Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Seilwaith (Cymru) 2024

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (“y Ddeddf”) a basiwyd gan Senedd Cymru ar 16 Ebrill 2024 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 3 Mehefin 2024. Fe’u lluniwyd gan Gyfarwyddiaeth Gynllunio Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Crynodeb a’R Cefndir

2.Mae’r Ddeddf yn diwygio sut y rhoddir cydsyniad i seilwaith yng Nghymru. Mae’n sefydlu proses cydsynio seilwaith unedig o’r enw Cydsyniad Seilwaith ar gyfer mathau penodedig o seilwaith mawr ar y tir ac ar y môr, o’r enw Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol. Mae’r rhain, ar y cyfan, yn brosiectau ynni, prosiectau trafnidiaeth, prosiectau trin gwastraff, prosiectau dŵr a phrosiectau nwy. Mae’r Cydsyniad Seilwaith yn disodli, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol, nifer o gyfundrefnau statudol presennol ar gyfer cydsynio i Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol, ac mae’n rhesymoli nifer yr awdurdodiadau sy’n ofynnol i adeiladu a gweithredu Prosiect Seilwaith Arwyddocaol mewn un cydsyniad.

3.Cyhoeddwyd papur ymgynghori, Newidiadau i'r broses o roi caniatâd seilwaith: Tuag at sefydlu proses bwrpasol ar gyfer rhoi caniatâd seilwaith yng Nghymru, ar 30 Ebrill 2018 sy’n nodi prif egwyddorion y Ddeddf. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Gorffennaf 2018 a chyhoeddwyd ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2018(1). Defnyddiwyd yr ymatebion i’r ymgynghoriad i lywio datblygiad y Ddeddf.

4.Mae’r Ddeddf yn cynnwys 148 o adrannau sydd wedi eu trefnu’n 9 Rhan, a 3 Atodlen.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1 – Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol

5.Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn diffinio ystyr Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol a’r prosiectau cymwys a fydd yn ddarostyngedig i’r broses gydsynio hon.

Term allweddol

Adran 1 – Ystyr “prosiect seilwaith arwyddocaol”

6.Mae adran 1 yn darparu bod datblygiad yn “Prosiect Seilwaith Arwyddocaol” os yw’n dod o fewn un o blith tri o gategorïau. Er mwyn bod yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol, rhaid i brosiectau:

  • fod yn ddatblygiad a bennir yn “prosiect seilwaith arwyddocaol” yn Rhan 1 o’r Ddeddf,

  • bod wedi eu pennu mewn cyfarwydd a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22, neu

  • bod wedi eu pennu yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru, sef fframwaith y mae’r ofynnol i Weinidogion Cymru ei wneud o dan adran 60(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”).

7.Ar yr adeg y mae’r Ddeddf yn cael y Cydsyniad Brenhinol, enw’r fframwaith cyhoeddedig o dan Ddeddf 2004 yw “Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040”(2). Nid yw’r fersiwn hon o’r fframwaith yn pennu prosiectau yn rhai sy’n brosiectau seilwaith arwyddocaol at ddibenion y Ddeddf, ond caiff fframweithiau sy’n disodli’r fframwaith hwnnw wneud hynny.

8.Ceir tri o dermau a ddiffinnir yn y Ddeddf sy’n arbennig o bwysig at ddibenion y disgrifiadau o Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol yn Rhan 1, sef “datblygiad” (gweler adran 133), “Cymru” ac “ardal forol Cymru” (gweler adran 143).

Ynni

Adran 2 – Y seilwaith trydan

9.Mae adran 2 yn datgan yr amgylchiadau y bydd seilwaith trydan yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • adeiladu gorsaf gynhyrchu (heblaw gorsaf ynni gwynt) yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, pan ddisgwylir y bydd ganddi gapasiti cynhyrchu gosodedig o rhwng 50MW a 350MW (yn gynhwysol);

  • addasu neu estyn gorsaf gynhyrchu (heblaw gorsaf ynni gwynt) yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, pan ddisgwylir mai effaith hynny fydd cynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig 50MW o leiaf, fodd bynnag, ni chaniateir i effaith yr estyniad gynyddu’r capasiti cynhyrchu cyfan y tu hwnt i 350MW;

  • adeiladu gorsaf ynni gwynt yng Nghymru, y disgwylir y bydd ganddi gapasiti cynhyrchu gosodedig o 50MW o leiaf;

  • addasu neu estyn gorsaf ynni gwynt yng Nghymru, pan ddisgwylir mai effaith hynny fydd cynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig 50MW o leiaf;

  • gosod llinellau trydan uwchben y ddaear yng Nghymru sy’n gysylltiedig ag adeiladu, estyn neu addasu gorsaf gynhyrchu sy’n Brosiect Seilwaith Arwyddocaol y disgwylir y bydd ganddynt foltedd enwol o 132KV ac y byddant yn 2 gilomedr o hyd o leiaf (i’r graddau y maent yng Nghymru).

Adran 3 – Cyfleusterau nwy naturiol hylifedig

10.Mae adran 3 yn datgan yr amgylchiadau y bydd datblygiad sy’n ymwneud â chyfleuster nwy naturiol hylifedig yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • ar gyfer adeiladu cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, pan ddisgwylir i gynhwysedd storio’r cyfleuster fod yn 43 o filiynau o fetrau ciwbig safonol o leiaf neu os disgwylir i gyfradd llif uchaf y cyfleuster fod yn 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf;

  • ar gyfer addasu cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, pan ddisgwylir i gynhwysedd storio presennol y cyfleuster gynyddu 43 o filiynau o fetrau ciwbig safonol o leiaf neu os disgwylir i gyfradd llif uchaf y cyfleuster gynyddu 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf.

Adran 4 – Cyfleusterau derbyn nwy

11.Mae adran 4 yn datgan yr amgylchiadau y bydd datblygiad sy’n ymwneud â chyfleusterau derbyn nwy yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • adeiladu cyfleuster derbyn nwy yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru pan ddisgwylir i gyfradd llif uchaf y cyfleuster fod yn fwy na 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod;

  • addasu cyfleuster derbyn nwy pan ddisgwylir i gyfradd llif uchaf y cyfleuster presennol gynyddu 4.5 miliwn metr ciwbig safonol y diwrnod o leiaf.

12.Yn ogystal, mae is-adran (3) yn pennu, er mwyn bod yn gymwys i fod yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol—

  • na chaniateir i’r cyfleuster derbyn nwy drin nwy sy’n tarddu o Gymru, Lloegr, neu’r Alban, y môr tiriogaethol sy’n gyfagos at y tiriogaethau hynny, neu’r Parth Ynni Adnewyddadwy. Y “Parth Ynni Adnewyddadwy” yw’r ardal o’r môr y tu hwnt i fôr tiriogaethol y Deyrnas Unedig lle y mae gan y DU hawliau elwa ar gyfer cynhyrchu ynni o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr 1982 (Cmnd 8941);

  • na chaniateir i’r nwy a gaiff ei drin gan y cyfleuster fod wedi cyrraedd y cyfleuster o Loegr neu’r Alban, ac na chaiff fod wedi ei drin eisoes mewn cyfleuster arall ar ôl iddo gyrraedd Cymru neu’r ardal forol.

Adran 5 – Hollti hydrolig am olew a nwy a nwyeiddio glo

13.Mae adran 5 yn datgan yr amgylchiadau y bydd hollti hydrolig am olew a nwy a nwyeiddio glo yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • datblygiad fforio, arfarnu neu gynhyrchu methan haen lo, olew siâl neu nwy siâl gan ddefnyddio dulliau cloddio anghonfensiynol, gan gynnwys hollti hydrolig yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, ac eithrio gwneud tyllau turio fforiol nad yw’n golygu cynnal hollti hydrolig, a

  • datblygiad nwyeiddio glo yn y strata, ac eithrio gwneud tyllau turio fforiol at ddiben samplu creiddiol.

Adran 6 – Mwyngloddio glo brig

14.Mae adran 6 yn datgan bod creu mwynglawdd glo brig neu gloddio a gweithio glo o fwynglawdd glo brig yng Nghymru yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol.

Trafnidiaeth

Adran 7 – Priffyrdd

15.Mae adran 7 yn darparu bod adeiladu priffordd yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • pan fydd y briffordd yng Nghymru;

  • pan mai Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd;

  • pan fydd y briffordd yn briffordd ddi-dor o fwy nag 1 cilometr o hyd.

16.Mae’r adran hon hefyd yn datgan bod addasu priffordd yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • pan fydd y briffordd yng Nghymru;

  • pan mai Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd;

  • pan fydd yr addasu neu’r gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

17.Mae is-adrannau (4) i (6) yn pennu pryd nad yw adeiladu, addasu neu wella priffordd yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol.

Adran 8 – Rheilffyrdd

18.Mae adran 8 yn datgan bod adeiladu rheilffordd yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • pan fydd y rheilffordd yn dechrau, yn gorffen ac yn aros yng Nghymru,

  • pan fydd y rheilffordd yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr a gymeradwywyd,

  • pan fydd y rheilffordd yn cynnwys darn o drac sy’n ddi-dor am fwy na 2 gilometr o hyd, a

  • pan nad yw adeiladu’r rheilffordd yn ddatblygu a ganiateir.

19.Mae’r adran hon hefyd yn datgan bod addasu rheilffordd yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • pan fydd y rhan o’r rheilffordd sydd i’w haddasu yn rhan o reilffordd sy’n dechrau, yn gorffen ac yn aros yng Nghymru,

  • pan fydd y rheilffordd yn rhan o rwydwaith a weithredir gan weithredwr a gymeradwywyd,

  • pan fydd yr addasiad i’r rheilffordd yn cynnwys gosod darn o drac sy’n ddi-dor am fwy na 2 gilometr o hyd, a

  • pan nad yw adeiladu’r rheilffordd yn ddatblygu a ganiateir.

20.Datblygu a ganiateir yw datblygu y mae caniatâd cynllunio wedi ei roi iddo gan erthygl 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd).

21.Nid yw’r adran hon yn gymwys i adeiladu neu addasu rheilffordd i’r graddau y bo’r rheilffordd yn ffurfio rhan o gyfnewidfa nwyddau rheilffordd (gweler adran 9).

Adran 9 – Cyfnewidfeydd nwyddau rheilffordd

22.Mae adran 9 yn pennu’r amgylchiadau y mae adeiladu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • rhaid i’r tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno:

    • bod yng Nghymru, a

    • bod ag arwynebedd o 60 o hectarau o leiaf,

  • rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd allu trin:

    • llwythi o nwyddau oddi wrth fwy nag un traddodwr ac i fwy nag un traddodai, a

    • o leiaf bedwar trên nwyddau y dydd,

  • rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru,

  • rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd gynnwys warysau y gellir danfon nwyddau iddynt o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru naill ai yn uniongyrchol neu drwy gyfrwng math arall o drafnidiaeth, a

  • ni chaiff y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o sefydliad milwrol.

23.Mae’r adran hon hefyd yn pennu’r amgylchiadau y mae addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • rhaid i’r tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno fod yng Nghymru;

  • rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd allu trin:

    • llwythi o nwyddau oddi wrth fwy nag un traddodwr ac i fwy nag un traddodai, a

    • o leiaf bedwar trên nwyddau y dydd;

  • rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru;

  • rhaid i’r gyfnewidfa nwyddau rheilffordd gynnwys warysau y gellir danfon nwyddau iddynt o’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru naill ai yn uniongyrchol neu drwy gyfrwng math arall o drafnidiaeth;

  • ni chaiff y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd fod yn rhan o sefydliad milwrol;

  • rhaid i’r addasiad gynyddu arwynebedd y tir y lleolir y gyfnewidfa nwyddau rheilffordd arno 60 o hectarau o leiaf.

Adran 10 – Cyfleusterau harbwr

24.Mae adran 10 yn pennu’r amgylchiadau y bydd adeiladu cyfleusterau harbwr yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • bod y prosiect yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall,

  • na fydd y prosiect yn borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, nac yn ffurfio rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl, a

  • bod y prosiect yn gallu trin llwytho neu ddadlwytho y swm perthnasol o ddeunydd y flwyddyn o leiaf.

25.Bydd addasiadau i gyfleusterau harbwr yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol pan ddisgwylir mai effaith yr addasiad fydd cynyddu y swm perthnasol y flwyddyn o leiaf swm y deunydd y mae’r harbwr yn gallu ei drin.

26.Mae is-adrannau (3) i (6) yn nodi beth yw “y swm perthnasol”.

Adran 11 – Meysydd awyr

27.Mae adran 11 yn pennu’r amgylchiadau y mae adeiladu maes awyr sydd yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • y bydd y maes awyr yn darparu gwasanaethau cludo teithwyr awyr ar gyfer o leiaf 1 filiwn o deithwyr bob blwyddyn, neu

  • y bydd y maes awyr yn darparu gwasanaethau cludo cargo awyr ar gyfer o leiaf 5,000 o symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo bob blwyddyn.

28.Mae’r adran hefyd yn pennu’r amgylchiadau y mae addasu maes awyr yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • y bydd yr addasu yn cynyddu nifer y teithwyr y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo teithwyr awyr ar eu cyfer 1 filiwn y flwyddyn o leiaf, neu

  • y bydd yr addasu yn cynyddu nifer y symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo y gall y maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo cargo awyr ar eu cyfer 5,000 y flwyddyn o leiaf.

29.Mae’r adran hefyd yn darparu’r amgylchiadau pan fydd defnydd a ganiateir o faes awyr yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol, sef:

  • cynnydd o 1 filiwn y flwyddyn o leiaf yn nifer y teithwyr y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaeth cludo teithwyr awyr iddynt, neu

  • cynnydd o 5,000 y flwyddyn o leiaf yn nifer y symudiadau cludo awyr gan awyrennau cargo y caniateir i’r maes awyr ddarparu gwasanaethau cludo cargo awyr iddynt.

Dŵr

Adran 12 – Argaeau a chronfeydd dŵr

30.Mae adran 12 yn pennu’r amgylchiadau y bydd datblygiad sy’n ymwneud ag argaeau a chronfeydd dŵr yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol odanynt, sef:

  • adeiladu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru os yw cyfaint disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr yn fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig;

  • addasu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru os yw cyfaint ychwanegol disgwyliedig y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr o ganlyniad i’r addasiad yn fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig.

Adran 13 – Trosglwyddo adnoddau dŵr

31.Mae adran 13 yn pennu bod trosglwyddo adnoddau dŵr yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • pan fo’r datblygiad yn cael ei gynnal gan un neu ragor o ymgymerwyr dŵr,

  • pan fo’r datblygiad yn digwydd yng Nghymru,

  • pan ddisgwylir y bydd cyfaint y dŵr a drosglwyddir o ganlyniad i’r datblygiad yn fwy na 100 miliwn o fetrau ciwbig y flwyddyn, a

  • pan fo’r datblygiad yn galluogi trosglwyddo adnoddau dŵr, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau.

Dŵr Gwastraff

Adran 14 – Gweithfeydd trin dŵr gwastraff

32.Mae adran 14 yn pennu bod adeiladu neu addasu gwaith trin dŵr gwastraff yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • pan fo’r gwaith trin yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

  • pan fo capasiti disgwyliedig y gwaith trin, ar ôl ei adeiladu, yn fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000, neu

  • yn achos addasiad, pan mai effaith ddisgwyliedig yr addasiad yw cynyddu capasiti’r gwaith fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.

33.Mae adeiladu neu addasu seilwaith i drosglwyddo neu storio dŵr gwastraff yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • pan fo’r seilwaith yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

  • pan mai prif ddiben y seilwaith yw:

    • trosglwyddo dŵr gwastraff ar gyfer ei drin, neu

    • storio dŵr gwastraff cyn ei drin, neu’r ddau, a

  • pan ddisgwylir i’r seilwaith, ar ôl ei adeiladu, fod â chapasiti i storio mwy na 350,000 o fetrau ciwbig o ddŵr gwastraff, neu, yn achos addasiad i’r seilwaith, pan ddisgwylir mai effaith yr addasiad yw cynyddu capasiti’r seilwaith i storio dŵr gwastraff fwy na 350,000 o fetrau ciwbig.

Gwastraff

Adran 15 – Cyfleusterau gwastraff peryglus

34.Mae adran 15 yn pennu bod adeiladu cyfleuster gwastraff peryglus yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

  • os prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, ac

  • os disgwylir i’r cyfleuster fod â’r capasiti a bennir yn is-adran (2).

35.Mae’r adran hefyd yn pennu bod addasu cyfleuster gwastraff peryglus yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • os yw’r cyfleuster yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

  • os prif ddiben y cyfleuster yw gwaredu gwastraff peryglus yn derfynol neu ei adfer, ac

  • os disgwylir i’r addasiad gynyddu capasiti’r cyfleuster fel a bennir yn is-adran (3)(c).

Adran 16 – Cyfleusterau gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol

36.Mae adran 16 yn pennu bod datblygiad sy’n ymwneud â chyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol:

  • pan fo un neu ragor o dyllau turio yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru yn cael ei adeiladu neu eu hadeiladu o leiaf 150 o fetrau o ddyfnder o dan arwyneb y ddaear neu wely’r môr, a’u prif ddiben yw cael data neu samplau er mwyn penderfynu a yw’r safle yn addas ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol.

  • pan fo cyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol yn cael ei adeiladu yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.

Pŵer i Ddiwygio

Adran 17 – Pŵer i ychwanegu, amrywio neu ddileu prosiectau

37.Mae adran 17 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio Rhan 1 drwy reoliadau er mwyn ychwanegu math newydd o brosiect at y diffiniad o brosiect seilwaith arwyddocaol neu i amrywio neu ddileu’r prosiectau seilwaith arwyddocaol presennol a ddiffinnir yn y Ddeddf. Ni chaniateir ychwanegu neu amrywio prosiectau ond os yw’r prosiect newydd, neu unrhyw amrywiad i brosiect presennol, ar gyfer cynnal gwaith ym meysydd ynni, atal llifogydd, mwynau, cludiant, dŵr, dŵr gwastraff a gwastraff a bod y gwaith i’w gynnal yng Nghymru, yn ardal forol Cymru, neu yn y naill a’r llall.

Dehongli

Adran 18 – Prosiectau trawsffiniol

38.Mae adran 18 yn darparu bod cyfeiriadau yn Rhan 1 at ddatblygiad sydd “yng Nghymru” neu “yn ardal forol Cymru” yn cynnwys datblygiad sydd yn rhannol yn yr ardaloedd hynny. Mae hefyd yn darparu, pan fo cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer datblygiad sy’n rhannol yng Nghymru neu’n rhannol yn ardal forol Cymru, nad yw cydsyniad seilwaith ond yn ofynnol i’r graddau y bo’r datblygiad yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.

Rhan 2 – Gofyniad am gydsyniad seilwaith

39.Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gosod gofyniad i gael cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad sy’n brosiect seilwaith arwyddocaol neu’n ffurfio rhan o brosiect seilwaith arwyddocaol, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith y gofyniad hwn ar gyfundrefnau statudol eraill.

Y gofyniad

Adran 19 – Gofyniad am gydsyniad seilwaith

40.Mae adran 19 yn gosod gofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer datblygiad sy’n brosiect seilwaith arwyddocaol neu’n ffurfio rhan o brosiect seilwaith arwyddocaol (fel y’i diffinnir yn adran 1). Cyfeirir at y cydsyniad yn y Ddeddf fel “cydsyniad seilwaith”.

Adran 20 – Effaith gofyniad am gydsyniad seilwaith

41.Mae adran 20(1) yn rhestru’r cydsyniadau, y caniatadau a’r awdurdodiadau nad yw’n ofynnol eu cael neu eu rhoi mewn perthynas â datblygiad i’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar gyfer y datblygiad.

42.Mae is-adrannau (2) i (4) yn rhestru gorchmynion ac awdurdodiadau penodol na chaniateir eu gwneud, eu cadarnhau neu eu rhoi i’r graddau y bo cydsyniad seilwaith yn ofynnol.

Pwerau i newid y gofyniad neu ei Effaith

Adran 21 – Pŵer i ychwanegu neu ddileu mathau o gydsyniad

43.Mae adran 21 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 20(1) a (2) drwy reoliadau i ychwanegu neu ddileu math o gydsyniad neu er mwyn amrywio’r achosion y mae math o gydsyniad yn dod o fewn adran 20(1) neu (2) odanynt. Mae adran 21 hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach ynghylch y mathau o gydsyniad sydd o fewn, ac nad ydynt o fewn, adran 20(1) neu (2) a’r achosion y mae math o gydsyniad yn dod o fewn adran 20(1) a (2) ai peidio mewn perthynas â hwy.

44.Mae is-adran (2) yn caniatáu i reoliadau ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu deddfiad.

45.Mae is-adran (3) yn diffinio “cydsyniad” at ddibenion yr adran.

Adran 22 – Cyfarwyddydau sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol

46.Mae adran 22 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu bod datblygiad penodol yn brosiect seilwaith arwyddocaol—

  • os bydd y datblygiad, ar ôl ei gwblhau, yn gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru,

  • os yw’r datblygiad yn brosiect neu’n ffurfio rhan o brosiect y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod o arwyddocâd cenedlaethol, ac

  • os yw’r datblygiad o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

47.Mae is-adran (3) yn egluro bod pŵer cyfarwyddyd o dan is-adran (1) dim ond yn gymwys i ddatblygiad i’r graddau y bo’r datblygiad yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.

48.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod y mae cais wedi ei wneud iddo, neu y gallai gael ei wneud iddo, am gydsyniad neu awdurdodiad ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru i’w galluogi hwy i wneud cyfarwyddyd o dan is-adran (1), ac i benderfynu o dan ba delerau y dylid rhoi’r cyfarwyddyd.

Adran 23 – Cyfarwyddydau bod ceisiadau i’w trin fel ceisiadau am gydsyniad seilwaith

49.Mae adran 23 yn darparu, os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 22, fod gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyfarwyddo—

  • bod cais sydd wedi ei wneud am ganiatâd, awdurdodiad, cydsyniad etc. a grybwyllir yn adran 20 i’w drin fel cais am gydsyniad seilwaith, neu

  • bod cais arfaethedig am gydsyniad o’r fath i’w drin fel cais arfaethedig am gydsyniad seilwaith.

50.Caiff cyfarwyddydau a wneir o dan yr adran hon ddarparu i ddarpariaethau penodedig mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiadau yn y Ddeddf) gael effaith mewn perthynas â’r cais neu’r cais arfaethedig gydag unrhyw addasiadau a bennir yn y cyfarwyddyd neu i gael eu trin fel pe cydymffurfiwyd â hwy mewn perthynas â’r cais neu’r cais arfaethedig.

51.Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod perthnasol atgyfeirio’r cais, neu’r cais arfaethedig, at Weinidogion Cymru. Yr “awdurdod perthnasol” yw’r awdurdod y gwneir y cais, neu y cynigir gwneud y cais, iddo.

52.Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried a ydynt am roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon cânt hefyd gyfarwyddo’r awdurdod perthnasol i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach nes clywir yn wahanol.

Adran 24 – Cyfarwyddydau sy’n pennu nad yw datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol

53.Mae adran 24 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu nad yw datblygiad a fyddai’n brosiect seilwaith arwyddocaol fel arall yn brosiect seilwaith arwyddocaol at ddiben y Ddeddf hon. Ni chaniateir rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon ond os bydd y datblygiad yn rhannol yng Nghymru neu yn rhannol yn ardal forol Cymru.

54.Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cyfarwyddyd ac adrodd i’r Senedd fod cyfarwyddyd wedi ei roi.

Adran 25 – Cyfarwyddydau o dan adrannau 22 i 24: darpariaeth gyffredinol

55.Mae adran 25 yn datgan y caniateir rhoi unrhyw gyfarwyddyd a wneir o dan adrannau 22 i 24 yn ddarostyngedig i amodau ac y caiff bennu o fewn pa gyfnod o amser y mae’n cael effaith.

56.Caniateir i gyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adrannau hyn gael ei roi yn dilyn archiad oddi wrth ddatblygwr neu heb i archiad o’r fath gael ei wneud. Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried archiad am gyfarwyddyd oni bai ei fod yn “archiad cymhwysol” oddi wrth ddatblygwr. Ystyr “archiad cymhwysol” yw archiad ysgrifenedig am gyfarwyddyd sy’n pennu’r datblygiad y mae’n ymwneud ag ef. Ar ôl gwneud penderfyniad ar archiad cymhwysol, rhaid i Weinidogion Cymru roi rhesymau dros eu penderfyniad i’r person a wnaeth yr archiad.

Adran 26 – Cyfarwyddydau o dan adran 22: rheoliadau ynghylch y weithdrefn

57.Mae adran 26 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch materion gweithdrefnol mewn cysylltiad â chyfarwyddydau o dan adrannau 22 i 24 o’r Ddeddf hon.

Rhan 3 – Gwneud cais am gydsyniad seilwaith

58.Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn nodi’r weithdrefn cyn gwneud cais, sut y mae cais am gydsyniad seilwaith i’w wneud i Weinidogion Cymru a’r gofynion o ran cyhoeddusrwydd a hysbysu. Mae hefyd yn nodi gweithdrefnau sy’n ymwneud â chais am gydsyniad seilwaith sy’n cynnwys archiad i gaffael tir yn orfodol.

Cymorth i geisyddion

Adran 27 – Darparu gwasanaethau cyn gwneud cais

59.Mae adran 27 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch darparu gwasanaethau cyn gwneud cais gan Weinidogion Cymru, awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru neu Gyfoeth Naturiol Cymru. Bwriedir i wasanaethau cyn gwneud cais gynorthwyo darpar ymgeiswyr cyn iddynt gyflwyno cais am gydsyniad seilwaith.

60.Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch:

  • yr amgylchiadau y mae’n rhaid darparu gwasanaethau cyn gwneud cais odanynt,

  • ffurf a chynnwys archiadau am wasanaethau cyn gwneud cais, gan gynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chyflwyno gydag archiad,

  • pa wasanaethau y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, awdurdodau cynllunio lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru eu darparu, gan gynnwys pryd a sut y maent i’w darparu,

  • y gofynion ar Weinidogion Cymru, awdurdodau cynllunio lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i gyhoeddi gwybodaeth ynghylch yr ystod o wasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir ganddynt, a

  • camau eraill y mae’n ofynnol i unrhyw berson eu cymryd mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyn gwneud cais.

Adran 28 – Cael gwybodaeth ynghylch buddiannau mewn tir

61.Mae adran 28 yn galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi person sy’n gwneud cais (“y ceisydd”) am gydsyniad seilwaith i gyflwyno hysbysiad i’r personau a bennir yn is-adran (4).

62.Mae’n ofynnol i dderbynnydd hysbysiad roi i’r ceisydd yn ysgrifenedig enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae’r derbynnydd yn credu ei fod yn berchennog neu’n feddiannydd y tir neu’n berson sydd â buddiant yn y tir neu bŵer drosto.

63.Diben y gofyniad hwn yw galluogi’r ceisydd i gydymffurfio â darpariaethau adran 29 neu a wneir o dan adran 29 (darpariaethau ynghylch hysbysu am gais arfaethedig), 30 (darpariaethau ynghylch ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais), ac adrannau 64 i 72 (darpariaethau mewn gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol).

64.Mae’r adran hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi’r ceisydd i gyflwyno hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i dderbynnydd roi i’r ceisydd yn ysgrifenedig enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae’r derbynnydd yn credu y byddai ganddo hawlogaeth i wneud hawliad am ddigollediad pe bai’r cais am gydsyniad seilwaith yn cael ei gymeradwyo a’r datblygiad yn digwydd.

65.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch hysbysiad a roddir o dan yr adran hon ac yn nodi o dan is-adran (4) y personau y mae’n ofynnol eu hysbysu pan fo cais arfaethedig am gydsyniad seilwaith neu gais am gydsyniad seilwaith sy’n cynnwys archiad caffael yn orfodol.

66.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn drosedd pan fo person wedi methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan yr adran, mewn achos pan fo’r person wedi darparu gwybodaeth anwir. Mae’r drosedd yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

67.Pan gyflawnir y drosedd gan gorff corfforedig, gellir dal swyddogion y corff hwnnw yn atebol am y drosedd hefyd: gweler adran 135.

Y weithdrefn cyn gwneud cais

Adran 29 – Hysbysu am gais arfaethedig

68.Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith hysbysu:

  • Gweinidogion Cymru;

  • pob awdurdod cynllunio lleol a phob cyngor cymuned ar gyfer yr ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi pan fo datblygiad arfaethedig yng Nghymru;

  • Cyfoeth Naturiol Cymru a phob awdurdod cynllunio lleol a phob cyngor cymuned y mae’r person yn ystyried ei fod yn briodol pan fo’r datblygiad arfaethedig yn ardal forol Cymru;

  • Aelodau o’r Senedd etholaethol a rhanbarthol ar gyfer pob ardal lle y lleolir y datblygiad arfaethedig;

  • Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli etholaethau ar gyfer pob ardal lle y lleolir y datblygiad arfaethedig; ac

  • unrhyw bersonau eraill, neu berson arall o ddisgrifiad a ragnodir mewn rheoliadau am y cais.

69.Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon gydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir mewn rheoliadau, a all gynnwys gofynion yn ymwneud â:

  • ffurf a chynnwys hysbysiad,

  • pa wybodaeth, dogfennau neu ddeunydd arall y mae rhaid iddo fynd gyda hysbysiad, a

  • sut a phryd y mae hysbysiad i’w roi.

70.Pan fônt wedi cael hysbysiad sy’n cydymffurfio â’r holl ofynion o dan yr adran hon, bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad ysgrifenedig at y person a gyflwynodd ffurflen hysbysu yn wreiddiol, yn cadarnhau fod yr hysbysiad wedi ei dderbyn. Gall y darpar ymgeisydd symud ymlaen i’r ymgynghoriad cyn gwneud cais.

71.Mae’r adran hon hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch (ymhlith pethau eraill):

  • ffurf a chynnwys yr hysbysiad,

  • sut y mae hysbysiad i’w roi, a

  • o fewn pa gyfnod y mae hysbysiadau o’r fath i’w rhoi.

72.Nid yw’r gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru o dan yr adran hon yn gymwys os yw’r cais arfaethedig yn cael ei wneud pan fo cyfarwyddyd sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol wedi ei wneud o dan adran 22.

Adran 30 – Ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais

73.Mae adran 30 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnig cyflwyno cais am gydsyniad seilwaith gynnal ymgynghoriad ar gais arfaethedig cyn ei gyflwyno. Nid yw unrhyw ymgynghoriad neu gyhoeddusrwydd a gynhelir cyn i gais arfaethedig gael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan adran 29 i’w drin fel ymgynghoriad neu gyhoeddusrwydd o dan yr adran hon.

74.Mae’r adran hon hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn rheoliadau ar gyfer ymgynghoriadau sy’n ofynnol gan yr adran hon, neu mewn cysylltiad â hwy, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth:

  • ynghylch pwy y mae’n ofynnol ymgynghori â hwy,

  • ynghylch sut y mae ymgynghoriadau i’w cynnal,

  • ynghylch y materion i ymgynghori arnynt, gan gynnwys y manteision i bobl sy’n byw yn ardal y datblygiad arfaethedig,

  • ynghylch ymateb i ymgynghoriadau, gan gynnwys ymateb drwy lunio adroddiad a’i gyhoeddi,

  • ynghylch amserlenni mewn cysylltiad ag ymgynghoriadau, ac

  • ynghylch sut y mae’n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd i ymgynghoriadau.

Y weithdrefn gwneud cais

Adran 31 – Newid yn y person sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith

75.Mae adran 31 yn pennu nad yw’r dyletswyddau yn adran 29(1) a 30(1) yn gymwys i berson sy’n cynnig gwneud cais am gydsyniad seilwaith o dan adran 32 (“person A”) os oes hysbysiad wedi ei roi eisoes mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig, neu’r un datblygiad arfaethedig i raddau helaeth, gan berson gwahanol a bod naill ai—

  • yr hysbysiad yn pennu person A fel y person a fydd yn gwneud cais am gydsyniad seilwaith, neu

  • y trefniadau i berson A i wneud y cais yn cael eu gwneud yn ystod, neu o ganlyniad i, yr ymgynghoriad a gynhelir o dan adran 30.

Adran 32 – Gwneud cais am gydsyniad seilwaith

76.Mae adran 32 yn ei gwneud yn ofynnol i gais am gydsyniad seilwaith gael ei wneud i Weinidogion Cymru ac yn darparu na chaniateir rhoi cydsyniad seilwaith oni wneir cais amdano.

77.Mae hefyd yn ofynnol i gais am gydsyniad seilwaith bennu’r datblygiad y mae’n ymwneud ag ef, a rhaid i’r cais gynnwys adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais a gorchymyn seilwaith drafft.

78.Mae’r adran hon hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ynghylch ceisiadau. Caiff y darpariaethau gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch:

  • ffurf a chynnwys cais,

  • sut y mae cais i’w wneud,

  • pa wybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cais,

  • sut y prosesir cais,

  • sut y gellir amrywio cais neu ei dynnu yn ôl,

  • hysbysiadau yn ymwneud â chais, a

  • y cyfnod y mae rhaid gwneud cais o’i fewn (gan gynnwys unrhyw estyniadau i’r cyfnod hwnnw).

79.Caiff y rheoliadau hefyd roi swyddogaeth i unrhyw berson, gan gynnwys caniatáu i’r person arfer disgresiwn.

Adran 33 – Penderfynu ar ddilysrwydd cais a hysbysu’r ceisydd

80.Mae adran 33 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, pan fônt yn cael cais am gydsyniad seilwaith, benderfynu a ydynt yn derbyn cais fel cais dilys ai peidio.

81.Rhaid ystyried bod cais yn ddilys os yw’n dod i law o fewn y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a’i fod yn cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan adran 32 neu odani. Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r ceisydd am benderfyniad i dderbyn y cais fel cais dilys.

82.Pan na fo cais yn cydymffurfio â’r gofynion yn yr adran hon neu adran 32 ac na ellir felly ei dderbyn gan Weinidogion Cymru, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd am y penderfyniad hwn, a rhoi’r rhesymau pam na ellir ei dderbyn fel cais dilys.

Adran 34 – Hysbysiad am geisiadau a dderbynnir a chyhoeddusrwydd

83.Mae adran 34 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu partïon penodol pan fônt wedi derbyn cais fel cais dilys.

84.Pan fo datblygiad yng Nghymru, rhaid rhoi hysbysiad i bob awdurdod cynllunio lleol a chyngor cymuned y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddo. Rhaid rhoi hysbysiad hefyd i Aelodau o’r Senedd etholaethol a rhanbarthol, ac i Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli pob ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi.

85.Pan fo datblygiad yn ardal forol Cymru, rhaid rhoi hysbysiad i unrhyw awdurdod cynllunio lleol neu gyngor cymuned y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol ac i Gyfoeth Naturiol Cymru. Rhaid rhoi hysbysiad hefyd i Aelodau o’r Senedd etholaethol a rhanbarthol, yn ogystal ag Aelodau Seneddol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol. Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd hysbysu unrhyw bersonau eraill a bennir mewn rheoliadau.

86.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i gais yn y modd a bennir mewn rheoliadau ac mewn unrhyw hysbysiad neu gyhoeddusrwydd rhaid cynnwys y dyddiad cau ar gyfer cael sylwadau, ac ni chaiff y dyddiad cau ddod i ben cyn diwedd cyfnod byrraf ar gyfer sylwadau a bennir mewn rheoliadau.

87.Fodd bynnag, gall Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer cael sylwadau, a chânt hefyd estyn y dyddiad cau fwy nag unwaith. Pan arferir y pŵer hwn, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgymryd â chyhoeddusrwydd a rhoi hysbysiad eto, gan bennu’r dyddiad cau newydd ar gyfer cael sylwadau a’u rhesymau dros estyn y dyddiad cau.

88.Mae’r adran hon hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo’r ceisydd i hysbysu personau am gais a rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais yn y modd a bennir yn y cyfarwyddyd. Rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd gynnwys y dyddiad cau ar gyfer cael sylwadau, na fydd yn dod i ben cyn diwedd y cyfnod byrraf ar gyfer sylwadau a bennir mewn rheoliadau.

89.Pan roddir cyfarwyddyd o dan is-adran (10), a bod y dyddiad cau yn cael ei estyn, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd pellach sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd roi hysbysiad pellach i’r un personau, ac ymgymryd â chyhoeddusrwydd pellach yn yr un ffordd.

Adran 35 – Rheoliadau ynghylch hysbysiadau a chyhoeddusrwydd

90.Mae adran 35 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau:

  • ynghylch ffurf a chynnwys hysbysiadau am geisiadau a dderbynnir (adran 33) a hysbysiadau am gyhoeddusrwydd (adran 34), sut y’u rhoddir a’r amserlenni ar gyfer eu rhoi,

  • ynghylch sut y mae sylwadau i’w rhoi mewn ymateb i hysbysiad neu gyhoeddusrwydd o dan adran 34, ffurf a chynnwys y sylwadau hynny a’r amserlenni ar gyfer eu cyflwyno,

  • sy’n gosod gofyniad ar bersonau a bennir mewn rheoliadau i ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(c), ac

  • ynghylch sut y caiff personau ymateb i gyhoeddusrwydd o dan adran 34 a sut y rhoddir cyhoeddusrwydd i sylwadau.

91.Caiff rheoliadau hefyd roi swyddogaeth, gan gynnwys swyddogaeth sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn, i unrhyw berson er mwyn sicrhau yr ymgymerir â’r gofynion o ran rhoi cyhoeddusrwydd a rhoi hysbysiad gan y parti mwyaf priodol fesul achos unigol.

Adran 36 – Adroddiadau ar yr effaith leol

92.Mae adran 36 yn gwneud darpariaeth ynghylch awdurdodau cynllunio lleol a chynghorau cymuned yn ymateb i hysbysiad neu gyhoeddusrwydd ynghylch datblygiad arfaethedig drwy gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol sef adroddiad sy’n nodi manylion ynghylch effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar ardal awdurdod lleol a chyngor cymuned.

93.Pan fo datblygiad arfaethedig yn ardal awdurdod cynllunio lleol a bod yr awdurdod yn cael hysbysiad o gais a dderbynnir o dan adran 34(2)(a)(i) rhaid i’r awdurdod gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn yr hysbysiad.

94.Caiff cyngor cymuned a hysbysir am ddatblygiad arfaethedig o dan adran 34(2)(a)(ii) hefyd gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn yr hysbysiad, ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny.

95.Pan fo datblygiad arfaethedig yn ardal forol Cymru, caiff unrhyw awdurdod cynllunio lleol neu gyngor cymuned y rhoddir hysbysiad iddo am y datblygiad arfaethedig o dan adran 34(2)(b)(ii) gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn yr hysbysiad.

96.Pan fo awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned yn cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol ac eithrio mewn ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2), rhaid iddynt gyflwyno’r adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir mewn cyhoeddusrwydd o dan adran 34(3).

97.Mae’r adran hon hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ragnodi ffurf a chynnwys adroddiad ar yr effaith leol a rhaid i unrhyw adroddiad a gyflwynir i Weinidogion Cymru gydymffurfio â’r gofynion a bennir yn y rheoliadau.

Adran 37 – Adroddiadau effaith ar y môr

98.Os yw’r gorchymyn drafft a gyflwynir mewn cais am gydsyniad seilwaith yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trwydded forol dybiedig, mae adran 37 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru pan gaiff ei hysbysu am gais am ddatblygiad arfaethedig yn ardal forol Cymru.

99.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â chais am gydsyniad seilwaith.

100.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno adroddiad effaith ar y môr mewn cysylltiad â chais am gydsyniad seilwaith ac eithrio mewn ymateb i hysbysiad a roddir o dan adran 34(2)(b) neu gyfarwyddyd a roddir o dan adran 37(2).

101.Rhaid i adroddiad effaith ar y môr roi manylion am effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd morol.

102.Rhaid i adroddiad a gyflwynir mewn ymateb i is-adran (1) gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn yr hysbysiad. Rhaid i adroddiad a gyflwynir mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (2) gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir yn y cyfarwyddyd. Rhaid i adroddiad effaith ar y môr a gyflwynir yn wirfoddol, ac eithrio mewn ymateb i hysbysiad neu gyfarwyddyd, gael ei gyflwyno cyn y dyddiad cau a ddarperir ar gyfer ymateb i gyhoeddusrwydd o dan adran 34(3).

103.Mae’r adran hon hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ragnodi ffurf a chynnwys adroddiad effaith ar y môr a rhaid i unrhyw adroddiad a gyflwynir i Weinidogion Cymru gydymffurfio â’r gofynion hynny a bennir mewn rheoliadau.

Adran 38 – Hysbysiad am bersonau a chanddynt fuddiant mewn tir y mae archiad caffael gorfodol yn ymwneud ag ef

104.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru wedi derbyn cais am gydsyniad seilwaith sy’n cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, fod rhaid i’r ceisydd roi enwau ac unrhyw wybodaeth arall a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â phersonau a chanddynt fuddiant yn y tir i Weinidogion Cymru. Mae’n ofynnol i’r ceisydd ymholi’n ddyfal i ganfod enwau personau yr effeithir arnynt.

Adran 39 – Ymgynghoriad ar ôl cais mewn perthynas â chaffael gorfodol

105.Mae adran 39 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn gwneud darpariaeth i geisydd am gydsyniad seilwaith gynnal ymgynghoriad pan fo’r cais yn cynnwys archiad i gaffael tir yn orfodol, ac mewn cysylltiad â hynny. Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth fanwl ynghylch yr ymgynghoriad sy’n ofynnol, gan gynnwys yr wybodaeth sydd i’w darparu yn ystod yr ymgynghoriad ac amserlen yr ymgynghoriad.

Rhan 4 – Archwilio ceisiadau

106.Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn nodi’r prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer archwilio ceisiadau am gydsyniad seilwaith.

Penodi awdurdod archwilio

Adran 40 – Penodi awdurdod archwilio

107.Mae adran 40(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi person neu banel o bersonau i archwilio pob cais dilys am gydsyniad seilwaith.

108.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru benodi person neu banel o bersonau i archwilio cais i ddirymu neu newid gorchymyn cydsyniad seilwaith (er nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud hynny). Wrth benderfynu pa un a ddylid penodi person neu banel o bersonau i archwilio cais o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso unrhyw feini prawf a nodir mewn dogfen a gyhoeddir o dan is-adran (3).

109.Caiff Gweinidogion Cymru benodi person neu benodi person i banel neu ddirymu penodiad person neu berson ar banel ar unrhyw adeg.

110.Mae’r adran hon hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth bellach ar gyfer penodi person neu benodi panel o dan yr adran hon, neu mewn cysylltiad â hynny.

111.Yn y Ddeddf cyfeirir at berson neu banel o bersonau a benodir o dan yr adran hon fel “awdurdod archwilio”.

Archwilio ceisiadau

Adran 41 – Awdurdod archwilio i archwilio ceisiadau

112.Mae adran 41 yn darparu bod gan awdurdod archwilio y swyddogaeth o archwilio cais y’i penodir mewn cysylltiad ag ef.

Adran 42 – Dewis o ymchwiliad, gwrandawiad neu weithdrefn ysgrifenedig

113.Mae adran 42 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod archwilio ddyfarnu sut y mae pob cais a archwilir ganddo i’w archwilio cyn diwedd cyfnod a bennir mewn rheoliadau.

114.Rhaid i’r awdurdod archwilio ddyfarnu pa un a yw’r cais i’w archwilio ar sail y cais ac ar sail unrhyw sylwadau ysgrifenedig (os oes rhai) ynghylch y cais mewn gwrandawiad, mewn ymchwiliad lleol neu drwy unrhyw gyfuniad o’r gweithdrefnau hyn. Rhaid i’r awdurdod archwilio ddarparu y bydd archwiliad o’r cais yn cynnwys gwrandawiad, oni bai bod y dyfarniad yn darparu ar gyfer ymchwiliad lleol neu fod yr awdurdod archwilio yn ystyried na fyddai gwrandawiad yn cynorthwyo’r archwiliad.

115.Caniateir i’r awdurdod archwilio amrywio ei ddyfarniad o ran sut y mae cais i’w archwilio ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar y cais sy’n cael ei archwilio.

116.Mae’n ofynnol i’r awdurdod archwilio hysbysu unrhyw berson neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau am ei ddyfarniad o dan is-adran (1). Rhaid i’r awdurdod archwilio hefyd hysbysu personau a bennir mewn rheoliadau os bydd yn amrywio dyfarniad a wnaed o dan is-adran (1).

117.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi dogfen sy’n nodi’r meini prawf sydd i’w cymhwyso gan awdurdod archwilio wrth ddyfarnu sut y mae cais i’w archwilio.

118.Mae swyddogaethau awdurdod archwilio yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 43 neu 44.

Adran 43 – Gwrandawiadau llawr agored

119.Mae adran 43 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod archwilio beri bod gwrandawiad llawr agored yn cael ei gynnal mewn cysylltiad ag archwilio cais o dan Ran 4. A chaiff y rheoliadau wneud y gofyniad i gynnal gwrandawiad llawr agored yn ddarostyngedig i amodau. Yn yr adran hon “gwrandawiad llawr agored” yw gwrandawiad lle y mae gan bob parti a chanddo fuddiant hawlogaeth i wneud sylwadau llafar ynghylch y cais, yn ddarostyngedig i bwerau’r awdurdod archwilio i reoli’r dull o gynnal y gwrandawiad.

Adran 44 – Y weithdrefn archwilio

120.Mae adran 44 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag archwilio cais o dan Ran 4.

Adran 45 – Pŵer i fynd ar dir mewn cysylltiad ag archwiliad

121.Mae adran 45 yn darparu y caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fynd ar dir yng Nghymru ar adeg resymol er mwyn edrych ar y tir mewn cysylltiad â’r archwiliad o gais.

122.Mae is-adran (2) yn nodi’r amodau sy’n gymwys pan fo person yn mynd ar dir. Mae is-adran (2)(e) yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu amodau eraill ar gyfer mynd ar y tir wrth roi eu hawdurdodiad.

123.Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer y pŵer i fynd ar dir ac mae’n agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Adran 46 – Pŵer i fynd ar dir y Goron mewn cysylltiad ag archwiliad

124.Mae adran 46 yn darparu na chaiff person fynd ar dir y Goron mewn cysylltiad ag archwiliad o gais, oni fo wedi cael caniatâd person yr ymddengys bod ganddo hawl i’w roi neu awdurdod priodol y Goron (gweler adran 134 am y diffiniad o “awdurdod priodol y Goron”).

125.Mae’r adran hon hefyd yn darparu nad yw is-adrannau penodedig o adran 45 yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron.

Adran 47 – Pŵer awdurdod archwilio i gynnal ymchwiliad lleol

126.Mae adran 47 yn caniatáu i awdurdod archwilio gynnal ymchwiliad lleol at ddibenion archwilio cais.

127.Caiff yr awdurdod archwilio, drwy wŷs, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson fod yn bresennol yn yr ymchwiliad yn unol â’r gofynion a bennir yn y wŷs a rhoi tystiolaeth, a’i gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddangos unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud ag unrhyw fater o dan sylw yn yr ymchwiliad.

128.Rhaid i’r wŷs bennu ar ba adeg ac ym mha le y mae’n ofynnol i’r person fod yn bresennol. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i’r person fod yn bresennol oni fo’i dreuliau am fod yn bresennol yn cael eu talu neu eu cynnig i’r person.

129.Pan fo person yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad mewn gwŷs neu’n methu â chydymffurfio â gofyniad o’r fath yn fwriadol, neu’n newid, yn atal, yn cuddio neu’n dinistrio’n fwriadol ddogfen y mae’n ofynnol i’r person ei dangos, bydd y person wedi cyflawni trosedd a gellir ei roi ar brawf mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron. Os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.

130.Caiff yr awdurdod archwilio sy’n cynnal yr ymchwiliad hefyd weinyddu llwon a chymryd tystiolaeth o dan lw.

Adran 48 – Mynediad at dystiolaeth mewn ymchwiliad

131.Pan gynhelir ymchwiliad lleol, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol bod yr holl dystiolaeth lafar yn cael ei chlywed yn gyhoeddus a bod yr holl dystiolaeth ddogfennol ar gael i’r cyhoedd edrych arni.

132.Fodd bynnag, caiff Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (“awdurdod gweinidogol”) gyfarwyddo nad yw tystiolaeth lafar i’w chlywed, ac nad yw tystiolaeth ddogfennol ar gael i edrych arni, ond gan bersonau penodol yn unig (ac nid y cyhoedd) os yw’r awdurdod gweinidogol wedi ei fodloni y byddai datgelu’r dystiolaeth i’r cyhoedd yn debygol o arwain at ddatgelu gwybodaeth am ddiogelwch cenedlaethol neu fesurau a gymerwyd (neu sydd i’w cymryd) i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu eiddo ac y byddai datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd yn erbyn y buddiant cenedlaethol.

133.Os yw awdurdod gweinidogol yn ystyried rhoi cyfarwyddyd o’r fath, caiff y Cwnsler Cyffredinol benodi person (“cynrychiolydd penodedig”) i gynrychioli buddiannau personau sydd wedi eu hatal rhag gwrando ar dystiolaeth neu edrych ar dystiolaeth.

134.Mae’r adran hon hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan awdurdod gweinidogol cyn y rhoddir cyfarwyddyd pan fo cynrychiolydd penodedig wedi ei benodi ac ynghylch swyddogaethau cynrychiolydd penodedig.

Adran 49 – Talu cynrychiolydd penodedig pan fo mynediad at dystiolaeth wedi ei gyfyngu

135.Mae adran 49 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu’r cynrychiolydd penodedig pa un a yw’r ymchwiliad yn digwydd ai peidio.

Adran 50 – Aseswyr

136.Mae adran 50 yn caniatáu i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benodi asesydd er mwyn cynorthwyo i archwilio cais. Gallai asesydd gynorthwyo i archwilio mater arbenigol penodol neu bwnc penodol. Ni chaniateir penodi person yn asesydd onid yw’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru yn ystyried bod y person yn meddu ar arbenigedd sy’n addas i gynorthwyo’r awdurdod archwilio.

Adran 51 – Cymorth cyfreithiol

137.Mae adran 51 yn caniatáu i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benodi bargyfreithiwr neu gyfreithiwr i ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol i’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’r archwiliad o dan Ran 4 o’r Ddeddf.

138.Pan benodir bargyfreithiwr neu gyfreithiwr caiff y bargyfreithiwr neu’r cyfreithiwr, er enghraifft, gynorthwyo’r awdurdod archwilio drwy gwestiynu ar lafar berson sy’n cyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad neu ymchwiliad ar ran yr awdurdod archwilio.

Adran 52 – Adroddiadau gan awdurdod archwilio

139.Pan fo gan Weinidogion Cymru y swyddogaeth o benderfynu ar gais, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod archwilio gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru. Rhaid i’r adroddiad nodi canfyddiadau a chasgliadau’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’r cais a’i argymhellion ynghylch y penderfyniad sydd i’w wneud ar y cais.

Adran 53 – Pŵer i gyfarwyddo archwiliad pellach

140.Mae adran 53 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod archwilio i ailagor ei archwiliad o gais ar ôl cael adroddiad gan yr awdurdod archwilio.

141.Pan ailagorir archwiliad, rhaid ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion a bennir yn y cyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (1). Rhaid i’r cyfarwyddyd gynnwys datganiad sy’n egluro pam y’i rhoddir a chael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei roi.

142.Mae’r ddyletswydd sydd ar awdurdod archwilio yn adran 52 yn gymwys i unrhyw archwiliad pellach sy’n ofynnol yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan yr adran hon.

Adran 54 – Gorchmynion yn ymwneud â chostau partïon mewn achos archwilio

143.Mae adran 54 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion ynghylch costau’r ceisydd, costau awdurdod cynllunio, costau Gweinidogion Cymru eu hunain neu gostau unrhyw barti arall mewn achos archwilio (a gaiff gynnwys costau mewn cysylltiad â gwrandawiad neu ymchwiliad nad yw’n digwydd) ac ynghylch y person neu’r personau y mae’n rhaid iddynt dalu’r costau hyn.

144.Mae is-adran (4) yn nodi sut y mae costau sy’n daladwy yn rhinwedd gorchymyn o’r fath i’w hadennill.

Rhan 5 – Penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith

145.Mae rhan 5 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau ynghylch penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith.

146.Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch pwy sy’n penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith a wneir o dan adran 32 (“cais”), yr hyn y mae’n rhaid i benderfynwr ei ystyried wrth benderfynu ar gais, yr amserlen ar gyfer gwneud y penderfyniad, a gwneud y penderfyniad.

Penderfynwr

Adran 55 – Swyddogaeth penderfynu ar geisiadau

147.Mae adran 55 yn datgan mai’r awdurdod archwilio sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau ac mai Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar unrhyw gais arall am gydsyniad seilwaith.

148.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo mai awdurdod archwilio sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar y cais yn lle Gweinidogion Cymru, neu mai Gweinidogion Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu ar gais yn lle awdurdod archwilio.

Polisïau statudol a materion perthnasol eraill

Adran 56 – Penderfynu ar geisiadau: ystyriaethau cyffredinol

149.Mae adran 56 yn darparu bod rhaid penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith drwy roi sylw i unrhyw ddatganiad polisi seilwaith sy’n cael effaith mewn perthynas â datblygiad o’r disgrifiad y mae cais yn ymwneud ag ef (“datganiad polisi perthnasol”), Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru (a gyhoeddwyd gyntaf yn 2019 gyda’r teitl Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040), i’r graddau y mae’n berthnasol i ddatblygiad o’r disgrifiad y mae cais yn ymwneud ag ef a chynllun morol a luniwyd ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru (a gyhoeddwyd gyntaf yn 2019 gyda’r teitl Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru). Mae hefyd yn darparu bod rhaid i unrhyw benderfyniad ar gais am gydsyniad seilwaith gael ei wneud yn unol â’r polisïau statudol a restrir yn yr adran hon, oni fo ystyriaethau perthnasol yn dangos fel arall.

150.Mae is-adran (2) yn darparu, os yw dogfen bolisi statudol a restrir yn yr adran hon yn nodi bod lleoliad yn addas, neu y gallai fod yn addas, ar gyfer datblygiad penodol, nad yw hynny yn atal gwneud penderfyniad gwahanol ar gais os yw ystyriaethau perthnasol eraill yn dangos y dylid gwneud hynny.

Adran 57 – Dyletswydd i roi sylw i faterion penodol wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau

151.Mae adran 57 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) i roi’r sylw i’r canlynol wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith:

  • unrhyw adroddiad ar yr effaith leol neu unrhyw adroddiad ar yr effaith forol a gyflwynir i Weinidogion Cymru cyn y dyddiadau cau a bennir o dan adrannau 36 a 37,

  • unrhyw archwiliad a gynhelir o dan Ran 4,

  • unrhyw faterion a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â datblygiad o’r disgrifiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef,

  • dymunoldeb lliniaru newid hinsawdd ac ymaddasu iddo, ac

  • unrhyw ystyriaeth berthnasol arall.

Adran 58 – Materion y caniateir eu diystyru wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau

152.Mae adran 58 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio ddiystyru sylwadau wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith, os ydynt neu os yw’n ystyried bod y sylwadau:

  • yn flinderus neu’n wacsaw,

  • yn ymwneud â rhinweddau polisi a nodir mewn datganiad polisi seilwaith, yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol neu mewn unrhyw gynllun morol, neu

  • yn ymwneud â digolledu am gaffael yn orfodol dir neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir.

153.Caiff rheoliadau ddiwygio’r materion y caniateir eu diystyru i bennu materion pellach neu i newid neu ddileu materion a bennir yn y rheoliadau hynny.

Yr amserlen

Adran 59 – Yr amserlen ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith

154.Mae adran 59 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amserlen ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith. Mae is-adran (1) yn datgan bod rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benderfynu ar gais cyn diwedd y cyfnod o 52 o wythnosau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y cais ei dderbyn yn gais dilys neu unrhyw gyfnod arall y cytunir arno rhwng y ceisydd a Gweinidogion Cymru.

155.Mae adran 59(2) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i estyn, drwy gyfarwyddyd, y cyfnodau ar gyfer penderfynu ar gais a grybwyllir yn is-adran (1). Caiff Gweinidogion Cymru roi mwy nag un cyfarwyddyd mewn perthynas â chais (gan ganiatáu iddynt estyn y cyfnod penderfynu sawl gwaith) a chaniateir iddynt roi cyfarwyddyd ar ôl diwedd y cyfnodau a grybwyllir yn is-adran (1).

156.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a phersonau eraill a bennir mewn rheoliadau am y cyfarwyddyd, cyhoeddi’r cyfarwyddyd a gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i rhoddwyd.

157.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno i’r Senedd adroddiadau blynyddol ar eu cydymffurfedd â’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1) a sut y maent yn arfer y swyddogaethau a roddir gan is-adran (2).

158.Mae is-adran (6) yn caniatáu i’r cyfnod o 52 o wythnosau a grybwyllir yn is-adran (1)(a) gael ei ddiwygio drwy reoliadau.

Y penderfyniad

Adran 60 – Rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith

159.Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais, mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru naill ai gwneud gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad seilwaith neu wrthod rhoi cydsyniad seilwaith.

160.Pan fydd awdurdod archwilio wedi penderfynu ar gais, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol iddo naill ai hysbysu Gweinidogion Cymru am ei benderfyniad i wneud gorchymyn yn rhoi cydsyniad seilwaith neu wrthod rhoi cydsyniad seilwaith.

161.Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad gan yr awdurdod archwilio bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i‘w wneud, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y gorchymyn.

162.Mae’r adran hon hefyd yn pennu, pan fo cydsyniad seilwaith naill ai yn cael ei roi neu ei wrthod, bod rhaid i geisyddion, awdurdodau cynllunio lleol a chynghorau cymuned perthnasol, Cyfoeth Naturiol Cymru (pan fo adroddiad effaith ar y môr wedi ei gyflwyno) ac unrhyw berson arall neu unrhyw bersonau eraill o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau gael eu hysbysu am y penderfyniad.

163.Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth sy’n rheoleiddio’r weithdrefn i’w dilyn os yw Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith ar delerau sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynigir yn y cais.

Adran 61 – Datblygiad y caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar ei gyfer

164.Mae adran 61 yn pennu’r datblygiad y caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar ei gyfer.

165.Caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer, yn ogystal â “datblygiad cysylltiedig”.

166.“Datblygiad cysylltiedig” yw datblygiad sy’n gysylltiedig â datblygiad y mae cydsyniad seilwaith y ofynnol ar ei gyfer (neu unrhyw ran ohono) ac sy’n gyfan gwbl yng Nghymru, yn gyfan gwbl yn ardal forol Cymru neu’n gyfan gwbl yng Nghymru ac ardal forol Cymru.

167.Ceir esboniad o ystyr “Cymru” ac “ardal forol Cymru” yn adran 143 (dehongli cyffredinol).

168.Os rhoddir cydsyniad seilwaith ar gyfer “datblygiad cysylltiedig”, nid yw’n ofynnol cael unrhyw un o’r cydsyniadau a grybwyllir yn adran 20 (fel y caniateir diwygio’r adran honno gan adran 21]) ar gyfer y “datblygiad cysylltiedig”.

Adran 62 – Rhesymau dros benderfynu rhoi neu wrthod cydsyniad seilwaith

169.Mae adran 62 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio datganiad o’u rhesymau dros benderfynu naill ai gwneud gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad seilwaith neu wrthod rhoi cydsyniad seilwaith. Rhaid anfon copi o’r datganiad at y ceisydd, unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais, Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais ac unrhyw berson neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau. Rhaid i’r datganiad gael ei gyhoeddi yn y modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

170.Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod archwilio lunio datganiad o’i resymau dros benderfynu gwneud neu wrthod gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad seilwaith. Rhaid anfon copi o’r datganiad at y ceisydd, unrhyw awdurdod cynllunio neu gyngor cymuned sydd wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais, Cyfoeth Naturiol Cymru os yw wedi cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais ac unrhyw berson neu unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau. Rhaid i’r datganiad gael ei gyhoeddi yn y modd y mae’r awdurdod archwilio yn ystyried ei fod yn briodol.

Rhan 6 – Gorchmynion cydsyniad seilwaith

171.Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â gorchmynion cydsyniad seilwaith. Mae adran 63 yn pennu yr hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith. Mae adrannau 64 i 72 yn gwneud darpariaethau ynghylch gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol. Mae adrannau 73 i 84 yn darparu cyfyngiadau penodol ar yr hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn, a hefyd yn darparu pwerau penodol i gynnwys darpariaethau penodol mewn gorchmynion. Mae adran 85 yn nodi manylion y weithdrefn ar gyfer cyhoeddi gorchmynion cydsyniad seilwaith.

172.Mae adrannau 86 i 93 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith. Mae adrannau 94 i 101 yn ymwneud ag effaith gorchmynion cydsyniad seilwaith ac maent yn cynnwys darpariaethau ynghylch cyfnod para gorchymyn cydsyniad seilwaith, heriau cyfreithiol, rhwymedigaethau cynllunio a digolledu mewn achosion pan fo amddiffyniad o awdurdodiad statudol yn gymwys mewn achos sifil neu droseddol am niwsans.

Darpariaeth mewn gorchmynion: cyffredinol

Adran 63 – Yr hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith

173.Mae’r adran hon yn pennu’r hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith.

174.Mae is-adrannau (1) a (2) yn darparu y caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith osod gofynion mewn perthynas â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer. Mae’r mathau o ofynion y caniateir eu gosod yn cynnwys gofynion sy’n cyfateb i amodau y gellid bod wedi eu gosod wrth roi unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu awdurdodiad, neu roi unrhyw hysbysiad a fyddai wedi bod yn ofynnol ar gyfer y datblygiad oni bai am adran 20(1) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 84. Mae’r gofynion y caniateir eu gosod hefyd yn cynnwys y rhwymedigaeth i gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru neu unrhyw berson arall, i’r graddau nad yw hynny o fewn adran 63(2)(a).

175.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith hefyd wneud darpariaeth yn ymwneud â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer, neu faterion sy’n atodol iddo. Mae’r darpariaethau y caniateir eu gwneud o dan yr is-adran hon yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir yn Atodlen 1 (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i hynny).

176.Mae is-adran (4) yn pennu bod y ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

177.Mae is-adran (5) yn darparu y caiff rheoliadau ychwanegu mater at Ran 1 o Atodlen 1 neu amrywio neu ddileu unrhyw fater a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

178.Mae is-adran (6) yn darparu y caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gymhwyso, addasu neu eithrio deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw fater y caniateir gwneud darpariaeth ar ei gyfer yn y gorchymyn. Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith hefyd ddiwygio, ddiddymu neu ddirymu deddfiadau sy’n gymwys yn lleol y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol o ganlyniad i ddarpariaeth yn y gorchymyn neu mewn cysylltiad â’r gorchymyn. Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith hefyd gynnwys unrhyw ddarpariaeth y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn briodol er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth arall yn y gorchymyn a chaiff hefyd gynnwys unrhyw ddarpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth atodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

179.Mae is-adran (7) yn datgan na chaiff gorchmynion cydsyniad seilwaith greu troseddau, rhoi pŵer i greu troseddau na newid pŵer presennol i greu troseddau oni fo’r ddarpariaeth yn ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir ym mharagraff 29(1) o Atodlen 1 (creu troseddau penodol).

180.Mae is-adran (8) yn datgan, i’r graddau y caniateir cynnwys darpariaeth ar gyfer mater neu sy’n ymwneud â mater mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith, na chaniateir gwneud darpariaeth o’r math hwnnw drwy orchymyn o dan adran 14 neu 16 o Ddeddf Harbyrau 1964 neu orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992.

Darpariaeth mewn gorchmynion sy’n awdurdodi caffael yn orfodol

Adran 64 – Diben caniatáu awdurdodi caffael yn orfodol

181.Mae adran 64 yn darparu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol onid yw Gweinidogion Cymru yn fodlon bod y tir:

  • yn ofynnol ar gyfer y datblygiad y mae’r cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef,

  • yn ofynnol er mwyn hwyluso’r datblygiad hwnnw neu fod y tir yn ddeilliadol i’r datblygiad hwnnw, neu

  • yn dir amnewid sydd i’w roi yn gyfnewid am y tir yr awdurdodir ei gaffael yn orfodol o dan adran 70 (tiroedd comin, mannau agored etc: caffael tir yn orfodol) neu adran 71 (tiroedd comin, mannau agored etc: caffael hawliau dros dir yn orfodol),

a bod achos cymhellol er budd y cyhoedd i’r tir gael ei gaffael yn orfodol.

Adran 65 – Tir y gall awdurdodiad i gaffael yn orfodol ymwneud ag ef

182.Mae adran 65 yn darparu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol onid yw’r tir yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru a bod un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni:

  • yr amod yn is-adran (2) yw bod y cais am gydsyniad seilwaith yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael y tir yn orfodol;

  • yr amod yn is-adran (3) yw bod yr holl bersonau a chanddynt fuddiant yn y tir yn cydsynio i’r ddarpariaeth hon gael ei chynnwys;

  • yr amod yn is-adran (4) yw bod y weithdrefn a bennir mewn rheoliadau wedi ei dilyn mewn perthynas â’r tir hwnnw.

183.Mae “Cymru” ac “ardal forol Cymru” wedi eu diffinio yn adran 143.

Adran 66 – Cais am ddarpariaethau caffael yn orfodol

184.Mae adran 66 yn darparu bod Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 yn gymwys (gydag addasiadau penodedig) i unrhyw orchymyn cydsyniad seilwaith sy’n cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol.

185.Fodd bynnag, caiff y gorchymyn ei hun wneud darpariaethau i’r gwrthwyneb.

186.Mae Deddf Prynu Gorfodol 1965 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer prynu gorfodol.

Adran 67 – Digolledu am gaffael tir yn orfodol

187.Mae adran 67 yn cyfyngu ar y ddarpariaeth y caniateir ei gwneud ynghylch digolledu am gaffael tir yn orfodol mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael tir yn orfodol.

Adran 68 – Tir ymgymerwyr statudol

188.Mae’r adran hon yn nodi’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i orchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi caffael yn orfodol dir ymgymerwyr statudol.

189.Mae adran 68 yn gymwys i dir (“tir ymgymerwyr statudol”) y mae ymgymerwr statudol wedi ei gaffael at ddiben ei ymgymeriad ac, o ganlyniad i sylw a wnaed ynghylch cais am gydsyniad seilwaith, mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y defnyddir y tir at ddibenion cyflawni ymgymeriad yr ymgymerwr statudol neu y delir buddiant yn y tir at y dibenion hynny.

190.Er mwyn i orchymyn cydsyniad seilwaith gael ei wneud sy’n cynnwys darpariaeth yn awdurdodi caffael tir ymgymerwr statudol yn orfodol, rhaid bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod natur a lleoliad y tir yn golygu:

  • y gellir prynu’r tir a pheidio â’i amnewid heb niwed difrifol i gyflawni’r ymgymeriad, neu

  • y gellir ei brynu a’i amnewid am dir arall heb unrhyw niwed o’r fath.

191.Yn yr un modd, ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth yn awdurdodi caffael hawl dros dir ymgymerwyr statudol yn orfodol onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni:

  • y gellir prynu’r hawl heb niwed difrifol i gyflawni’r ymgymeriad, neu

  • y gellir unioni unrhyw niwed drwy ddefnyddio tir arall gan yr ymgymerwr statudol.

Adran 69 – Tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

192.Mae adran 69 yn gymwys i dir y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arno a ddelir gan yr Ymddiriedolaeth yn anhrosglwyddadwy. Mae’n darparu y bydd gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael tir o’r fath yn orfodol yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd os yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwneud gwrthwynebiad mewn sylw ynghylch cais am gydsyniad seilwaith ac nad yw’r gwrthwynebiad hwnnw wedi ei dynnu yn ôl.

Adran 70 – Tiroedd comin, mannau agored etc.: caffael tir yn orfodol

193.Mae adran 70 yn gymwys i dir sy’n ffurfio rhan o dir comin, man agored neu randir tanwydd neu ardd gae, pan nad yw’r caffaeliad yn ymwneud â chaffael hawl newydd dros dir. Mae’r adran hon yn darparu y bydd gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael tir o’r fath yn orfodol yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o’r canlynol yn gymwys:

  • bod tir amnewid wedi ei roi neu y bydd yn cael ei roi yn gyfnewid am y tir yr awdurdodir ei gaffael yn orfodol (“tir y gorchymyn”) ac y bydd y tir amnewid wedi ei freinio yn y darpar werthwr ac yn ddarostyngedig i’r un hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion;

  • pan fo tir y gorchymyn yn fan agored yn unig neu’n ffurfio rhan o fan agored yn unig, nad oes unrhyw dir addas ar gael i’w roi yn gyfnewid neu nad yw tir addas ar gael ond am bris afresymol, a’i bod er budd y cyhoedd i ddechrau’r datblygiad yn gynharach nag sy’n debygol o fod yn bosibl pe bai’r gorchymyn yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd;

  • pan fo tir y gorchymyn yn fan agored yn unig neu’n ffurfio rhan o fan agored yn unig, ei fod yn cael ei gaffael at ddiben dros dro;

  • os nad yw’r tir a gaffaelir yn fwy na 200 metr sgwâr o faint neu os yw’n angenrheidiol er mwyn lledu neu ddraenio priffordd bresennol (neu yn rhannol er mwyn lledu ac yn rhannol er mwyn draenio priffordd o’r fath), a bod rhoi tir arall yn gyfnewid amdano yn ddiangen.

194.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o’r eithriadau hyn yn gymwys, rhaid iddynt gofnodi’r ffaith honno yn y gorchymyn neu fel arall yn yr offeryn neu ddogfen arall sy’n cynnwys y gorchymyn.

195.Ni chaiff unrhyw dir amnewid fod yn ddim llai o ran arwynebedd na’r tir a gaffaelir yn orfodol, ac ni chaiff fod yn llai manteisiol na’r tir hwnnw.

Adran 71 – Tiroedd comin, mannau agored etc.: caffael hawliau dros dir yn orfodol

196.Mae adran 71 yn gymwys i dir sy’n ffurfio rhan o dir comin, man agored neu randir tanwydd neu ardd gae. Mae’r adran hon yn darparu y bydd gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael yn orfodol hawl newydd dros dir o’r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd oni fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o’r canlynol yn gymwys:

  • na fydd tir y gorchymyn, pan fydd hawl y gorchymyn yn weithredol drosto, yn llai manteisiol nag yr oedd ynghynt i’r personau y’i breinir ynddynt, ac unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill, a’r cyhoedd;

  • bod tir amnewid wedi ei roi neu y bydd yn cael ei roi yn gyfnewid am hawl y gorchymyn a bod y tir hwnnw wedi ei freinio neu bydd yn cael ei freinio yn y personau y breinir tir y gorchymyn ynddynt ac y bydd y tir amnewid hwnnw yn ddarostyngedig i’r un hawliau, ymddiriedolaethau a nodweddion â thir y gorchymyn;

  • pan fo’r tir yn fan agored yn unig, nad oes unrhyw dir addas ar gael i’w roi yn gyfnewid am hawl y gorchymyn neu nad yw tir addas ar gael ond am bris afresymol, a’i fod er budd y cyhoedd i ddechrau’r datblygiad yn gynharach nag sy’n debygol o fod yn bosibl pe bai’r gorchymyn yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd;

  • pan fo tir y gorchymyn yn fan agored yn unig, a’i fod yn cael ei gaffael at ddiben dros dro;

  • os nad yw’r tir y caffaelir yr hawl drosto yn fwy na 200 metr sgwâr o faint neu os yw’r hawl yn angenrheidiol er mwyn lledu neu ddraenio priffordd bresennol (neu mewn cysylltiad yn rhannol â lledu ac yn rhannol â draenio priffordd o’r fath), a bod rhoi tir arall yn gyfnewid am hawl y gorchymyn yn ddiangen er budd y person sydd â hawlogaeth i hawliau comin neu hawliau eraill neu er budd y cyhoedd.

197.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o’r eithriadau hyn yn gymwys, rhaid iddynt gofnodi’r ffaith honno yn y gorchymyn neu fel arall yn yr offeryn neu ddogfen arall sy’n cynnwys y gorchymyn.

198.Yn yr adran hon, ystyr “hawl y gorchymyn” yw’r hawl yr awdurdodir ei chaffael yn orfodol, ac ystyr “tir y gorchymyn” yw’r tir y mae hawl y gorchymyn i fod yn arferadwy drosto. Ystyr “tir amnewid” yw tir a fydd yn ddigonol i ddigolledu’r personau a grybwyllir yn y diffiniad o “tir amnewid” yn is-adran (9) am yr anfanteision a fyddai’n digwydd iddynt o ganlyniad i gaffael hawl newydd dros dir yn orfodol.

Adran 72 – Hysbysiad o awdurdodiad i gaffael yn orfodol

199.Mae adran 72 yn darparu bod rhaid i reoliadau gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson a awdurdodwyd gan orchymyn cydsyniad seilwaith i gaffael tir yn orfodol neu i berson y mae’r gorchymyn yn awdurdodi creu hawl newydd er ei fudd (“y darpar brynwr”) roi, gyhoeddi neu arddangos “hysbysiad caffael gorfodol” ac i alluogi’r cyhoedd i weld copi o’r gorchymyn cydsyniad seilwaith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

200.Hysbysiad yw “hysbysiad caffael gorfodol” sydd ar y ffurf a bennir mewn rheoliadau sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn is-adran (2).

201.Rhaid hefyd anfon yr hysbysiad at y Prif Gofrestrydd Tir ac mae i fod yn bridiant tir lleol mewn cysylltiad â’r tir y mae’n ymwneud ag ef.

Darpariaeth mewn gorchmynion: cyfyngiadau a phwerau penodol

Adran 73 – Hawliau tramwy cyhoeddus

202.Mae adran 73 yn pennu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ond diddymu hawl tramwy cyhoeddus dros dir os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod hawl tramwy arall wedi ei darparu neu y bydd yn cael ei darparu, neu nad yw’n ofynnol.

203.Pan fo gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir ac yn diddymu hawl tramwy cyhoeddus nad yw’n hawl tramwy cerbydol dros y tir, ni chaiff y gorchymyn ddarparu i’r hawl tramwy gael ei diddymu yn gynharach na’r dyddiad y cyhoeddir y gorchymyn, a rhaid i Weinidogion Cymru gyfarwyddo y bydd yr hawl tramwy yn cael ei adfer os diddymir yr hawl dros y tir cyn cwblhau caffael y tir ac, ar unrhyw adeg ar ôl yr adeg y diddymir yr hawl ei bod yn ymddangos i Weinidogion Cymru y rhoddwyd y gorau i’r cynnig i gaffael y tir.

Adran 74 – Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill

204.Mae’r adran hon yn diwygio adran 205 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 fel bod y pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill ar gyfer cynnal gwaith adeiladu neu waith cynnal a chadw yn adran 203 o’r Ddeddf honno a’r pŵer dilynol i dalu digollediad yn adran 204 yn gymwys pan fo cydsyniad seilwaith wedi ei roi ar gyfer y gwaith adeiladu neu’r gwaith cynnal a chadw.

Adran 75 – Diddymu hawliau, a symud ymaith gyfarpar, ymgymerwyr statudol etc.

205.Mae adran 75 yn gymwys pan fo gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir a bod y tir yn dod o dan unrhyw neu ragor o’r categorïau a ganlyn:

  • tir y mae gan ymgymerwr statudol neu weithredwr rhwydwaith cod cyfathrebu electronig hawl drosto a bennir yn is-adran (2) (“hawl berthnasol”);

  • bod “cyfamod cyfyngol perthnasol” yn gymwys i’r tir (sef cyfamod cyfyngol sydd o fudd i’r ymgymerwyr statudol wrth iddynt gynnal eu hymgymeriadau);

  • bod cyfarpar cyfathrebu electronig neu gyfarpar a freiniwyd yn yr ymgymerwyr statudol neu gyfarpar sy’n eiddo iddynt (“cyfarpar perthnasol”) ar y tir, odano neu drosto.

206.Pan fo’r adran hon yn gymwys, ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ddiddymu hawl berthnasol neu gyfamod cyfyngol perthnasol neu symud ymaith gyfarpar perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod gwneud hynny yn angenrheidiol i gynnal y datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef.

Adran 76 – Tir y Goron

207.Mae adran 76(1) yn darparu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi caffael buddiant yn nhir y Goron yn orfodol (mae “Tir y Goron” wedi ei ddiffinio yn adran 134) oni fo’r buddiant yn cael ei ddal am y tro ac eithrio gan y Goron neu ar ran y Goron, a bod awdurdod priodol y Goron (mae “awdurdod priodol y Goron” wedi ei ddiffinio yn adran 134) yn cydsynio i’r caffael.

208.Mae is-adran (2) yn darparu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys unrhyw ddarpariaeth arall sy’n gymwys mewn perthynas â thir y Goron, neu hawliau y mae’r Goron yn cael budd ohonynt, oni fo awdurdod priodol y Goron yn cydsynio.

Adran 77 – Gweithredu gorsafoedd cynhyrchu

209.Mae’r adran hon yn darparu na chaniateir gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi gweithredu gorsaf gynhyrchu onid yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn golygu neu’n cynnwys adeiladu neu estyn yr orsaf gynhyrchu.

Adran 78 – Cadw llinellau trydan yn osodedig uwchben y ddaear

210.Mae’r adran hon yn darparu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi cadw llinellau trydan yn osodedig uwchben y ddaear onid yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn golygu neu’n cynnwys gosod y llinell uwchben y ddaear.

Adran 79 – Dargyfeirio cyrsiau dŵr

211.Mae’r adran hon yn darparu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi dargyfeirio unrhyw ran o gwrs dŵr mordwyol gael ei wneud onid yw’r darn newydd arfaethedig o gwrs dŵr yn fordwyol mewn modd rhesymol gyfleus gan lestrau o fath sy’n gyfarwydd â defnyddio’r cwrs dŵr a ddargyfeirir.

212.Os yw gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi dargyfeirio unrhyw ran o gwrs dŵr mordwyol, cymerir hefyd fod y gorchymyn yn awdurdodi dargyfeirio unrhyw lwybr halio neu dramwyfa arall sy’n gyfagos i’r rhan honno.

Adran 80 – Priffyrdd

213.Mae’r adran hon yn darparu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi codi tollau mewn perthynas â phriffordd onid oes cais i’r perwyl hwnnw wedi ei gynnwys yn y cais am y gorchymyn.

Adran 81 – Harbyrau

214.Mae’r adran hon yn nodi’r amgylchiadau y caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ddarparu ar gyfer creu awdurdod harbwr, darparu ar gyfer addasu pwerau neu ddyletswyddau awdurdod harbwr, ac awdurdodi trosglwyddo eiddo, hawliau neu atebolrwyddau o un awdurdod harbwr i un arall odanynt.

Adran 82 – Gollwng dŵr

215.Mae’r adran hon yn gymwys i orchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi gollwng dŵr i ddyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol. Nid yw’r person y rhoddir cydsyniad seilwaith iddo yn cael pŵer cyffredinol i gymryd dŵr na’i gwneud yn ofynnol i ddŵr gael ei ollwng o’r dyfroedd mewndirol nac o darddleoedd eraill y bwriedir i’r gollyngiadau a awdurdodir gan y gorchymyn gael eu gwneud ohonynt.

Adran 83 – Cydsyniad tybiedig o dan drwydded forol

216.Mae’r adran hon yn darparu y caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith dybio y dyroddwyd trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ar gyfer unrhyw weithgaredd lle Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol (fel y’i diffinnir yn adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009) ar ei gyfer.

217.Nid yw person sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â’r drwydded forol dybiedig yn cyflawni trosedd o dan adran 104 o’r Ddeddf, ond yn hytrach mae’n cyflawni trosedd o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

218.Nid yw’r Ddeddf yn rhwystro trwydded forol dybiedig rhag cael ei hamrywio, ei hatal dros dro, ei dirymu neu ei throsglwyddo yn unol â Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

Adran 84 – Dileu gofynion cydsynio a thybio cydsyniadau

219.Mae adran 84(1) yn darparu y caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n dileu’r gofyniad i roi cydsyniad a bennir mewn rheoliadau, neu sy’n tybio bod cydsyniad a bennir mewn rheoliadau wedi ei roi, os yw’r awdurdod a fyddai fel arfer yn rhoi’r cydsyniad:

  • wedi rhoi ei gydsyniad i gynnwys y ddarpariaeth yn y gorchymyn cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau, neu

  • heb wrthod rhoi ei gydsyniad i gynnwys darpariaeth o’r fath cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau.

220.Mae is-adran (4) yn caniatáu i reoliadau ddarparu eithriadau i’r gofyniad i fodloni’r amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3).

Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion cydsyniad Seilwaith

Adran 85 – Gorchmynion cydsyniad seilwaith: eu cyhoeddi a’r weithdrefn

221.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gorchymyn cydsyniad seilwaith yn y modd y maent yn ystyried ei fod yn briodol.

222.Fodd bynnag rhaid i’r gorchymyn gael ei gynnwys mewn offeryn statudol os yw’r gorchymyn yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 63(3) sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a restrir ym mharagraffau 28 a 29 o Atodlen 1 (creu troseddau penodol drwy orchymyn cydsyniad seilwaith), neu ddarpariaeth a wneir wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 63(6)(a) neu (b) (addasu deddfiadau drwy orchymyn cydsyniad seilwaith).

223.Pan fo gorchymyn wedi ei gynnwys mewn offeryn statudol, mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru gopi o’r offeryn, y fersiwn ddiweddaraf o unrhyw blan a gyflenwyd gan y ceisydd mewn cysylltiad â’r cais a datganiad o’r rhesymau a luniwyd o dan adran 62 cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith etc.

Adran 86 – Ystyr “dogfennau penderfyniad” a “gwall”

224.Mae’r adran hon yn nodi diffiniadau at ddibenion adrannau 87 ac 88.

Adran 87 – Pŵer i gywiro gwallau mewn dogfennau penderfyniad

225.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i gywiro gwallau mewn dogfen penderfyniad (“dogfen penderfyniad” yw’r gorchymyn cydsyniad seilwaith neu’r hysbysiad sy’n hysbysu’r ceisydd bod ei gais am gydsyniad seilwaith wedi ei wrthod).

226.Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer i gywiro gwallau os ceir cais ysgrifenedig i gywiro gwall oddi wrth unrhyw berson neu heb i gais o’r fath gael ei wneud.

227.Mae is-adran (4) yn darparu, os yw’r ddogfen penderfyniad yn orchymyn cydsyniad seilwaith, bod rhaid i’r pŵer i gywiro gwallau gael ei arfer drwy orchymyn, ac os cynhwysir y gorchymyn sy’n cael ei gywiro mewn offeryn statudol, rhaid i’r pŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol.

228.Mae is-adran (5) yn darparu, os yw’r ddogfen penderfyniad yn hysbysiad o wrthodiad, bod rhaid i Weinidogion Cymru arfer eu pŵer i gywiro’r ddogfen drwy roi hysbysiad i’r ceisydd.

Adran 88 – Cywiro gwallau: rheoliadau

229.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn i gywiro gwall mewn dogfen penderfyniad.

230.Caiff y rheoliadau gynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth ynghylch:

  • unrhyw ymgynghoriad y mae rhaid iddo ddigwydd,

  • yr amgylchiadau pan fo rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad yn egluro’r rhesymau dros gywiro’r gwall,

  • effaith gwneud cywiriad a pheidio â gwneud cywiriad, a

  • pryd y mae cywiriad yn cymryd effaith.

Gwneud newidiadau i orchmynion cydsyniad seilwaith a’u dirymu

Adran 89 – Diffiniadau

231.Mae’r adran hon yn nodi diffiniadau at ddibenion adrannau 90 a 91.

Adran 90 – Pŵer i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith

232.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i newid gorchymyn cydsyniad seilwaith ac i ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith.

233.Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy newid gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan adran 63 (yr hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith), ond yn ddarostyngedig i’r rheolau yn yr adran hon.

234.Caniateir arfer y pŵer i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith ar gais a wneir gan y ceisydd neu olynydd yn nheitl y ceisydd, person a chanddo fuddiant yn y tir neu unrhyw berson arall y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael effaith er ei fudd, ac o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (4), caniateir i gais gael ei wneud gan awdurdod cynllunio.

235.Caiff Gweinidogion Cymru hefyd newid neu ddirymu gorchymyn cysyniad seilwaith heb i gais gael ei wneud.

236.Caiff Gweinidogion Cymru wrthod arfer y pŵer os ydynt o’r farn y dylai’r datblygiad, o ganlyniad i’r newid, fod yn destun cais am orchymyn cydsyniad seilwaith newydd.

237.Mae is-adran (7) yn rhoi enghreifftiau o rai o’r pethau y gellir eu gwneud gan ddefnyddio’r pŵer o dan is-adran (1) i newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith. Mae’n cynnwys, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i symud ymaith neu addasu adeiladau neu ofynion presennol a’i gwneud yn ofynnol i roi’r gorau i ddefnydd o dir.

238.Mae is-adran (8) yn egluro nad yw arfer y pŵer yn is-adran (1) yn effeithio ar unrhyw waith adeiladu na gweithrediadau eraill a gynhaliwyd eisoes, oni bai bod y newid neu ddirymu yn ei gwneud yn ofynnol i symud ymaith neu addasu gwaith adeiladu.

Adran 91 – Y weithdrefn: newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith

239.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn ar gyfer newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith.

240.Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid gwneud cais i newid neu ddirymu cydsyniad seilwaith, y broses o wneud penderfyniad ar gyfer cais o’r fath ac effaith penderfyniad i arfer y pŵer i newid neu ddirymu gorchymyn.

241.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo gan berson fuddiant ym mheth, ond nid y cyfan, o’r tir y mae gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef, na chaiff y person wneud cais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith ond mewn cysylltiad â’r tir y mae gan y person fuddiant ynddo.

242.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith sydd wedi ei gynnwys mewn offeryn statudol i hefyd gael ei gynnwys mewn offeryn statudol.

Adran 92 – Newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith: trefniadau ffurfiol

243.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gorchymyn a wneir o dan adran 87 neu 90 neu hysbysiad a roddir o dan adran 87 yn y modd y maent yn meddwl ei fod yn briodol, ond os yw’n ofynnol i’r gorchymyn gael ei gynnwys mewn offeryn statudol, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r offeryn gerbron Senedd Cymru.

Adran 93 – Newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith: digolledu

244.Gwneir darpariaeth ynghylch digolledu am newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith yn Atodlen 2.

Effaith gorchmynion cydsyniad Seilwaith

Adran 94 – Hyd gorchymyn cydsyniad seilwaith

245.Mae’r adran hon yn darparu, pan roddir cydsyniad i ddatblygiad drwy orchymyn cydsyniad seilwaith, bod rhaid i’r datblygiad hwnnw ddechrau o fewn cyfnod a bennir mewn rheoliadau, neu unrhyw gyfnod arall a bennir yn y gorchymyn. Canlyniad methu â dechrau datblygiad o fewn y cyfnod cymwys fydd bod y gorchymyn cydsyniad seilwaith yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

246.Pan fo gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i unrhyw gamau a bennir mewn rheoliadau gael eu cymryd cyn diwedd cyfnod a bennir mewn rheoliadau neu unrhyw gyfnod arall a bennir yn y gorchymyn. Os na chymerir y camau hyn cyn diwedd y cyfnod cymwys, mae’r awdurdodiad a roddir gan y gorchymyn i gaffael y tir yn orfodol yn peidio â chael effaith.

Adran 95 – Pryd y mae datblygiad yn dechrau

247.Mae’r adran hon yn datgan y cymerir bod datblygiad yn dechrau ar y dyddiad cynharaf y mae unrhyw weithrediad sylweddol sy’n ffurfio’r datblygiad, neu a gynhelir at ddibenion y datblygiad, yn dechrau cael ei gynnal.

248.Ystyr “gweithrediad sylweddol” yw unrhyw weithrediad, ond ceir pŵer yn is-adran (2) i Weinidogion Cymru nodi mewn rheoliadau y mathau o weithrediadau nad ydynt yn “gweithrediad sylweddol”.

Adran 96 – Heriau cyfreithiol

249.Mae’r adran hon yn darparu na chaniateir herio’r canlynol ond drwy adolygiad barnwrol:

  • gorchymyn cydsyniad seilwaith,

  • gwrthod rhoi cydsyniad seilwaith,

  • penderfyniad i beidio â derbyn cais yn gais dilys,

  • penderfyniad mewn perthynas â chywiro gwallau mewn dogfen penderfyniad,

  • penderfyniad mewn perthynas â newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu

  • unrhyw beth arall a wneir, neu nas gwneir, gan Weinidogion Cymru neu awdurdod archwilio mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith, neu gais i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith,

ac yn unol â darpariaethau’r adran hon. Yn benodol, mae’r adran yn pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid gwneud pob cais.

Adran 97 – Budd gorchymyn cydsyniad seilwaith

250.Mae adran 97 yn darparu y bydd gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael effaith er budd y tir y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef a phawb sydd am y tro â buddiant yn y tir, oni fo’r gorchymyn yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.

Adran 98 – Rhwymedigaethau cynllunio

251.Mae adran 98 yn diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“DCGTh”) er mwyn caniatáu i’r ceisydd am gydsyniad seilwaith ymrwymo i gytundebau gydag awdurdodau lleol, yn yr un modd ag y gall datblygwr sy’n ceisio caniatâd cynllunio o dan DCGTh. Gelwir y cytundebau hyn yn “rhwymedigaethau cydsyniad seilwaith”.

252.Mae is-adran (3) yn diwygio adran 106A o DCGTh. Effaith y diwygiad yw y caniateir amrywio neu ollwng rhwymedigaeth cydsyniad seilwaith drwy gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a’r person y mae’r rhwymedigaeth cydsyniad seilwaith yn orfodadwy yn ei erbyn. Mae’r diwygiad hefyd yn darparu y caiff y person y mae’r rhwymedigaeth cydsyniad seilwaith yn orfodadwy yn ei erbyn wneud cais i Weinidogion Cymru i’r rhwymedigaeth gael ei gollwng neu ei hamrywio (os Gweinidogion Cymru wnaeth benderfynu, neu a fydd yn penderfynu, ar y cais yr ymrwymwyd i’r rhwymedigaeth mewn cysylltiad ag ef).

253.Mater i’r awdurdod cynllunio lleol fydd gorfodi’r rhwymedigaeth.

254.Mae is-adran (5) yn gwneud darpariaeth ynghylch heriau cyfreithiol mewn cysylltiad â rhwymedigaethau cynllunio.

Adran 99 – Tir o dan falltod

255.Gall datganiad polisi seilwaith sy’n nodi lleoliad fel lleoliad addas (neu leoliad addas o bosibl) ar gyfer prosiect seilwaith arwyddocaol greu malltod yn y lleoliad hwnnw, gan effeithio ar werthoedd tir. Gall malltod hefyd ddeillio o gais yn cael ei wneud am orchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi caffael tir yn orfodol neu o roi awdurdodiad o’r fath.

256.Mae adran 99 yn diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“DCGTh”) er mwyn caniatáu i berchen-feddianwyr yr effeithiwyd arnynt yn y ffordd hon i gael y budd o ddarpariaethau presennol DCGTh sy’n ymwneud â malltod drwy wneud y disgrifiadau tir hyn yn dir o dan falltod (“blighted land”) at ddiben DCGTh.

257.Mae DCGTh yn darparu gweithdrefn sy’n galluogi personau sydd â buddiannau penodol yn y tir sydd o dan falltod i gyflwyno hysbysiad i awdurdod priodol (“appropriate authority”) yn ei gwneud yn orfodol i’r awdurdod brynu buddiant y personau. Effaith is-adran (6) yw mai’r “awdurdod priodol” yn achos malltod a achosir gan ddatganiad polisi seilwaith yw’r ymgymerwr statudol a enwir fel person priodol i gynnal y datblygiad a bennir yn y datganiad polisi seilwaith, neu Weinidogion Cymru pan nad oes ymgymerwr o’r fath wedi ei enwi. Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu ar unrhyw anghydfodau o ran pwy yw’r awdurdod priodol.

258.Mae is-adran (4) yn atal yr awdurdod priodol rhag cyflwyno gwrth-hysbysiad i hysbysiad malltod ar y sail nad oes ganddynt unrhyw fwriad i gynnal y datblygiad.

Adran 100 – Niwsans: awdurdodiad statudol

259.Mae adran 100 yn rhoi awdurdodiad statudol i gynnal datblygiad y rhoddir cydsyniad iddo drwy orchymyn cydsyniad seilwaith ac ar gyfer gwneud unrhyw beth arall a awdurdodir drwy’r gorchymyn. Mae is-adran (2) yn darparu na roddir awdurdodiad statudol ond at y diben o ddarparu amddiffyniad mewn achosion sifil a throseddol am niwsans. Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir drwy orchymyn cydsyniad seilwaith.

Adran 101 – Digolledu mewn achos pan fo amddiffyniad o awdurdodiad statudol yn gymwys

260.Mae adran 101 yn rhoi hawl i ddigollediad mewn achosion pan fo, yn rhinwedd adran 100 neu delerau gorchymyn cydsyniad seilwaith, amddiffyniad o awdurdodiad statudol mewn achos sifil neu droseddol am niwsans mewn cysylltiad ag unrhyw waith awdurdodedig.

261.Mae is-adran (2) yn diffinio “gwaith awdurdodedig” fel datblygiad y rhoddir gorchymyn cydsyniad seilwaith ar ei gyfer ac unrhyw beth arall a awdurdodir gan y gorchymyn.

262.Mae is-adran (3) yn gosod dyletswydd ar y person sy’n cynnal y gwaith awdurdodedig, neu y cynhelir y gwaith hwnnw ar ei ran, i ddigolledu unrhyw berson y mae cynnal y gwaith awdurdodedig yn cael effaith niweidiol ar ei dir.

263.Mae anghydfodau ynghylch digollediad o dan is-adran (3) yn cael eu hatgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys.

264.Mae is-adran (5) yn darparu bod adran 10(2) o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (cyfyngu ar ddigolledu) yn gymwys i adran 101(3) fel y mae’n gymwys i adran 10(2) o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965.

265.Rhaid i unrhyw reol neu egwyddor a gymhwysir i’r dehongliad o adran 10 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 gael ei chymhwyso i’r dehongliad o adran 101(3) gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol.

266.Mae is-adran (7) yn darparu bod Rhan 1 o Ddeddf Digollediad Tir 1973 (p. 26) (digollediad am ddibrisiant yng ngwerth tir gan ffactorau ffisegol a achosir gan ddefnydd o waith cyhoeddus) yn gymwys mewn perthynas â gwaith awdurdodedig fel pe bai:

  • cyfeiriadau yn y Rhan honno at unrhyw “public works” yn gyfeiriadau at waith awdurdodedig;

  • cyfeiriadau yn y Rhan honno at “the responsible authority” yn gyfeiriadau at y person y mae’r gorchymyn seilwaith yn cael effaith er ei fudd am y tro;

  • adrannau 1(6) a 17 wedi eu hepgor.

267.Ni chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys darpariaeth sy’n cael yr effaith o ddileu neu addasu cymhwysiad adran 101.

Dehongli

Adran 102 – Ystyr “tir”

268.Mae adran 102 yn darparu, yn Rhan 6, fod “tir” yn cynnwys unrhyw fuddiant mewn tir neu unrhyw hawl drosto.

Rhan 7 – Gorfodi

269.Mae Rhan 7 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau ynghylch troseddau sy’n ymwneud â datblygu heb gydsyniad seilwaith a thorri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu fethiant i gydymffurfio â’r telerau hynny, a’r gallu i gyflwyno hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig.

270.Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch pa offerynnau gorfodi sydd ar gael i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i gynorthwyo o ran ymgymryd â dyletswyddau gorfodi, yn ogystal â’r terfynau amser ar gyfer cymryd unrhyw gamau gorfodi.

Troseddau

Adran 103 – Datblygu heb gydsyniad seilwaith

271.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd pan fo person yn cynnal, neu’n peri cynnal, datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer ar adeg pan na fo cydsyniad o’r fath mewn grym mewn cysylltiad â’r datblygiad.

272.Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.

Adran 104 – Torri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith

273.Mae’r adran hon yn darparu y cyflawnir trosedd os yw person, heb esgus rhesymol, yn cynnal, neu’n peri cynnal, datblygiad sy’n torri telerau gorchymyn cydsyniad seilwaith neu’n methu â chydymffurfio â thelerau gorchymyn cydsyniad seilwaith.

274.Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan yr adran hon i brofi nad oedd y toriad neu fethiant i gydymffurfio wedi digwydd ond oherwydd gwall yn y gorchymyn cydsyniad seilwaith a bod y gwall wedi ei gywiro o dan adran 87.

275.Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.

Adran 105 – Terfynau amser

276.Mae’r adran hon yn nodi terfynau amser ar gyfer cyhuddo person mewn perthynas â’r troseddau sydd wedi eu creu gan adrannau 103 a 104.

Adran 106 – Pwerau i fynd ar dir at ddibenion gorfodi

277.Mae’r adran hon yn caniatáu i berson sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru i fynd ar dir at ddibenion asesu a yw trosedd o dan adran 103 neu adran 104 yn cael ei chyflawni neu wedi ei chyflawni. Caniateir i’r pŵer hwn gael ei arfer ar unrhyw adeg resymol a dim ond os oes sail resymol dros fynd ar y tir at y diben o dan sylw.

278.Pan fo person wedi ei awdurdodi i fynd ar dir, rhaid iddo ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad i wneud hynny a diben mynd ar y tir (os gofynnir iddo wneud hynny) a chaiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir. Rhaid iddo hefyd adael y tir wedi ei ddiogelu’n effeithiol rhag tresmaswyr os yw’n ymadael â’r tir ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol.

279.Mae’r adran hon hefyd yn pennu na chaiff person sydd wedi ei awdurdodi i fynd ar dir fynnu mynediad i adeilad a ddefnyddir fel annedd oni roddwyd 24 o oriau o rybudd o’r mynediad bwriadedig i holl feddianwyr yr adeilad.

Adran 107 – Gwarant i fynd ar dir

280.Mae’r adran hon yn darparu y caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n rhoi pŵer i fynd ar dir os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd ar dir i asesu a yw trosedd o dan adran 103 neu 104 yn cael ei chyflawni, neu wedi ei chyflawni, ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir a bod mynediad i’r tir wedi ei wrthod neu fod gwrthodiad yn cael ei ddisgwyl yn rhesymol, neu fod yr achos yn un brys.

281.Mae mynediad i dir i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod os na cheir ateb i gais am fynediad o fewn cyfnod rhesymol.

282.Pan ddyroddir gwarant o dan yr adran hon, nid yw’n rhoi pŵer i fynd ar dir ond ar un achlysur yn unig ac ar adeg resymol yn unig, oni fo’r cais yn achos brys. Bydd y warant yn peidio â chael effaith ar ddiwedd un mis o’r dyddiad y’i dyroddir.

283.Pan fo person wedi ei awdurdodi i fynd ar dir, rhaid iddo ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad i wneud hynny a diben mynd ar y tir, os gofynnir iddo wneud hynny, a chaiff fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir. Rhaid iddo hefyd adael y tir wedi ei ddiogelu’n effeithiol rhag tresmaswyr os yw’n ymadael â’r tir pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol.

Adran 108 – Hawliau mynediad: darpariaethau atodol

284.Mae’r adran hon yn creu trosedd pan fo person yn rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer pŵer mynediad o dan adran 106 neu 107. Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.

285.Mae’r adran hon hefyd yn darparu, os difrodir tir neu eiddo arall wrth arfer y pŵer i fynd ar dir, y caiff y person sy’n dioddef y difrod adennill digollediad oddi wrth yr awdurdod cynllunio a awdurdododd y mynediad neu Weinidogion Cymru os mai hwythau a awdurdododd y mynediad.

286.Rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon yn ysgrifenedig o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yr achoswyd y difrod neu’r diwrnod olaf yr achoswyd y difrod os y digwyddodd hynny dros gyfnod o fwy nag un diwrnod. Rhaid i unrhyw anghydfodau ynghylch digollediad gael eu hatgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys a’u penderfynu ganddo yn unol ag adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961.

Adran 109 – Hawliau mynediad: tir y Goron

287.Mae’r adran hon yn darparu nad yw’r pŵer i fynd ar dir gyda gwarant neu heb warant o dan adrannau 106 a 107 yn gymwys i dir y Goron.

Adran 110 – Pwerau gorfodi morol

288.Mae’r adran hon yn diwygio Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”) drwy fewnosod adran newydd 243A yn y Ddeddf honno.

289.Mae adran newydd 243A yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i benodi personau at ddibenion gorfodi Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yng Nghymru ac yn rhanbarth glannau Cymru (ac mewn perthynas ag unrhyw lestr, unrhyw awyren neu unrhyw strwythur morol yn y rhanbarth hwn, ac eithrio unrhyw long ryfel Brydeinig).

290.Mae’r pŵer yn rhoi disgresiwn eang i Weinidogion Cymru o ran pwy a benodir ganddynt, ac mae’n rhoi i berson a benodir o dan yr adran hon y pŵer o dan adran 263 o Ddeddf 2009 (pŵer i wneud gwybodaeth yn ymwneud â sylweddau a gwrthrychau yn ofynnol) yn ogystal â’r pwerau gorfodi cyffredin a nodir ym Mhennod 2 o Ran 8 o Ddeddf 2009 (pwerau gorfodi cyffredin), sy’n cynnwys:

  • pwerau mynediad, chwilio ac ymafael,

  • pwerau i gofnodi tystiolaeth o droseddau a’i gwneud yn ofynnol i bersonau rhoi eu henwau a’u cyfeiriadau,

  • pwerau i’w gwneud yn ofynnol i ddangos trwyddedau,

  • pwerau i’w gwneud yn ofynnol i bersonau penodol fod yn bresennol,

  • pwerau i gyfarwyddo llestrau neu osodiadau morol i borthladd,

  • pwerau sy’n ymwneud â chynorthwyo swyddogion gorfodi, a

  • pwerau i ddefnyddio grym rhesymol.

Hysbysiadau Gwybodaeth

Adran 111 – Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol

291.Mae’r adran hon yn caniatáu i’r awdurdod cynllunio perthnasol gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannu neu sydd ag unrhyw fuddiant arall ynddo, neu sy’n cynnal gweithrediadau ar y tir neu sy’n ei ddefnyddio at unrhyw ddiben, pan fo’n ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu adran 104 fod wedi ei chyflawni ar y tir neu mewn cysylltiad â’r tir yn ei ardal.

292.Mae hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson sy’n berchen ar y tir neu’n ei feddiannau neu sydd ag unrhyw fuddiant arall ynddo, neu sy’n cynnal gweithrediadau ar y tir neu’n ei ddefnyddio at unrhyw ddiben, pan fônt yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 103 neu adran 104 fod wedi ei cyflawni ar dir yng Nghymru neu mewn cysylltiad â thir yng Nghymru.

293.Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i berson sy’n cynnal gweithrediadau yn ardal forol Cymru pan fo Gweinidogion Cymru yn amau y gallai trosedd fod wedi ei chyflawni yn ardal forol Cymru neu mewn cysylltiad â hi.

294.Mae’r adran hon hefyd yn rhagnodi yr hyn yn mae rhaid ei phennu mewn hysbysiad gwybodaeth ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r person y’i cyflwynir iddo roi’r wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad i’r graddau y gall wneud hynny. Rhaid i’r hysbysiad hefyd nodi canlyniadau tebygol methu ag ymateb.

Adran 112 – Troseddau o fethu â chydymffurfio â hysbysiadau gwybodaeth

295.Mae adran 112(1) yn darparu bod person yn cyflawni trosedd pan nad yw person y cyflwynwyd hysbysiad gwybodaeth iddo yn cydymffurfio â gofyniad yn yr hysbysiad ar ôl diwedd cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad, ond mae’n amddiffyniad i’r person os yw’n gallu profi bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio. Mae person sy’n euog o’r drosedd hon ar euogfarn ddiannod yn agored i ddirwy.

296.Mae is-adran (5) yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’n darparu gwybodaeth y mae’n yn gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n gwneud hynny’n ddi-hid. Mae person sy’n euog o’r naill drosedd neu’r llall yn agored i ddirwy.

297.O dan yr adran hon mae’n bosibl i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad gwybodaeth drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

Hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig

Adran 113 – Hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

298.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig pan ddyfernir person yn euog o drosedd o dan adrannau 103 a 104 mewn cysylltiad â thir.

299.Ar gyfer troseddau o dan adran 103, caiff hysbysiad bennu’r camau sydd i’w cymryd i ddileu’r datblygiad ac adfer y tir i’w gyflwr cyn i’r datblygiad gael ei gynnal, a rhaid cymryd y camau hynny cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

300.Ar gyfer troseddau o dan adran 104, caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo unioni’r toriad neu’r methiant i gydymffurfio cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

301.Pan gyflwynir hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, mae’r adran hon yn pennu y caiff yr hysbysiad bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer cymryd camau gwahanol.

302.Mae’r adran hon hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau a gaiff bennu materion ychwanegol y mae rhaid eu pennu mewn hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.

Cydymffurfio â hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig

Adran 114 – Gorchymyn i ganiatáu camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

303.Mae’r adran hon yn caniatáu i berchennog tir wneud cais i Lys Ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson arall a chanddo fuddiant yn y tir ganiatáu i’r perchennog gymryd y camau hynny sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.

304.Pan fo’r llys wedi ei fodloni bod person a chanddo fuddiant yn y tir yn atal y perchennog rhag cymryd y camau hynny, caiff y llys wneud gorchymyn.

Adran 115 – Pŵer i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

305.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo unrhyw gamau y mae’n ofynnol eu cymryd gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig heb eu cymryd cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, y caiff yr awdurdod cynllunio a ddyroddodd yr hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, neu Weinidogion Cymru, os mai hwythau a ddyroddodd yr hysbysiad, fynd ar y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef ar unrhyw adeg resymol a chymryd y cam neu’r camau ei hun neu eu hunain.

306.Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol berson sy’n arfer pŵer o dan yr adran hon yn cyflawni trosedd. Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.

Adran 116 – Adennill costau cydymffurfio â hysbysiad datblygiad anawdurdodedig

307.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru yn arfer y pŵer o dan adran 115, y caiff yr awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru adennill ei gostau neu eu costau oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog ar y tir.

308.Mae unrhyw gostau y gellir eu hadennill, hyd nes iddynt gael eu hadennill, yn bridiant ar y tir y mae’r hysbysiad datblygiad anawdurdodedig yn ymwneud ag ef ac yn cymryd effaith fel pridiant tir lleol ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn cwblhau’r cam neu’r camau a bennir yn yr hysbysiad datblygiad anawdurdodedig y mae’r costau’n ymwneud ag ef.

309.Mae’r adran hon hefyd yn pennu y caniateir symud ymaith ddeunyddiau o dir wrth gymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig a phan na fo perchennog y deunyddiau yn hawlio’r deunyddiau ac yn mynd â hwy i ffwrdd o fewn 3 diwrnod gan ddechrau drannoeth y diwrnod y’i symudir ymaith, caniateir gwerthu’r deunyddiau.

310.Os caiff y deunyddiau eu gwerthu, rhaid talu’r enillion i’r person a oedd yn berchen ar y deunyddiau, ar ôl didynnu unrhyw gostau y gellir eu hadennill.

311.Ni chaniateir adennill costau o dan yr adran hon oddi wrth y Goron.

Hysbysiadau stop dros dro

Adran 117 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro

312.Mae’r adran hon yn darparu’r pŵer i awdurdod cynllunio perthnasol ddyroddi hysbysiad stop dros dro mewn perthynas â thir yn ei ardal lle y mae’n ystyried bod gweithgarwch wedi cael ei gynnal neu yn cael ei gynnal sy’n drosedd o dan adran 103 neu adran 104 ac y dylai’r gweithgarwch gael ei stopio ar unwaith. Nid yw’r pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro yn rhychwantu Gweinidogion Cymru.

313.Mae’r adran hon hefyd yn rhagnodi’r hyn y mae rhaid ei bennu mewn hysbysiad stop dros dro, i bwy y caniateir rhoi hysbysiad stop dros dro a sut y mae rhaid arddangos yr hysbysiadau hynny.

Adran 118 – Cyfyngiadau ar bŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro

314.Mae’r adran hon yn darparu na chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd defnyddio adeilad fel annedd nac unrhyw weithgarwch neu amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

315.Ni chaiff hysbysiadau stop dros dro ychwaith wahardd unrhyw weithgarwch sydd wedi ei gynnal, neu sy’n cael ei gynnal, am o leiaf 4 blynedd cyn y dyddiad yr arddangosir hysbysiad stop dros dro am y tro cyntaf, ac eithrio gweithgarwch sy’n weithrediadau adeiladu, peiriannu neu fwyngloddio neu’n weithrediadau eraill, neu sy’n ddeilliadol i hynny, neu waredu gwastraff.

Adran 119 – Hyd etc. hysbysiad stop dros dro

316.Mae’r adran hon yn darparu bod hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono am y tro cyntaf ac yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod o 28 o ddiwrnodau, sy’n dechrau ar y dyddiad y’i arddangosir am y tro cyntaf, oni bai bod cyfnod byrrach wedi ei bennu yn yr hysbysiad neu fod y llys yn caniatáu gwaharddeb o dan adran 122.

317.Mae’r adran hon hefyd yn pennu, os yw’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, bod yr hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.

318.Pan ddyroddir hysbysiad stop dros dro, mae’r adran hon yn atal yr awdurdod cynllunio perthnasol rhag dyroddi ail hysbysiad stop na hysbysiad stop dilynol mewn cysylltiad â’r un gweithgarwch, oni fo’r awdurdod wedi dyroddiad hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu waharddeb.

Adran 120 – Y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro

319.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd pan fo person yn cynnal gweithgarwch sydd wedi ei wahardd gan hysbysiad stop dros dro ar unrhyw adeg pan fydd hysbysiad o’r fath yn cael effaith.

320.Fodd bynnag, mae’n amddiffyniad i berson brofi na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad iddo ac nad oedd yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, am fodolaeth yr hysbysiad stop dros dro.

321.Gellir rhoi person ar brawf mewn Llys Ynadon neu Lys y Goron, ac os dyfernir y person yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn. Mae hefyd yn bosibl o dan yr adran hon i berson gael ei euogfarnu o fwy nag un drosedd mewn perthynas â’r un hysbysiad stop dros dro drwy gyfeirio at gyfnodau gwahanol.

Adran 121 – Digollediad am golled o ganlyniad i hysbysiad

322.Mae’r adran hon yn darparu, pan fo gweithgarwch a bennir mewn hysbysiad stop dros dro wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddwyd cyn y diwrnod y mae’r hysbysiad yn cymryd effaith, neu pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, y caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir y mae hysbysiad stop dros dro yn ymwneud ag ef wneud hawliad i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod cynllunio perthnasol o fewn 12 mis am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i effaith yr hysbysiad.

323.Nid yw’r adran hon yn gymwys i unrhyw weithgarwch a bennir yn yr hysbysiad sydd wedi ei awdurdodi drwy orchymyn cydsyniad seilwaith a roddir ar y diwrnod y mae’r hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith neu ar ôl hynny, nac os yw’r awdurdod cynllunio perthnasol yn tynnu hysbysiad yn ôl ar ôl i gydsyniad gael ei roi. Mae’r adran hon hefyd yn pennu’r amgylchiadau lle nad yw digollediad yn daladwy.

Adran 122 – Gwaharddeb i atal gweithgarwch gwaharddedig

324.Mae’r adran hon yn darparu y caiff awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru wneud cais i’r Uchel Lys neu’r llys sirol am waharddeb sy’n atal gweithgarwch gwirioneddol neu ddisgwyliedig sy’n drosedd o dan naill ai adran 103 neu adran 104. Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol wneud cais am waharddeb mewn perthynas â thir yn ei ardal, a chaiff Gweinidogion Cymru wneud cais am waharddeb mewn perthynas â thir yng Nghymru.

325.Caiff y llys roi gwaharddeb ar unrhyw delerau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben atal y gweithgarwch hwnnw. Ni chaniateir dyroddi gwaharddeb o dan yr adran hon yn erbyn y Goron.

Cyffredinol

Adran 123 – Ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol”

326.Mae’r adran hon yn pennu pwy sy’n awdurdod cynllunio perthnasol at ddibenion Rhan 7 o’r Ddeddf.

Rhan 8 – Swyddogaethau atodol

327.Mae Rhan 8 o’r Ddeddf yn darparu nifer o swyddogaethau atodol, ar gyfer Gweinidogion Cymru yn bennaf, i hwyluso gweithrediad y system a sefydlir gan y Ddeddf ac i roi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer codi ffioedd, addasu’r system drwy ddatgymhwyso ei gofynion neu wneud darpariaeth arbennig ar gyfer ceisiadau gan y Goron (gan gynnwys swyddfeydd y Goron a chyrff y Goron).

Ffioedd

Adran 124 – Ffioedd am gyflawni swyddogaethau a darparu gwasanaethau cydsyniad seilwaith

328.Mae’r adran hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chodi ffioedd gan awdurdod cyhoeddus penodedig am gyflawni swyddogaeth cydsyniad seilwaith ac am ddarparu gwasanaeth cydsyniad seilwaith. Caiff y rheoliadau roi swyddogaeth i unrhyw berson a darparu bod symiau ffioedd i’w cyfrifo drwy gyfeirio at y costau yr eir iddynt wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth cydsyniad seilwaith.

329.Caiff y rheoliadau wneud darpariaethau ynghylch y canlynol (ymhlith pethau eraill):

  • pryd y caniateir, a phryd na chaniateir, codi ffi;

  • y swm y caniateir ei godi;

  • yr hyn y caniateir, a’r hyn na chaniateir, ei ystyried wrth gyfrifo’r swm a godir;

  • pwy sy’n agored i dalu ffi a godir;

  • i bwy y telir ffioedd;

  • pryd y mae ffi a godir yn daladwy;

  • adennill ffioedd a godir;

  • ildio, lleihau neu ad-dalu ffioedd;

  • effaith talu neu fethu â thalu ffioedd a godir;

  • trosglwyddo ffioedd sy’n daladwy i un person i berson arall;

  • cyflenwi neu gyhoeddi gwybodaeth at unrhyw un neu ragor o ddibenion y rheoliadau.

Hawl mynediad

Adran 125 – Pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir

330.Mae’r adran hon yn darparu pŵer i berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i fynd ar dir at ddibenion cynnal arolwg o dir neu gymryd lefelau ohono, mewn cysylltiad â:

  • cais am gydsyniad seilwaith (neu gais arfaethedig);

  • gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael yn orfodol y tir hwnnw neu fuddiant ynddo neu hawl drosto.

331.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson a awdurdodir sy’n mynd ar dir i ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad hwnnw, os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir os yw’r tir wedi ei feddiannu a chydymffurfio ag unrhyw amodau a nodir yn yr awdurdodiad. Caiff person sydd wedi ei awdurdodi hefyd fynd ag unrhyw bersonau eraill sy’n angenrheidiol ar y tir a rhaid iddo, os yw’n ymadael â’r tir pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth arno.

332.Mae awdurdodiad i gynnal arolwg o dir hefyd yn cynnwys yr hawl i chwilio a thurio i ganfod natur y pridd neu i ganfod a oes mwynau yn bresennol os rhoddwyd hysbysiad ymlaen llaw o’r bwriad hwn.

333.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn rhwystro’n fwriadol berson a awdurdodir i fynd ar dir rhag gwneud hynny.

334.Caniateir adennill digollediad am unrhyw ddifrod a achosir i dir neu eiddo oddi wrth y person a awdurdodir i fynd ar y tir.

Adran 126 – Pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir: tir y Goron

335.Mae’r adran hon yn darparu bod y pwerau a nodir yn adran 125 hefyd yn gymwys i dir y Goron, yn ddarostyngedig i’r person sy’n arfer y pŵer yn cael caniatâd i fynd ar y tir oddi wrth y person yr ymddengys fod ganddo’r hawl i’w roi neu awdurdod priodol y Goron (a ddiffinnir yn adran 134).

336.Mae’r adran hon hefyd yn darparu nad yw is-adrannau penodedig o adran 125 yn gymwys mewn perthynas â Thir y Goron.

Datganiadau polisi Seilwaith

Adran 127 – Datganiadau polisi seilwaith

337.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad, i ddynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith, os yw’n ddogfen a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ac yn nodi polisi i lywio’r broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â phrosiectau seilwaith arwyddocaol. Caiff Gweinidogion Cymru dynnu yn ôl ddynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith drwy hysbysiad ysgrifenedig. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru bob hysbysiad sy’n dynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith a phob hysbysiad am dynnu yn ôl ddynodiad dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith. Mae is-adrannau (5) a (6) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod unrhyw ddogfen a ddynodir yn ddatganiad polisi seilwaith gerbron y Senedd a’i chyhoeddi, os nad ydynt wedi gwneud hynny yn flaenorol.

338.Arwyddocâd dynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith o dan yr adran hon yw bod rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith drwy roi sylw i unrhyw ddatganiad polisi seilwaith perthnasol (gweler adran 56(1)).

Cofrestr o geisiadau a gwasanaethau cyn gwneud cais

Adran 128 – Cofrestr o geisiadau a gwasanaethau cyn gwneud cais

339.Mae adran 128 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o:

  • ceisiadau am gydsyniad seilwaith;

  • ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cael;

  • gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru.

340.Rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys manylion yn y gofrestr o geisiadau dilys, ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais a’r gwasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir.

341.Rhaid cyhoeddi’r gofrestr (is-adran (5)).

342.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio gynnal cofrestr o geisiadau am gydsyniad seilwaith yn ei ardal, ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y mae’r awdurdod cynllunio wedi eu cael ac unrhyw wasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd gan yr awdurdod (is-adran (6)).

343.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol hefyd i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal cofrestr o geisiadau y mae’n eu cael am wasanaethau cyn gwneud cais, yn ogystal ag unrhyw wasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd ganddo mewn cysylltiad â chais.

344.Mae is-adran (8) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch ffurf a cynnwys unrhyw gofrestr sy’n ofynnol ei chynnal gan yr adran neu odani a chaiff wneud darpariaeth arall mewn cysylltiad â mynediad gan y cyhoedd i ddogfennau sy’n ymwneud â chofnodion yn y gofrestr neu amseriad cofnodion.

Ymgyngoreion statudol

Adran 129 – Pŵer i ymgynghori a dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

345.Mae adran 129 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru neu awdurdod archwilio i ymgynghori ag awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau fel rhan o’r broses archwilio, ac o ganlyniad mae dyletswydd ar yr awdurdod i roi ymateb o sylwedd i’r ymgynghoriad hwnnw o fewn cyfnod penodedig.

346.Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ymgynghoriadau o’r fath.

Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru

Adran 130 – Cyfarwyddydau i awdurdodau cyhoeddus

347.Mae adran 130 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu awdurdod Cymreig datganoledig a bennir mewn rheoliadau, i wneud pethau mewn perthynas â chais.

348.Mae is-adran (3) yn darparu y caiff cyfarwyddydau ymwneud â cheisiadau penodol neu awdurdodau penodol neu i geisiadau neu awdurdodau yn gyffredinol.

349.Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adennill costau, neu mewn cysylltiad ag adennill costau, y mae awdurdodau cyhoeddus wedi mynd iddynt am bethau a wneir yn unol â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru (is-adran (4)).

Adran 131 – Pŵer i ddatgymhwyso gofynion

350.O dan adran 131 caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i gyfarwyddo y caniateir datgymhwyso gofynion a osodir gan y Ddeddf hon, odani neu yn ei rhinwedd mewn achos a bennir yn y cyfarwyddyd.

351.Rhaid i’r rheoliadau bennu’r gofynion y caniateir eu datgymhwyso gan gyfarwyddyd a gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru yn egluro ei effaith a pham y’i gwnaed.

Rheoliadau ar geisiadau’r Goron

Adran 132 – Ceisiadau gan y Goron

352.Mae adran 132 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau a gaiff addasu neu eithrio unrhyw ddeddfiadau mewn perthynas â cheisiadau a wneir gan y Goron am gydsyniad seilwaith neu i newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith.

353.Caiff y rheoliadau addasu neu eithrio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag–

a.

y weithdrefn sydd i’w dilyn cyn i gais gan y Goron gael ei wneud,

b.

gwneud cais gan y Goron, ac

c.

y broses o wneud penderfyniad ar gyfer cais o’r fath.

Rhan 9 – Darpariaethau cyffredinol

354.Mae Rhan 9 o’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â mwy nag un rhan o’r Ddeddf neu’r Ddeddf gyfan. Mae adrannau 136, 137, 138 a 139 yn gwneud darpariaethau ynghylch rhoi hysbysiadau, cyfarwyddydau a dogfennau eraill ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y dyletswyddau sy’n gymwys wrth gyhoeddi rhywbeth o dan y Ddeddf. Mae adran 140 yn gwneud darpariaethau ynghylch y cyfyngiadau sy’n gymwys i unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf neu orchymyn cydsyniad seilwaith a wneir o dan y Ddeddf ac mae adran 141 yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau. (Mae adran 85 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gorchmynion cydsyniad seilwaith). Mae adrannau 144 a 145 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud darpariaethau deilliadol, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol neu ddarpariaethau arbed pellach drwy reoliadau. Mae adran 146 yn nodi darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed.

Datblygiad

Adran 133 – Ystyr “datblygiad”

355.Mae adran 133 yn nodi ystyr “datblygiad” at ddibenion y Ddeddf. Mae popeth sy’n “development” at ddibenion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“DCGTh”) yn ddatblygiad at ddibenion y Ddeddf, yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (4).

356.Mae adran 55(1) o DCGTh yn diffinio “development” fel “the carrying out of building, engineering, mining or other operations in, on, over or under land, or the making of any material change in the use of any buildings or other land”, yn ddarostyngedig i eglurhadau pellach yn yr adran honno.

357.Mae is-adran (2) o adran 133 yn darparu bod “newid sylweddol yn y defnydd” (defnyddir y term “material change in the use” yn y diffiniad o “development” yn adran 55(1) o DCGTh) yn cynnwys:

  • trosi tanwydd gorsaf gynhyrchu fel y bydd petroliwm hylifol crai, cynnyrch petroliwm neu nwy naturiol yn dod yn danwydd ar ei chyfer;

  • cynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr (pa un a ganiateir hynny drwy ganiatâd cynllunio o dan DCGTh neu orchymyn cydsyniad seilwaith a wneir o dan y Ddeddf).

358.Mae is-adran (3) yn darparu bod gwaith penodol i’w drin fel datblygiad i’r graddau na fyddai fel arall yn ddatblygiad o dan DCGTh.

359.Mae datblygiad o dan DCGTh yn ymwneud â datblygiad ar dir yn ardaloedd awdurdodau cynllunio ac nid datblygiad yn y môr y tu allan i ffiniau eu hardaloedd. Mae is-adran (4) yn darparu bod datblygiad o dan y Ddeddf yn cynnwys gweithrediadau a newidiadau defnydd yn y môr ac mewn ardaloedd eraill sydd wedi eu gorchuddio â dyfroedd. Mae’r graddau y mae datblygiad yn y môr wedi ei gwmpasu mewn perthynas â Phrosiect Seilwaith Arwyddocaol yn dibynnu ar ba un a yw’r diffiniad o Brosiect Seilwaith Arwyddocaol yn cwmpasu datblygiad yn “ardal forol Cymru”. Mae “ardal forol Cymru” wedi ei ddiffinio yn adran 143.

Tir y Goron

Adran 134 – Tir y Goron ac “awdurdod priodol y Goron”

360.Mae’r adran hon yn diffinio “Tir y Goron”, “buddiant y Goron”, “buddiant y Ddugiaeth” ac “awdurdod priodol y Goron” at ddibenion y Ddeddf.

Troseddau

Adran 135 – Troseddau gan gyrff corfforedig

361.Mae’r adran hon yn darparu, pan gyflawnir trosedd o dan adran 28, 103, 104, 112 neu 120 gan gorff corfforedig ac y profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad uwch-swyddog i’r corff neu berson a oedd yn honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ei ran, y bydd y person hwnnw yn euog o drosedd (yn ogystal â’r corff corfforedig) ac y bydd yn agored i gael ei erlyn. Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill

Adran 136 – Rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill

362.Mae’r adran hon yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae hysbysiadau, cyfarwyddydau a dogfennau eraill i’w cyflwyno.

Adran 137 – Rhoi hysbysiad etc. i bersonau sy’n meddiannu tir neu sydd â buddiant mewn tir

363.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cyflwyno hysbysiad neu ddogfen i berson a chanddo fuddiant mewn tir neu sy’n meddiannu tir.

Adran 138 – Cyflwyno dogfennau i’r Goron

364.Mae’r adran hon yn pennu bod rhaid i unrhyw hysbysiad neu ddogfen y mae’n ofynnol gan y Ddeddf hon neu odani iddo gael ei gyflwyno neu iddi gael ei chyflwyno i’r Goron gael ei gyflwyno neu ei chyflwyno i awdurdod priodol y Goron, ac nid yw’r rheolau ynghylch rhoi hysbysiadau a nodir yn adrannau 136 a 137 yn gymwys. At ddibenion yr adran hon, mae “y Goron” yn cynnwys Dugiaeth Caerhirfryn a Dugiaeth Cernyw.

Cyffredinol

Adran 139 – Dyletswyddau i gyhoeddi

365.Pan fo’r Ddeddf yn gosod dyletswydd i gyhoeddi rhywbeth, rhaid iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig. Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn rhwystro’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd rhag cyhoeddi mewn modd arall yn ogystal â chyhoeddi ar ffurf electronig.

Adran 140 – Rheoliadau a gorchmynion: cyfyngiadau

366.Mae’r adran hon yn nodi y caiff rheoliadau o dan adrannau 30, 34, 35, 48(6), 63(5), 91(3), 124 a 129 o’r Ddeddf neu orchymyn cydsyniad seilwaith neu orchymyn o dan adran 90 gynnwys darpariaeth y byddai cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol (h.y. “the appropriate Minister”) yn ofynnol ar ei chyfer o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau 8(1)(a) neu (c), 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

367.Mae’r adran hon hefyd yn darparu y caiff rheoliadau o dan adrannau 30, 34, 35, 48(6), 63(5), 91(3), 124 a 129 o’r Ddeddf neu orchymyn cydsyniad seilwaith neu orchymyn o dan adran 90 gynnwys darpariaeth y byddai’n ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol yn ei chylch o dan baragraff 11(2) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru. Gweler yr ohebiaeth rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru dros gyfnod 2023 i 2024(3) sy’n cadarnhau cydsyniad o dan Atodlen 7B i’r darpariaethau, gan gynnwys ymrwymiad i ymgynghori â Llywodraeth y DU cyn gwneud rheoliadau sy’n effeithio ar gyrff a gadwyd yn ôl.

368.Ni chaiff rheoliadau a gorchmynion o dan unrhyw adran arall o’r Ddeddf hon gynnwys darpariaeth y byddai cydsyniad y Gweinidog priodol yn ofynnol ar ei chyfer o dan baragraff 8, 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru; ac ni chânt gynnwys darpariaeth y byddai’n ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol yn ei chylch o dan baragraff 11(2) neu (2A) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

Adran 141 – Rheoliadau: y weithdrefn

369.Mae’r adran hon yn darparu bod pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf i’w arfer drwy offeryn statudol.

370.Mae is-adran (3) yn darparu bod offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan yr adrannau canlynol o’r Ddeddf i’w wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol (h.y. dylai drafft o’r offeryn gael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad):

  • adran 17 - pŵer i ychwanegu, amrywio neu ddileu prosiectau;

  • adran 21 - pŵer i ychwanegu neu ddileu mathau o gydsyniad;

  • adran 22(2)(c) - cyfarwyddydau sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol;

  • adran 55(1) – pŵer i’r awdurdod archwilio i benderfynu ar fathau penodol o geisiadau am gydsyniad seilwaith;

  • adran 58(3) – diweddaru materion y caniateir eu diystyru wrth benderfynu ar geisiadau;

  • adran 59(6) – pŵer i ddiwygio’r amserlen ar gyfer penderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith;

  • adran 63(5) – yr hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith;

  • adran 124 – ffioedd am gyflawni swyddogaethau a darparu gwasanaethau cydsyniad seilwaith;

  • adran 130 – cyfarwyddydau i awdurdodau cyhoeddus;

  • adran 131 – pŵer i ddatgymhwyso gofynion;

  • adran 132 – ceisiadau gan y Goron;

  • adran 144 – pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc., ond dim ond pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddf gan Senedd Cymru;

  • paragraff 2(1) o Atodlen 2.

371.Mae offerynnau statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw bŵer arall yn y Ddeddf yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol (h.y. caniateir eu diddymu yn dilyn penderfyniad gan Senedd Cymru).

Adran 142 – Cyfarwyddydau: cyffredinol

372.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarwyddyd a roddir o dan y Ddeddf hon neu yn ei rhinwedd fod yn ysgrifenedig.

Adran 143 – Dehongli cyffredinol

373.Mae’r adran hon yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Ddeddf.

Adran 144 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

374.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau i Weinidogion Cymru y caniateir ei ddefnyddio i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed. Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a geir yn y Ddeddf hon).

Adran 145 – Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

375.Mae’r adran hon yn cyfeirio at Atodlen 3 sy’n gwneud darpariaeth o ganlyniad i’r Ddeddf hon.

Adran 146 – Darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed

376.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed.

Adran 147 – Dod i rym

377.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch pa bryd y mae darpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym.

Adran 148 – Enw byr

378.Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.

Atodlen 1 – Darpariaeth sy’n ymwneud â datblygiad neu faterion sy’n atodol iddo

379.Mae Atodlen 1 wedi ei chyflwyno gan adran 63. Caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith wneud darpariaeth atodol (gweler adran 63(3)) ac mae’r ddarpariaeth atodol y caniateir ei gwneud yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r rhestr o faterion yn Atodlen 1.

Atodlen 2 – Digolledu am newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith

380.Mae Atodlen 2 wedi ei chyflwyno gan adran 93 ac mae’n gwneud darpariaeth ynghylch digolledu am newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith.

Paragraff 1 – Newid neu ddirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith: digolledu

381.Pan fo gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael ei newid neu ei ddirymu gan Weinidogion Cymru heb fod cais yn cael ei wneud, mae’r paragraff hwn yn rhoi hawlogaeth i gael eu digolledu am golledion penodol i bersonau a chanddynt fuddiant yn y tir y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef, personau a chanddynt fuddiant mewn mwynau ar y tir hwnnw neu bersonau y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael effaith er eu budd.

382.Wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, mae gan y personau hynny hawlogaeth i gael eu digolledu gan Weinidogion Cymru am unrhyw wariant y mae’r personau wedi mynd iddo wrth gynnal gwaith (gan gynnwys gwaith paratoadol penodol a ddisgrifir yn is-baragraff (4)) a ddaw yn ofer o ganlyniad i newid neu ddirymu’r gorchymyn cydsyniad seilwaith.

383.Mae gan y personau hynny hawlogaeth hefyd, wrth wneud cais, i gael eu digolledu gan Weinidogion Cymru am unrhyw golled neu ddifrod arall y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r newid neu’r dirymu.

384.Mae is-baragraff (5) yn pennu nad yw digollediad yn daladwy mewn cysylltiad â gwaith penodol a cholledion penodol.

385.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch yr amserlen a’r broses ar gyfer gwneud hawliad am ddigollediad o dan y paragraff hwn.

Paragraff 2 – Digolledu am ddibrisiant: cyflwyniad a thermau allweddol

386.Mae’r paragraff hwn yn darparu bod paragraffau 3 i 9 yn gymwys pan fo digollediad am ddibrisiant o fwy na’r isafswm a bennir mewn rheoliadau yn dod yn daladwy.

387.Ystyr “digollediad am ddibrisiant” yn y paragraff hwn (a pharagraffau 3 i 10) yw digollediad sy’n daladwy mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir.

388.Mae’r paragraff hwn hefyd yn nodi diffiniadau eraill at ddibenion paragraffau 2 i 10.

Paragraff 3 – Dosrannu digollediad am ddibrisiant a phenderfynu ar anghydfodau

389.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch dosrannu digollediad am ddibrisiant a phenderfynu ar anghydfodau ynghylch dosraniad o’r fath.

390.Mae is-baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddosrannu’r digollediad am ddibrisiant rhwng gwahanol rannau o’r tir y mae’r hawliad am ddigollediad yn ymwneud ag ef os ydynt yn ystyried ei bod yn ymarferol gwneud hynny ac mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi manylion unrhyw ddosraniad o’r fath i’r hawlydd ac unrhyw bersonau y maent yn ystyried bod y dosraniad yn cael effaith sylweddol arnynt.

391.Mae is-baragraff (2) yn nodi manylion sut y mae rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud dosraniad, rannu’r tir yn rhannau a dosbarthu’r digollediad am ddibrisiant rhwng y rhannau hynny yn ôl sut y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y rhannau hynny wedi eu heffeithio gan y gorchymyn a achosodd i ddigollediad fod yn daladwy.

392.Mae is-baragraff (3) yn nodi manylion y personau a gaiff atgyfeirio anghydfod ynghylch dosraniad digollediad i’r Uwch Dribiwnlys ac mae is-baragraff (4) yn nodi manylion y personau sydd â hawlogaeth i gael eu clywed gan yr Uwch Dribiwnlys.

393.Mae is-baragraffau (5), (6) a (7) yn gwneud rheolau sy’n gymwys pan gaiff anghydfod ynghylch dosraniad ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys.

Paragraff 4 – Hysbysiad o ddigollediad am ddibrisiant

394.Mae’r paragraff hwn yn nodi manylion y broses sydd i’w dilyn pan fo digollediad am ddibrisiant yn dod yn daladwy.

395.Pan fo digollediad am ddibrisiant yn dod yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno “hysbysiad digolledu” i’r cyngor ar gyfer y sir neu’r fwrdeistref sirol dros yr ardal lle y lleolir y tir neu unrhyw ran o’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ac (os nad y cyngor hwnnw yw’r awdurdod cynllunio dros yr ardal) i’r awdurdod cynllunio dros yr ardal.

396.Mae is-baragraff (2) yn nodi’r hyn y mae rhaid i hysbysiad digolledu ei gynnwys, ac mae is-baragraff (3) yn datgan bod hysbysiad digolledu yn bridiant tir lleol.

Paragraff 5 – Peidio â chynnal datblygiad hyd nes y bo digollediad yn cael ei dalu neu ei sicrhau

397.Mae’r paragraff hwn yn gwahardd person rhag cynnal datblygiad penodol ar dir y mae hysbysiad digolledu wedi ei gofrestru yn ei gylch hyd nes y bo unrhyw swm sy’n adenilladwy mewn cysylltiad â’r digollediad a bennir yn yr hysbysiad wedi ei dalu neu ei sicrhau er boddhad Gweinidogion Cymru.

398.Mae is-baragraff (2) yn nodi manylion y datblygiad y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddo, ac mae is-baragraffau (3) a (4) yn nodi’r amgylchiadau nad yw’r gwaharddiad yn gymwys odanynt.

Paragraff 6 – Y swm sy’n adenilladwy gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â digolledu

399.Mae’r paragraff hwn yn nodi’r rheolau sy’n gymwys i bennu’r swm sy’n adenilladwy gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â digollediad a bennir mewn hysbysiad digolledu cofrestredig.

Paragraff 7 – Talu etc. swm sy’n adenilladwy

400.Mae is-baragraff (1) yn darparu bod swm sy’n adenilladwy yn daladwy i Weinidogion Cymru fel un taliad cyfalaf, fel cyfres o randaliadau cyfalaf a llog wedi eu cyfuno neu fel cyfres o daliadau blynyddol neu gyfnodol eraill a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru. Mae is-baragraff (2) yn nodi manylion y dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i ystyried sylwadau cyn iddynt arfer eu pŵer i wneud cyfarwyddyd o dan is-baragraff 1(c).

401.Mae is-baragraff (3) yn darparu, os nad yw’r swm sy’n daladwy yn cael ei dalu fel un taliad cyfalaf, bod rhaid iddo gael ei sicrhau yn y modd a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.

402.Os yw person yn dechrau datblygiad gan dorri paragraff 5, o dan is-baragraff (4) mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno hysbysiad i’r person sy’n pennu’r swm y maent yn ystyried ei fod yn adenilladwy o dan baragraff 6 ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu’r swm hwnnw o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Paragraff 8 – Adennill digollediad oddi wrth awdurdod caffael wrth gaffael yn orfodol neu werthu

403.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau y mae gan Weinidogion Cymru hawlogaeth i adennill digollediad oddi wrth awdurdod caffael odanynt. Mae’r paragraff hwn hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch y swm sy’n adenilladwy.

Paragraff 9 – Darpariaethau cyffredinol ynghylch digolledu am ddibrisiant

404.Mae’r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch digolledu am ddibrisiant ac yn darparu bod y rheolau yn adran 5 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (rheolau ar gyfer asesu digollediad) yn gymwys at ddiben asesu digollediad am ddibrisiant sy’n daladwy o dan yr Atodlen hon. Mae’r paragraff hwn hefyd yn gwneud amryw o ddarpariaethau penodol ynghylch digollediad am ddibrisiant pan fo buddiant mewn tir yn ddarostyngedig i forgais.

Paragraff 10 – Penderfynu ar geisiadau am ddigollediad

405.Mae’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gwestiwn ynghylch digollediad y ceir anghydfod yn ei gylch gael ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys a’i benderfynu ganddo.

Atodlen 3 – Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

406.Mae Atodlen 3 wedi ei chyflwyno gan adran 145 ac mae’n nodi diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Cofnod Y Trafodion Yn Senedd Cymru

407.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:

  • https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=41502

    CyfnodDyddiad
    Cyflwynwyd12 Mehefin 2023
    Cyfnod 1 - Dadl5 Rhagfyr 2023
    Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau22 Chwefror 2024
    Cyfnod 3  Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau19 Mawrth 2024
    Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Senedd16 Ebrill 2024
    Y Cydsyniad Brenhinol3 Mehefin 2024

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources