- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025, ATODLEN 2.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(a gyflwynir gan adran 2)
1Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
2Yn adran 3 (deddfwriaeth y mae Rhan 2 yn gymwys iddi), yn lle is-adran (3) rhodder—
“(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Ddeddf gan Senedd Cymru (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf gan Senedd Cymru y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi yn rhinwedd is-adran (1).
(3A)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at yr is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn rhinwedd is-adran (1).”
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
3Ar ôl adran 12 mewnosoder—
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol gosod unrhyw ddogfen (gan gynnwys offeryn statudol Cymreig) gerbron Senedd Cymru.
(2)Mae’r cyfeiriad at osod y ddogfen yn gyfeiriad at gymryd y camau a bennir mewn perthynas â gosod dogfen gerbron Senedd Cymru yn rheolau sefydlog y Senedd.”
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
4Yn adran 16—
(a)yn is-adran (1), yn lle paragraff (a) a’r “neu” ar ei ôl rhodder—
“(a)gan ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru na ddaw i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol neu drannoeth y diwrnod hwnnw, neu”;
(b)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
“(3A)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth oni bai bod yr is-ddeddfwriaeth i ddod i rym cyn y ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd.”;
(c)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(6)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriadau at ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad arall.
(7)Pan fo darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn rhoi pŵer neu’n gosod dyletswydd drwy ddiwygio deddfiad arall, mae’r cyfeiriadau at Ddeddf neu offeryn yn is-adrannau (3)(a) a (b), (4) a (5) yn cynnwys y deddfiad arall fel y’i diwygiwyd.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
5Yn adran 21(2) (cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau)—
(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;”;
(b)ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
6LL+CYn adran 25(4) (mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwyd)—
(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;”;
(b)ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
7LL+CYn adran 37 (ystyr diddymu a dirymu yn Rhan 2)—
(a)ym mhennawd yr adran, yn lle “Ystyr” rhodder “Dehongli darpariaethau ynghylch diwygio,”;
(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)Yn adrannau 32 i 35, ac yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys at ddibenion yr adrannau hynny, mae “deddfiad yn cynnwys deddfiad sy’n Fesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr neu’n offeryn a wneir o dan Fesur o’r fath, neu sydd wedi ei gynnwys mewn Mesur neu offeryn o’r fath.”
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
8Yn adran 35, ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(5)Nid yw is-adran (3) yn peri i adran 28 gael effaith mewn perthynas ag unrhyw is-ddeddfwriaeth pan nad oedd yn cael effaith yn flaenorol.”
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
9Yn adran 36—
(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);
(b)ar ôl yr is-adran (1) newydd mewnosoder—
“(2)Caniateir parhau i gyfeirio at is-offeryn Cymreig yn ôl ei enw er i’r offeryn gael ei ddirymu.”
(c)daw’r pennawd yn “Cyfeirio at Ddeddf gan Senedd Cymru ar ôl iddi gael ei diddymu neu is-offeryn Cymreig ar ôl iddo gael ei ddirymu”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 10.9.2025, gweler a. 9(2)(e)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: