Adran 58 ac Atodlen 7 – Rhannu swydd: arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth
322.Mae adran 58 yn cyflwyno Atodlen 7 i’r Ddeddf, sy’n diwygio Deddf 2000 i wneud darpariaeth mewn perthynas ag arweinwyr gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth yn rhannu swydd.
323.Mae paragraff 2 o Atodlen 7 yn diwygio adran 11 o Ddeddf 2000 er mwyn newid uchafswm yr aelodau gweithrediaeth o 10 i:
12 pan fo dau o’r aelodau o leiaf wedi eu hethol neu wedi eu penodi i rannu swydd; neu
13 pan fo tri o’r aelodau o leiaf wedi eu hethol neu wedi eu penodi i rannu swydd.
324.Mae paragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn mewnosod paragraffau 2(2A) a 2A newydd yn Atodlen 1 i Ddeddf 2000 i’w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau yng Nghymru gynnwys yn eu trefniadau gweithrediaeth ddarpariaeth sy’n galluogi dau gynghorydd neu ragor i rannu swydd ar weithrediaeth, gan gynnwys swydd arweinydd y weithrediaeth.
325.Mae’r Atodlen hefyd yn mewnosod paragraff 2B newydd, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch hawliau pleidleisio a chworwm. O dan y paragraff hwnnw, mae’r rhai sy’n rhannu swydd yn cyfrif fel un person i bob pwrpas at ddibenion pleidleisio a chworwm.