Search Legislation

Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026

Newidiadau dros amser i: Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Legislation Crest

Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026

2026 dsc 3

Deddf gan Senedd Cymru i ddiwygio’r gyfraith ar gymorth i atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd ac i ddiwygio’r gyfraith ynghylch dyrannu tai cymdeithasol.

[1 Ebrill 2026]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Rhagolygol

RHAN 1LL+CDIGARTREFEDD

Cymorth i atal digartrefeddLL+C

1Ystyr “o dan fygythiad o ddigartrefedd”LL+C

(1)Mae adran 55 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”) (ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (4), yn lle “os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau.” rhodder

(a)os yw’r person wedi cael hysbysiad ysgrifenedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r person ildio meddiannaeth o lety’r person,

(b)os yw cais wedi ei wneud i’r Uchel Lys neu i’r llys sirol am orchymyn i berson arall adennill meddiant o lety’r person, neu

(c)os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 6 mis (pa un a yw paragraff (a) neu (b) yn gymwys ai peidio).

(3)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)Nid yw is-adran (4)(a) yn gymwys ond i hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ildio meddiannaeth o lety a roddir gan berson yr ymddengys ei fod â hawl i roi hysbysiad o’r fath mewn cysylltiad â’r llety, ni waeth—

(a)a yw’r hysbysiad yn ddilys fel arall, a

(b)beth fo rhinweddau unrhyw hawliad posibl am feddiant o’r llety gan y person a roddodd yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

2Cymorth i atal ceisydd rhag dod yn ddigartrefLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 65 (ystyr cynorthwyo i sicrhau).

(3)Yn adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref)—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw awdurdod tai lleol yn fodlon bod ceisydd o dan fygythiad o ddigartrefedd a’i fod yn gymwys i gael cymorth.

(1A)Rhaid i’r awdurdod gynorthwyo i sicrhau nad yw llety addas yn peidio â bod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu drwy gymryd camau rhesymol sy’n debygol o gyflawni’r diben hwnnw.

(1B)Nid yw is-adran (1A) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod sicrhau cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (dyrannu tai) neu ddarparu llety fel arall.;

(b)yn is-adran (2), yn lle “(1)” rhodder “(1A)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Asesu anghenion a chynlluniau ar gyfer sicrhau llety a chefnogaethLL+C

3Dyletswydd i asesu a hysbysiad am ganlyniad asesiadLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 62 (dyletswydd i asesu)—

(a)yn is-adran (3), ar ôl “yn gymwys iddo” mewnosoder “ac, yn adrannau 85, 86 ac 88 yn unig, mae’n cynnwys person sydd wedi gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety ond bod yr awdurdod wedi penderfynu peidio â chynnal asesiad o achos y person”;

(b)yn is-adran (5)(c)—

(i)daw’r geiriau o ”i gadw” hyd at y diwedd yn is-baragraff (i);

(ii)ar ôl “ddod ar gael” mewnosoder , neu

(ii)i oresgyn unrhyw rwystr rhag byw’n annibynnol;

(c)yn is-adran (5), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)y gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd i wneud cyfathrebu â’r ceisydd wrth arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon yn hygyrch i’r ceisydd;;

(d)yn is-adran (6)—

(i)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)ceisio safbwyntiau’r ceisydd ar y materion y mae’n rhaid i’r awdurdod eu hasesu o dan baragraffau (a) i (ca) o is-adran (5) a rhoi sylw i’r safbwyntiau hynny;;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)gwneud ymholiadau sy’n berthnasol i’r asesiad ynghylch nodweddion ac amgylchiadau personol y ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd.;

(e)yn is-adran (7), yn lle “is-adrannau (5) a (6)” rhodder “is-adran (5)”;

(f)hepgorer is-adrannau (9), (10) ac (11).

(3)Yn adran 63 (hysbysu am ganlyniad asesiad)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “asesiad” mewnosoder “a phenderfyniadau”;

(b)o flaen is-adran (1) mewnosoder—

(A1)Os yw awdurdod tai lleol yn penderfynu peidio â chynnal asesiad o achos person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod o dan adran 62, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person a rhoi gwybod i’r person am y rhesymau dros ei benderfyniad.;

(c)yn is-adran (1), ar ôl “o’i asesiad)” mewnosoder “mewn cysylltiad â’r materion a ddisgrifir yn adran 62(4) ac ym mharagraffau (a) i (d) o adran 62(5)”;

(d)yn adran (4)—

(i)ar ôl “is-adran” mewnosoder “(A1),”;

(ii)ym mharagraff (a), ar ôl “adolygiad o’r” mewnosoder “asesiad neu’r”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

4Cynlluniau atal, cefnogaeth a lletyLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 63 (hysbysu am ganlyniad asesiad) mewnosoder—

63ACynlluniau atal, cefnogaeth a llety

(1)Os yw awdurdod tai lleol yn ystyried bod dyletswydd arno i geisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon, rhaid i’r awdurdod baratoi a chynnal cynllun atal, cefnogaeth a llety (“cynllun”) ar gyfer y ceisydd.

(2)Mae cynllun wedi ei ffurfio gan—

(a)y cofnodion ysgrifenedig sy’n ofynnol gan yr adran hon, a

(b)unrhyw wybodaeth neu gyngor ysgrifenedig ar gyfer ceisydd y mae’r awdurdod tai lleol yn ystyried ei bod neu ei fod yn briodol.

(3)Caniateir i gynllun fod yn un ddogfen neu’n gasgliad o ddogfennau, y caniateir i unrhyw un neu ragor ohonynt gael ei diwygio neu eu diwygio yn unol â’r adran hon.

(4)Rhaid i’r awdurdod tai lleol roi sylw i’w asesiad o dan adran 62 mewn perthynas â’r ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd wrth baratoi ac adolygu’r cynllun.

(5)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gofnodi yn ysgrifenedig—

(a)asesiad yr awdurdod o’r materion a ddisgrifir ym mharagraffau (b), (c) ac (ca) o adran 62(5),

(b)unrhyw safbwyntiau gan y ceisydd mewn perthynas â’r materion hynny, ac

(c)unrhyw gamau y mae’r awdurdod i’w cymryd i gyfathrebu â’r ceisydd wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon mewn ffordd sy’n hygyrch i’r ceisydd.

(6)Rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)ceisio canfod pa ganlyniad y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni drwy gymorth yr awdurdod,

(b)cofnodi’r canlyniad yn ysgrifenedig, ac

(c)wrth baratoi ac adolygu cynllun, roi sylw i a allai arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Bennod hon gyfrannu at gyflawni’r canlyniad.

(7)Mae’r cyfeiriadau at gamau sydd i’w cymryd yn yr is-adrannau canlynol yn gyfeiriadau at gamau a gymerir ar gyfer neu mewn cysylltiad â’r diben o sicrhau bod y ceisydd, ynghyd ag unrhyw aelod arall o aelwyd y ceisydd, â llety addas ac yn gallu cadw llety addas.

(8)Rhaid i’r awdurdod tai lleol geisio cytuno â’r ceisydd ar y canlynol—

(a)unrhyw gamau y mae’r ceisydd i’w cymryd, a

(b)y camau y mae’r awdurdod i’w cymryd wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod).

(9)Os yw’r awdurdod tai lleol a’r ceisydd yn dod i gytundeb, rhaid i’r awdurdod gofnodi’r cytundeb hwnnw yn ysgrifenedig.

(10)Os na all yr awdurdod tai lleol a’r ceisydd ddod i gytundeb, rhaid i’r awdurdod gofnodi yn ysgrifenedig—

(a)pam na allent gytuno,

(b)unrhyw gamau y mae’r awdurdod yn ystyried y byddai’n rhesymol i’r ceisydd eu cymryd, ac

(c)y camau y mae’r awdurdod i’w cymryd wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod).

(11)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gofnodi yn ysgrifenedig unrhyw gamau eraill y mae’n ymwybodol ohonynt y mae awdurdod cyhoeddus arall wedi cytuno i’w cymryd mewn perthynas â’r ceisydd.

(12)Rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)rhoi i’r ceisydd gopi o unrhyw ddogfen sy’n gynllun neu sy’n ffurfio rhan o gynllun;

(b)hysbysu’r ceisydd yn ysgrifenedig am y canlynol—

(i)yr hawl i ofyn am adolygiad o’r cynllun, a

(ii)y cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo (gweler adran 85).

(13)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gadw o dan adolygiad briodoldeb unrhyw gytundeb y deuir iddo o dan is-adran (8) neu unrhyw gamau a gofnodir o dan is-adran (10)(b) neu (c) yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod yn ystyried bod arno, neu y gall fod arno, ddyletswydd i’r ceisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.

(14)Os yw’r awdurdod yn ystyried, o ran unrhyw gytundeb y deuir iddo o dan is-adran (8) neu unrhyw gam a gofnodir o dan is-adran (10)(b) neu (c), nad yw’n briodol bellach—

(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd, yn ysgrifenedig, ei fod yn ystyried nad yw’r cytundeb neu’r cam yn briodol bellach, a

(b)mae is-adrannau (8) i (12) yn gymwys eto.

(15)O ran hysbysiad o dan yr adran hon neu gopi o unrhyw ddogfen sy’n gynllun neu sy’n ffurfio rhan o gynllun, os nad yw’r hysbysiad neu’r copi hwnnw yn dod i law’r ceisydd, mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi i’r ceisydd os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

63BDyletswydd i adolygu asesiadau a chynlluniau o dan amgylchiadau penodol

(1)Os yw awdurdod tai lleol o dan ddyletswydd i gynnal cynllun atal, cefnogaeth a llety ar gyfer ceisydd, rhaid i’r awdurdod adolygu ei asesiad o dan adran 62 a’r cynllun os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cyfnod o 8 wythnos wedi mynd heibio heb adolygiad ers cwblhau’r cynllun cyntaf neu’r adolygiad diwethaf o’r cynllun;

(b)bod yr awdurdod tai lleol â rheswm i gredu bod amgylchiadau’r ceisydd, neu amgylchiadau unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd, wedi newid mewn ffordd a all effeithio ar y canlynol—

(i)anghenion llety,

(ii)cefnogaeth y mae ei hangen i gynorthwyo i gadw llety, neu

(iii)hawlogaeth i gymorth o dan y Bennod hon;

(c)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod tai lleol fod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 neu 76A(2) wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben gan fod y ceisydd yn ddigartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

AdolygiadauLL+C

5Hawl i ofyn am adolygiadLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben), ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A)Pan fo awdurdod tai lleol yn cynnig llety wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am yr hawl i ofyn am adolygiad o addasrwydd y llety pa un a dderbynnir y cynnig ai peidio.

(3)Yn lle adran 85 (hawl i ofyn am adolygiad) rhodder—

85Hawl i ofyn am adolygiad

(1)Mae gan geisydd yr hawl i ofyn am adolygiad o’r materion yn is-adran (2), yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (7).

(2)Y materion y caniateir eu hadolygu yw—

(a)penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch cymhwystra’r ceisydd ar gyfer cymorth;

(b)penderfyniad awdurdod tai lleol i beidio â chynnal asesiad o achos person o dan adran 62;

(c)asesiad gan awdurdod tai lleol o anghenion tai y ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd;

(d)asesiad gan awdurdod tai lleol o’r gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd—

(i)i gadw llety sydd ar gael neu a allai ddod ar gael;

(ii)i oresgyn unrhyw rwystr rhag byw’n annibynnol;

(e)cynllun atal, cefnogaeth a llety;

(f)penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68 neu 75 (dyletswyddau i geiswyr sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd);

(g)penderfyniad awdurdod tai lleol nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 76A(2) (dyletswydd i ddarparu cymorth i gadw llety addas);

(h)penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66, 68 neu 75 wedi dod i ben;

(i)penderfyniad awdurdod tai lleol bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 76A(2) wedi dod i ben;

(j)penderfyniad awdurdod tai lleol o dan adran 80 i hysbysu awdurdod tai lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r ceisydd;

(k)penderfyniad o dan adran 80(5) fod yr amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni;

(l)penderfyniad awdurdod tai lleol ynghylch addasrwydd llety a gynigir i’r ceisydd wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw ddyletswydd o’r fath (pa un a yw’r ceisydd wedi derbyn y cynnig ai peidio).

(3)Os yw ceisydd yn cyflwyno cais i awdurdod tai lleol am adolygiad, rhaid i’r awdurdod (yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (7)) adolygu unrhyw fater yn is-adran (2) y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn berthnasol, pa un a yw’r ceisydd yn pennu’r mater sydd i’w adolygu ai peidio.

(4)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu penderfyniad a wnaed mewn adolygiad cynharach.

(5)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu cynllun atal, cefnogaeth a llety oni bai y cyflwynir y cais am adolygiad ar unrhyw adeg pan fo’n ofynnol i’r awdurdod gynnal y cynllun.

(6)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu addasrwydd llety a gynigir i’r ceisydd wrth gyflawni unrhyw ddyletswydd o dan y Bennod hon, neu mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw ddyletswydd o’r fath, oni bai y cyflwynir cais am adolygiad ar unrhyw adeg—

(a)cyn i’r cynnig gael ei dderbyn gan y ceisydd a thra bo’r cynnig yn parhau ar agor, a

(b)os yw’r ceisydd wedi derbyn y cynnig—

(i)ar unrhyw adeg pan fydd dyletswydd o dan adran 66, 68 neu 75 yn gymwys i’r ceisydd, neu

(ii)cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae’r llety ar gael i’w feddiannu gan y ceisydd.

(7)Nid oes ar awdurdod ddim dyletswydd o dan yr adran hon i adolygu unrhyw fater arall oni bai y cyflwynir y cais am adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau (neu’r cyfryw gyfnod hirach ag y caiff yr awdurdod ei ganiatáu yn ysgrifenedig) gan ddechrau â’r diwrnod yr hysbysir y ceisydd am asesiad neu benderfyniad yr awdurdod.

(4)Yn adran 86 (gweithdrefn ar gyfer adolygiad)—

(a)yn is-adran (2), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson ar y lefel briodol nad oedd yn ymwneud â’r asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun sy’n destun adolygiad,;

(b)yn is-adran (4)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “penderfyniad” rhodder “asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun”;

(ii)hepgorer neu

(b)yn cadarnhau y cafodd camau rhesymol eu cymryd.

(5)Yn adran 88 (hawl i apelio i lys sirol ar bwynt cyfreithiol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “neu, yn ôl y digwydd, y penderfyniad gwreiddiol neu gwestiwn ynghylch a gymerwyd pob cam rhesymol” rhodder “mewn adolygiad neu, yn ôl y digwydd, yr asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun gwreiddiol”;

(b)yn is-adran (4), ar ôl “penderfyniad” mewnosoder “mewn adolygiad neu’r asesiad, y penderfyniad neu’r cynllun gwreiddiol”;

(c)yn is-adran (5)(a), hepgorer “yn erbyn penderfyniad yr awdurdod”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Diwygio dyletswyddau i sicrhau lletyLL+C

6Dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer personau digartref cymwys sydd â chysylltiad lleol â ChymruLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer—

(a)adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref);

(b)adran 74 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).

(3)Yn lle adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben) rhodder—

75Dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau bod llety addas ar gael i geisydd ei feddiannu—

(a)os yw is-adran (2) yn gymwys,

(b)os nad yw is-adran (4) yn gymwys, ac

(c)os nad yw is-adran (7) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod tai lleol yn fodlon—

(a)o ran y ceisydd—

(i)ei fod yn ddigartref, neu

(ii)bod ganddo lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu (pa un ai oherwydd camau y mae’r awdurdod wedi eu cymryd ai peidio) ar adeg pan oedd y ceisydd yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, a

(b)bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth.

(3)At ddiben is-adran (2)(a)(ii), mae llety yn llety interim—

(a)os yw wedi ei sicrhau o dan adran 68,

(b)os yw’r ceisydd, pan fydd yn dechrau meddiannu’r llety, yn bwriadu ei feddiannu—

(i)hyd nes y cwblheir y cais am gymorth o dan y Bennod hon, neu

(ii)am gyfnod o lai na 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae’r llety ar gael i’w feddiannu, neu

(c)os yw’r person sy’n sicrhau bod y llety ar gael i’w feddiannu, pan fydd yn dechrau gwneud hynny, yn bwriadu i’r llety fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—

(i)hyd nes y cwblheir y cais am gymorth o dan y Bennod hon, neu

(ii)am gyfnod o lai na 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae’r llety ar gael i’w feddiannu.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod tai lleol yn fodlon—

(a)nad oes gan y ceisydd nac unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd gysylltiad lleol ag ardal unrhyw awdurdod tai lleol yng Nghymru, a

(b)nad yw unrhyw un o’r amgylchiadau yn is-adran (5) yn gymwys.

(5)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd neu unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)mewn perygl o ddioddef camdriniaeth mewn ardal y tu allan i Gymru—

(i)y mae’r ceisydd neu’r aelod arall o aelwyd y ceisydd â chysylltiad lleol â hi,

(ii)y mae, neu yr oedd, y ceisydd neu’r aelod arall o aelwyd y ceisydd yn byw ynddi, a

(iii)yng Nghymru mewn amgylchiadau perthnasol, yn byw yn yr ardal y tu allan i Gymru lle y mae perygl o gamdriniaeth neu’n byw mewn ardal arall y tu allan i Gymru at ddiben ceisio lloches rhag camdriniaeth, neu

(b)yn dod o fewn categori rhagnodedig o berson.

(6)Yn is-adran (5)(a)(iii), yr amgylchiadau perthnasol yw bod y ceisydd neu’r aelod arall o aelwyd y ceisydd, yn union cyn dod i Gymru—

(a)yn byw yn yr ardal y tu allan i Gymru lle y mae perygl o gamdriniaeth, neu

(b)yn byw mewn ardal arall y tu allan i Gymru at ddiben ceisio lloches rhag camdriniaeth.

(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r ceisydd yn garcharor sy’n bwrw dedfryd o garchar, a

(b)os yw’r awdurdod tai lleol yn fodlon nad yw’n rhesymol debygol y bydd y ceisydd yn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r canlynol—

(i)y diwrnod y gwneir y cais am gymorth o dan y Bennod hon, neu

(ii)os oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cais gael ei wneud, y diwrnod y daw’r ddyletswydd o dan adran 66 i ben.

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys os yw’r ceisydd—

(a)yn garcharor, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(9)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) i’w dehongli fel dyletswydd i sicrhau bod llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu pan fydd y ceisydd yn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth neu pan nad yw’n ofynnol bellach iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd (yn ôl y digwydd).

(4)Yn adran 142(3)(b)(ii) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl “adran” mewnosoder “75(5)(b),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

7Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr yn dod i benLL+C

(1)Mae adran 76 o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “neu (7)” rhodder “, (7), (7A) neu (7D)”.

(3)Ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7A)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai oherwydd camau y mae wedi eu cymryd ai peidio)—

(a)nad yw’r ceisydd bellach yn ddigartref,

(b)bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu heblaw yn rhinwedd cynnig a grybwyllir yn is-adran (2) neu (3),

(c)bod y llety yn debygol o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am gyfnod o 12 mis o leiaf, a

(d)bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu yn ysgrifenedig am ganlyniadau posibl cytuno i’r ddyletswydd yn adran 75 ddod i ben, yn cytuno i’r ddyletswydd yn adran 75 ddod i ben.

(7B)Mae’r cyfnod o 12 mis a grybwyllir yn is-adran (7A) yn dechrau ar y diwrnod y mae hysbysiad yn unol ag adran 84 nad yw’r awdurdod bellach yn ystyried ei fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 75 yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(7C)Ond pan fo ceisydd yn garcharor neu’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, mae’r cyfnod o 12 mis a grybwyllir yn is-adran (7A) yn dechrau ar y diwrnod y mae’r ceisydd i’w ryddhau o gael ei gadw’n gaeth neu nad yw’n ofynnol bellach iddo breswylio mewn mangre a gymeradwywyd (yn ôl y digwydd).

(7D)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd yn garcharor sy’n bwrw dedfryd o garchar, a

(b)bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon nad yw’n rhesymol debygol y bydd y ceisydd yn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r canlynol—

(i)y diwrnod y gwneir y cais am gymorth o dan y Bennod hon, neu

(ii)os oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cais gael ei wneud, y diwrnod y daw’r ddyletswydd o dan adran 66 i ben.

(7E)Daw’r ddyletswydd i ben yn unol â’r adran hon neu ag adran 79 hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad sydd wedi arwain at ddod â’r ddyletswydd i ben (gweler adran 85).

(7F)Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes y gwneir penderfyniad ynghylch adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

8Dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartrefLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “(3)” rhodder “(2A)”;

(b)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd os oes gan yr awdurdod reswm i gredu bod y ceisydd yn ddigartref a’i fod yn gymwys i gael cymorth ond nad yw’r awdurdod yn fodlon hyd yma o ran y materion hynny.;

(c)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Mae’r is-adran hon yn gymwys i geisydd—

(a)pan fo’r awdurdod yn fodlon nad oes gan y ceisydd ddim cysylltiad lleol ag ardal unrhyw awdurdod tai lleol yng Nghymru, a

(b)naill ai—

(i)pan fo is-adran (2) yn gymwys i’r ceisydd, neu

(ii)pan fo’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd yn ddigartref a’i fod yn gymwys i gael cymorth.;

(d)hepgorer is-adran (3);

(e)yn y pennawd, hepgorer “ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol”.

(3)Yn adran 69 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 68 yn dod i ben)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “(2), (3) (yn ddarostyngedig i is-adran (4) a (5)), (7), (8)” rhodder “(1A), (1B), (7)”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod yr awdurdod tai lleol wedi penderfynu bod, neu nad oes, dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75,

(b)os yw’r awdurdod wedi penderfynu nad oes dyletswydd o dan adran 75, nad yw wedi gwneud hynny dim ond ar y sail bod adran 75(4) yn gymwys, ac

(c)bod y ceisydd wedi cael ei hysbysu am benderfyniad yr awdurdod.

(1B)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod yr awdurdod tai lleol wedi penderfynu nad oes dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75,

(b)bod yr awdurdod wedi gwneud hynny dim ond ar y sail bod adran 75(4) yn gymwys,

(c)bod y ceisydd wedi cael ei hysbysu am benderfyniad yr awdurdod, a

(d)bod yr awdurdod yn fodlon bod y llety y mae wedi ei sicrhau o dan adran 68 wedi bod ar gael i’r ceisydd am gyfnod digonol er mwyn caniatáu cyfle rhesymol i’r ceisydd i sicrhau llety i’r ceisydd ynghyd ag unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd ei feddiannu.

(1C)Mae’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1B) yn gyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd nad yw adran 75 yn gymwys.;

(c)hepgorer is-adrannau (2) i (6) ac (8);

(d)yn is-adran (10), ar ôl “â’r adran hon” mewnosoder “neu ag adran 79”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Diddymu hawlogaeth drwy gyfeirio at anghenion blaenoriaethol a digartrefedd bwriadolLL+C

9Diddymu gwahaniaethau o ran hawlogaeth sy’n ymwneud ag angen blaenoriaetholLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer—

(a)adran 70 (angen blaenoriaethol am lety);

(b)adran 71 (ystyr hyglwyf yn adran 70);

(c)adran 72 (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau ynghylch angen blaenoriaethol am lety).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

10Diddymu gwahaniaethau o ran hawlogaeth sy’n ymwneud â digartrefedd bwriadolLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer—

(a)adran 77 (ystyr bod yn ddigartref yn fwriadol);

(b)adran 78 (penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb).

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Atgyfeiriadau yn sgil cysylltiadau lleolLL+C

11Atgyfeirio achosion at awdurdod tai lleol arallLL+C

(1)Mae adran 80 o Ddeddf 2014 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer is-adran (1).

(3)Yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)Os yw awdurdod tai lleol yn ystyried—

(a)ei fod, neu y gall fod, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) mewn cysylltiad â cheisydd sy’n garcharor, a

(b)bod yr amodau wedi eu bodloni ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) o dan is-adran (3) neu mewn unrhyw amgylchiadau rhagnodedig,

caiff hysbysu’r awdurdod hwnnw am ei farn.

(2A)Os yw awdurdod tai lleol yn ystyried—

(a)ei fod, neu y gall fod, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety) mewn cysylltiad â cheisydd neu y byddai’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd oni bai am adran 75(4), a

(b)bod yr amodau wedi eu bodloni ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) o dan is-adran (3) neu mewn unrhyw amgylchiadau rhagnodedig,

caiff hysbysu’r awdurdod hwnnw am ei farn.

(2B)Ond ni chaiff awdurdod tai lleol hysbysu o dan is-adran (2A) ar ôl i’r ceisydd gael ei hysbysu o dan adran 63 fod dyletswydd ar yr awdurdod o dan adran 75, oni bai bod y ceisydd yn garcharor.

(4)Yn is-adran (3)(c), yn lle “na fydd y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn resymol iddo breswylio gyda’r ceisydd yn wynebu’r perygl o camdriniaeth ddomestig yn yr ardal arall honno” rhodder “nad yw’r ceisydd nac unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd wedi ei esemptio rhag atgyfeirio (gweler adran 81A)”.

(5)Hepgorer is-adran (4).

(6)Yn is-adran (5), yn y testun Saesneg, yn lle “satisfied” rhodder “met”.

(7)Yn adran 142(3)(b)(ii) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl “78(1)” mewnosoder “, 80(2)(b), 80(2A)(b)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

12Ystyr cysylltiad lleolLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 81 (cysylltiad lleol), yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu amgylchiadau—

(a)pan fo person i’w drin fel person sy’n preswylio fel arfer mewn ardal, neu pan nad yw i’w drin felly;

(b)pan fo preswyliad mewn ardal i’w drin fel preswyliad o ddewis y person ei hun, neu pan nad yw i’w drin felly;

(c)pan fo person i’w drin fel person a gyflogir mewn ardal, neu pan nad yw i’w drin felly;

(d)pan fo person i’w drin fel person sydd â chysylltiad teuluol ag ardal, neu pan nad yw i’w drin felly;

(e)sydd i’w trin fel amgylchiadau arbennig sy’n cysylltu person ag ardal, neu nad ydynt i’w trin felly.

(3)Yn adran 142(3)(b) (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)ym mharagraff (i), hepgorer “neu 81(4)”;

(b)ym mharagraff (ii), ar ôl “80(2A)(b)” (a fewnosodir gan adran 11(7)) mewnosoder “, 81(4)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

13Esemptio rhag atgyfeirio at awdurdod tai lleol arallLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 81 (cysylltiad lleol) mewnosoder—

81ACeiswyr sydd wedi eu hesemptio rhag atgyfeirio o dan adran 80

(1)Ni chaiff awdurdod tai lleol atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) o dan adran 80 os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3) neu (4) yn gymwys mewn perthynas â’r ceisydd.

(2)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd neu unrhyw aelod o aelwyd y ceisydd—

(a)mewn mwy o berygl o ddioddef camdriniaeth yn ardal yr awdurdod y byddai’r atgyfeiriad yn cael ei wneud ato nag yn yr ardal y gwneir y cais iddo, neu

(b)yn dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau.

(3)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn garcharor sydd wedi cael ei hysbysu o dan adran 63 fod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 neu 75 a bod cyfnod o 2 wythnos wedi dod i ben, gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad.

(4)Yr amgylchiadau yw bod atgyfeiriad wedi ei wneud yn flaenorol o dan adran 80 mewn perthynas â’r un cais.

(3)Yn adran 142(3)(b)(ii) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl “81(4)” (a fewnosodir gan adran 12(3)) mewnosoder “, 81A(2)(b)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

14Dyletswyddau i geiswyr mewn achosion atgyfeirioLL+C

(1)Mae adran 82 o Ddeddf 2014 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio) wedi ei diwygio fel a ganlyn yn is-adrannau (2) i (6).

(2)Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Mae is-adrannau (1A) ac (1B) yn gymwys—

(a)os yw awdurdod tai lleol (“awdurdod A”) wedi hysbysu awdurdod tai lleol arall (“awdurdod B”) am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio achos ceisydd o dan adran 80 wedi eu bodloni, a

(b)os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu o dan adran 84(1B) fod awdurdod B wedi cael ei hysbysu am farn awdurdod A;

ac mae is-adran (1A) yn gymwys pa un a yw’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yng Nghymru neu yn Lloegr.

(1A)Os yw awdurdod A yn hysbysu awdurdod B o dan adran 80(2A)—

(a)nid yw awdurdod A yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety) mewn perthynas â’r ceisydd, a

(b)nid yw awdurdod A yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety) mewn perthynas â’r ceisydd;

ond rhaid i awdurdod A sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes i’r ceisydd gael ei hysbysu am y penderfyniad ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos wedi eu bodloni.

(1B)Os yw awdurdod A yn hysbysu awdurdod B o dan adran 80(2) neu (2A) a phenderfynir yn unol ag adran 80(5) fod yr amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos wedi eu bodloni—

(a)mae’r ceisydd i’w drin, at ddibenion y Bennod hon, fel pe bai wedi gwneud cais i awdurdod B ar y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 84(1B),

(b)nid oes ar awdurdod A ddim dyletswyddau i’r ceisydd o dan y Bennod hon o’r dyddiad hwnnw,

(c)pan fo awdurdod A wedi penderfynu bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth, ei fod yn ddigartref neu ei fod o dan fygythiad o ddigartrefedd, mae’r ceisydd i’w drin felly at ddibenion y Bennod hon oni bai bod awdurdod B yn dod i gasgliad gwahanol yn unol ag is-adran (1C), a

(d)rhaid i awdurdod A roi i awdurdod B gopïau o unrhyw hysbysiadau neu unrhyw ddogfennau y mae awdurdod A wedi eu rhoi i’r ceisydd o dan adran 63 (hysbysu am ganlyniad asesiad) neu 63A (cynlluniau atal, cefnogaeth a llety).

(1C)At ddibenion is-adran (1B), ni chaiff awdurdod B ond dod i gasgliad gwahanol os yw’n fodlon—

(a)bod amgylchiadau’r ceisydd wedi newid, neu fod gwybodaeth bellach wedi dod i’r amlwg, ers i awdurdod A wneud ei benderfyniad, a

(b)bod y newid mewn amgylchiadau, neu’r wybodaeth bellach, yn cyfiawnhau bod awdurdod B yn dod i gasgliad gwahanol i awdurdod A.

(1D)O ran y ddarpariaeth ynghylch achosion pan fo awdurdod A yn hysbysu awdurdod B o dan adran 80(2) neu (2A), bo awdurdod B yn Lloegr a phenderfynir yn unol ag adran 80(5) fod yr amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos wedi eu bodloni, gweler adran 201A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yng Nghymru).

(3)Yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)Os yw awdurdod A yn hysbysu awdurdod B o dan adran 80(2A) a phenderfynir nad yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos wedi eu bodloni, mae awdurdod A yn ddarostyngedig i’r canlynol—

(a)y ddyletswydd o dan adran 68 mewn perthynas â’r ceisydd, os yw’r ddyletswydd yn gymwys, a

(b)y ddyletswydd o dan adran 75 mewn perthynas â’r ceisydd, os yw’r ddyletswydd yn gymwys.

(4)Hepgorer is-adran (4).

(5)Yn is-adran (5), yn lle “Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn dod i ben fel y darperir ar ei gyfer yn yr is-adran honno” rhodder “Daw dyletswyddau i ben fel y darperir ar ei gyfer yn is-adrannau (1A) ac (1B)”.

(6)Yn is-adran (6), ar ôl “arfaeth” mewnosoder “, os oedd yn ofynnol i’r awdurdod wneud hynny cyn i ddyletswydd beidio â chael effaith yn rhinwedd yr adran hon”.

(7)Yn adran 201A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”) (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yng Nghymru)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “2014” mewnosoder “(“the 2014 Act”)”;

(b)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)If the conditions for the referral under section 80 of the 2014 Act are met—

(a)for the purposes of this Part, the person whose case is referred is to be treated as having made an application of the kind mentioned in section 183(1) to the notified authority on the date on which notice is given under section 84(1B) of the 2014 Act that the conditions of referral are met,

(b)from that date, the notifying authority owes no duties to the applicant under Chapter 2 of Part 2 of the 2014 Act,

(c)where the notifying authority have made a decision as to whether the applicant is eligible for assistance under Chapter 2 of Part 2 of the 2014 Act, homeless or threatened with homelessness for the purposes of that Act, the applicant is to be treated as eligible for assistance, homeless or threatened with homelessness for the purposes of this Part, unless the notified authority come to a different conclusion in accordance with subsection (3), and

(d)the notifying authority must give to the notified authority copies of any notifications or documents that the notifying authority have given to the applicant under section 63 (notice of the outcome of assessment) or 63A (prevention, support and accommodation plans) of the 2014 Act.

(3)For the purposes of subsection (2)(c), the notified authority may only come to a different conclusion if they are satisfied that—

(a)the applicant’s circumstances have changed, or further information has come to light, since the notifying authority made their decision and that change in circumstances, or further information, justifies the notified authority coming to a different decision to the notifying authority, or

(b)there is a difference in effect between Chapter 2 of Part 2 of the 2014 Act and this Act regarding eligibility for assistance, the meaning of homelessness or the meaning of being threatened with homelessness that would materially affect a decision as to whether the applicant is eligible for assistance, homeless or threatened with homelessness for the purposes of this Part.;

(c)hepgorer is-adran (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

15Achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yn LloegrLL+C

Yn adran 83(2) o Ddeddf 2014 (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yn Lloegr)—

(a)ym mharagraff (a) hepgorer “ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol”;

(b)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety);.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

16Hysbysiad i geiswyr mewn achosion atgyfeirioLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 82 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio)—

(a)hepgorer is-adran (2);

(b)hepgorer is-adran (7).

(3)Yn adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “bod dyletswyddau wedi dod i ben” mewnosoder “ac am atgyfeiriadau cysylltiadau lleol”;

(b)yn is-adran (1), hepgorer “(gan gynnwys pan fo’r awdurdod wedi atgyfeirio achos y ceisydd at awdurdod arall neu wedi penderfynu bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni)”;

(c)ar ôl is-adran (1A) (a fewnosodir gan adran 5(2)) mewnosoder—

(1B)Pan fo awdurdod tai lleol (“awdurdod A”) yn hysbysu awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) (“awdurdod B”) am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio achos ceisydd o dan adran 80 wedi eu bodloni, rhaid iddo, ar yr un pryd, hysbysu’r ceisydd bod awdurdod B wedi cael ei hysbysu am farn awdurdod A.

(1C)Rhaid i awdurdod A hefyd hysbysu’r ceisydd am benderfyniad o dan adran 80(5) ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd wedi eu bodloni.

(1D)Rhaid i hysbysiad a roddir gan awdurdod A i geisydd o dan is-adran (1B) neu (1C)—

(a)nodi’r rhesymau dros y farn neu’r penderfyniad,

(b)esbonio effaith awdurdod A yn hysbysu awdurdod B ar hawlogaethau’r ceisydd o dan y Bennod hon, neu effaith y penderfyniad o dan adran 80(5) ar yr hawlogaethau hynny,

(c)rhoi gwybod i’r ceisydd am unrhyw hawl i ofyn am adolygiad, a

(d)pennu’r cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Dyletswyddau pellach o ran atal digartrefeddLL+C

17Cymorth i gadw llety addas a sicrhawyd wrth arfer swyddogaethau digartrefeddLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben) mewnosoder—

76ADyletswydd a phŵer i ddarparu cymorth i gadw llety addas

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—

(a)ceisydd—

(i)nad yw’n ddigartref nac o dan fygythiad o ddigartrefedd,

(ii)y mae llety addas ar gael iddo ei feddiannu a oedd, i unrhyw raddau, wedi ei gadw neu wedi ei sicrhau drwy awdurdod tai lleol yn arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon (pa un ai drwy ddarparu llety neu fathau eraill o gymorth), a

(iii)y mae’r awdurdod tai lleol yn ystyried ei fod mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd oni bai bod cymorth pellach yn cael ei ddarparu;

(b)yr awdurdod tai lleol sy’n arfer y swyddogaethau a ddisgrifir ym mharagraff (a)(ii) mewn perthynas â’r ceisydd.

(2)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety’r ceisydd yn peidio â bod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu drwy gymryd camau rhesymol sy’n debygol o gyflawni’r diben hwnnw.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â cheisydd y mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) wedi dod i ben ar ei gyfer yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (4) neu (6) o adran 76B.

(4)Caiff yr awdurdod tai lleol gynorthwyo i sicrhau nad yw llety’r ceisydd yn peidio â bod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu drwy gymryd camau rhesymol sy’n debygol o gyflawni’r diben hwnnw.

76BAmgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 76A(2) yn dod i ben

(1)Daw’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 76A(2) i ben yn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), (3), (4), (6) neu (9) os yw’r ceisydd wedi cael ei hysbysu yn unol ag adran 84.

(2)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref.

(3)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon (pa un ai o ganlyniad i’r camau y mae wedi eu cymryd ai peidio) nad yw’r ceisydd bellach mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd oni bai bod cymorth yn cael ei ddarparu.

(4)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd yn meddiannu llety sydd wedi ei ddarparu neu wedi ei drefnu wrth arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon, a

(b)bod y cyfnod yn is-adran (5) sy’n dechrau ar y diwrnod diweddarach wedi dod i ben.

(5)Y cyfnodau yw—

(a)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod y daeth y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu;

(b)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 fod dyletswydd o dan adran 76A(2) yn ddyledus i’r ceisydd.

(6)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ceisydd yn meddiannu llety a sicrhawyd wrth arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon, ond nas darparwyd ac nas trefnwyd wrth arfer y swyddogaethau hynny, a

(b)bod y cyfnod yn is-adran (7) sy’n dechrau ar y dyddiad diweddarach wedi dod i ben.

(7)Y cyfnodau yw—

(a)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 84 fod y ddyletswydd o dan adran 66 wedi dod i ben;

(b)y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd o dan adran 63 fod dyletswydd o dan adran 76A(2) yn ddyledus i’r ceisydd.

(8)At ddiben is-adrannau (5) a (7) mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi ei hysbysu ar y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon neu’n dod ar gael i’w gasglu gyntaf.

(9)Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd wedi gofyn nad yw cymorth o’r math sy’n ofynnol gan adran 76A(2) yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod tai lleol.

(10)Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 76A(2) yn dod i ben.

(3)Yn adran 79(1) (amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben), yn lle “a 75” rhodder “, 75 ac 76A(2)”.

(4)Yn adran 84(1) (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben), yn lle “neu 75” rhodder “, 75 neu 76A(2)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

18Dyletswydd i gysylltu â cheiswyr penodol ar ôl i’r ddyletswydd yn adran 75 ddod i benLL+C

Ar ôl adran 76B o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 76A(2) yn dod i ben) (a fewnosodir gan adran 17(2)), mewnosoder—

76CDyletswydd i gadw mewn cysylltiad â cheiswyr penodol

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—

(a)ceisydd—

(i)yr oedd dyletswydd iddo o dan adran 75 a ddaeth i ben o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 76(7A), a

(ii)nad yw o fewn is-adran (2);

(b)yr awdurdod tai lleol a arferodd y swyddogaeth a ddisgrifir ym mharagraff (a)(i) mewn perthynas â’r ceisydd.

(2)Mae ceisydd o fewn yr is-adran hon—

(a)os oes dyletswydd ar yr awdurdod tai lleol i’r ceisydd o dan adran 76A(2) ar ddechrau’r cyfnod perthnasol, neu

(b)os yw’n ofynnol i’r awdurdod tai lleol, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol, gynnal asesiad o dan adran 62 mewn cysylltiad â’r ceisydd neu os yw wedi cynnal asesiad o’r fath cyn dechrau’r cyfnod perthnasol.

(3)Rhaid i’r awdurdod tai lleol gymryd camau rhesymol i gysylltu â’r ceisydd (pa un a yw’r ceisydd o fewn ei ardal ai peidio) o fewn y cyfnod perthnasol gyda’r nod o ganfod, o ran y ceisydd, a yw neu a all fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu a yw mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd.

(4)Os yw’r awdurdod tai lleol yn ystyried, o ran y ceisydd, ei fod neu y gall fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu ei fod mewn perygl o ddod yn ddigartref neu o ddod o dan fygythiad o ddigartrefedd, rhaid i’r awdurdod tai lleol roi i’r ceisydd y gyfryw wybodaeth a’r cyfryw gyngor y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod neu ei fod yn briodol.

(5)At ddiben yr adran hon, y “cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 2 fis ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mis sy’n dechrau ar y diwrnod yr hysbysir y ceisydd yn unol ag adran 84 fod y ddyletswydd o dan adran 75 wedi dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Ymddygiad annerbyniol sy’n dod â dyletswyddau i benLL+C

19Amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i benLL+C

(1)Mae adran 79 o Ddeddf 2014 (amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “neu (5)” rhodder “, (5), (6) neu (7)”.

(3)Yn lle is-adran (5), rhodder—

(5)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon—

(a)bod y ceisydd wedi ymddwyn yn dreisgar neu’n fygythiol tuag at unigolyn a oedd yn cyflawni gweithgaredd sy’n gysylltiedig â’r canlynol—

(i)arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon, neu

(ii)darparu llety neu wasanaethau eraill a sicrhawyd i unrhyw raddau drwy arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon,

(b)bod yr ymddygiad wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan fo cais ceisydd yn cael ei ystyried a bo unrhyw ddyletswydd o dan adran 66, 68, 75 neu 76A(2) yn gymwys, ac

(c)nad oes dim amgylchiadau arbennig a fyddai’n ei gwneud yn briodol i’r ddyletswydd berthnasol barhau i fod yn gymwys.

(6)Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon—

(a)bod eiddo a oedd yn llety a sicrhawyd i unrhyw raddau drwy arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon, neu eiddo a ddarparwyd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â llety o’r fath, wedi ei ddinistrio neu wedi ei ddifrodi’n ddifrifol yn ystod y cyfnod pan fo cais ceisydd yn cael ei ystyried a bo unrhyw ddyletswydd o dan adran 66, 68 neu 75 yn gymwys,

(b)bod y ceisydd, neu berson sy’n preswylio gyda’r ceisydd, wedi dinistrio’r eiddo neu wedi ei ddifrodi’n ddifrifol, neu wedi ysgogi neu annog ei ddinistrio neu ei ddifrodi gan berson arall,

(c)bod y ceisydd neu berson sy’n preswylio gyda’r ceisydd wedi bwriadu dinistrio’r eiddo neu ei ddifrodi’n ddifrifol, neu wedi bod yn ddi-hid o ran a fyddai’r eiddo yn cael ei ddinistrio neu ei ddifrodi’n ddifrifol,

(d)nad oes dim esgus rhesymol dros weithredoedd y ceisydd neu’r person sy’n preswylio gyda’r ceisydd, ac

(e)nad oes dim amgylchiadau arbennig a fyddai’n ei gwneud yn briodol i’r ddyletswydd berthnasol barhau i fod yn gymwys.

(7)Yr amgylchiadau yw—

(a)nad yw’r ceisydd wedi ymateb i geisiadau mynych gan yr awdurdod tai lleol i gysylltu â’r ceisydd mewn cysylltiad â’r cais,

(b)nad yw’r awdurdod yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau arbennig a fyddai’n ei gwneud yn briodol i’r ddyletswydd berthnasol barhau i fod yn gymwys,

(c)bod yr awdurdod wedi rhoi hysbysiad rhybuddio i’r ceisydd yn esbonio—

(i)bod yr awdurdod, oherwydd y ffeithiau a ddisgrifir ym mharagraff (a), yn bwriadu rhoi hysbysiad i’r ceisydd o dan adran 84, a

(ii)canlyniadau rhoi hysbysiad o dan adran 84 i’r ceisydd, a

(d)bod cyfnod rhesymol wedi mynd heibio ers i’r hysbysiad rhybuddio gael ei roi, a hynny heb unrhyw gyswllt gan y ceisydd mewn cysylltiad â’r cais.

(8)Rhaid i hysbysiad rhybuddio o dan is-adran (7) gael ei roi yn ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law’r ceisydd, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi i’r ceisydd os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Dyletswydd i ofyn a gweithreduLL+C

20Dyletswydd person penodedi‍g i ofyn a gweithreduLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 94 (gwarchod eiddo: darpariaethau atodol) mewnosoder—

94ADyletswydd‍ person penodedig i ofyn a gweithredu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw‍ person penodedig (gweler adran 94B) yn ystyried bod‍ unigolyn yng Nghymru y mae’r‍ person penodedig yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ef yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu y gall fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, yn ddarostyngedig i is-adran (7).

(2)Rhaid i’r‍ person penodedig ofyn i’r unigolyn—

(a)cytuno i’r‍ person penodedig hysbysu awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr am y canlynol—

(i)y farn a grybwyllir yn is-adran (1), a

(ii)sut y gall yr awdurdod tai lleol gysylltu â’r‍ unigolyn;

(b)enwi awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr yr hoffai’r‍ unigolyn i’r hysbysiad gael ei wneud iddo.

(3)Os yw’r‍ unigolyn yn cytuno i’r person penodedig wneud yr hysbysiad, rhaid i’r‍ person penodedig hysbysu—

(a)yr awdurdod tai lleol a enwyd gan‍ yr unigolyn, neu

(b)os nad yw’r‍ unigolyn wedi enwi awdurdod, yr awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr y mae’r‍ person penodedig yn ystyried ei fod yn briodol.

(4)Os yw’r hysbysiad sy’n ofynnol gan is-adran (3) yn cael ei wneud i awdurdod tai lleol yng Nghymru, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai’n gais gan‍ yr unigolyn i’r awdurdod tai lleol o dan adran 62(1)(a).

(5)Rhaid i’r‍ person penodedig—

(a)darparu gwybodaeth i’r‍ unigolyn am y cymorth sydd ar gael‍ ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref;

(b)ystyried a oes unrhyw gamau eraill y gallai, yn rhesymol, eu cymryd wrth arfer ei swyddogaethau i gynorthwyo’r‍ unigolyn i sicrhau neu i gadw llety addas ac, os yw’r‍ person penodedig yn ystyried bod unrhyw gamau o’r fath, rhaid iddo gymryd y camau hynny;

(c)ystyried a yw’r farn a grybwyllir yn is-adran (1) yn effeithio ar arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r‍ unigolyn ynghylch unrhyw fater.

(6)Nid yw‍ paragraffau (b) ac (c) o is-adran (5) yn effeithio ar unrhyw un neu ragor o hawliau’r‍ person penodedig, pa un ai yn rhinwedd contract, deddfiad neu reolaeth cyfraith, i sicrhau meddiant gwag o unrhyw lety.

(7)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw’r‍ person penodedig yn fodlon—

(a)bod cais i awdurdod tai lleol yng Nghymru o dan adran 62(1)(a) o’r Ddeddf hon, neu i awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 183 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r‍ unigolyn, a

(b)naill ai—

(i)bod y cais yn cael ei ystyried, neu

(ii)bod dyletswydd yn gymwys o dan y Ddeddf hon, neu Ddeddf 1996, i sicrhau llety neu i ddarparu cymorth arall mewn cysylltiad â’r cais.

94B‍Personau penodedig

(1)At ddibenion adran 94A,‍ mae pob un o’r canlynol yn “person penodedig”—

(a)awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol, ond dim ond mewn perthynas ag unigolion y mae’n darparu neu’n trefnu gwasanaethau gofal iechyd iddynt nad ydynt yn wasanaethau gofal sylfaenol;

(c)Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;

(d)landlord cymdeithasol cofrestredig;

(e)corfforaeth tref newydd ar gyfer ardal yng Nghymru;

(f)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig sy’n darparu tai yng Nghymru;

(g)ymddiriedolaeth gweithredu tai ar gyfer ardal yng Nghymru;

(h)llywodraethwr carchar yng Nghymru;

(i)cyfarwyddwr carchar ar gontract yng Nghymru;

(j)llywodraethwr sefydliad troseddwyr ifanc yng Nghymru;

(k)llywodraethwr canolfan hyfforddi ddiogel yng Nghymru;

(l)cyfarwyddwr canolfan hyfforddi ddiogel ar gontract yng Nghymru;

(m)pennaeth coleg diogel yng Nghymru;

(n)tîm troseddwyr ifanc sydd wedi ei sefydlu o dan adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) ar gyfer ardal yng Nghymru;

(o)rheolwr cartref diogel i blant yng Nghymru;

(p)darparwr gwasanaethau prawf yng Nghymru;

(q)swyddog sydd wedi ei ddynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau at ddibenion adran 94A ac sydd wedi ei gyflogi gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn swyddfa yng Nghymru a elwir yn swyddfa Canolfan Byd Gwaith;

(r)yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, ond dim ond mewn perthynas ag aelodau o luoedd arfog rheolaidd y Goron.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1)—

(a)er mwyn hepgor cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson;

(b)er mwyn ychwanegu cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson;

(c)er mwyn newid cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson.‍

(3)O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)cânt hepgor cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl;

(b)ni chânt ychwanegu cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio;

(c)ni chânt newid cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl mewn ffordd sy’n addasu swyddogaethau’r awdurdod o dan adran 94A oni bai—

(i)yn achos awdurdod sy’n Weinidog y Goron, yr ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch y newid, neu

(ii)yn achos unrhyw awdurdod arall, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(4)Caiff rheoliadau o dan baragraff (b) neu (c) o is-adran (2)—

(a)disgrifio person drwy gyfeirio at arfer disgresiwn gan berson arall;

(b)pennu achosion neu amgylchiadau pryd y mae cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson yn gymwys.

(3)Yn adran 98 (canllawiau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 94A, rhaid i‍ berson penodedig roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Yn adran 142(3)(b)(ii) (gorchmynion a rheoliadau: y weithdrefn), yn lle “neu 86(1)” rhodder “, 86(1), 94B(2)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

21Dyletswydd i atgyfeirio personau yn Lloegr at awdurdod tai lleol yng NghymruLL+C

Yn adran 213B o Ddeddf 1996 (dyletswydd awdurdod cyhoeddus i atgyfeirio achosion yn Lloegr at awdurdod tai lleol)—

(a)yn is-adran (2), ar ôl “England” mewnosoder “or Wales”;

(b)yn is-adran (3)(b), ar ôl “England” mewnosoder “or Wales”;

(c)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)If the notification required by subsection (3) is made to a local housing authority in Wales, the notification is to be treated as if it were an application by the person to the local housing authority under section 62(1)(a) of the Housing (Wales) Act 2014 (anaw 7).

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Darpariaeth ar gyfer pobl hyglwyfLL+C

22Dyletswydd i sicrhau bod gan bobl ifanc sy’n gadael gofal lety addasLL+C

(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl adran 108 (asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18) mewnosoder—

108ADyletswydd i sicrhau bod llety addas ar gael i bersonau sy’n gadael gofal

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys i—

(a)person ifanc categori 1;

(b)person ifanc categori 2;

(c)person ifanc categori 5;

(d)person ifanc categori 6;

ac, yn achos person ifanc categori 1 neu berson ifanc categori 2, mae’r ddyletswydd yn parhau i fod yn gymwys i’r person ifanc (i’r graddau y mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol) ar ôl i’r person ifanc ddod yn berson ifanc categori 3.

(2)Os yw’n ofynnol i lesiant y person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y person ifanc gymryd camau rhesymol i sicrhau bod llety addas ar gael i’r person ifanc ei feddiannu—

(a)yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person ifanc yn cyrraedd 18 oed, a

(b)mewn perthynas â pherson ifanc categori 3, yn ystod cyfnod dilynol pan fydd dyletswydd i’r person ifanc o dan adran 110.

(3)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (4) yn gymwys i—

(a)person ifanc categori 3;

(b)person ifanc categori 4;

(c)person ifanc categori 5 sy’n cael addysg bellach neu uwch lawnamser ac y caiff yr awdurdod cyfrifol roi cymorth iddo o dan adran 114(3);

(d)person ifanc a fu gynt yn berson ifanc categori 5 sy’n cael addysg bellach neu uwch lawnamser ac y caiff yr awdurdod cyfrifol roi cymorth iddo o dan adran 114(5);

(e)person ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a) sy’n cael addysg bellach neu uwch lawnamser ac y caiff yr awdurdod cyfrifol roi cymorth iddo o dan adran 115(4);

(f)person ifanc a fu gynt yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a) sy’n cael addysg bellach neu uwch lawnamser ac y caiff yr awdurdod cyfrifol roi cymorth iddo o dan adran 115(6);

ac mae’r ddyletswydd yn parhau i fod yn gymwys i’r person ifanc (i’r graddau y mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol) ar ôl i’r person ifanc beidio â dod o fewn unrhyw un o baragraffau (a) i (f).

(4)Os yw’n ofynnol i lesiant y person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y person ifanc gymryd camau rhesymol i sicrhau bod llety addas ar gael i’r person ifanc ei feddiannu yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r canlynol—

(a)mewn perthynas â pherson ifanc categori 3, y diwrnod y mae dyletswydd yr awdurdod i’r person ifanc o dan adran 110 yn dod i ben;

(b)mewn perthynas â pherson ifanc categori 4, y diwrnod y mae dyletswydd yr awdurdod i’r person ifanc o dan adran 112 yn dod i ben;

(c)mewn perthynas â pherson ifanc categori 5, y diwrnod y mae’r addysg bellach neu uwch, y mae’n bosibl bod cymorth o dan adran 114(3) wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yn dod i ben;

(d)mewn perthynas â pherson ifanc a fu gynt yn berson ifanc categori 5, y diwrnod y mae’r addysg bellach neu uwch, y mae’n bosibl bod cymorth o dan adran 114(5) wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yn dod i ben;

(e)mewn perthynas â pherson ifanc categori 6, y diwrnod y mae’r addysg bellach neu uwch, y mae’n bosibl bod cymorth o dan adran 115(4) wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yn dod i ben;

(f)mewn perthynas â pherson ifanc a fu gynt yn berson ifanc categori 6, y diwrnod y mae’r addysg bellach neu uwch, y mae’n bosibl bod cymorth o dan adran 115(6) wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yn dod i ben.

(5)Ni chaniateir ystyried bod llety ar gael i berson ifanc ei feddiannu at ddiben yr adran hon ond os yw ar gael i’r person ifanc hwnnw ei feddiannu ynghyd ag unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person ifanc.

(6)Mae unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae person ifanc yn ei dilyn i’w ddiystyru at ddiben is-adrannau (3) a (4) os yw’r awdurdod lleol cyfrifol wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3)Yn adran 109 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2), hepgorer is-adran (3).

(4)Ar ôl is-adran 109 mewnosoder—

109AYstyr llety addas

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyr “llety addas” at ddibenion adrannau 108A a 109.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

(a)unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r llety, gan gynnwys (ymysg pethau eraill)—

(i)addasrwydd darparwyr llety;

(ii)yr amodau meddiannu;

(iii)natur neu safon llety;

(iv)lleoliad llety;

(b)nodweddion neu amgylchiadau personol person ifanc y mae adran 108A neu 109 yn gymwys iddo neu unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol i’r person ifanc breswylio gydag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

23Protocol ar gyfer ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â phersonau sy’n gadael gofal etc.LL+C

(1)Mae adran 95 o Ddeddf 2014 (cydweithredu) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)(d), ar ôl “y Rhan hon” mewnosoder “ac, mewn perthynas â phersonau sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”)”.

(3)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Rhaid i’r trefniadau o dan is-adran (1) gynnwys protocol ar gyfer ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)personau 16 neu 17 oed sy’n ddigartref neu sydd o dan fygythiad o ddigartrefedd;

(b)anghenion llety a chefnogaeth personau sy’n gadael gofal;

(c)anghenion llety a chefnogaeth personau sy’n gadael gofal a phersonau 16 neu 17 oed sy’n gadael llety cadw ieuenctid, y carchar neu fangre a gymeradwywyd.

(1B)Yn is-adran (1A), o ran “personau sy’n gadael gofal”—

(a)ei ystyr yw personau sy’n dod o fewn unrhyw un o’r categorïau o berson ifanc sydd â hawl i gefnogaeth o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 105 i 115 o Ddeddf 2014 (gweler adran 104 o Ddeddf 2014), a

(b)ym mharagraff (c), mae’n cynnwys personau a fyddai â hawl o’r fath oni bai am adrannau 185 a 186 o Ddeddf 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

24Protocol ar gyfer ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â phersonau y mae angen cefnogaeth arnynt yn benodolLL+C

(1)Mae adran 95 o Ddeddf 2014 (cydweithredu) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (1B) (a fewnosodir gan adran 23(3)) mewnosoder—

(1C)Rhaid i awdurdod tai lleol yng Nghymru wneud trefniadau i hybu cydweithredu rhyngddo ef ei hun a’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol a grybwyllir yn is-adran (1D) sy’n arfer swyddogaethau yn ardal yr awdurdod, gyda’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol yn ei ardal—

(a)atal digartrefedd,

(b)bod llety addas ar gael i bersonau sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,

(c)bod cefnogaeth foddhaol ar gael ar gyfer personau sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,

(d)cydgysylltu achosion yn effeithiol, a hynny gan bersonau a grybwyllir yn is-adran (1D), ynghylch personau sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref ac y mae’n bosibl bod angen cefnogaeth arall arnynt yn benodol hefyd, ac

(e)cyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol o dan y Rhan hon.

(1D)Y personau yw—

(a)y personau a grybwyllir yn is-adran (5);

(b)unrhyw awdurdod cyhoeddus arall sydd â swyddogaethau sy’n gallu cyfrannu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r amcanion a grybwyllir yn is-adran (1C);

(c)unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y mae ei weithgareddau’n gallu cyfrannu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r amcanion hynny.

(1E)Rhaid i’r trefniadau o dan is-adran (1C) gynnwys protocol ar gyfer ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â phersonau sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref ac y mae’n bosibl bod angen cefnogaeth arall neu wasanaethau eraill arnynt yn benodol hefyd, gan gynnwys yn benodol gefnogaeth neu wasanaethau sy’n ofynnol mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)gadael y carchar neu lety cadw ieuenctid;

(b)gadael lluoedd arfog rheolaidd y Goron;

(c)camddefnyddio cyffuriau a sylweddau eraill;

(d)iechyd meddwl.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

25Gwarchod eiddo: carcharorionLL+C

Yn adran 93(1) o Ddeddf 2014 (gwarchod eiddo), ar ôl “is-adran (2),” mewnosoder “neu pan fyddai wedi dod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 75 mewn perthynas â cheisydd oni bai am gymhwysiad adran 75(7),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

26Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy: personau a gedwir yn gaethLL+C

Yn adran 60 o Ddeddf 2014 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl ”chysylltiad lleol â’i ardal” mewnosoder ”(gan gynnwys, yn benodol, bersonau sy’n cael eu cadw o dan awdurdod deddfiad ac sydd yn ei ardal neu sydd â chysylltiad lleol â’i ardal)”;

(b)yn is-adran (4), ym mharagraff (a), ar ôl “pobl” mewnosoder “sydd yn y carchar neu mewn llety cadw ieuenctid neu bobl”.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

27Y diffiniad o “camdriniaeth”LL+C

Yn lle adran 58 o Ddeddf 2014 (ystyr camdriniaeth a chamdriniaeth ddomestig) rhodder—

58Y diffiniad o gamdriniaeth

Yn y Bennod hon, ystyr “camdriniaeth” yw—

(a)camdriniaeth ddomestig o fewn yr ystyr a roddir i “domestic abuse” gan adran 1 o Ddeddf Camdriniaeth Ddomestig 2021 (p. 17), neu

(b)unrhyw fath arall o gamdriniaeth a all, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, arwain at berygl o niwed, gan gynnwys (er enghraifft)—

(i)camfanteisio o fewn yr ystyr a roddir i “exploitation” yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (p. 30);

(ii)aflonyddu neu stelcio o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadroddion “harassment a “stalking, yn y drefn honno, yn Neddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997 (p. 40).

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Ceisio safbwyntiau personau digartrefLL+C

28Dyletswydd i geisio safbwyntiau personau digartref wrth arfer swyddogaethau digartrefeddLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 52(8) (strategaethau digartrefedd), ar ôl “cyrff gwirfoddol” mewnosoder “, personau yn ardal yr awdurdod sydd, neu sydd wedi bod, yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd”.

(3)Yn adran 60(4) (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i gael gafael ar gymorth), ar ôl y geiriau “cyrff gwirfoddol” mewnosoder “, personau yn ardal yr awdurdod sydd, neu sydd wedi bod, yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd”.

(4)Ar ôl adran 98(4) (canllawiau) mewnosoder—

(5)Cyn rhoi, diwygio neu dynnu’n ôl ganllawiau o dan‍ y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw awdurdodau cyhoeddus neu leol, y cyfryw sefydliadau gwirfoddol, y cyfryw bersonau sydd, neu sydd wedi bod, yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd yng Nghymru, neu’r cyfryw bersonau eraill, y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Cyflwr lletyLL+C

29Addasrwydd lletyLL+C

Yn adran 59(1) o Ddeddf 2014 (addasrwydd llety)—

(a)yn lle “roi sylw i’r deddfiadau canlynol” rhodder “roi sylw i ddarpariaeth sydd wedi ei gwneud yn, o dan, neu yn rhinwedd y deddfiadau canlynol”;

(b)ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(h)Rhan 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (cyflwr anheddau).

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

30Adroddiadau ar ddefnydd a chyflwr llety interimLL+C

Ar ôl adran 97 o Ddeddf 2014 (datganiadau anwir etc.) mewnosoder—

97AAdroddiadau ar ddefnydd a chyflwr llety interim

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru adroddiad ar ddefnydd a chyflwr llety interim a sicrheir o dan adran 68 ac adran 75 gan awdurdodau tai lleol yng Nghymru.

(2)At y diben hwnnw, rhaid i awdurdodau tai lleol yng Nghymru gyflenwi i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth ag sy’n ofynnol ganddynt.

(3)Rhaid i’r adroddiad cyntaf o dan yr adran hon gael ei osod, a’i gyhoeddi, ar 31 Rhagfyr 2030 neu cyn hynny.

(4)Rhaid gosod adroddiad, a’i gyhoeddi, ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd gan ddechrau â’r dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

CydweithreduLL+C

31CydweithreduLL+C

(1)Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 95 (cydweithredu), yn lle is-adrannau (5) i (8) rhodder—

(5)Y personau yw—

(a)awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol, ond dim ond mewn perthynas ag unigolion y mae’n darparu neu’n trefnu gwasanaethau gofal iechyd iddynt nad ydynt yn wasanaethau gofal sylfaenol;

(d)landlord cymdeithasol cofrestredig, pa un ai mewn perthynas â thai a ddarperir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)corfforaeth tref newydd ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(f)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, pa un ai mewn perthynas â thai a ddarperir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)ymddiriedolaeth gweithredu tai ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(h)llywodraethwr carchar yng Nghymru neu yn Lloegr;

(i)cyfarwyddwr carchar ar gontract yng Nghymru neu yn Lloegr;

(j)llywodraethwr sefydliad troseddwyr ifanc yng Nghymru neu yn Lloegr;

(k)llywodraethwr canolfan hyfforddi ddiogel yng Nghymru neu yn Lloegr;

(l)cyfarwyddwr canolfan hyfforddi ddiogel ar gontract yng Nghymru neu yn Lloegr;

(m)pennaeth coleg diogel yng Nghymru neu yn Lloegr;

(n)rheolwr cartref diogel i blant yng Nghymru neu yn Lloegr;

(o)tîm troseddwyr ifanc sydd wedi ei sefydlu o dan adran 39(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(p)darparwr gwasanaethau prawf yng Nghymru neu yn Lloegr;

(q)swyddog sydd wedi ei ddynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau at ddibenion yr adran hon ac sydd wedi ei gyflogi gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn swyddfa yng Nghymru neu yn Lloegr a elwir yn swyddfa Canolfan Byd Gwaith;

(r)yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, ond dim ond mewn perthynas ag aelodau o luoedd arfog rheolaidd y Goron.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (5)—

(a)er mwyn hepgor cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson;

(b)er mwyn ychwanegu cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson;

(c)er mwyn newid cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson.

(7)O ran rheoliadau o dan is-adran (6)—

(a)cânt hepgor cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl;

(b)ni chânt ychwanegu cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio;

(c)ni chânt newid cyfeiriad at awdurdod a gedwir yn ôl neu ddisgrifiad o berson sy’n cynnwys awdurdod a gedwir yn ôl mewn ffordd sy’n addasu swyddogaethau’r awdurdod o dan yr adran hon oni bai—

(i)yn achos awdurdod sy’n Weinidog y Goron, yr ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch y newid, neu

(ii)yn achos unrhyw awdurdod arall, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(8)Caiff rheoliadau o dan baragraff (b) neu (c) o is-adran (6)—

(a)disgrifio person drwy gyfeirio at arfer disgresiwn gan berson arall;

(b)pennu achosion neu amgylchiadau pryd y mae cyfeiriad at berson neu ddisgrifiad o berson yn gymwys.

(3)Yn adran 142(3)(b)(ii) (gorchmynion a rheoliadau: y weithdrefn), ar ôl “94B(2)” (a fewnosodir gan adran 20(4)) mewnosoder “neu 95(6)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

32Cydweithredu rhwng landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau tai lleolLL+C

Ar ôl adran 96 o Ddeddf 2014 (cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant) mewnosoder—

96ACydweithredu rhwng landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau tai lleol

(1)Pan fo dyletswydd ar awdurdod tai lleol i geisydd o dan adran 75, caiff yr awdurdod wneud cais i landlord cymdeithasol sy’n darparu llety yn ardal yr awdurdod i gynnig i’r ceisydd lety addas yn yr ardal honno.

(2)At ddibenion yr adran hon ac adran 96B, ystyr “landlord cymdeithasol” yw—

(a)landlord cymdeithasol cofrestredig, neu

(b)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig.

(3)Wrth benderfynu a ddylid gwneud cais, rhaid i’r awdurdod tai lleol roi sylw i argaeledd llety addas a ddelir ganddo yn ei ardal.

(4)Pan fo awdurdod tai lleol yn gwneud cais o dan is-adran (1), rhaid i landlord cymdeithasol, o fewn cyfnod rhesymol, gydymffurfio â’r cais oni bai bod gan y landlord resymau da dros beidio â gwneud hynny.

(5)Rhaid i landlord cymdeithasol sy’n darparu llety yn ardal awdurdod tai lleol gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth mewn perthynas â’r llety hwnnw a wneir iddo gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan yr adran hon.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch yr hyn sydd—

(a)yn rheswm da at ddibenion is-adran (4);

(b)yn gyfnod rhesymol at ddibenion is-adran (4);

(c)yn gais rhesymol at ddibenion is-adran (5).

(7)Cyn rhoi unrhyw ganllawiau or fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli awdurdodau lleol yng Nghymru,

(b)y cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli landlordiaid cymdeithasol, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill,

ag y maent yn meddwl eu bod yn briodol.

(8)Rhaid i landlord cymdeithasol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan yr adran hon.

96BCyfarwyddydau i’w gwneud yn ofynnol cydymffurfio â cheisiadau o dan adran 96A

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys—

(a)os nad yw landlord cymdeithasol, o fewn cyfnod rhesymol, yn cydymffurfio â chais a wnaed gan awdurdod tai lleol o dan adran 96A(1), a

(b)os yw’r awdurdod tai lleol, gan roi sylw i unrhyw esboniad a roddwyd i’r awdurdod gan y landlord cymdeithasol, yn ystyried nad oes gan y landlord cymdeithasol reswm da dros beidio â chydymffurfio â’r cais.

(2)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys os nad yw’r landlord cymdeithasol yn ymateb, o fewn cyfnod rhesymol, i gais a wnaed gan awdurdod tai lleol o dan adran 96A(1).

(3)Caiff yr awdurdod tai lleol atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru.

(4)Ar ôl cael atgyfeiriad o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r landlord cymdeithasol am y canlynol—

(a)yr atgyfeiriad, a

(b)y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru am yr atgyfeiriad.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried yr atgyfeiriad ac unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y landlord cymdeithasol, yn ystyried nad oes gan y landlord cymdeithasol reswm da dros beidio â chydymffurfio â’r cais a wnaed gan yr awdurdod tai lleol neu nad ymatebodd i gais o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r landlord cymdeithasol i gydymffurfio â’r cais o fewn y cyfryw gyfnod ag a bennir yn y cyfarwyddyd.

(6)Rhaid i landlord cymdeithasol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan is-adran (5).

(7)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (5)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd pellach;

(c)gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan neu ar ran Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod tai lleol a wnaeth yr atgyfeiriad y gwneir y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Gweld lletyLL+C

33Gweld lletyLL+C

Ar ôl adran 96B o Ddeddf 2014 (cyfarwyddydau i’w gwneud yn ofynnol cydymffurfio â cheisiadau o dan adran 96A) (a fewnosodir gan adran 32) mewnosoder—

96CGweld llety

Os yw awdurdod tai lleol yn sicrhau cynnig o lety ar gyfer ceisydd gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 66 neu 75 i ben, rhaid iddo gymryd camau rhesymol i ddarparu i’r ceisydd gyfle i weld y llety (pa un ai’n bersonol neu fel arall) cyn i’r ceisydd benderfynu derbyn y cynnig neu ei wrthod.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Rhagolygol

RHAN 2LL+CDYRANNU TAI CYMDEITHASOL

Anghymwystra ar gyfer dyrannu tai cymdeithasolLL+C

34Anghymwystra ar gyfer dyraniad tai o ganlyniad i ymddygiad annerbyniolLL+C

Yn adran 160A(7)(b) o Ddeddf 1996 (dyrannu i bersonau cymwys yn unig: Cymru), ar ôl “considered” mewnosoder “, taking into account, in particular, the likelihood of that behaviour reoccurring,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Ffafriaeth i bersonau mewn cynlluniau dyrannuLL+C

35Dim ffafriaeth i bersonau sy’n ceisio manipiwleiddio’r system daiLL+C

(1)Mae Deddf 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 167 (dyrannu yn unol â chynllun dyrannu: Cymru)—

(a)ar ôl is-adran (2D) mewnosoder—

(2DA)Nothing in paragraph (a) or (b) of subsection (2) requires the scheme to provide for any preference to be given to people the authority have decided are people to whom subsection (2DB) applies.

(2DB)This subsection applies to a person if the authority are satisfied that the person is trying to manipulate the housing system (see section 167A).;

(b)yn is-adran (4A)(b), ar ôl “(2C)” mewnosoder “or (2DB)”.

(3)Ar ôl adran 167 mewnosoder—

167AMeaning of trying to manipulate the housing system

(1)A person is trying to manipulate the housing system for the purposes of section 167(2DB) if subsection (2) or (4) applies.

(2)This subsection applies if—

(a)the person falls within paragraph (a) or (b) of section 167(2) because the person deliberately did or failed to do something in consequence of which the person ceases to occupy accommodation that was available for the person’s occupation and which it would have been reasonable for the person to continue to occupy, and

(b)the person either—

(i)intended, by doing or failing to do that thing, to enable the person to become entitled to help under Chapter 2 of Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014 (“the 2014 Act”) or to improve the person’s chances of being allocated accommodation under this Part, or

(ii)before doing or failing to do that thing, received information, advice or other support provided or otherwise secured by a public authority exercising functions in relation to the person that was adequate for the purpose of enabling the person to continue occupying the accommodation.

(3)For the purposes of subsection (2), an act or omission in good faith on the part of a person who was unaware of any relevant fact may not be treated as deliberate.

(4)This subsection applies if—

(a)the person falls within paragraph (a) or (b) of section 167(2) because the person entered into an arrangement under which the person was required to cease to occupy accommodation which it would have been reasonable for the person to continue to occupy,

(b)the purpose of the arrangement was to enable the person to become entitled to help under Chapter 2 of Part 2 of the 2014 Act or to improve the person’s chance of being allocated accommodation under this Part, and

(c)there is no other good reason why the person became homeless for the purposes of the 2014 Act.

(5)For the purposes of this section—

(a)accommodation is available for occupation if it would be for the purposes of Chapter 2 of Part 2 of the 2014 Act (see section 56 of the 2014 Act);

(b)it is reasonable to continue to occupy accommodation if it would be for the purposes of Chapter 2 of Part 2 of the 2014 Act (see section 57 of the 2014 Act).

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

36Ffafriaeth i bobl ifanc sy’n gadael gofalLL+C

Yn adran 167(2) o Ddeddf 1996 (dyrannu yn unol â chynllun dyrannu: Cymru), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)people for whom responsible local authorities have duties under section 108A of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (anaw 4) to take reasonable steps to secure that suitable accommodation is available for their occupation.

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

CofrestrauLL+C

37Cofrestrau taiLL+C

Ar ôl adran 160A o Ddeddf 1996 (dyrannu i bersonau cymwys yn unig: Cymru) mewnosoder—

160BOffers of housing accommodation held by registered social landlords and private registered providers of social housing: Wales

(1)The duty in subsection (2) applies only in relation to housing accommodation offered by a registered social landlord or a private registered provider of social housing under any arrangements to require that housing accommodation, or a specified amount of housing accommodation, is made available to a person or one of a number of persons nominated by a local housing authority in Wales.

(2)A registered social landlord or a private registered provider of social housing may only offer housing accommodation that it holds in a local housing authority’s area in Wales to persons included on the common housing register for that area.

(3)The Welsh Ministers may by regulations provide for circumstances in which the duty in subsection (2) does not apply.

(4)In subsection (1), “arrangements” means arrangements made in connection with the allocation of housing accommodation under this Part (whether legally enforceable or not).

Housing registersLL+C
160CCommon housing registers: Wales

(1)A local housing authority in Wales must establish and maintain a register of persons to whom housing accommodation in their area may be allocated in accordance with this Part (a “common housing register”).

(2)A local housing authority must include a person on the common housing register if—

(a)the person applies to the authority for housing accommodation, and

(b)the authority decides that the person—

(i)is not ineligible for an allocation of housing accommodation by virtue of section 160A(3) and (5), and

(ii)is not ineligible by virtue of a decision under section 160A(7).

(3)A local housing authority may include a person on the common housing register without an application if the authority decides that sub-paragraphs (i) and (ii) of paragraph (b) of subsection (2) apply to the person.

160DRegulations about common housing registers

(1)The Welsh Ministers‍ must, by regulations, make provision for and in connection with common housing registers.

(2)The regulations must provide for—

(a)a person with an entry in the register to have access to information relating to the entry and the allocation of housing under this Part;

(b)general information relating to registers and their operation in the allocation of housing in each local housing authority area to be published.

(‍3)The regulations may, in particular, make provision—

(a)about amending and removing entries in the register in respect of a person;

(b)about giving notice (for example, giving notice if a person is included in the register or if an entry in the register in respect of a person is amended or removed);

(c)about the information that may or must be included on the register;

(d)requiring or authorising the disclosure of information contained on the register to a person or description of person specified in the regulations;

(e)about the creation, collection, collation and publication of information relating to the register or its operation in the allocation of housing;

(‍f)conferring functions on local housing authorities in Wales or the Welsh Ministers.

160EAccessible housing register

(1)A local housing authority in Wales must establish and maintain a register of housing accommodation in their area that—

(a)is available, or may in future become available, for allocation under this Part, and

(b)has features that may assist a disabled person.

(2)The Welsh Ministers‍ must, by regulations, make provision for and in connection with a register required to be established and maintained under this section.

(3)The regulations must provide for general information relating to registers and their operation in the allocation of housing in each local housing authority area to be published.

(‍4)The regulations may, in particular, make provision—

(a)about amending and removing an entry in the register in respect of housing accommodation;

(b)about giving notice (for example, giving notice to persons specified in the regulations if accommodation is included on the register or if an entry in respect of the accommodation is amended or removed);

(c)about the information that may or must be included on the register;

(d)requiring or authorising the disclosure of information contained on the register to a person or description of person specified in the regulations;

(e)about the creation, collection, collation and publication of information relating to the register or its operation in the allocation of housing;

(‍f)conferring functions on local housing authorities in Wales or the Welsh Ministers.

(5)A registered social landlord and a private registered provider of social housing which holds housing accommodation in the authority’s area must comply with any reasonable request made to it by a local housing authority in connection with the exercise of the authority’s functions under this section.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

RHAN 3LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

AmrywiolLL+C

38Canllawiau i awdurdodau tai lleol ar warantau rhentLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau tai lleol ynghylch gwneud trefniadau y mae awdurdod tai lleol, o dan y trefniadau hynny, yn gwarantu y telir rhent gan feddiannydd llety tai yn unol â chytundeb o unrhyw fath.

(2)Cyn rhoi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdodau tai lleol ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddisodli canllawiau o dan yr adran hon drwy roi canllawiau pellach.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau o dan yr adran hon.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod tai lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 38 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)

39Adolygu gweithrediad ac effaith newidiadau a wneir gan y Ddeddf honLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y newidiadau a wneir gan y Ddeddf hon i Ddeddf 2014, Deddf 1996 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4‍).

(2)Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdodau cyhoeddus neu leol, y sefydliadau gwirfoddol, y personau sydd, neu sydd wedi bod, yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd yng Nghymru, neu unrhyw bersonau eraill, y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad o’u hadolygiad o weithrediad ac effaith adran 94A o Ddeddf 2014 a gosod copi ohono gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 20 i rym yn llawn.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru‍ gyhoeddi’r adroddiad o’u hadolygiad o weithrediad ac effaith y newidiadau eraill a wneir gan y Ddeddf hon a gosod copi ohono gerbron Senedd Cymru cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru‍ adolygu gweithrediad ac effaith newid a wneir gan y Ddeddf hon ar adeg pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ddarpariaeth sy’n gwneud y newid mewn grym i raddau sylweddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 39 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)

CyffredinolLL+C

40DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996 (p. 52);

  • ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 40 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)

Rhagolygol

41Mân ddarpariaethau a darpariaethau canlyniadolLL+C

Mae’r Atodlen i’r Ddeddf hon yn gwneud mân ddarpariaethau a darpariaethau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

42Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth o’r fath;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)diwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon);

(b)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.

(3)Rhaid i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.

(4)Os yw rheoliadau o dan is-adran (1) yn diwygio, yn diddymu neu fel arall yn addasu darpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu Ddeddf neu Fesur gan Senedd Cymru, maent yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.

(5)Mae rheoliadau o dan is-adran (1) nad yw is-adran (4) yn gymwys iddynt yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 42 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)

43Dod i rymLL+C

(1)Daw darpariaethau’r Rhan hon (ac eithrio adran 41) i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.

(4)Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (2) bennu diwrnod ar gyfer dod ag adran 35 i rym sy’n gynharach na’r diwrnod a bennir ar gyfer dod ag adran 10 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 43 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)

44Adroddiadau cynnydd ar ddwyn y Ddeddf i rymLL+C

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os nad yw’r Ddeddf hon mewn grym yn llawn ar unrhyw un neu ragor o’r diwrnodau a ganlyn—

(a)31 Rhagfyr 2028;

(b)31 Rhagfyr 2029;

(c)31 Rhagfyr bob yn ail flwyddyn ar ôl 2029.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad—

(a)yn pennu unrhyw gynnydd o ran dwyn y Ddeddf i rym, a

(b)yn pennu unrhyw gamau pellach i’w cymryd gan Weinidogion Cymru (neu unrhyw berson arall) i ddwyn y Ddeddf i rym yn llawn.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad sy’n ofynnol gan is-adran (2) a gosod copi ohono gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y diwrnod a grybwyllir yn is-adran (1) y mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 44 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)

45Enw byrLL+C

Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—

(a)Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026, neu

(b)the Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Act 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 45 mewn grym ar 2.4.2026, gweler a. 43(1)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 41)

ATODLENLL+CMÂN DDARPARIAETHAU A DARPARIAETHAU CANLYNIADOL

Deddf Tai 1996 (p. 52)LL+C

1(1)Mae Deddf Tai 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 160(4) (achosion nad yw darpariaethau ynghylch dyrannu yn gymwys iddynt)—

(a)daw’r geiriau “in such other cases as the Secretary of State may prescribe by regulations.” yn baragraff (a);

(b)ar ddechrau paragraff (a) mewnosoder “in relation to England,”;

(c)ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

(b)in relation to Wales, in such other cases as the Welsh Ministers may prescribe by regulations.

(3)Yn adran 160A (dyrannu i bersonau cymwys: Cymru)—

(a)yn is-adran (3), yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”;

(b)yn is-adran (5), yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”.

(4)Yn adran 167 (dyrannu yn unol â chynllun dyrannu: Cymru)—

(a)yn is-adran (2), ym mharagraff (b) hepgorer “, 73”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”;

(c)yn is-adran (4), yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”;

(d)yn is-adran (5), yn lle “Secretary of State” rhodder “Welsh Ministers”.

(5)Yn adran 169 (canllawiau)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “local housing authorities” mewnosoder “in England”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)In the exercise of their functions under this Part, local housing authorities in Wales shall have regard to such guidance as may from time to time be given by the Welsh Ministers.;

(c)yn is-adran (2), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “and the Welsh Ministers”;

(d)yn y pennawd, ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “and the Welsh Ministers”.

(6)Yn adran 172 (rheoliadau)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “Regulations” mewnosoder “made by the Secretary of State”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Regulations made by the Welsh Ministers under this Part shall be made by Welsh statutory instrument.;

(c)yn is-adran (2)—

(i)hepgorer “or 167(3)”;

(ii)ar ôl “allocating housing accommodation” mewnosoder “in England”;

(d)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Regulations made under section 160B(3) (circumstances in which the duty in section 160B(2) does not apply), section 160D(1) (common housing register), section 160E(2) (accessible housing register) or section 167(3) (regulations amending provisions about priorities in allocating housing accommodation in Wales) are subject to the Senedd approval procedure.;

(e)yn is-adran (3), ar ôl “regulations” mewnosoder “made by the Secretary of State”;

(f)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Any other regulations made by the Welsh Ministers under this Part are subject to the Senedd annulment procedure.;

(g)yn is-adran (4), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers (as the case may be)”.

(7)Yn adran 174 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn y lle priodol, mewnosoder—

common housing registersection 160B

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)LL+C

2(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 2, yn y tabl, yn lle’r cofnod ar gyfer Deddf Tai (Cymru) 2014 rhodder—

Deddf Tai (Cymru) 2014
Adran 94A, i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau person penodedig yn rhinwedd adran 94B(1)(a);Dyletswydd i ofyn a yw person yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd a dyletswydd i weithredu pan fo person yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd;
Adran 95, i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill.Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref â phersonau sydd o dan fygythiad o ddigartrefedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Deddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7)LL+C

3(1)Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 53 (trosolwg)—

(a)ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A)Mae adran 63A yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tai lleol baratoi a chynnal cynllun atal, cefnogaeth a llety ar gyfer ceiswyr y mae dyletswyddau iddynt o dan y Bennod hon, ac mae adran 63B yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu cynlluniau o’r fath.;

(b)yn is-adran (7) hepgorer “; ac mae adran 65 yn egluro beth y mae “cynorthwyo i sicrhau” yn ei olygu”;

(c)yn is-adran (8)—

(i)ym mharagraff (b), yn lle “ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol” hyd at y diwedd rhodder “(adran 68)”;

(ii)hepgorer paragraff (c);

(iii)ym mharagraff (d), hepgorer “ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fydd y ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben”;

(d)hepgorer is-adran (9).

(3)Yn adran 56 (ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannu)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “ynghyd ag” hyd at y diwedd rhodder “ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o aelwyd y person”;

(b)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Mae cyfeiriad yn y Bennod hon at aelod o aelwyd person yn gyfeiriad at y canlynol—

(a)person sy’n preswylio fel arfer gyda’r person hwnnw fel aelod o deulu’r person hwnnw, neu

(b)unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.;

(c)yn y pennawd, ar ôl “feddiannu” mewnosoder “ac aelod o aelwyd”.

(4)Yn adran 57 (a yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety), hepgorer is-adran (2).

(5)Yn adran 62(5) (dyletswydd i asesu)—

(a)ym mharagraff (b), yn lle “berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef” rhodder “aelod o aelwyd y ceisydd”;

(b)ym mharagraff (c), yn lle “berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef” rhodder “aelod o aelwyd y ceisydd”.

(6)Yn adran 63 (hysbysu am ganlyniad asesiad)—

(a)hepgorer is-adran (3);

(b)yn is-adran (4), yn lle “, (1) neu (3)” rhodder “neu (1)”.

(7)Yn adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben)—

(a)yn is-adran (4)(a)(ii), yn lle “tenantiaeth fyrddaliol sicr” rhodder “tenantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr)”;

(b)hepgorer is-adran (6).

(8)Yn adran 79(1) (amgylchiadau pellach pan fo’r dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr yn dod i ben), hepgorer “, 73”.

(9)Yn adran 80(3) (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall)—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd” rhodder “aelod o aelwyd y ceisydd”;

(b)ym mharagraff (b), yn lle “berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd” rhodder “aelod o aelwyd y ceisydd”.

(10)Yn adran 81 (cysylltiad lleol)—

(a)yn is-adran (2), ar ôl “Lloegr” mewnosoder “neu mewn unrhyw ardal arall”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw” rhodder “aelod o aelwyd y person hwnnw”.

(11)Yn adran 84 (hysbysiad bod dyletswyddau wedi dod i ben)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer “, 73”;

(b)hepgorer is-adran (2).

(12)Yn adran 86(6) (gweithdrefn ar gyfer adolygiad), yn y testun Saesneg, ar ôl “not” mewnosoder “to”.

(13)Hepgorer adran 87 (effaith penderfyniad mewn adolygiad neu apêl na chafodd camau rhesymol eu cymryd).

(14)Yn adran 91(3)(b) (lleoli y tu allan i’r ardal), yn lle “y personau eraill” hyd at y diwedd rhodder “yr aelodau eraill o aelwyd y ceisydd, a disgrifiad o’r aelodau hynny,”.

(15)Yn adran 93 (gwarchod eiddo)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)yn y cofnod ar gyfer adran 66, hepgorer “yn achos ceisydd mewn angen blaenoriaethol)”;

(ii)yn y cofnod ar gyfer adran 68, hepgorer “ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol”;

(iii)yn y cofnod ar gyfer adran 75, hepgorer “ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben”;

(iv)yn y cofnod ar gyfer adran 82, hepgorer “yn achos ceisydd mewn angen blaenoriaethol”;

(b)yn is-adran (6), yn lle “berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd” rhodder “aelod o aelwyd y ceisydd”.

(16)Yn adran 94(10), yn lle “berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd” rhodder “aelod o aelwyd y ceisydd”.

(17)Yn adran 96 (cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “y gallai ceisydd y mae person o dan 18 oed yn preswylio gydag ef fel arfer, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef” rhodder “bod aelod o aelwyd ceisydd o dan 18 oed ac y gallai’r ceisydd”;

(b)yn is-adran (1)(b), hepgorer “, 73”;

(c)yn is-adran (4), hepgorer “wedi dod yn ddigartref yn fwriadol neu wedi dod o dan fygythiad o ddigartrefedd yn fwriadol,”.

(18)Yn adran 98(3)(a) (canllawiau), ar ôl “canllawiau” mewnosoder “o dan y Rhan hon”.

(19)Yn adran 99 (dehongli Pennod 2 o Ran 2 a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio)—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

  • mae “aelod o aelwyd y ceisydd” (“member of the applicant’s household”) (ac unrhyw gyfeiriad tebyg at aelod o aelwyd person) i’w ddehongli yn unol ag adran 56;;

  • mae i “awdurdod a gedwir yn ôl” yr ystyr a roddir i “reserved authority” gan baragraff 8(3) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);‍;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);;

  • mae i “canolfan hyfforddi ddiogel ar gontract” yr ystyr a roddir i “contracted out secure training centre” gan adran 15 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33);;

  • mae i “carchar ar gontract” yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53);;;

  • ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person—

    (a)

    sy’n bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr “custodial sentence” yn adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p. 6) neu adran 222 o’r Cod Dedfrydu,

    (b)

    sydd ar remánd yn y ddalfa neu wedi ei draddodi i’r ddalfa gan orchymyn llys, neu

    (c)

    sydd ar remánd mewn llety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (p. 10);;

  • ystyr “cartref diogel i blant” (”secure children’s home”) yw—

    (b)

    llety yng Nghymru y mae person yn gofrestredig mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) i ddarparu gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf honno;

    (a)

    llety a ddarperir mewn cartref plant yn Lloegr, o fewn ystyr Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14)

    (i)

    sy’n darparu llety at ddibenion cyfyngu ar ryddid, a

    (ii)

    y mae person yn gofrestredig mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno;;

  • mae i “corfforaeth tref newydd” yr ystyr a roddir i “new town corporation” gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);;

  • ystyr “cynllun atal, cefnogaeth a llety” (“prevention, support and accommodation plan”) yw cynllun sy’n ofynnol gan adran 63A;;

  • mae i “darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig” yr ystyr a roddir i “private registered provider of social housing” gan Ran 2 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17);;

  • ystyr “gwasanaethau gofal sylfaenol” (“primary care services”) yw gwasanaethau a ddarperir o dan neu yn rhinwedd Rhannau 4 i 7 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);;

  • mae i “Gweinidog priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate Minister” gan baragraff 8(5) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);;

  • mae i “landlord cymdeithasol cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered social landlord” gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);;

  • mae i “mangre a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved premises” gan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21);;

  • ystyr “person penodedig” (“specified person”) yw’r personau a nodir yn adran 94B(1);;

  • ystyr “ymddiriedolaeth gweithredu tai” (“housing action trust) yw ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50);;

(b)hepgorer y diffiniadau o “angen blaenoriaethol am lety”, “camdriniaeth ddomestig”, “cynorthwyo i sicrhau”, “cysylltiedig”, “digartref yn fwriadol”, ac “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu”;

(c)yn y diffiniad o “cymorth o dan y Bennod hon”, hepgorer “, 73,”;

(d)yn y diffiniad o “llety cadw ieuenctid”, yn y testun Cymraeg, yn lle “cartref plant diogel” rhodder “cartref diogel i blant”.

(20)Yn Atodlen 2 (cymhwystra i dderbyn cymorth o dan Bennod 2 o Ran 2)—

(a)ym mharagraff 1(1) hepgorer “, 73”;

(b)ym mharagraff 1(5)—

(i)ym mharagraff (a), ar ôl “ddigartrefedd” hepgorer “, neu”;

(ii)hepgorer paragraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)LL+C

4(1)Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 2, ym mharagraff 12(5), ym mharagraff (a) o’r diffiniad o “swyddogaethau darparu tai i’r digartref”, hepgorer “73,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 43(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources