Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Adran 2 – Rhestrau ardrethu lleol

4.Maeʼr adran hon yn mewnosod adran 41ZA (Rhestrau ardrethu lleol: Cymru) yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”). Mae adran 41ZA yn nodiʼr trefniadau ar gyfer llunio rhestrau ardrethu annomestig lleol, gan gadw effaith adran 41 o Ddeddf 1988 i raddau helaeth o ran Cymru. Maeʼn ei gwneud yn ofynnol iʼr rhestrau hynny gael eu llunio bob tair blynedd (yn hytrach na phob pum mlynedd). Felly gan fod rhestr leol wedi ei llunio ddiwethaf ar 1 Ebrill 2023, bydd y rhestr nesaf yn cael ei llunio ar 1 Ebrill 2026 (yn hytrach nag ar 1 Ebrill 2028).

5.Cedwir y gofynion presennol ar y swyddog prisio i baratoi rhestrau arfaethedig a rhestrau wedi eu llunio. Rhaid iʼr awdurdod bilio gadw copi ar ffurf electronig oʼr rhestrau arfaethedig aʼr rhestrau wedi eu llunio. Maeʼr gofynion hyn wedi eu moderneiddio, gan ei bod yn ofynnol yn flaenorol i awdurdod bilio adneuo copi oʼr rhestr yn ei brif swyddfa.

6.Rhaid iʼr swyddog prisio gynnal rhestr a lunnir o dan adran 41ZA neu a lunnir ar y dyddiadau a grybwyllir yn adran 41ZA(11)(b) o Ddeddf 1988 cyhyd ag syʼn angenrheidiol at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1988. Y dyddiadau ywʼr rhai yr oedd yn ofynnol i restrau gael eu llunio arnynt o dan adran 41 o Ddeddf 1988 (fel yʼi haddaswyd gan adran 54A). Maeʼr cofnod hwn o ddyddiadau ailbrisio blaenorol yn sicrhau eglurder ynghylch y gofyniad parhaus i gynnal y rhestrau a luniwyd o dan adran 41 o Ddeddf 1988. Ni chyfeirir at restrau lleol a luniwyd ar 1 Ebrill 1995, gan fod y rhestrau a luniwyd ar 1 Ebrill 1996 yn aildrefnu rhestrau 1995 ac yn cael eu trin fel y rhestrau a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1995.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill