Adran 49 - Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau gweithredu
122.Mae adran 49 yn diwygio adran 37 o Ddeddf 2013 drwy ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud pob ymdrech i wneud penderfyniad ar bob argymhelliad a gânt o dan adran 37(1) o Ddeddf 2013, mewn perthynas ag adolygiad, o fewn tri mis i gael yr argymhellion. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu penderfyniad mewn cysylltiad â phob argymhelliad. Mae’r dyddiad y cyhoeddir y datganiad i’w drin fel dyddiad y penderfyniad. Nid yw methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd hon yn annilysu unrhyw orchymyn neu unrhyw benderfyniad.
123.Diwygir adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 i osod dyletswydd debyg ar y Comisiwn mewn perthynas â’i benderfyniadau ar yr argymhellion y mae’n eu cael oddi wrth gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â newidiadau i ffiniau cymunedau, ac ar gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol mewn cysylltiad â threfniadau etholiadol cymunedau.