Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Crynodeb

3.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch nifer o gynigion rhyngberthynol sy’n ymwneud ag ansawdd ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

a.

Mae Rhan 1 yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf.

b.

Mae Rhan 2 yn gosod ar Weinidogion Cymru a chyrff y GIG ddyletswydd sy’n ymwneud â gwella ansawdd gwasanaethau iechyd.

c.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ac ynghylch dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd.

d.

Mae Rhan 4 yn sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau, sef cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad ag iechyd a gofal cymdeithasol a darparu gwasanaethau eirioli mewn cysylltiad â chwynion. Mae hefyd yn dileu Cynghorau Iechyd Cymuned a’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned.

e.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch is-gadeiryddion Ymddiriedolaethau’r GIG ac ar gyfer mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall, ac mae’n cynnwys darpariaethau atodol ynghylch y Ddeddf gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas â gwneud rheoliadau a threfniadau ar gyfer dwyn y Ddeddf i rym.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill