Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, RHAN 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Ionawr 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 3:

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

RHAN 3LL+CCWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL

CyffredinolLL+C

49CyflwyniadLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru).

(2)Mae adrannau 50 i 52 yn gymwys i addysg a ddarperir mewn unedau cyfeirio disgyblion.

(3)Mae adrannau 53 i 55 yn gymwys i addysg a ddarperir ac eithrio mewn unedau cyfeirio disgyblion.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at ddisgyblion, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr uned, ac eithrio’r rheini sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I3A. 49 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I4A. 49 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I5A. 49 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)

Unedau cyfeirio disgyblionLL+C

50Gofynion cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod cwricwlwm ar gyfer yr uned syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).

(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—

(a)galluogi disgyblion i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddisgyblion,

(c)bod yn addas i ddisgyblion o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol, a

(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i ddisgyblion.

(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion.

(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a

(b)yn yr elfennau mandadol eraill.

(6)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I7A. 50 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I8A. 50 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I9A. 50 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I10A. 50 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)

51Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—

(a)cadwʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.

(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 50, rhaid iddynt roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid iddynt ddiwygioʼr cwricwlwm os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.

(4)Cânt ddiwygioʼr cwricwlwm hefyd ar unrhyw adeg y maent yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Os caiff y cwricwlwm ei ddiwygio, rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I12A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I13A. 51 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I14A. 51 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I15A. 51 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)

52Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol i bob disgybl,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.

(2)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(3)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod yr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)(b) yn addas ar gyfer cyfnod datblygu pob disgybl.

(4)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—

(a)ystyried pa addysgu a dysgu y byddaiʼn briodol ei ddarparu ar gyfer pob disgybl yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill aʼr elfennau mandadol eraill y maeʼr cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a

(b)sicrhau, iʼr graddau y maeʼn rhesymol bosibl, y darperir yr addysgu a dysgu ar gyfer y disgybl.

(5)Rhaid iʼr awdurdod lleol aʼr pwyllgor rheoli (os oes un) ar gyfer uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y gweithredir y cwricwlwm ar gyfer yr uned i ddisgyblion yn unol âʼr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I17A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I18A. 52 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I19A. 52 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I20A. 52 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)

Addysg arall a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996LL+C

53Gofynion cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau cwricwlwm iʼr plentyn syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).

(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—

(a)galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol iʼr plentyn,

(c)bod yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn, a

(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i’r plentyn.

(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.

(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a

(b)yn yr elfennau mandadol eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I22A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I23A. 53 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I24A. 53 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I25A. 53 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)

54Adolygu a diwygioLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion—

(a)cadw’r trefniadau o dan adolygiad, a

(b)sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

(2)Wrth ystyried a yw’r trefniadau yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion hynny, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir mewn perthynas â’r plentyn o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r trefniadau os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I27A. 54 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I28A. 54 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I29A. 54 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I30A. 54 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)

55Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau bod y cwricwlwm i’r plentyn yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y plentyn,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y plentyn (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn.

(2)Rhaid iʼr awdurdod lleol hefyd sicrhau bod y trefniadau yn sicrhauʼr addysgu a dysgu y mae rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar ei gyfer o dan adran 53(3), (4) a (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I32A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I33A. 55 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I34A. 55 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

I35A. 55 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill