- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, ATODLEN 1.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(Cyflwynir gan adran 5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 mewn grym ar 7.9.2025, gweler a. 56(2)
Mae’r Tabl yn atgynhyrchu (mewn perthynas â’r Gymraeg) y crynodeb o’r lefelau cyfeirio cyffredin a gynhwysir yn Atodiad 1 i’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd: Dysgu, Addysgu, Asesu - Cyfrol Cydymaith (2020), sy’n diweddaru Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd 2001 a ddatblygwyd gan Gyngor Ewrop (ac y cyfeirir ato ym Mhenderfyniad 14757/01 y Cyngor Ewropeaidd ar hybu amrywiaeth ieithyddol a dysgu ieithoedd yn y fframwaith ar weithredu amcanion Blwyddyn Ieithoedd Ewrop 2001).
| Mathau o ddefnyddiwr Cymraeg | Lefelau cyfeirio cyffredin | Nodweddion cyffredinol |
|---|---|---|
| Defnyddiwr Cymraeg hyfedr | C2 | Gallu deall bron pob math o destunau. Gallu crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, gan ail-lunio dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad cydlynol. Gallu ei fynegi ei hun yn ddigymell, yn fanwl-gywir ac yn rhugl iawn, gan wahaniaethu rhwng arlliwiau mwy cynnil o ystyr hyd yn oed mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth. |
| C1 | Gallu deall ystod eang o destunau anodd, hirach, ac adnabod ystyr ymhlyg. Gallu ei fynegi ei hun yn rhugl ac yn ddigymell heb lawer o ymbalfalu amlwg am ddywediadau. Gallu defnyddio iaith yn hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol. Gallu cynhyrchu testun clir, strwythuredig, manwl ar bynciau cymhleth, gan ddangos defnydd rheoledig o batrymau trefniadol, cysylltwyr a dyfeisiau cydlynu. | |
| Defnyddiwr Cymraeg annibynnol | B2 | Gallu deall prif syniadau testun cymhleth ar bynciau diriaethol a haniaethol, gan gynnwys trafodaethau technegol yn ei faes arbenigedd. Gallu rhyngweithio yn eithaf rhugl a digymell sy’n golygu ei bod yn ddigon posibl rhyngweithio’n rheolaidd â defnyddwyr yr iaith darged heb roi straen ar y naill barti na’r llall. Gallu cynhyrchu testun clir, manwl ar ystod eang o bynciau ac egluro safbwynt ar bynciau cyfoes gan nodi manteision ac anfanteision opsiynau amrywiol. |
| B1 | Gallu deall prif bwyntiau mewnbwn safonol clir ar faterion cyfarwydd y mae’n dod ar eu traws yn rheolaidd yn y gwaith, yn yr ysgol, mewn gweithgareddau hamdden ac ati. Gallu delio â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd sy’n debygol o godi wrth deithio mewn ardal lle mae’r iaith yn cael ei siarad. Gallu cynhyrchu testun syml, cysylltiedig ar bynciau sy’n gyfarwydd neu sydd o ddiddordeb personol. Gallu disgrifio profiadau a digwyddiadau, breuddwydion, gobeithion ac uchelgeisiau, a rhoi rhesymau ac esboniadau yn gryno am safbwyntiau a chynlluniau. | |
| Defnyddiwr Cymraeg sylfaenol | A2 | Gallu deall brawddegau a dywediadau sy’n cael eu defnyddio’n aml ac sy’n gysylltiedig â’r meysydd mwyaf uniongyrchol berthnasol (er enghraifft, gwybodaeth bersonol neu deuluol sylfaenol iawn, siopa, daearyddiaeth leol, gwaith). Gallu cyfathrebu yn ystod tasgau syml ac arferol sy’n galw am gyfnewid gwybodaeth yn syml ac yn uniongyrchol am faterion cyfarwydd ac arferol. Gallu disgrifio’n syml agweddau ar ei gefndir, yr amgylchedd o’i gwmpas a materion mewn meysydd lle mae angen uniongyrchol. |
| A1 | Gallu deall a defnyddio dywediadau pob dydd cyfarwydd ac ymadroddion sylfaenol iawn gyda’r nod o ddiwallu anghenion o fath diriaethol. Gallu ei gyflwyno ei hun ac eraill ac yn gallu gofyn ac ateb cwestiynau am fanylion personol fel ble mae rhywun yn byw, pobl y mae’n eu hadnabod a phethau sydd ganddo. Gallu rhyngweithio mewn ffordd syml cyhyd â bod y person arall yn siarad yn araf ac yn glir ac yn barod i helpu. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: