Pennod 5: Atodol
Adran 146 – Canllawiau
659.Rhaid i’r cyrff a restrir yn adran 146 roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan.
Adran 147 - Darpariaeth ganlyniadol etc. arall
660.Mae adran 147 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gynnwys mewn rheoliadau uno ac ailstrwythuro ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol (gweler is-adran (5)). Cânt hefyd wneud rheoliadau ar wahân sy’n cynnwys darpariaeth atodol etc. er mwyn rhoi effaith lawn i’r rheoliadau uno neu ailstrwythuro penodol, neu at ddibenion rheoliadau penodol neu o ganlyniad iddynt.
661.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol (hynny yw, sy’n gymwys mewn perthynas â’r holl reoliadau uno neu ailstrwythuro) am yr un rhesymau. Mae’r adran yn nodi rhai o’r pethau penodol y gellir defnyddio’r pwerau ar eu cyfer, gan gynnwys trosglwyddo staff, eiddo ac atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol) o’r awdurdodau sy’n uno neu’n cael eu hailstrwythuro i’r awdurdod neu’r awdurdodau sy’n eu holynu.
662.Mae is-adran (8) yn darparu bod Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246) (y cyfeirir yn gyffredin atynt fel “TUPE”) yn gymwys i drosglwyddiad staff a wneir o dan y rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10.
663.Mae eithrio rheoliad 4(6) TUPE yn golygu y bydd atebolrwydd cyngor a ddiddymir i gael ei erlyn, ei euogfarnu a’i ddedfrydu am unrhyw drosedd yn cael ei drosglwyddo i’r cyngor newydd. Heb y ddarpariaeth hon byddai unrhyw atebolrwydd troseddol ar ran cyngor a ddiddymir, o dan gontractau cyflogaeth neu mewn cysylltiad â hwy, a drosglwyddir i’r cyngor newydd yn diflannu pan fo’r cynghorau yn cael eu diddymu.
664.Mae eithrio rheoliad 10 TUPE yn cadw hawliau pensiwn galwedigaethol staff sy’n cael eu trosglwyddo o dan neu yn rhinwedd rheoliadau uno neu ailstrwythuro. Heb y ddarpariaeth hon, ni fyddai’r cyngor newydd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i barchu hawliau, dyletswyddau nac atebolrwyddau pensiwn o dan gontractau cyflogaeth presennol.
Adran 148 – Y weithdrefn gychwynnol ar gyfer rheoliadau ailstrwythuro
665.Mae adran 148 yn nodi gweithdrefn fanylach ar gyfer cael cymeradwyaeth Senedd Cymru i reoliadau ailstrwythuro (nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau uno).
666.Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru ddrafft arfaethedig o’r rheoliadau ailstrwythuro, eglurhad o baham y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn debygol o gael ei chyflawni yn ardal y cyngor o dan sylw oni fo rheoliadau ailstrwythuro yn cael eu gwneud, a manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynnig i ailstrwythuro.
667.Rhaid i’r drafft arfaethedig o’r rheoliadau ailstrwythuro a’r dogfennau cysylltiedig gofynnol gael eu gosod gerbron Senedd Cymru ddim llai na 60 niwrnod cyn gosod y drafft terfynol o’r rheoliadau gerbron Senedd Cymru at ddibenion cael cymeradwyaeth Senedd Cymru ar ffurf penderfyniad cadarnhaol (gweler adran 174(4)).
668.Ar ddiwedd y 60 niwrnod, os yw Gweinidogion Cymru yn gosod y drafft terfynol o’r rheoliadau ailstrwythuro gerbron Senedd Cymru, rhaid i ddatganiad fynd gyda hwy sy’n nodi pa sylwadau a gafwyd ers i’r rheoliadau drafft arfaethedig gael eu gosod a pha newidiadau a wnaed yn y rheoliadau drafft terfynol, os oes newidiadau.
669.Nid yw’r weithdrefn fanylach yn gymwys i reoliadau a wneir at ddiben diwygio rheoliadau ailstrwythuro yn unig.
Adran 150 – Diddymu deddfiadau eraill
670.Mae adran 150 yn diddymu deddfwriaeth benodedig, sef:
Pennod 2 o Ran 9 o Fesur 2011, er mwyn cael gwared ar y pŵer presennol a’r weithdrefn bresennol y caiff Gweinidogion Cymru gyfuno dau neu dri phrif gyngor oddi tanynt;
adran 23(4)(e)(ii) a (iii) o Ddeddf 2013 – mae adran 23 o Ddeddf 2013 yn galluogi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, ohono’i hun neu ar gais prif gyngor, i gynnal adolygiad o ffiniau prif ardaloedd. Mewn perthynas ag adolygiad o’r fath, caiff y Comisiwn argymell gwneud “newidiadau i ffin prif ardal”, fel y’i diffinnir yn adran 24(4)(e) o’r Ddeddf honno.
Mae’r diwygiad hwn yn golygu na chaiff y Comisiwn argymell diddymu prif ardal na chyfansoddi prif ardal newydd;
adran 1(1), 2 i 39 a 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015. Roedd y darpariaethau hyn yn darparu ar gyfer uno gwirfoddol, ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer ad-drefnu arfaethedig o siroedd a bwrdeistrefi sirol, a oedd i’w gyflawni erbyn 1 Ebrill 2020.
Nid oes bwriad i fwrw ymlaen â’r rhaglen honno, felly mae’r darpariaethau penodedig naill ai yn ddiangen neu wedi eu disbyddu i bob pwrpas erbyn hyn.