adran 32 o Ddeddf 2016—
(a)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu unrhyw wybodaeth iddynt” rhodder “Mae is-adrannau (1A) ac (1B) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y gall fod gan berson perthnasol wybodaeth”;
(ii)yn y testun Saesneg, ar ôl “think” mewnosoder “it”;
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i berson perthnasol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
(a)cyflwyno unrhyw ddogfennau—
(i)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a
(ii)sydd ym meddiant y person neu o dan reolaeth y person, a
(b)cyflwyno’r dogfennau mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.
(1B)Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i berson perthnasol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
(a)ateb unrhyw gwestiwn—
(i)sydd wedi ei ofyn yn yr hysbysiad, a
(ii)y mae’r ateb iddo yn hysbys i’r person, a
(b)ateb mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.”
(c)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “os” hyd at y diwedd rhodder “—
(a)os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall;
(b)pe bai gan y person hawlogaeth i wrthod datgelu’r wybodaeth mewn achos yn yr Uchel Lys ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.”
(d)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth gan eu bod yn amau bod trosedd yn cael ei chyflawni neu fod trosedd wedi ei chyflawni—
(a)ni chânt ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ond os oes ganddynt sail resymol dros amau hynny;
(b)rhaid iddynt hysbysu’r person, yn ysgrifenedig, at ba ddiben y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu.
(6)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at “darparwr gwasanaeth” yn cynnwys person y mae Gweinidogion Cymru yn amau’n rhesymol—
(a)ei fod yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man nad yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan adran 7, neu
(b)ei fod wedi darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man nad oedd y person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan adran 7.”
(3)Ar ôl adran 32 mewnosoder—
(1)Ni chaniateir i wybodaeth a roddir gan berson (“P”) mewn ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 32(1B) gael ei defnyddio mewn achos troseddol yn erbyn P.
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys—
(a)os yw’r achos am drosedd o dan adran 5 o Ddeddf Anudon 1911 (p. 6) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw);
(b)yn ystod yr achos—
(i)os dygir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan P, neu ar ei ran, neu
(ii)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan P, neu ar ei ran.”
(4)Yn adran 33—
(a)yn is-adran (1)(b), yn lle “o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth” rhodder “o’r ffordd y mae gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth yn cael eu trefnu, eu rheoli neu eu cydgysylltu”;
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Yn y Rhan hon mae cyfeiriad at “ymchwiliad yn gyfeiriad at ymchwiliad ynghylch a yw person yn cyflawni neu wedi cyflawni trosedd o dan y Rhan hon.”;
(c)yn is-adran (2), ar y diwedd mewnosoder “neu ymchwiliad”.
(5)Yn adran 34—
(a)yn is-adran (1)—
(i)ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
(ii)yn lle “ac arolygu” rhodder “i”;
(b)yn is-adran (2), yn lle “ac arolygu mangre” rhodder “i fangre”;
(c)yn is-adran (3), ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
(d)yn is-adran (4), ar y dechrau mewnosoder “Wrth gynnal arolygiad neu ymchwiliad,”.
(6)Yn adran 35—
(a)yn is-adran (1)—
(i)ar ôl “arolygiad” mewnosoder “neu ymchwiliad”;
(ii)hepgorer “yn breifat”.
(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)Caniateir i arolygydd ei gwneud yn ofynnol i gyfweliad o dan is-adran (1) gael ei gynnal yn breifat.”;
(c)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau “ni chaiff” hyd at y diwedd rhodder “o ran arolygydd—
(a)ni chaiff gyf-weld â pherson sy’n dod o fewn is-adran (3) heb gydsyniad y person, a
(b)ni chaiff gyf-weld â pherson (“P”) at ddibenion holi a yw P wedi cyflawni trosedd oni bai—
(i)bod P wedi cael ei hysbysu am ddiben y cyfweliad;
(ii)y rhoddir y cyfle i P i gael cynrychiolaeth gyfreithiol.”
(d)yn is-adran (4), ar ôl “Caiff arolygydd” mewnosoder “, at ddibenion cynnal arolygiad,”.
(7)Yn adran 36—
(a)yn is-adran (2), ar ôl “adroddiad” mewnosoder “, i’r graddau a ystyrir yn gymesur gan Weinidogion Cymru,”;
(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)Ond nid yw gofyniad yn is-adran (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyflawni’r gofyniad yn amhriodol gan roi sylw i fudd pennaf person y mae ei ofal a’i gymorth wedi eu hasesu yn yr adroddiad.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys