Search Legislation

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 08 Hydref 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

RHAN 1LL+CCYSYNIADAU SYLFAENOL A DOGFENNAU ALLWEDDOL

1CyflwyniadLL+C

(1)Maeʼr Rhan hon yn nodi cysyniadau sylfaenol syʼn cael effaith mewn perthynas â chwricwlwm ar gyfer unrhyw un oʼr canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir (ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol) ac mewn ysgolion meithrin a gynhelir;

(b)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer;

(c)plant y darperir addysg ar eu cyfer o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(2)Maeʼr Rhan hon hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch dogfennau allweddol syʼn cefnogi cwricwlwm oʼr math hwnnw.

(3)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm oʼr math hwnnw; ac mae cyfeiriadau at ddisgyblion a phlant yn gyfeiriadau at y disgyblion aʼr plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 1 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

2Y pedwar dibenLL+C

(1)Pedwar diben cwricwlwm yw—

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru aʼr byd;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y pedwar diben yn gyfeiriadau at y dibenion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I4A. 2 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

3Y meysydd dysgu a phrofiadLL+C

(1)Y meysydd dysgu a phrofiad ar gyfer cwricwlwm yw—

  • Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Y Dyniaethau

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Iechyd a Lles

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mathemateg a Rhifedd.

(2)O fewn y meysydd dysgu a phrofiad, maeʼr canlynol yn elfennau mandadol—

  • Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

  • Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

  • Cymraeg

  • Saesneg.

(3)Ond nid yw Saesneg i’w thrin fel elfen fandadol, at ddibenion y Ddeddf hon, ar gyfer cwricwlwm o fewn is-adran (4).

(4)Mae cwricwlwm o fewn yr is-adran hon os yw’n—

(a)cwricwlwm i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol nad ydynt wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;

(b)cwricwlwm ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(c)cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru) i ddisgyblion neu blant nad ydynt wedi cyrraedd 7 oed.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y meysydd dysgu a phrofiad yn gyfeiriadau at y meysydd a restrir yn is-adran (1).

(6)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr elfennau mandadol i’w dehongli yn unol â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I6A. 3 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

4Y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadolLL+C

(1)Y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol ar gyfer cwricwlwm yw—

  • Cymhwysedd Digidol

  • Llythrennedd

  • Rhifedd.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol yn gyfeiriadau at y sgiliau a restrir yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I8A. 4 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

5Pŵer i ddiwygio adrannau 3 a 4LL+C

Caiff rheoliadau ddiwygio adrannau 3 a 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I10A. 5 mewn grym ar 29.9.2021 gan O.S. 2021/1069, ergl. 2

6Cod yr Hyn syʼn BwysigLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (“Cod yr Hyn syʼn Bwysig”) syʼn nodi cysyniadau allweddol ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad.

(2)Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu maes dysgu a phrofiad oni bai ei fod yn cwmpasuʼr cysyniadau hynny fel yʼu nodir yng Nghod yr Hyn syʼn Bwysig.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu maes dysgu a phrofiad oni bai ei fod yn cwmpasuʼr cysyniadau hynny fel yʼu nodir yng Nghod yr Hyn syʼn Bwysig.

(4)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gadw Cod yr Hyn syʼn Bwysig o dan adolygiad, a

(b)cânt ei ddiwygio.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch Cod yr Hyn syʼn Bwysig, gweler adran 76.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I12A. 6 mewn grym ar 29.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1069, ergl. 3

I13A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(a)

7Y Cod CynnyddLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod Cynnydd”) syʼn nodi’r ffordd y mae cwricwlwm i wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant.

(2)Nid yw cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

(4)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gadwʼr Cod Cynnydd o dan adolygiad, a

(b)cânt ei ddiwygio.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod Cynnydd, gweler adran 76.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I15A. 7 mewn grym ar 29.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1069, ergl. 3

I16A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(a)

8Y Cod ACRhLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod ACRh”) syʼn nodi themâu a materion sydd iʼw cwmpasu gan elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

(2)Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.

(3)Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.

(4)Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod ACRh, gweler adran 77.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I18A. 8 mewn grym ar 23.11.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1069, ergl. 4

I19A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(a)

RHAN 2LL+CCWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 1LL+CCYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

CyffredinolLL+C

9Cyflwyniad a dehongliLL+C

(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio a mabwysiadu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at ysgol yn gyfeiriadau—

(a)at ysgol a gynhelir, neu

(b)at ysgol feithrin a gynhelir.

(3)Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;

(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);

(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I21A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I22A. 9 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I23A. 9 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelirLL+C

10Cynllunio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol gynllunio cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol.

(2)Rhaid iʼr cwricwlwm hwnnw gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I25A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I26A. 10 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I27A. 10 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

11Mabwysiadu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

(a)mabwysiaduʼr cwricwlwm a gynllunnir o dan adran 10 fel y cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol, a

(b)cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

(2)Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I29A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I30A. 11 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I31A. 11 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

12Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

(a)cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

(2)Wrth ystyried a ywʼr cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid iʼr pennaeth aʼr corff llywodraethu roi sylw i wybodaeth syʼn deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(4)Caiff pennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(5)Os yw pennaeth a chorff llywodraethu ysgol yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I33A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I34A. 12 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I35A. 12 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelirLL+C

13Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cwricwlwm (y “cwricwlwm adran 13”) y maent yn ystyried ei fod yn addas i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Rhaid iʼr cwricwlwm adran 13 gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24F1....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I37A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I38A. 13 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I39A. 13 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

14Adolygu a diwygio cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cadwʼr cwricwlwm adran 13 o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24F2....

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm adran 13, rhaid iddynt gyhoeddiʼr cwricwlwm diwygiedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I41A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I42A. 14 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I43A. 14 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

15Mabwysiadu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)mabwysiadu cwricwlwm i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer (boed y cwricwlwm adran 13 neu gwricwlwm arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn addas), a

(b)cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

(2)Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24F3....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I45A. 15 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I46A. 15 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I47A. 15 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

16Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24F4....

(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid i’r darparwr roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir gan y darparwr o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid iʼr darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ywʼr darparwr yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(4)Caiff y darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os yw’r darparwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(5)Os ywʼr darparwr wedi mabwysiaduʼr cwricwlwm adran 13, a bod Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm hwnnw o dan adran 14, rhaid iʼr darparwr ystyried a ywʼn briodol diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan is-adran (4) er mwyn adlewyrchuʼr diwygiadau a wnaed o dan adran 14.

(6)Os yw’r darparwr yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iʼr darparwr gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I49A. 16 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I50A. 16 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I51A. 16 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

Darpariaeth atodolLL+C

17Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch mabwysiadu a diwygio cwricwlwmLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)camau sydd iʼw cymryd cyn i gwricwlwm gael ei fabwysiadu o dan y Rhan hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch camau sydd iʼw cymryd er mwyn penderfynu a yw cwricwlwm arfaethedig yn addas ar gyfer ei fabwysiadu);

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid mabwysiadu cwricwlwm o dan y Rhan hon;

(c)amgylchiadau ychwanegol y mae rhaid diwygio cwricwlwm mabwysiedig odanynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I53A. 17 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I54A. 17 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I55A. 17 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

18Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch crynodebau cwricwlwmLL+C

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)ynghylch gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig a gyhoeddir o dan y Rhan hon;

(b)ynghylch cyhoeddi crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig (gan gynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid ei gyhoeddi, aʼr dyddiad erbyn pryd y mae rhaid ei gyhoeddi).

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I57A. 18 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I58A. 18 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I59A. 18 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

PENNOD 2LL+CGOFYNION CWRICWLWM

CyffredinolLL+C

19CyflwyniadLL+C

(1)Maeʼr Bennod hon yn nodi gofynion cwricwlwm.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm i unrhyw un oʼr canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(3)Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I61A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I62A. 19 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I63A. 19 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

Gofynion cwricwlwmLL+C

20Y pedwar dibenLL+C

Rhaid iʼr cwricwlwm alluogi disgyblion, neu blant, i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben.

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I65A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I66A. 20 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I67A. 20 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

21CynnyddLL+C

Rhaid iʼr cwricwlwm ddarparu ar gyfer cynnydd priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I69A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I70A. 21 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I71A. 21 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

22AddasrwyddLL+C

Rhaid iʼr cwricwlwm fod yn addas i ddisgyblion, neu blant, o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I72A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I73A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I74A. 22 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I75A. 22 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

23Ehangder a chydbwyseddLL+C

Rhaid iʼr cwricwlwm fod yn eang ac yn gytbwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I77A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I78A. 23 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I79A. 23 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

24Meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaiddLL+C

(1)Rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu pob un oʼr meysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad, a

(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(2)Rhaid iʼr ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion, neu blant.

(3)Rhaid i’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gyd-fynd â Rhan 1 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu wedi ei gwneud—

(a)ar gyfer disgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol;

(b)ar gyfer plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(5)Os ywʼr cwricwlwm yn gymwys i ddisgyblion sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi, rhaid iddo gynnig iʼr disgyblion hynny ddewis o addysgu a dysgu o fewn pob maes dysgu a phrofiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I80A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I81A. 24(1)(2)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I82A. 24(1)(2)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I83A. 24(1)(2)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

25Pŵer i osod gofynion pellach cwricwlwmLL+C

(1)Caiff rheoliadau bennu gofynion pellach y mae rhaid i gwricwlwm ar gyfer ysgol a gynhelir gydymffurfio â hwy iʼr graddau y maeʼn gymwys i ddisgyblion o fewn is-adran (2).

(2)Y disgyblion ywʼr rheini sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi, ond sy’n dal i fod o’r oedran ysgol gorfodol.

(3)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, bennu darpariaeth—

(a)y mae rhaid ei gwneud mewn cwricwlwm;

(b)na chaniateir ei gwneud mewn cwricwlwm.

(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth drwy gyfeirio at gyrsiau astudio (er enghraifft, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer isafswm nifer o gyrsiau astudio, neu ar gyfer cyrsiau astudio a bennir yn y rheoliadau).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “cwrs astudio” yw cwrs addysg neu hyfforddiant—

(a)sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwyir o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) neu a ddynodir o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu

(b)a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I84A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I85A. 25 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I86A. 25 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

I87A. 25 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(b)

PENNOD 3LL+CGWEITHREDU CWRICWLWM

CyffredinolLL+C

26Cyflwyniad a dehongliLL+C

(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithredu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Mae Pennod 4 yn nodi eithriadau iʼr dyletswyddau gweithredu cwricwlwm yn y Bennod hon.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4 at ysgol yn gyfeiriadau—

(a)at ysgol a gynhelir, neu

(b)at ysgol feithrin a gynhelir.

(4)Yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;

(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);

(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).

Gwybodaeth Cychwyn

I88A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I89A. 26 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I90A. 26 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

I91A. 26 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(b)

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelirLL+C

27Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedigLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i ddisgyblion yr ysgol yn unol ag adrannau 28, 29 a 30.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i ddisgyblion yr ysgol yn unol ag adrannau 28, 29 a 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I92A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I93A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I94A. 27 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

I95A. 27 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(b)

28Gofynion gweithredu cyffredinolLL+C

Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.

Gwybodaeth Cychwyn

I96A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I97A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I98A. 28 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

I99A. 28 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(b)

29Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 3 i 14 oedLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion nad ydynt eto wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y maeʼr rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi.

(2)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—

(a)syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a

(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(3)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—

(a)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a

(b)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r addysgu a dysgu i ddisgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I100A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I101A. 29 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I102A. 29 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

I103A. 29 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(b)

Rhagolygol

30Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 14 i 16 oedLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi.

(2)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl syʼn cwmpasuʼr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad, a

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu arall i bob disgybl ym mhob maes dysgu a phrofiad.

(3)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2) ddatblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2) gynnwys—

(a)addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir yn y cwricwlwm, iʼr graddau y maeʼn gymwys iʼr disgybl, yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 25, a

(b)yr addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24.

(5)Am eithriad iʼr ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl, gweler adran 31.

(6)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—

(a)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a

(b)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I104A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

31Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgyblLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys i’r addysgu a dysgu a ddewisir gan ddisgybl yn rhinwedd adran 24.

(2)Os yw pennaeth ysgol a gynhelir wedi ei fodloni bod sail berthnasol yn gymwys, caiff y pennaeth benderfynu nad yw’r ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu yn gymwys.

(3)Yn achos penderfyniad a wneir cyn iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—

(a)nad ywʼr addysgu a dysgu yn addas iʼr disgybl, oherwydd lefel cyrhaeddiad addysgol y disgybl;

(b)nad ywʼn rhesymol ymarferol sicrhau’r addysgu a dysgu iʼr disgybl, oherwydd dewisiadau eraill a wneir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24;

(c)y byddaiʼr amser syʼn debygol o gael ei dreulio yn teithio iʼr man lle y maeʼr addysgu yn debygol o gael ei ddarparu yn niweidiol i addysg y disgybl;

(d)yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl;

(e)y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl.

(4)Yn achos penderfyniad a wneir ar ôl iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—

(a)yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl;

(b)y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl.

(5)Yn is-adrannau (3) a (4), y “blwyddyn ysgol berthnasol” ywʼr flwyddyn ysgol y bydd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd 15 oed ynddi.

(6)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adrannau (3) a (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I105A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

32Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl: atodolLL+C

(1)Rhaid i bennaeth syʼn gwneud penderfyniad o dan adran 31 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2)—

(a)i’r disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a

(b)i riant y disgybl.

(2)Yr wybodaeth yw—

(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud,

(b)effaith y penderfyniad,

(c)rhesymauʼr pennaeth dros wneud y penderfyniad,

(d)gwybodaeth am yr addysgu a dysgu a sicrheir iʼr disgybl yn lleʼr addysgu a dysgu y maeʼr penderfyniad wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef, ac

(e)gwybodaeth am yr hawl i ofyn am adolygiad, neu wneud apêl, o dan adran 33.

(3)Rhaid rhoiʼr wybodaeth yn ysgrifenedig.

(4)Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall—

(a)yr wybodaeth a roddid, neu

(b)yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawliau a roddir gan adran 33.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 31.

Gwybodaeth Cychwyn

I106A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

33Adolygiadau ac apelau syʼn ymwneud â dewis disgyblLL+C

(1)Caiff disgybl neu riant y rhoddir gwybodaeth iddo am benderfyniad a wneir gan bennaeth o dan adran 31—

(a)ei gwneud yn ofynnol iʼr pennaeth adolyguʼr penderfyniad, a

(b)os nad yw wedi ei fodloni ar benderfyniad y pennaeth ar yr adolygiad, apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2)Yn sgil adolygiad—

(a)caiff y pennaeth gadarnhau, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad, a

(b)rhaid iʼr pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr penderfyniad hwnnw—

(i)iʼr disgybl,

(ii)i riant y disgybl a

(iii)iʼr corff llywodraethu.

(3)Ond nid yw is-adran (2)(b)(i) yn gymwys os yw’r pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—

(a)yr wybodaeth a roddid, neu

(b)yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan is-adran (1)(b).

(4)Yn sgil apêl—

(a)caiff y corff llywodraethu gadarnhau penderfyniad y pennaeth ar yr adolygiad neu gyfarwyddoʼr pennaeth i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol, a

(b)rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(i)iʼr disgybl,

(ii)i riant y disgybl, a

(iii)iʼr pennaeth.

(5)Ond nid yw is-adran (4)(b)(i) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(6)Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4)(a).

(7)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol o fewn is-adran (8) gyhoeddi gwybodaeth syʼn nodi gweithdrefn ar gyfer adolygiadau ac apelau o dan yr adran hon.

(8)Mae ysgol o fewn yr is-adran hon os yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn gymwys i ddisgyblion sydd wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I107A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelirLL+C

34Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedigLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i blant yn unol ag adrannau 35 a 36.

(2)Rhaid i awdurdod lleol syʼn sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu yn unol ag adrannau 35 a 36 i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I108A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I109A. 34 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I110A. 34 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I111A. 34 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

35Gofynion gweithredu cyffredinolLL+C

Rhaid gweithredu’r cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob plentyn,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob plentyn,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob plentyn (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I112A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I113A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I114A. 35 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I115A. 35 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

36Gofynion syʼn ymwneud â meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaiddLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob plentyn—

(a)syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a

(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(2)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir i blentyn o dan is-adran (1), mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I116A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I117A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I118A. 36 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I119A. 36 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

PENNOD 4LL+CGWEITHREDU CWRICWLWM: EITHRIADAU

37CyflwyniadLL+C

(1)Maeʼr Bennod hon yn nodi eithriadau iʼr dyletswyddau gweithredu cwricwlwm ym Mhennod 3.

(2)Mae adran 26 yn esbonio ystyr ymadroddion penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I120A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I121A. 37 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I122A. 37 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I123A. 37 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

38Gwaith datblygu ac arbrofionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon er mwyn ei gwneud yn bosibl gwneud gwaith datblygu neu gynnal arbrofion.

(2)Caniateir rhoi cyfarwyddyd mewn perthynas—

(a)ag ysgol a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)ag ysgolion o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd;

(c)ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Rhaid rhoi cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol—

(a)i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (oni bai bod yr ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir).

(4)Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol, am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas âʼr ysgol;

(b)darparu bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys mewn perthynas âʼr ysgol gydaʼr addasiadau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol hefyd ei gwneud yn ofynnol—

(a)i bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol, a

(b)iʼr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol (oni bai bod yr ysgol yn ysgol sefydledig neuʼn ysgol wirfoddol a gynorthwyir),

adrodd i Weinidogion Cymru am unrhyw faterion a bennir yn y cyfarwyddyd ar adegau neu ysbeidiau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(6)Rhaid rhoi cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)i ddarparwr yr addysg, a

(b)i’r awdurdod lleol sy’n sicrhau’r addysg.

(7)Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas âʼr addysg honno;

(b)darparu bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys mewn perthynas âʼr addysg honno gydaʼr addasiadau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(8)Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir hefyd ei gwneud yn ofynnol—

(a)i ddarparwr yr addysg, a

(b)i’r awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg,

adrodd i Weinidogion Cymru am unrhyw faterion a bennir yn y cyfarwyddyd ar adegau neu ysbeidiau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(9)Rhaid i berson y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan yr adran hon gydymffurfio âʼr cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I124A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I125A. 38 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I126A. 38 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I127A. 38 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

39Gwaith datblygu ac arbrofion: amodauLL+C

(1)Dim ond os ywʼr amodau yn yr adran hon wedi eu bodloni y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 38.

(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr disgyblion neuʼr plant o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd—

(a)yn galluogi pob disgybl neu blentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,

(c)yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl neu blentyn,

(d)yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl neu blentyn (os oes rhai), ac

(e)yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl neu blentyn.

(3)Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—

(a)ar gais a wneir gan y corff llywodraethu gyda chytundeb yr awdurdod lleol,

(b)ar gais a wneir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb y corff llywodraethu, neu

(c)ar gynnig a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb y corff llywodraethu aʼr awdurdod lleol.

(4)Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—

(a)ar gais a wneir gan y corff llywodraethu, neu

(b)gyda chytundeb y corff llywodraethu.

(5)Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—

(a)ar gais a wneir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb darparwr yr addysg, neu

(b)ar gynnig a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb yr awdurdod lleol a darparwr yr addysg.

(6)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol;

(b)mae cyfeiriadau at yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.

Gwybodaeth Cychwyn

I128A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I129A. 39 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I130A. 39 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I131A. 39 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

40Gwaith datblygu ac arbrofion: atodolLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 38.

(2)Rhaid rhoiʼr cyfarwyddyd yn ysgrifenedig.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddiʼr cyfarwyddyd.

(4)Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag ysgol—

(a)rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a

(b)nid yw adran 12 yn gymwys mewn perthynas âʼr ysgol ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.

(5)Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)rhaid i ddarparwr yr addysg gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a

(b)nid yw adran 16 yn gymwys mewn perthynas âʼr addysg ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I132A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I133A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I134A. 40 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I135A. 40 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

41Disgyblion a phlant ag anghenion dysgu ychwanegolLL+C

(1)Caiff y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan awdurdod lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol aʼr Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) gynnwys darpariaeth—

(a)syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;

(b)syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;

(c)syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;

(d)syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.

(2)Caiff y ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir mewn cynllun AIG o dan adran 37 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) gynnwys darpariaeth—

(a)syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;

(b)syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;

(c)syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;

(d)syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.

(3)Ond ni chaiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2) oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr plentyn o ganlyniad iʼr datgymhwyso neuʼr addasu—

(a)yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y disgybl neuʼr plentyn,

(c)yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn, a

(d)yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.

(4)Caiff rheoliadau bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2).

(5)Yn yr adran hon, maeʼr cyfeiriad at yr awdurdod lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol syʼn llunio neuʼn cynnal y cynllun datblygu unigol neu syʼn sicrhau bod y cynllun AIG yn cael ei lunio, ei ddiwygio neu ei ddisodli.

Gwybodaeth Cychwyn

I136A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I137A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I138A. 41 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

I139A. 41 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)

42Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigolLL+C

(1)Caiff rheoliadau alluogi pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir i benderfynu, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—

(a)bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw datgymhwyso mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, neu

(b)bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw cymhwyso mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, gydaʼr addasiadau a bennir yn y penderfyniad.

(2)Caiff rheoliadau alluogi darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir i benderfynu, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—

(a)bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw datgymhwyso, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, mewn perthynas â phlentyn y darperir yr addysg ar ei gyfer, neu

(b)bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw cymhwyso mewn perthynas â phlentyn oʼr fath, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, gydaʼr addasiadau a bennir yn y penderfyniad.

(3)Os gwneir rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid iddynt ddarparu na chaiff person wneud penderfyniad o dan y rheoliadau oni bai ei fod wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn o ganlyniad iʼr penderfyniad—

(a)yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,

(c)yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn,

(d)yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y disgybl neuʼr plentyn (os oes rhai), ac

(e)yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.

(4)Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I140A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I141A. 42 mewn grym ar 14.6.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 3(a)

I142A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(b)

43Eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion a phlant unigol: atodolLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rheoliadau a wneir o dan adran 42.

(2)Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau ar y sail bod gan ddisgybl neu blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol (gweler, yn hytrach, adran 41).

(3)Rhaid iʼr rheoliadau bennu bod cyfnod gweithredol penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau naill ai—

(a)yn gyfnod penodol a bennir yn y penderfyniad nad ywʼn hwy na 6 mis, neu

(b)yn gyfnod y mae rhaid dod ag ef i ben (yn unol âʼr rheoliadau) heb fod yn hwyrach na 6 mis i’w ddechrau.

(4)Ond caiff y rheoliadau bennu cyfnod gweithredol gwahanol ar gyfer penderfyniad os yw’r cyfnod gweithredol hwnnw i ddechrau—

(a)yn union ar ôl diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol, neu

(b)cyn diwedd cyfnod, a bennir yn y rheoliadau, sy’n dechrau â diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol.

(5)Caiff y rheoliadau alluogi person syʼn gwneud penderfyniad o dan y rheoliadau—

(a)i amrywioʼr penderfyniad, ac eithrio mewn perthynas âʼi gyfnod gweithredol, neu

(b)i ddirymuʼr penderfyniad.

(6)Caiff y rheoliadau bennu—

(a)ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau;

(b)amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod gweithredol” penderfyniad ywʼr cyfnod y maeʼr penderfyniad yn cael effaith ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I143A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I144A. 43 mewn grym ar 14.6.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 3(a)

I145A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(b)

44Darparu gwybodaeth am eithriadau dros droLL+C

(1)Rhaid i bennaeth syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—

(a)y disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef,

(b)rhiant y disgybl,

(c)corff llywodraethuʼr ysgol, a

(d)yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol.

(2)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—

(a)rhiant y plentyn y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a

(b)yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.

(3)Yr wybodaeth yw—

(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud, ei amrywio neu ei ddirymu;

(b)effaith y penderfyniad, yr amrywiad neuʼr dirymiad;

(c)y rhesymau dros wneud, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad;

(d)gwybodaeth am—

(i)yr hawl i wneud apêl o dan adran 45 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl);

(ii)yr hawl i wneud apêl o dan adran 46 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud ag unrhyw blentyn arall).

(4)Pan fo penderfyniad wedi ei wneud neu ei amrywio, rhaid iʼr wybodaeth hefyd gynnwys—

(a)disgrifiad oʼr ddarpariaeth a wneir ar gyfer addysg y disgybl neuʼr plentyn yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad;

(b)disgrifiad oʼr ffordd y maeʼr pennaeth neuʼr darparwr yn bwriadu sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(5)Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—

(a)yr wybodaeth a roddid, neu

(b)yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan adran 45.

Gwybodaeth Cychwyn

I146A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I147A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I148A. 44 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I149A. 44 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

45Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer disgyblion unigolLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys—

(a)pan fo pennaeth ysgol yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl o dan reoliadau a wneir o dan adran 42, neu

(b)pan fo disgybl, neu riant disgybl, yn gofyn i bennaeth ysgol wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr disgybl, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.

(2)Caiff pob un oʼr canlynol apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol—

(a)y disgybl;

(b)rhiant y disgybl.

(3)Nid yw is-adran (2)(a) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan yr adran hon.

(4)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff y corff llywodraethu—

(a)cyfarwyddoʼr pennaeth, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu

(b)hysbysu’r pennaeth, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

(5)Rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(a)iʼr disgybl, a

(b)i riant y disgybl.

(6)Nid yw is-adran (5)(a) yn gymwys os ywʼr corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(7)Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).

(8)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I150A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I151A. 45 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I152A. 45 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I153A. 45 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

46Apelau am eithriadau dros dro ar gyfer plant unigolLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys—

(a)pan fo darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 mewn perthynas â phlentyn y darperir yr addysg ar ei gyfer, neu

(b)pan fo rhiant plentyn y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar ei gyfer yn gofyn i ddarparwr yr addysg wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr plentyn, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.

(2)Caiff rhiant y plentyn apelio iʼr awdurdod lleol sydd wedi sicrhau’r addysg.

(3)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod lleol—

(a)cyfarwyddoʼr darparwr, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼr awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu

(b)hysbysu’r darparwr, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.

(4)Rhaid iʼr awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad i riant y plentyn.

(5)Rhaid iʼr darparwr gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (3).

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I154A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I155A. 46 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I156A. 46 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I157A. 46 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

47Eithriad ar gyfer disgyblion y mae trefniadau wedi eu gwneud ar eu cyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996LL+C

Nid yw adrannau 27, 28, 29 a 30 yn gymwys mewn perthynas â disgyblion y mae trefniadau wedi eu gwneud ar eu cyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (gweler, yn hytrach, Ran 3).

Gwybodaeth Cychwyn

I158A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I159A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I160A. 47 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I161A. 47 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

48Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer eithriadau pellachLL+C

(1)Caiff rheoliadau—

(a)datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(b)darparu bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(c)datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36 neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;

(d)darparu bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi disgresiwn i berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I162A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I163A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I164A. 48 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I165A. 48 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

RHAN 3LL+CCWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL

CyffredinolLL+C

49CyflwyniadLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru).

(2)Mae adrannau 50 i 52 yn gymwys i addysg a ddarperir mewn unedau cyfeirio disgyblion.

(3)Mae adrannau 53 i 55 yn gymwys i addysg a ddarperir ac eithrio mewn unedau cyfeirio disgyblion.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at ddisgyblion, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr uned, ac eithrio’r rheini sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I166A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I167A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I168A. 49 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I169A. 49 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

Unedau cyfeirio disgyblionLL+C

50Gofynion cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod cwricwlwm ar gyfer yr uned syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).

(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—

(a)galluogi disgyblion i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddisgyblion,

(c)bod yn addas i ddisgyblion o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol, a

(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i ddisgyblion.

(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion.

(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a

(b)yn yr elfennau mandadol eraill.

(6)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I170A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I171A. 50 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I172A. 50 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I173A. 50 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

51Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) aʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—

(a)cadwʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.

(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 50, rhaid iddynt roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid iddynt ddiwygioʼr cwricwlwm os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adran 50.

(4)Cânt ddiwygioʼr cwricwlwm hefyd ar unrhyw adeg y maent yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Os caiff y cwricwlwm ei ddiwygio, rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig, neu drefnu iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I174A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I175A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I176A. 51 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I177A. 51 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

52Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol i bob disgybl,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.

(2)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr uned yn cael ei weithredu mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(3)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod yr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)(b) yn addas ar gyfer cyfnod datblygu pob disgybl.

(4)Rhaid iʼr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion—

(a)ystyried pa addysgu a dysgu y byddaiʼn briodol ei ddarparu ar gyfer pob disgybl yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill aʼr elfennau mandadol eraill y maeʼr cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a

(b)sicrhau, iʼr graddau y maeʼn rhesymol bosibl, y darperir yr addysgu a dysgu ar gyfer y disgybl.

(5)Rhaid iʼr awdurdod lleol aʼr pwyllgor rheoli (os oes un) ar gyfer uned cyfeirio disgyblion arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y gweithredir y cwricwlwm ar gyfer yr uned i ddisgyblion yn unol âʼr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I178A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I179A. 52 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I180A. 52 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I181A. 52 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

Addysg arall a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996LL+C

53Gofynion cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau cwricwlwm iʼr plentyn syʼn cydymffurfio âʼr gofynion yn is-adrannau (2) i (5).

(2)Y gofyniad cyntaf yw bod rhaid iʼr cwricwlwm—

(a)galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)darparu ar gyfer cynnydd priodol iʼr plentyn,

(c)bod yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn, a

(d)bod yn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol i’r plentyn.

(3)Yr ail ofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)syʼn cwmpasu maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles,

(b)syʼn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, ac

(c)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Y trydydd gofyniad yw bod rhaid iʼr ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(b) fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.

(5)Y pedwerydd gofyniad yw bod rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth, os ywʼn rhesymol bosibl a phriodol gwneud hynny, ar gyfer addysgu a dysgu—

(a)yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill, a

(b)yn yr elfennau mandadol eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I182A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I183A. 53 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I184A. 53 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I185A. 53 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

54Adolygu a diwygioLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion—

(a)cadw’r trefniadau o dan adolygiad, a

(b)sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

(2)Wrth ystyried a yw’r trefniadau yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n cydymffurfio â’r gofynion hynny, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir mewn perthynas â’r plentyn o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r trefniadau os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i sicrhau cwricwlwm i’r plentyn sy’n parhau i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 53.

Gwybodaeth Cychwyn

I186A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I187A. 54 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I188A. 54 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I189A. 54 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

55Gweithredu cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i ddarparu addysg ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion sicrhau bod y trefniadau yn sicrhau bod y cwricwlwm i’r plentyn yn cael ei weithredu mewn ffordd—

(a)syʼn galluogiʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y plentyn,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y plentyn (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn eang ac yn gytbwys, iʼr graddau y maeʼn briodol iʼr plentyn.

(2)Rhaid iʼr awdurdod lleol hefyd sicrhau bod y trefniadau yn sicrhauʼr addysgu a dysgu y mae rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar ei gyfer o dan adran 53(3), (4) a (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I190A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I191A. 55 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.

I192A. 55 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)

I193A. 55 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)

RHAN 4LL+CASESU A CHYNNYDD

56Dyletswydd i wneud darpariaeth ynghylch trefniadau asesuLL+C

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau asesu.

(2)Trefniadau asesu yw trefniadau ar gyfer asesu, mewn perthynas âʼr cwricwlwm perthnasol—

(a)y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion a phlant,

(b)y camau nesaf yn eu cynnydd, ac

(c)yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol wneud a gweithredu trefniadau asesu;

(b)pennu pa bryd a sut y maeʼr trefniadau hynny iʼw gwneud aʼu gweithredu;

(c)pennuʼr trefniadau asesu, neuʼr meini prawf y mae rhaid i’r trefniadau eu bodloni;

(d)ei gwneud yn ofynnol gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau asesu;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch sut y maeʼr gwerthusiad hwnnw iʼw gynnal;

(f)ei gwneud yn ofynnol cadw trefniadau asesu o dan adolygiad, aʼu diwygio;

(g)ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu gwybodaeth, fel yʼi pennir yn y rheoliadau, ynghylch trefniadau asesu a wneir neu a weithredir gan y person hwnnw, ac ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-adran (2).

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)yr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion;

(f)person syʼn darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “cwricwlwm perthnasol”—

(a)mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ywʼr cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(b)mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, ywʼr cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan y person y darperir yr addysg ganddo (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(c)mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, ywʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned y cyfeirir ato yn adran 50 (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 51, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(d)mewn perthynas ag addysg a ddarperir ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ywʼr cwricwlwm i’r plentyn y cyfeirir ato yn adran 53.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)pennuʼr trefniadau asesu sydd iʼw gwneud aʼu gweithredu drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir o bryd iʼw gilydd gan unrhyw berson;

(b)gwneud darpariaeth i drefniadau asesu gael eu gweithredu yn unol â dogfen a gyhoeddir o bryd iʼw gilydd gan unrhyw berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I194A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I195A. 56 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(c)

I196A. 56(1) mewn grym ar 11.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/12, ergl. 2(a)

I197A. 56(1) mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/12, ergl. 3(a)

I198A. 56(2)-(6) mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/12, ergl. 3(a)

57Hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnyddLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo person perthnasol (neu bersonau perthnasol o ddisgrifiad penodedig) i gymryd camau penodedig gyda golwg ar hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd yng nghyd-destun cwricwlwm perthnasol.

(2)Rhaid i berson perthnasol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan yr adran hon gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(3)Yn yr adran hon—

(a)mae i “cwricwlwm perthnasol” a “person perthnasol” yr ystyr a roddir yn adran 56, a

(b)ystyr “penodedig” yw penodedig mewn cyfarwyddyd o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I199A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I200A. 57 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(c)

I201A. 57(1) mewn grym ar 11.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/12, ergl. 2(b)

I202A. 57(1) mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/12, ergl. 3(b)

I203A. 57(2)(3) mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/12, ergl. 3(b)

Rhagolygol

RHAN 5LL+CCWRICWLWM: ADDYSG ÔL-ORFODOL MEWN YSGOLION A GYNHELIR

58Cyflwyniad a dehongliLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cwricwlwm i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.

(2)Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at ysgol a gynhelir yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir y mae disgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol wedi eu cofrestru ynddi;

(b)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol a gynhelir, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

(c)mae cyfeiriadau at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm i’r disgyblion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I204A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

59Gofyniad cwricwlwm cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir sicrhau bod y cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2).

(2)Y gofyniad yw bod y cwricwlwm yn gwricwlwm cytbwys ac eang—

(a)sy’n hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol y disgyblion a’r gymdeithas, a

(b)sy’n paratoi’r disgyblion ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd yn ddiweddarach.

(3)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) ym mhob ysgol a gynhelir y mae’n ei chynnal.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm yn cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) ym mhob ysgol a gynhelir.

Gwybodaeth Cychwyn

I205A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

60Gofyniad cwricwlwm: Addysg Cydberthynas a RhywioldebLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy’n gofyn amdano.

(2)Mae’r pennaeth i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio ag is-adran (1) os darperir yr addysgu a dysgu yn yr ysgol ar adeg neu adegau sy’n gyfleus i’r rhan fwyaf o’r disgyblion sydd wedi gofyn amdano.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn unol â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I206A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

61Gofyniad cwricwlwm: Crefydd, Gwerthoedd a MoesegLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy’n gofyn amdano.

(2)Mae’r pennaeth i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio ag is-adran (1) os darperir yr addysgu a dysgu yn yr ysgol ar adeg neu adegau sy’n gyfleus i’r rhan fwyaf o’r disgyblion sydd wedi gofyn amdano.

(3)Rhaid i’r addysgu a dysgu a ddarperir o dan yr adran hon—

(a)adlewyrchu’r ffaith mai Cristnogol yn bennaf yw’r traddodiadau crefyddol yng Nghymru, gan ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru, a

(b)adlewyrchu hefyd y ffaith y delir ystod o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol yng Nghymru.

(4)Yn is-adran (3), mae’r cyfeiriad at “argyhoeddiadau athronyddol” yn gyfeiriadau at argyhoeddiadau athronyddol o fewn ystyr “philosophical convictions” yn Erthygl 2 o Brotocol Cyntaf y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

(5)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau y darperir addysgu a dysgu mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn unol â’r adran hon.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol” (“the European Convention on Human Rights”) yw’r Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol, a gytunwyd gan Gyngor Ewrop yn Rhufain ar 4 Tachwedd 1950, fel y mae’n cael effaith am y tro o ran y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “y Protocol Cyntaf” (“the First Protocol”), mewn perthynas â’r Confensiwn hwnnw, yw protocol y Confensiwn a gytunwyd ym Mharis ar 20 Mawrth 1952.

Gwybodaeth Cychwyn

I207A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

62Gofynion pellach cwricwlwmLL+C

Gweler adrannau 33A i 33O o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) (cwricwla lleol i fyfyrwyr 16 i 18 oed) am ddarpariaeth bellach ynghylch cwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I208A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

RHAN 6LL+CATODOL

Iechyd meddwl a lles emosiynolLL+C

63Dyletswydd i roi sylw i iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifancLL+C

(1)Rhaid i berson o fewn is-adran (2), wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon, roi sylw i iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc y mae arfer y swyddogaeth yn debygol o effeithio arnynt.

(2)Y personau yw—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;

(f)person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

(g)awdurdod lleol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I209A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I210A. 63 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)

Confensiynau’r Cenhedloedd UnedigLL+C

64Dyletswydd i hybu gwybodaeth am Gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant a hawliau pobl ag anableddau a dealltwriaeth o’r Confensiynau hynnyLL+C

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â chwricwlwm yr ysgol.

(2)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu mewn cysylltiad â’r cwricwlwm ar gyfer yr uned.

(4)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hybu gwybodaeth am Ran 1 o CCUHP, ac am CCUHPA, a dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y rheini sy’n darparu addysgu a dysgu ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “CCUHP” (“UNCRC”) yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989; ac mae Rhan 1 o CCUHP i’w thrin fel pe bai’n cael effaith—

    (a)

    fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond

    (b)

    yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y’i nodir am y tro yn Rhan 3 o’r Atodlen honno;

  • ystyr “CCUHPA” (“UNCRPD”) yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’i brotocol dewisol a fabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2006 gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol A/RES/61/106 ac a agorwyd i’w lofnodi ar 30 Mawrth 2007; ac mae i’w drin fel pe bai’n cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ei gadarnhau, ac eithrio pan fo’r datganiad neu’r neilltuad wedi ei dynnu’n ôl wedi hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I211A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I212A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)

Cydweithredu a hwylusoLL+C

65Dyletswydd i gydweithreduLL+C

(1)Rhaid i berson o fewn is-adran (2) geisio ymrwymo i drefniadau cydweithredu—

(a)â pherson arall o fewn yr is-adran honno, neu

(b)â chorff llywodraethu sefydliad yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach,

os yw’r person yn ystyried y byddai ymrwymo i drefniadau o’r fath yn hwyluso arfer swyddogaeth a roddir i’r person gan neu o dan y Ddeddf hon.

(2)Y personau yw—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;

(f)awdurdod lleol yng Nghymru.

(3)Os yw person yn ceisio ymrwymo i drefniadau cydweithredu â pherson arall yn unol ag is-adran (1), rhaid i’r person arall ystyried y cais.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau cydweithredu” yw—

(a)trefniadau a wneir wrth arfer y pwerau cydlafurio a ddisgrifir yn adran 5 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7), neu

(b)trefniadau o fath tebyg a wneir gan neu gyda—

(i)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,

(ii)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(iii)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion, neu

(iv)pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion.

Gwybodaeth Cychwyn

I213A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I214A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)

66Dyletswyddau Gweinidogion Cymru i hwyluso cyflawni swyddogaethauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar hwyluso cyflawni swyddogaethau, gan bersonau o fewn is-adran (2), a roddir iddynt gan neu o dan Rannau 2 i 4.

(2)Y personau yw—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;

(f)person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

(g)awdurdod lleol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I215A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I216A. 66 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)

67Dyletswyddau awdurdodau lleol i hwyluso cyflawni swyddogaethauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hwyluso cyflawni swyddogaethau, gan bersonau o fewn is-adran (2), a roddir iddynt gan neu o dan Rannau 2 i 4.

(2)Y personau yw—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, a sicrheir gan yr awdurdod lleol;

(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol;

(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud trefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) ar gyfer darparu addysg i blentyn ac eithrio—

(a)mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan yr awdurdod lleol, neu

(b)mewn uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

(4)Rhaid i’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hwyluso cyflawni, gan bersonau o fewn is-adran (5), eu swyddogaethau perthnasol.

(5)Y personau yw—

(a)pan fo’r addysg yn cael ei darparu i’r plentyn mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, a gynhelir gan awdurdod lleol arall, bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol;

(b)pan fo’r addysg yn cael ei darparu i’r plentyn mewn uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan awdurdod lleol arall, yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned, y pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned (os oes un) a’r awdurdod hwnnw;

(c)pan fo’r addysg yn cael ei darparu ar gyfer y plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, unrhyw berson sy’n ei darparu.

(6)“Swyddogaethau perthnasol” person o fewn is-adran (5) yw’r swyddogaethau a roddir i’r person hwnnw, gan neu o dan Rannau 2 i 4, mewn cysylltiad â’r addysg.

Gwybodaeth Cychwyn

I217A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I218A. 67 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(d)

Y GymraegLL+C

68Dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu mynediad etc at gyrsiau astudio cyfrwng CymraegLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru hybu mynediad at gyrsiau astudio a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg, ac argaeledd y cyrsiau hynny, ar gyfer plant y mae’r Ddeddf hon yn gymwys iddynt.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “cwrs astudio” yw cwrs addysg neu hyfforddiant—

(a)sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwyir o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) neu a ddynodir o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu

(b)a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I219A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I220A. 68 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(d)

Darpariaeth benodol ar gyfer lleoliadau pellach etcLL+C

69Pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer plant sy’n cael addysg mewn mwy nag un lleoliad etcLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sydd i’w sicrhau i blant o’r oedran ysgol gorfodol y mae’r adran hon yn gymwys iddynt ac mewn cysylltiad ag addysgu a dysgu o’r fath.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir⁠—

(a)os darperir addysg ar gyfer y plentyn, naill ai yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) neu fel arall—

(i)mewn ysgol arall a gynhelir, neu

(ii)mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(b)os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 mewn uned cyfeirio disgyblion;

(c)os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion, ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir—

(a)os darperir addysg ar gyfer y plentyn, naill ai yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 neu fel arall—

(i)mewn ysgol feithrin arall a gynhelir, neu

(ii)mewn ysgol a gynhelir;

(b)os darperir addysg ar gyfer y plentyn mewn uned cyfeirio disgyblion;

(c)os darperir addysg ar gyfer y plentyn o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion, ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.

(4)Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn uned cyfeirio disgyblion os darperir addysg ar gyfer y plentyn, yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996—

(a)mewn uned cyfeirio disgyblion arall, neu

(b)ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion neu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn—

(a)os nad yw’r plentyn yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, a

(b)os yw’r plentyn o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd wneud darpariaeth ar gyfer gwneud a gweithredu, ac mewn cysylltiad â gwneud a gweithredu, trefniadau ar gyfer asesu’r materion a ganlyn—

(a)y cynnydd a wneir gan blant y mae’r adran hon yn gymwys iddynt;

(b)y camau nesaf yn eu cynnydd;

(c)yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.

(7)Caiff y rheoliadau—

(a)rhoi swyddogaethau i berson o fewn is-adran (8);

(b)cymhwyso darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad â phlant y mae’r adran hon yn gymwys iddynt, gydag addasiadau neu hebddynt;

(c)darparu i ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, a fyddai fel arall yn gymwys mewn cysylltiad â’r plant hynny, beidio â bod felly.

(8)Y personau yw—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(d)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;

(e)person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996;

(f)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(g)awdurdod lleol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I221A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I222A. 69 mewn grym ar 14.6.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 3(b)

I223A. 69 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(e)

70Pŵer i gymhwyso’r Ddeddf i blant sy’n cael eu cadw’n gaeth a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

(1)Caiff rheoliadau gymhwyso darpariaethau yn y Ddeddf hon, gydag addasiadau neu hebddynt—

(a)i blant sy’n cael eu cadw’n gaeth yng Nghymru o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a

(b)i bobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth yng Nghymru o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau.

(2)Yn yr adran hon, ystyr plentyn sy’n cael ei gadw’n gaeth neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth yw plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth yn unol—

(a)â gorchymyn a wneir gan lys, neu

(b)â gorchymyn adalw a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gwybodaeth Cychwyn

I224A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I225A. 70 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(f)

CanllawiauLL+C

71Dyletswydd i roi sylw i ganllawiauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau y maent yn meddwl eu bod yn briodol (os oes rhai).

(3)Wrth arfer eu swyddogaethau, rhaid i’r personau a ganlyn roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)yr athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)y pwyllgor rheoli ar gyfer uned cyfeirio disgyblion;

(f)person sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn, ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

(g)awdurdod lleol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I226A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I227A. 71 mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/652, ergl. 4(f)

RHAN 7LL+CCYFFREDINOL

72Statws y Ddeddf hon fel Deddf AddysgLL+C

Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

Gwybodaeth Cychwyn

I228A. 72 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

73Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadauLL+C

Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I229A. 73 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

74Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon etcLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed,

y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).

Gwybodaeth Cychwyn

I230A. 74 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

75RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol, a

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)rheoliadau o dan adran 5, 31 neu 48, neu

(b)rheoliadau o dan adran 74 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol,

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(4)Yn is-adran (2), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf gan Senedd Cymru;

(b)Mesur Cynulliad;

(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I231A. 75 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

76Cod yr Hyn sy’n Bwysig a’r Cod Cynnydd: y weithdrefnLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r canlynol—

(a)Cod yr Hyn sy’n Bwysig;

(b)y Cod Cynnydd.

(2)Cyn dyroddi neu ddiwygio’r Cod, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r personau y maent yn meddwl eu bod yn briodol (os oes rhai), a

(b)gosod gerbron Senedd Cymru ddrafft o’r Cod arfaethedig (neu, yn achos diwygiadau, o’r Cod diwygiedig arfaethedig).

(3)Os yw’r Senedd, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a osodwyd ger ei bron o dan is-adran (2)(b), ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r Cod neu’r Cod diwygiedig ar ffurf y drafft hwnnw (nac ar unrhyw ffurf arall, oni bai bod drafft o’r ffurf arall honno wedi ei osod gerbron y Senedd o dan is-adran (2)(b)).

(4)Os na wneir unrhyw benderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw mewn cysylltiad â drafft a osodwyd gerbron y Senedd o dan is-adran (2)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (neu’r Cod diwygiedig) ar ffurf y drafft.

(5)O ran y cyfnod o 40 niwrnod, mewn perthynas â drafft—

(a)mae’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Senedd o dan is-adran (2)⁠(b), a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw gyfnod y mae’r Senedd wedi ei diddymu neu y mae’r Senedd mewn toriad am fwy na phedwar diwrnod ynddo.

(6)Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw bersonau ynghylch Cod y cyfeirir ato yn is-adran (1) cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r ymgynghoriad hwnnw i’w drin fel pe bai’n cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (2)(a) mewn perthynas â’r Cod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I232A. 76 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

77Y Cod ACRh: y weithdrefnLL+C

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio’r Cod ACRh, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r personau y maent yn meddwl eu bod yn briodol (os oes rhai), a

(b)gosod gerbron Senedd Cymru ddrafft o’r Cod arfaethedig (neu, yn achos diwygiadau, o’r Cod diwygiedig arfaethedig).

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r Cod ACRh (neu’r Cod ACRh diwygiedig) oni bai bod drafft o’r Cod arfaethedig (neu o’r Cod diwygiedig arfaethedig)—

(a)wedi ei osod gerbron y Senedd o dan is-adran (1)(b), a

(b)wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Senedd.

(3)Os yw’r Senedd yn penderfynu cymeradwyo drafft a osodwyd ger ei bron o dan is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod ACRh (neu’r Cod ACRh diwygiedig) ar ffurf y drafft.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw bersonau ynghylch y Cod ACRh cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r ymgynghoriad hwnnw i’w drin fel pe bai’n cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I233A. 77 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

78Gwybodaeth, hysbysiadau a chyfarwyddydau ysgrifenedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi i berson yn ysgrifenedig,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad ysgrifenedig gael ei roi i berson, neu

(c)yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi i gyfarwyddyd gael ei roi i berson.

(2)Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i’r person—

(a)drwy ei danfon neu ei ddanfon i’r person,

(b)drwy ei gadael neu ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)drwy ei hanfon neu ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)os yw’r amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni, drwy ei hanfon neu ei anfon yn electronig i gyfeiriad priodol y person,

ac mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (4) i (6) at roi gwybodaeth neu hysbysiad neu gyfarwyddyd yn gyfeiriadau at ei rhoi neu ei roi yn un o’r ffyrdd a bennir ym mharagraffau (a) i (d).

(3)Mae’r amod yn yr is-adran hon wedi ei fodloni os yw’r person y mae’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i’w rhoi neu i’w roi iddo—

(a)wedi cytuno y caniateir ei hanfon neu ei anfon yn electronig, a

(b)wedi darparu cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw.

(4)Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i gorff corfforedig drwy ei rhoi neu ei roi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(5)Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i bartneriaeth drwy ei rhoi neu ei roi—

(a)i bartner yn y bartneriaeth, neu

(b)i berson a chanddo’r rheolaeth dros fusnes y bartneriaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.

(6)Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i unrhyw gorff anghorfforedig arall drwy ei rhoi neu ei roi i aelod o gorff llywodraethu’r corff anghorfforedig.

(7)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c) ac adran 13(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) (cyflwyno dogfennau), cyfeiriad priodol person yw—

(a)yn achos pennaeth, gyfeiriad yr ysgol;

(b)yn achos athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion, gyfeiriad yr uned cyfeirio disgyblion;

(c)yn achos corff corfforedig, gyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(d)yn achos partneriaeth, neu unrhyw gorff anghorfforedig arall, gyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth neu’r corff;

(e)yn achos person y rhoddir yr wybodaeth neu’r hysbysiad iddo gan ddibynnu ar unrhyw un o is-adrannau (4) i (6), gyfeiriad priodol y corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig arall o dan sylw;

(f)mewn unrhyw achos arall, gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(8)At ddibenion is-adran (2)(d) ac adran 13(2) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, cyfeiriad priodol person yw’r cyfeiriad a ddarperir gan y person hwnnw yn unol ag is-adran (3)(b).

(9)Yn achos—

(a)cwmni sydd wedi ei gofrestru y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

(b)partneriaeth sy’n cynnal busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac

(c)unrhyw gorff anghorfforedig arall a chanddo swyddfeydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig,

mae’r cyfeiriadau yn is-adran (7) at brif swyddfa yn cynnwys cyfeiriadau at brif swyddfa yn y Deyrnas Unedig (os oes un).

Gwybodaeth Cychwyn

I234A. 78 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

79Ystyr “ysgol a gynhelir”, “ysgol feithrin a gynhelir” ac ymadroddion cysylltiedigLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

(i)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, neu

(ii)ysgol arbennig gymunedol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, ac eithrio ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty;

(b)ystyr “ysgol feithrin a gynhelir” yw ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru ac nad yw’n ysgol arbennig.

(2)Yn y Ddeddf hon, mae i’r ymadroddion a ganlyn yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31)

  • “ysgol arbennig gymunedol” (“community special school”)

  • “ysgol gymunedol” (“community school”)

  • “ysgol sefydledig” (“foundation school”)

  • “ysgol wirfoddol” (“voluntary school”)

  • “ysgol wirfoddol a gynorthwyir” (“voluntary aided school”)

  • “ysgol wirfoddol a reolir” (“voluntary controlled school”).

Gwybodaeth Cychwyn

I235A. 79 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

80Ystyr “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” ac ymadroddion cysylltiedigLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” yw addysg feithrin a ddarperir⁠—

(i)gan berson ac eithrio corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,

(ii)o dan drefniadau a wneir rhwng y person hwnnw ac awdurdod lleol yng Nghymru, drwy arfer dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau addysg feithrin o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), a

(iii)yn gydnabyddiaeth am y cymorth ariannol a ddarperir gan yr awdurdod o dan y trefniadau;

(b)ystyr “addysg feithrin” yw addysg lawnamser neu ran-amser sy’n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd yr oedran ysgol gorfodol;

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn berson y mae awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ag ef drwy arfer dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau addysg feithrin o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a

(b)mae awdurdod lleol sy’n sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o’r disgrifiad hwnnw ar gyfer yr addysg honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I236A. 80 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

81Ystyr “uned cyfeirio disgyblion” ac ymadroddion cysylltiedigLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru).

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned, a

(b)ystyr y pwyllgor rheoli, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yw’r pwyllgor (os oes un) a sefydlir i weithredu fel y pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned o dan reoliadau a wneir o dan Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I237A. 81 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

82Dehongli cyffredinolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae “addasu” (“modify”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu;

  • ystyr “dosbarth” (“class”), mewn perthynas â disgybl, yw—

    (a)

    y grŵp addysgu yr addysgir y disgybl ynddo yn rheolaidd, neu

    (b)

    pan fo dau neu ragor o grwpiau o’r fath, y grŵp a ddynodir gan bennaeth yr ysgol;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae i ymadroddion eraill yn y Ddeddf hon y diffinnir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol iddynt yn Neddf Addysg 1996 (p. 56), neu y rhoddir ystyr iddynt ganddi, yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Ddeddf honno.

(3)Ond pan fo ystyr wedi ei roi i ymadrodd at ddibenion y Ddeddf hon (naill ai gan y Ddeddf hon neu gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)) sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae’r ystyr honno yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r un a roddir at ddibenion Deddf 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I238A. 82 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

83Mynegai o ymadroddion a ddiffinnir yn y Ddeddf honLL+C

Mae’r Tabl isod yn rhestru darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n diffinio neu fel arall yn esbonio ymadroddion a ddefnyddir yn y Ddeddf hon.

TABL 1

YmadroddDarpariaeth berthnasol
addasu (“modify”)adran 82(1)
addysg feithrin (“nursery education”)adran 80(1)(b)
addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“funded non-maintained nursery education”)adran 80(1)(a)
awdurdod lleol (“local authority”) (mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion)adran 81(2)(a)
awdurdod lleol sy’n sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“local authority that secures funded non-maintained nursery education”)adran 80(2)(b)
blwyddyn ysgol berthnasol (“relevant school year”)adran 31(5)
Cod ACRh (“RSE Code”)adran 8(1)
Cod Cynnydd (“Progression Code”)adran 7(1)
Cod yr Hyn sy’n Bwysig (“What Matters Code”)adran 6(1)
cwmpasu (“encompass”)
(mewn perthynas â maes dysgu a phrofiad)adran 6(2) a (3)
(mewn perthynas ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb)adran 8(2) a (3)
cwricwlwm adran 13 (“section 13 curriculum”)adran 13(1)
cwricwlwm mabwysiedig (“adopted curriculum”)
(ym Mhennod 1 o Ran 2)adran 9(3)
(ym Mhenodau 3 a 4 o Ran 2)adran 26(4)
cwricwlwm perthnasol (“relevant curriculum”) (yn Rhan 4)adran 56(5)
cwrs astudio (“course of study”)adrannau 25(5) a 68(2)
cynnydd priodol (“appropriate progression”)adran 7(2) a (3)
darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“provider of funded non-maintained nursery education”)adran 80(2)(a)
dosbarth (“class”)adran 82(1)
elfen fandadol (“mandatory element”)adran 3(2)
maes dysgu a phrofiad (“area of learning and experience”)adran 3(1)
pedwar diben (“four purposes”)adran 2(1)
person perthnasol (“relevant person”) (yn Rhan 4)adran 56(4)
pwyllgor rheoli (“management committee”) (mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion)adran 81(2)(b)
rheoliadau (“regulations”)adran 82(1)
sgìl trawsgwricwlaidd mandadol (“mandatory cross-curricular skill”)adran 4(1)
trefniadau asesu (“assessment arrangements”) (yn Rhan 4)adran 56(2)
uned cyfeirio disgyblion (“pupil referral unit”)adran 81(1)
ysgol (“school”)
(ym Mhennod 1 o Ran 2)adran 9(2)
(ym Mhenodau 3 a 4 o Ran 2)adran 26(3)
ysgol a gynhelir (“maintained school”)
(yn gyffredinol)adran 79(1)(a)
(yn Rhan 5)adran 58(2)(a)
ysgol arbennig gymunedol (“community special school”)adran 79(2)
ysgol feithrin a gynhelir (“maintained nursery school”)adran 79(1)(b)
ysgol gymunedol (“community school”)adran 79(2)
ysgol sefydledig (“foundation school”)adran 79(2)
ysgol wirfoddol (“voluntary school”)adran 79(2)
ysgol wirfoddol a gynorthwyir (“voluntary aided school”)adran 79(2)
ysgol wirfoddol a reolir (“voluntary controlled school”)adran 79(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I239A. 83 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

84Dod i rymLL+C

(1)Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon i rym ar ba ddiwrnod neu ddiwrnodau bynnag y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu neu eu pennu drwy orchymyn.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru bennu diwrnodau gwahanol o dan is-adran (2) at ddibenion gwahanol.

(4)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)mae i’w wneud drwy offeryn statudol, a

(b)caiff wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I240A. 84 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

85Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I241A. 85 mewn grym ar 30.4.2021, gweler a. 84(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources