Adran 56 – Penderfynu ar geisiadau: ystyriaethau cyffredinol
149.Mae adran 56 yn darparu bod rhaid penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith drwy roi sylw i unrhyw ddatganiad polisi seilwaith sy’n cael effaith mewn perthynas â datblygiad o’r disgrifiad y mae cais yn ymwneud ag ef (“datganiad polisi perthnasol”), Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru (a gyhoeddwyd gyntaf yn 2019 gyda’r teitl Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040), i’r graddau y mae’n berthnasol i ddatblygiad o’r disgrifiad y mae cais yn ymwneud ag ef a chynllun morol a luniwyd ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru (a gyhoeddwyd gyntaf yn 2019 gyda’r teitl Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru). Mae hefyd yn darparu bod rhaid i unrhyw benderfyniad ar gais am gydsyniad seilwaith gael ei wneud yn unol â’r polisïau statudol a restrir yn yr adran hon, oni fo ystyriaethau perthnasol yn dangos fel arall.
150.Mae is-adran (2) yn darparu, os yw dogfen bolisi statudol a restrir yn yr adran hon yn nodi bod lleoliad yn addas, neu y gallai fod yn addas, ar gyfer datblygiad penodol, nad yw hynny yn atal gwneud penderfyniad gwahanol ar gais os yw ystyriaethau perthnasol eraill yn dangos y dylid gwneud hynny.