- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(a gyflwynir gan adrannau 2, 22, 39 a 59)
1(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(2)Yn adran 1 (trosolwg), ar ôl is-adran (2), mewnosoder—
“(2A)Mae Rhan 2A yn rhoi swyddogaethau gweinyddu etholiadol i’r Comisiwn ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddogaethau gael eu harfer gan fwrdd a sefydlir gan y Comisiwn o’r enw y Bwrdd Rheoli Etholiadol.”
(3)Yn adran 14 (cyfarwyddiadau)—
(a)yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1A)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan unrhyw ddeddfiad, ac eithrio mewn perthynas ag arfer swyddogaethau o dan—
(a)Rhan 2A (cydlynu gwaith gweinyddu etholiadol);
(b)Rhan 3A (swyddogaethau sy’n ymwneud ag adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd).
(1B)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon.
(1C)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob cyfarwyddyd y maent yn ei roi i’r Comisiwn neu i brif gyngor o dan y Ddeddf hon.”;
(b)hepgorer is-adran (3).
(4)Yn adran 71 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (2)—
(a)ym mharagraff (b), ar ôl “chadw,” hepgorer “neu”;
(b)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)rheoliadau o dan adran 20E(3)(c),”.
(5)Yn adran 72 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “deddfiad” rhodder—
“ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol—
Deddf neu Fesur gan Senedd Cymru;
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
unrhyw is-ddeddfwriaeth.”
(6)Yn Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn Nhabl 2, yn y lleoedd priodol, mewnosoder y cofnodion a ganlyn—
“Deddf 1983 (1983 Act) | adran 20I” |
“Etholiad a gedwir yn ôl (Reserved election) | adran 20I” |
“Etholiadau a refferenda Cymreig (Welsh elections and referendums) | adran 20A(4)” |
“Etholiadau llywodraeth leol (Local government elections) | adran 20I” |
“Refferenda datganoledig (Devolved referendums) | adran 20I” |
“Swyddog canlyniadau (Returning officer) | adran 20I” |
“Swyddog cofrestru etholiadol (Electoral registration officer) | adran 20I” |
2Ym mharagraff 2 o Atodlen 3 i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (Rhan newydd 3A o Ddeddf 2013), hepgorer is-baragraff (4).
3(1)Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 10(11) (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr)—
(a)ym mharagraff (a) yn lle “as respects” rhodder “the following authorities in”;
(b)hepgorer paragraff (b).
(3)Yn adran 11 (diwygio gweithdrefnau yng ngoleuni cynlluniau peilot)—
(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (a), hepgorer “and Wales”;
(b)yn is-adran (2), ym mharagraff (b), hepgorer “and Wales”;
(c)hepgorer is-adran (6A).
4(1)Mae Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 32(9) (ffotograffau ar bapurau pleidleisio: peilota), hepgorer paragraff (b).
(3)Yn adran 34(1)(b) (diwygio darpariaethau etholiadol yng ngoleuni cynlluniau peilot), hepgorer “and Wales”.
5(1)Mae Deddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 7 (pŵer i ddiwygio neu ddiddymu’r canfasiad blynyddol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)But the power in subsection (2) does not include the power to modify any provision or abolish the duty in section 9D so far as the provision or duty applies in relation to a register of local government electors maintained by a registration officer in Wales.”
(3)Yn adran 10 (peilota darpariaethau cofrestru), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
“(1A)But an order under subsection (1) may not make provision for the purpose of testing how the changes made by any registration provision work in relation to a register of local government electors maintained by a registration officer in Wales.”
(4)Yn adran 12 (dehongli Rhan 1), yn y diffiniad o “register”, ar ôl “Great Britain” mewnosoder “other than a register of local government electors maintained by a registration officer in Wales”.
6(1)Mae Deddf 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 5 (adroddiadau ar etholiadau, refferenda etc.)—
(a)yn is-adran (2)(d), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”;
(b)yn is-adran (2A)(c) yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”.
(3)Yn adran 7(2)(f) (gofyniad i ymgynghori â’r Comisiwn ar newidiadau i’r gyfraith etholiadol), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”.
(4)Yn adran 8(3)(b) (pwerau mewn cysylltiad ag etholiadau yn arferadwy ar argymhelliad y Comisiwn yn unig), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”.
(5)Yn adran 10(6) (rhoi cyngor a chymorth)—
(a)ym mharagraff (c), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”;
(b)ym mharagraff (ca), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Senedd”.
(6)Yn adran 22(5)(d) (pleidiau i gael eu cofrestru er mwyn rhoi ymgeiswyr i sefyll mewn etholiadau), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”.
(7)Yn adran 67(2)(b)(iii) (adroddiadau wythnosol ar roddion mewn cysylltiad ag etholiadau ac eithrio etholiadau cyffredinol), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”.
(8)Yn adran 160(4)(c) (dehongli cyffredinol) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Senedd”.
(9)Yn Atodlen 7 (rheoli rhoddion i unigolion a chymdeithasau aelodau), ym mharagraff 1(8)(d) yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Senedd”.
(10)Yn Atodlen 9 (cyfyngiadau ar wariant ar ymgyrchu)—
(a)ym mharagraff 1(1), ym mharagraffau (c) ac (ca), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”;
(b)yn y pennawd italig o flaen paragraff 6, yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”;
(c)ym mharagraff 6(1), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”;
(d)ym mharagraff 6(5), yn lle “Secretary of State” rhodder “Presiding Officer”.
(11)Yn Atodlen 10 (cyfyngiadau ar wariant a reolir)—
(a)ym mharagraff 1(1), ym mharagraffau (c) ac (ca), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”;
(b)yn y pennawd italig o flaen paragraff 6, yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”;
(c)ym mharagraff 6(1), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”;
(d)ym mharagraff 6(5), yn lle “Secretary of State” rhodder “Presiding Officer”.
7(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 112(2A) (penodi staff), hepgorer “and in relation to a local authority in Wales, section 143A of the Local Government (Wales) Measure 2011 (functions of the Independent Remuneration Panel in relation to remuneration of chief executives)”.
(3)Yn adran 246(16) (lwfansau i ymddiriedolwyr siarter), yn lle “Part 8 of the Local Government (Democracy) Wales Measure 2011” rhodder “Part 5A of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.
(4)Yn adran 249(4)(b) (lwfans nad yw’n daladwy i henaduriaid mygedol) yn lle “Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011” rhodder “Part 5A of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.
8Yn adran 18(3A)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (pŵer i wneud rheoliadau ar arian rhodd a thaliadau sy’n ymwneud â materion perthnasol), yn lle “Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011” rhodder “Part 5A of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.
9(1)Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 94(5C) (pŵer i gymhwyso taliadau a darpariaethau pensiynau i aelodau panel apêl derbyn), yn lle “Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011” rhodder “Part 5A of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.
(3)Yn adran 95(3B) (pŵer i gymhwyso darpariaethau taliadau a phensiynau i aelodau panel apêl), yn lle “Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011” rhodder “Part 5A of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.
10Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), hepgorer “The Independent Remuneration Panel for Wales.”.
11Yn adran 52(6) o Ddeddf Addysg 2002 (pŵer i gymhwyso darpariaethau taliadau a phensiynau i baneli sy’n ymdrin â gwahardd disgyblion), yn lle “Part 8 of the Local Government (Wales) Measure 2011” rhodder “Part 5A of the Democracy and Boundary Commission Cymru etc. Act 2013”.
12Yn Atodlen 1A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (anghymhwyso), yn y tabl, hepgorer “Independent Remuneration Panel for Wales or Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol” o’r golofn gyntaf a “The members of the Panel” o’r cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.
13(1)Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 1 (trosolwg)—
(a)yn is-adran (5), hepgorer paragraff (h);
(b)ar ôl is-adran (5), mewnosoder—
“(5A)Mae Rhan 5A yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Comisiwn wrth benderfynu ar y taliadau a’r pensiynau sy’n daladwy i aelodau a chyn-aelodau awdurdodau penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol).”
(3)Hepgorer adrannau 62 i 67 (Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol) a’r croesbennawd o flaen adran 62.
(4)Yn Rhan 6 (darpariaeth amrywiol a chyffredinol), o flaen adran 70 mewnosoder—
Rhaid i gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon gael ei roi yn ysgrifenedig.”
(5)Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(d)rheoliadau o dan adran 69C(2)(e), 69D(1)(b) neu 69K(2)(d),”.
(6)Yn Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn Nhabl 2, yn y lle priodol mewnosoder y cofnodion a ganlyn—
“Adroddiad atodol ar dâl (Supplementary remuneration report) | Adran 69F” |
“Adroddiad blynyddol ar dâl (Annual remuneration report) | Adran 69E” |
“Awdurdod perthnasol (Relevant authority) | Adran 69C” |
“Pensiwn perthnasol (Relevant pension) | Adran 69B” |
“Taliad ailsefydlu (Resettlement payment) | Adran 69D” |
14Yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015—
(a)yn adran 1(2) (trosolwg), hepgorer paragraffau (b) ac (c);
(b)hepgorer adrannau 40 (newidiadau i’r ddyletswydd i roi sylw i argymhellion y Panel ynghylch cyflogau) ac 41 (aelodaeth y Panel).
15(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 53 (trosolwg), hepgorer paragraff (b).
(3)Hepgorer adrannau 55 (disodli cyfeiriadau at “cyflog” yn adran 143A o Fesur 2011) a 56 (ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru).
(4)Yn adran 132(2)(h) (rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu bod rhan o brif ardal i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoes), yn lle “Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol” rhodder “Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.
(5)Yn adran 142 (cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol)—
(a)yn y pennawd, yn lle “Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol” rhodder “Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”;
(b)yn is-adran (1), yn lle “Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”)” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”;
(c)yn is-adran (2)—
(i)yn lle “Panel” rhodder “Comisiwn”;
(ii)yn lle “Rhan 8 o Fesur 2011” rhodder “Rhan 5A o Ddeddf 2013”;
(iii)ym mharagraff (a), yn lle “adran 142” rhodder “adran 69A”;
(iv)ym mharagraff (b) yn lle “adran 143” rhodder “adran 69B”;
(d)yn is-adran (3)—
(i)yn lle “Rhan 8” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Rhan 5A”;
(ii)yn lle “o Fesur 2011” rhodder “o Ddeddf 2013”;
(e)yn is-adran (4)—
(i)yn lle “Rhan 8 o Fesur 2011” rhodder “Rhan 5A o Ddeddf 2013” ac yn lle “Ran 8 o Fesur 2011” rhodder “Ran 5A o Ddeddf 2013”;
(ii)ym mharagraff (c), yn lle “adran 142” rhodder “adran 69A”;
(iii)hepgorer paragraffau (d) ac (e).
(6)Yn adran 143 (adroddiadau gan y Panel mewn perthynas â chynghorau cysgodol a phrif gynghorau newydd)—
(a)yn y pennawd, yn lle “Panel” rhodder “Comisiwn”;
(b)yn is-adran (1), yn lle “Rhan 8 o Fesur 2011” rhodder “Rhan 5A o Ddeddf 2013”;
(c)yn is-adran (2)—
(i)yn lle “Ran 8 o Fesur 2011” rhodder “Ran 5A o Ddeddf 2013”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “adrannau 147(2) a 148(1) ac (1A)(a) o Fesur 2011” rhodder “adrannau 69E(3) a 69I(1) a (2)(a) o Ddeddf 2013”;
(d)yn is-adran (3), yn lle “adran 148(1A)(b) o Fesur 2011” rhodder “adran 69I(2)(b) o Ddeddf 2013”;
(e)yn is-adran (4), yn lle “Panel” rhodder “Comisiwn”;
(f)yn is-adran (5)—
(i)yn lle “Panel” yn y ddau le y mae’n digwydd rhodder ”Comisiwn”;
(ii)yn lle “adran 147 o Fesur 2011” rhodder “adran 69E o Ddeddf 2013”;
(iii)yn lle “adran 147(8)(a) o Fesur 2011” rhodder “adran 69G(1)(a) o Ddeddf 2013”;
(g)yn is-adran (6)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “adran 150(1) neu (3) o Fesur 2011” rhodder “adran 69J(1) o Ddeddf 2013”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “adran 151(1) o’r Mesur hwnnw” rhodder “adran 69K(1) o Ddeddf 2013”;
(h)yn is-adran (7), yn lle “adran 150(2) o Fesur 2011” rhodder “adran 69J(2) o Ddeddf 2013”;
(i)yn is-adran (8), yn lle “adrannau 153, 154 a 157 o Fesur 2011” rhodder “adrannau 69L, 69N a 69P o Ddeddf 2013”;
(j)yn is-adran (9), yn lle “adran 146(3) o Fesur 2011” rhodder “adran 69E(4) o Ddeddf 2013”;
(k)yn is-adrannau (10) ac (11), yn lle “Panel” rhodder “Comisiwn”.
(7)Yn adran 144 (canllawiau i’r Panel), ac yn y pennawd, yn lle “Panel” rhodder “Comisiwn”.
(8)Yn adran 145 (datganiadau ar bolisïau tâl), hepgorer paragraff (6).
(9)Yn Atodlen 5 (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phrif weithredwyr), hepgorer paragraff 15.
(10)Yn Atodlen 12 (cyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio etc. gan gynghorau sy’n uno a chynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro), ym mharagraff 1, hepgorer is-baragraff (7).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: