Adran 1 – Cysyniadau allweddol: “cynnyrch plastig”, “untro” a “plastig”
6.Mae’r adran hon yn darparu diffiniadau ar gyfer y cysyniadau allweddol o dan y Ddeddf: ‘untro’, ‘cynnyrch plastig’, ‘plastig‘ a ‘polymer’.
7.Mae’r adran hon hefyd yn egluro mai dim ond bagiau siopa a wnaed o ffilm blastig nad yw’n fwy na 49 o ficronau o drwch sy’n cael eu hystyried i fod yn fagiau siopa untro at ddibenion y Ddeddf.