Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021

Adran 6 – Pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis

19.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i’r Llywydd i ohirio etholiad 2021 a phennu dyddiad newydd (is-adran (3)).

20.Ni chaiff y Llywydd bennu dyddiad newydd ar gyfer yr etholiad ond os yw’r Prif Weinidog yn gwneud cynnig i’r Llywydd bod etholiad 2021 yn cael ei ohirio (is-adran (1)). Ni chaiff y Prif Weinidog wneud y cynnig hwnnw ond os yw’r Prif Weinidog yn ystyried bod y gohirio yn angenrheidiol neu’n briodol am resymau sy’n ymwneud â’r coronafeirws. A chyn gwneud cynnig, rhaid i’r Prif Weinidog ymgynghori â Phrif Swyddog Meddygol Cymru.

21.Ni chaiff y Llywydd bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl ond—

  • os yw’r Senedd yn cymeradwyo’r diwrnod sydd i’w bennu drwy bleidlais drwy benderfyniad sy’n cael ei basio gan fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm nifer seddi’r Senedd;

  • os nad yw’r Senedd eisoes wedi ei diddymu.

22.Nid yw adran 6 o’r Ddeddf yn cyfyngu ar bŵer y Llywydd i amrywio dyddiad y pôl ar gyfer etholiad cyffredinol arferol a nodir yn adran 4 o Ddeddf 2006.

23.Caniateir i’r pwerau yn yr adran gael eu harfer fwy nag unwaith, ond ni chaiff diwrnod a bennir o dan yr adran hon fod yn hwyrach na 5 Tachwedd 2021.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources