Rhan 1 – Y Senedd a Gweinidogion Cymru
5.Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth i newid nifer yr Aelodau o’r Senedd, drwy ddiwygio nifer yr etholaethau a nifer y seddi ar gyfer pob etholaeth ac (ar y cyd â’r newidiadau i’r system etholiadol a wneir gan Ran 2), diddymu’r pum rhanbarth etholiadol. Mae’n gwneud newidiadau cysylltiedig, megis darparu ar gyfer pennu etholaethau’r Senedd drwy gyfeirio at reoliadau a wneir i weithredu’r adolygiadau ffiniau y darperir ar eu cyfer yn Rhan 4, ac yn rhoi pŵer i’r Senedd i ethol ail Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â’r Dirprwy Lywydd y mae rhaid ei benodi yng nghyfarfod cyntaf y Senedd o dan adran 25(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn yr un modd, mae’n darparu ar gyfer cynyddu’r nifer uchaf o Weinidogion Cymru a gaiff ddal swydd ar yr un pryd. Mae’r Ddeddf yn newid amlder etholiadau cyffredinol cyffredin i’r Senedd, ac yn anghymhwyso person nad yw wedi ei gofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd, rhag sefyll etholiad i’r Senedd, neu rhag aros fel Aelod o’r Senedd. Mae’n darparu gofyniad i’r Llywydd i gyflwyno cynnig i’r Senedd i ymgymryd â gwaith i sefydlu pwyllgor i archwilio ystyriaethau ymarferol a deddfwriaethol sy’n ymwneud â rhannu rhai swyddi.
Adran 1 – Y nifer o Aelodau o’r Senedd ac etholaethau’r Senedd
6.Mae adran 1 yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (“
Adran 2 – Etholaethau’r Senedd
7.Mae adran 2 yn diwygio Deddf 2006 i ddarparu ar gyfer etholaethau’r Senedd o dan y system etholiadol newydd. Ar gyfer yr etholiad cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026 bydd yr etholaethau yn cael eu pennu mewn rheoliadau a wneir o dan baragraff 9 o Atodlen 2 i’r Ddeddf. Yn dilyn hynny, byddant yn cael eu pennu mewn rheoliadau o dan adran 49J o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (enw byr y Ddeddf honno ar hyn o bryd yw Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ond yng ngoleuni’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r Ddeddf honno gan y Ddeddf hon, fel a drafodir isod, mae adran 17 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i newid ei henw). Mae hyn yn golygu y bydd Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol o’r 16 etholaeth Senedd yn unig (ni fydd Aelodau rhanbarthol).
Adran 3 – Etholiadau cyffredinol cyffredin: pa mor aml
8.Mae adran 3 yn diwygio adran 3 o Ddeddf 2006 i newid amlder etholiadau cyffredinol cyffredin er mwyn eu cynnal bob pedair blynedd, yn hytrach na phob pum mlynedd.
Adran 4 – Dirprwy Lywydd ychwanegol
9.Mae adran 4 yn diwygio adran 25 o Ddeddf 2006 i ddarparu y bydd y Senedd yn gallu ethol ail Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â’r Dirprwy Lywydd y mae rhaid ei ethol yng nghyfarfod cyntaf y Senedd o dan adran 25(1)(b) o Ddeddf 2006. Caiff Rheolau Sefydlog y Senedd ddarparu i’r Dirprwy Lywydd ychwanegol ddal swydd am gyfnod byrrach o amser na’r sefyllfa ddiofyn a ddarperir ar ei chyfer yn Neddf 2006 (sef, aros yn y swydd tan ddiddymiad y Senedd y cafodd y Dirprwy Lywydd ei ethol yn ei hystod).
10.Mae adran 4 hefyd yn darparu ar gyfer cyfyngiadau penodol ar ddewis y Senedd o ail Ddirprwy Lywydd. Ni chaniateir iddo fod o’r un grŵp gwleidyddol â’r Llywydd neu’r Dirprwy Lywydd arall, ac ni chaniateir iddo fod yn Aelod o grŵp nad yw’n grŵp gweithrediaeth os yw’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn Aelodau o grwpiau nad ydynt yn grwpiau gweithrediaeth (mae grŵp nad yw’n grŵp gweithrediaeth yn golygu grŵp gwleidyddol o fewn y Senedd nad oes ganddo unrhyw Aelodau yn y Llywodraeth sy’n weithredol ar y pryd (h.y. y weithrediaeth)). Fodd bynnag, mae hefyd yn darparu y gellir trechu’r cyfyngiadau hyn gan bleidlais fwyafrifol o ddwy ran o dair yn y Senedd.
11.Oni nodir yn wahanol uchod, effaith adran 4 yw bod y dyletswyddau, y pwerau a’r gofynion eraill deddfwriaethol sy’n gymwys i’r Dirprwy Lywydd y mae rhaid ei benodi yng nghyfarfod cyntaf y Senedd o dan adran 25(1)(b) o Ddeddf 2006 hefyd yn gymwys i unrhyw Ddirprwy Lywydd ychwanegol. Mae’r adran hon hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Ddeddf 2006 a deddfwriaeth arall.
Adran 5 – Cynyddu nifer uchaf Gweinidogion Cymru
12.Mae adran 5 yn darparu, drwy ddiwygio adran 51 o Ddeddf 2006, ar gyfer cynyddu’r nifer uchaf o Weinidogion Cymru a gaiff ddal swydd ar yr un pryd, o 12 i 17. Mae’r terfyn hwn yn cynnwys Dirprwy Weinidogion (gweler y diffiniad o “Welsh Ministerial Office” yn adran 51 o Ddeddf 2006) ond nid yw’n cynnwys y Prif Weinidog na’r Cwnsler Cyffredinol. Mae adran 5 hefyd yn darparu ar gyfer pŵer i wneud rheoliadau er mwyn cynyddu’r terfyn yn y dyfodol, i nifer uchaf o 19. Ni ellir ond defnyddio’r pŵer i gynyddu’r nifer, ni ellir ei ddefnyddio i leihau’r nifer (yn ymarferol, mae Prif Weinidog bob amser wedi gallu penodi llai o Weinidogion Cymru na’r nifer uchaf gan fod adran 51 yn gosod terfyn ar y nifer uchaf o Weinidogion Cymru yn hytrach na gosod nifer gofynnol o Weinidogion Cymru; nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Ddeddf hon yn effeithio ar hyn). Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sy’n cynyddu’r terfyn oni fo o leiaf 64 Aelod (h.y. dwy ran o dair o gyfanswm nifer y seddi yn y Senedd, ni waeth pa un a yw unrhyw un neu ragor o’r seddi yn wag adeg y bleidlais) wedi pleidleisio o blaid penderfyniad gan y Senedd i gymeradwyo’r offeryn drafft.
Adran 6 – Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd
13.Mae adran 6, drwy ddiwygio Atodlen 1A i Ddeddf 2006, yn anghymhwyso person nad yw wedi ei gofrestru ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad o fewn etholaeth Senedd, rhag sefyll ar gyfer etholiad i’r Senedd, neu rhag bod yn Aelod o’r Senedd.
Adran 7 – Adolygiad o’r posibilrwydd o rannu swyddi sy’n ymwneud â’r Senedd
14.Mae adran 7 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd gyflwyno cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor i adolygu’r graddau y dylai personau allu dal swydd berthnasol ar y cyd (h.y. ‘rhannu swydd’) neu ddal swydd berthnasol dros dro tra nad yw’r person sy’n dal y swydd honno ar gael. Mae “swydd berthnasol” yn golygu’r rolau a restrir yn adran 7(3). Rhaid cyflwyno’r cynnig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd gyntaf a etholir ar ôl 7 Tachwedd 2025 (h.y. mae hyn yn cynnwys Senedd a etholir gan etholiad cyffredinol eithriadol a arweiniodd at beidio â chynnal yr etholiad cyffredinol cyffredin sydd wedi ei drefnu ym mis Mai 2026 – gweler adran 5(5) o Ddeddf 2006), ond mewn unrhyw achos, o fewn chwe mis i’r cyfarfod hwnnw.
15.Pe bai’r Senedd yn cytuno y dylid cynnal adolygiad o’r fath, gallai’r adolygiad hwnnw gynnwys ystyriaeth o’r goblygiadau ymarferol a deddfwriaethol. Rhaid i’r cynnig a gyflwynir gan y Llywydd hefyd gynnig bod y pwyllgor yn llunio adroddiad ar ei adolygiad, gydag argymhellion. Os yw pwyllgor a sefydlir o dan y cynnig hwn yn gosod adroddiad ar ei adolygiad gerbron y Senedd, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Senedd sy’n nodi eu hymateb i’r adroddiad ac unrhyw gamau y maent yn bwriadu eu cymryd, a all gynnwys camau deddfwriaethol.