Rhan 2 – Y System Bleidleisio Mewn Etholiadau Cyffredinol Y Senedd a Dyrannu Seddi
16.Mae’r Rhan hon yn darparu ar gyfer newid system etholiadol y Senedd fel bod yr holl Aelodau yn cael eu hethol drwy system gyfrannol â rhestr gaeedig, gyda phleidleisiau’n cael eu trosi i seddi drwy ddefnyddio fformiwla D’Hondt. Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddi gwag yn seddi’r Senedd sy’n codi rhwng etholiadau cyffredinol.
Adran 8 – Etholiadau cyffredinol
17.Mae adran 8 yn disodli adrannau 6 i 9 o Ddeddf 2006 i roi effaith i’r system etholiadol newydd. Mae’r cyfeiriadau isod at yr adrannau o Ddeddf 2006 fel y’u hamnewidiwyd.
18.Mae adran 6 o Ddeddf 2006, fel y’i hamnewidiwyd, yn darparu y caiff personau sy’n pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol y Senedd fwrw un bleidlais yn unig – naill ai ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer yr etholaeth honno, neu ar gyfer ymgeisydd sy’n sefyll yn annibynnol o blaid yn yr etholaeth honno (a elwir yn “
19.Mae adran 7 o Ddeddf 2006, fel y’i hamnewidiwyd, yn gwneud darpariaeth ynghylch rhestri o ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad cyffredinol i’r Senedd, a gyflwynir gan bleidiau gwleidyddol cofrestredig. Rhaid i restr gynnwys rhwng 1 ac 8 ymgeisydd. Ni ddylai’r rhestr gynnwys person sydd wedi ei gynnwys ar unrhyw restr arall (pa un ai yn yr un etholaeth neu mewn etholaeth arall), neu sy’n sefyll fel ymgeisydd unigol (eto, pa un ai yn yr un etholaeth neu mewn etholaeth arall). Yn yr un modd, ni chaiff person fod yn ymgeisydd unigol os yw hefyd yn ymddangos ar restr unrhyw blaid, neu fel ymgeisydd unigol mewn unrhyw etholaeth arall. Y canlyniad yw na chaiff person ond sefyll fel ymgeisydd unwaith mewn etholiad cyffredinol. Mae’r adran hefyd yn diffinio “
20.Mae adrannau 8 a 9 fel y’u hamnewididwyd yn nodi’r dull ar gyfer dyrannu seddi sy’n cynnwys cymhwyso dull d’Hondt.
21.Mae adran 8 fel y’i hamnewidiwyd o Ddeddf 2006 yn darparu ar gyfer cyfrifo’r “
22.Ar gyfer ymgeisydd unigol, y ffigur dyrannu seddi yw cyfanswm y pleidleisiau a gafwyd gan yr ymgeisydd hwnnw. Ar gyfer plaid sy’n sefyll mewn etholaeth, dyma gyfanswm y pleidleisiau a gafwyd gan y blaid yn yr etholaeth honno, wedi ei rhannu gan y “
23.Felly, dyrennir y cyntaf o’r 6 sedd ar gyfer yr etholaeth i’r blaid neu’r ymgeisydd unigol a gafodd y mwyaf o bleidleisiau.
24.Mae adran 9 fel y’i hamnewidiwyd o Ddeddf 2006 yn darparu ar gyfer ail-gyfrifo ffigur dyrannu seddi plaid gyda rhannydd mwy wrth ddyrannu’r ail i’r chweched sedd pe bai’r sedd flaenorol wedi ei dyrannu i’r blaid. Felly, i ddyrannu’r ail sedd, os dyrannwyd y sedd gyntaf i blaid, rhaid ail-gyfrifo ffigur dyrannu seddi y blaid honno drwy ychwanegu un at ei rhannydd dyrannu seddi blaenorol (h.y. mae’r rhannydd yn troi’n 2). Yna, caiff yr ail sedd ei dyrannu i’r blaid neu’r ymgeisydd unigol gyda’r ffigur dyrannu seddi uchaf. Er enghraifft, pe bai Plaid A wedi ennill 50,000 o bleidleisiau mewn etholaeth, ac roedd hyn yn ddigon i’r sedd gyntaf gael ei dyrannu i Blaid A, yna wrth ddyrannu’r ail sedd, byddai’r 50,000 yn cael ei rannu â 1+1=2, gan roi ffigur dyrannu seddi o 25,000 ar gyfer Plaid A.
25.Yna, cynhelir y broses hon eto ar gyfer y seddi sy’n weddill, gydag ailgyfrifiad yn digwydd bob tro y dyrannwyd sedd flaenorol i blaid. Felly, gan gymryd yr enghraifft uchod, os 25,000 oedd y ffigur dyrannu seddi uchaf wrth ddyrannu’r drydedd sedd, byddai’n cael ei ddyrannu i Blaid A a byddai ei ffigur dyrannu seddi, wrth ddyrannu’r bedwaredd sedd, yn 50,000 wedi ei rannu â 3 (rhannydd dyrannu seddi blaenorol o 2+1), gan roi ffigur dyrannu seddi o 16,666.666 (cylchol). Dyrennir y bedwaredd sedd i Blaid A os oes gan y pleidiau eraill ac unrhyw ymgeiswyr unigol ffigurau dyrannu seddi is (nid yw’r ffigurau wedi eu talgrynnu) neu os ydynt i’w diystyru yn y rownd honno (gweler y paragraff nesaf).
26.Caiff unrhyw ymgeisydd unigol y dyrannwyd sedd iddo ei ddiystyru mewn unrhyw rowndiau dilynol. Yn yr un modd, os yw seddi’n cael eu dyrannu i blaid ar gyfer yr holl ymgeiswyr ar ei rhestr, mae’r blaid honno’n cael ei diystyru mewn unrhyw rowndiau dilynol.
27.Rhaid i blaid lenwi’r seddi y dyrannwyd hwy iddi gyda’r ymgeiswyr sy’n ymddangos ar ei rhestr yn y drefn y maent yn ymddangos ar y rhestr honno.
28.Mewn achos o ffigur dyrannu seddi cyfartal mewn unrhyw rownd ar gyfer dwy neu ragor o bleidiau neu ymgeiswyr unigol, mae sedd i’w dyrannu i bob un o’r pleidiau neu’r ymgeiswyr hynny ar yr amod bod digon o seddi yn weddill. Os nad oes digon o seddi yn weddill, yna mae’r nifer seddi cyfartal i’w dorri fel a ganlyn:
mae’r ffigur dyrannu seddi ar gyfer y pleidiau neu’r ymgeiswyr unigol cyfartal yn cael ei ailgyfrifo drwy ychwanegu un at gyfanswm nifer y pleidleisiau a gafwyd. O ran ymgeisydd unigol, mae hyn yn syml yn golygu ychwanegu un at nifer y pleidleisiau a gafodd yr ymgeisydd. O ran plaid, mae hyn yn golygu ychwanegu un at gyfanswm nifer y pleidleisiau a gafwyd gan y blaid yn yr etholaeth ac yna rhannu’r rhif hwnnw â rhannydd dyrannu seddi’r blaid. Er enghraifft, os cafodd plaid 50,000 o bleidleisiau yn yr etholaeth a bod dwy sedd wedi eu dyrannu iddi hyd yma, byddai 50,001 yn cael ei rannu â rhannydd dyrannu seddi’r blaid o 3 i gael 16,667;
os yw’r ffigur dyrannu seddi diwygiedig yn torri’r nifer seddi cyfartal, yna dyrennir y sedd (neu’r seddi) sy’n weddill yn y dull arferol, sef i’r blaid neu’r ymgeisydd unigol sydd â’r ffigur dyrannu seddi uchaf.
29.Os bydd ffigur dyrannu seddi cyfartal yn parhau, yna rhaid i’r swyddog canlyniadau etholaethol ei ddatrys drwy lotiau.
Adran 9 – Seddi gwag
30.Mae adran 9 yn diwygio Deddf 2006 er mwyn nodi’r sefyllfa ynghylch swyddi gwag sy’n codi rhwng etholiadau (er enghraifft, o ganlyniad i ymddiswyddiad Aelod o’r Senedd) o dan y system gyfrannol â rhestr gaeedig. Mae’n diddymu adran 10 o Ddeddf 2006 (a oedd yn darparu ar gyfer cynnal is-etholiadau mewn cysylltiad â seddi gwag mewn etholaethau) ac yn rhoi adran 11 newydd yn lle’r un bresennol (a oedd yn darparu’n wreiddiol ar gyfer llenwi seddi gwag Aelodau o’r Senedd rhanbarthol).
31.Mae’r adran 11 fel y’i hamnewidiwyd o Ddeddf 2006 yn darparu, os bydd sedd a ddelir gan Aelod a ddychwelwyd o restr plaid yn dod yn wag, y caiff y swydd wag ei llenwi gan y person uchaf ar y rhestr honno sy’n bodloni’r amodau a ganlyn ac sydd heb ei ddychwelyd eisoes (ac at y dibenion hyn mae canlyniad di-rym, a fyddai’n wir pe bai’r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd adeg y canlyniad, yn cyfrif fel canlyniad). Yr amodau yw bod y person yn fodlon gwasanaethu ac yn achos person nad yw’n aelod o’r blaid, nad yw’r blaid wedi rhoi rhybudd i’r swyddog canlyniadau etholaethol nad yw’n dymuno i’r person hwnnw lenwi’r swydd wag. Mater i’r swyddog canlyniadau etholaethol yw rhoi gwybod i’r Llywydd am enw’r person (os oes un) sydd i lenwi’r swydd wag.
32.Os nad oes ymgeiswyr yn weddill ar restr y blaid sy’n gymwys ar yr adeg honno i lenwi’r swydd wag, neu os yw’r Aelod o’r Senedd y mae ei sedd wedi dod yn wag wedi ei ddychwelyd fel ymgeisydd unigol, bydd y sedd yn aros yn wag hyd nes yr etholiad cyffredinol nesaf.
Adran 10 – Diwygiadau cysylltiedig
33.Mae adran 10 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 2006 a deddfwriaeth arall, sy’n codi o’r trefniadau newydd o dan y Ddeddf ar gyfer dychwelyd y Senedd a’i chynnal.