Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Adran 78 – Gwybodaeth, hysbysiadau a chyfarwyddydau ysgrifenedig

178.Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi i bersonau penodol yn ysgrifenedig, neu’n ei gwneud yn ofynnol i hysbysiadau ysgrifenedig gael eu rhoi i bersonau penodol, neu’n awdurdodi rhoi cyfarwyddydau i bersonau penodol (neu’n galluogi i ddarpariaeth o’r fath gael ei gwneud mewn rheoliadau):

  • Adran 32 (pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl: atodol)

  • Adran 33 (adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dewis disgybl)

  • Adran 38 (eithriadau ar gyfer gwaith datblygu ac arbrofion), gweler hefyd y gofyniad yn adran 40(2))

  • Adran 44 (darparu gwybodaeth am eithriadau dros dro)

  • Adran 45 (apelau am eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion unigol)

  • Adran 46 (apelau am eithriadau dros dro ar gyfer plant unigol)

  • Adran 56 (dyletswydd i wneud trefniadau asesu)

  • Adran 57 (hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd)

179.Mae adran 78 yn pennu’r ffordd y caniateir i’r wybodaeth honno, a’r hysbysiadau neu’r cyfarwyddydau hynny, gael eu rhoi i’r personau hynny. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo’n electronig ac ar gyfer y ffordd y caniateir i’r wybodaeth (neu’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd) gael ei throsglwyddo i gorff corfforedig neu bartneriaeth.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill