Search Legislation

Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Legislation Crest

Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021

2021 dsc 2

Deddf Senedd Cymru i ddarparu i fesurau sy’n ymwneud â diogelu rhag y coronafeirws fod yn gymwys i etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol.

[16 Mawrth 2021]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Prif ddarpariaethau

1Etholiad 2021

Yn y Ddeddf hon, ystyr “etholiad 2021” yw’r etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021.

2Cymhwyso darpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006

(1)Nid yw is-adrannau (2) i (4) o adran 3 o Ddeddf 2006 (diddymu Senedd Cymru cyn etholiad cyffredinol arferol a dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl yr etholiad) yn gymwys i etholiad 2021.

(2)Mae adran 3(1) o Ddeddf 2006 (y diwrnod y cynhelir y pôl mewn etholiad cyffredinol arferol) yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 6.

(3)Nid yw adran 4(2)(c) o Ddeddf 2006 (y cyfnod y mae rhaid i Senedd Cymru gyfarfod ynddo pan fo diwrnod y pôl wedi ei amrywio drwy broclamasiwn) yn gymwys i etholiad 2021.

(4)Mae adran 10 o Ddeddf 2006 (seddi etholaethol gwag) yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 10.

3Diddymu’r Senedd gyfredol

(1)At ddiben cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021, diddymir Senedd Cymru ar 29 Ebrill 2021, oni bai—

(a)bod y Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 (pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis), neu

(b)bod Ei Mawrhydi yn diddymu Senedd Cymru cyn y diwrnod hwnnw drwy broclamasiwn o dan adran 4(2) o Ddeddf 2006 (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol y Senedd).

(2)Os yw’r Llywydd yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6, diddymir Senedd Cymru ar ddechrau’r cyfnod o 7 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl, oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r Llywydd, cyn y diwrnod y bwriedir diddymu Senedd Cymru yn unol ag is-adran (2), yn arfer y pŵer a roddir gan adran 6 eto (ac, yn unol â hynny, mae is-adran (2) yn gymwys i’r arfer hwnnw o’r pŵer yn ei dro).

4Canllawiau ar arfer swyddogaethau yn y cyfnod cyn yr etholiad

(1)Rhaid i’r Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer etholiad 2021.

(2)Rhaid i’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol roi sylw i’r canllawiau.

(3)Rhaid i’r Prif Weinidog benderfynu ar y cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer etholiad 2021 at ddiben yr adran hon.

(4)Rhaid i’r cyfnod y penderfynir arno gynnwys y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021.

(5)Rhaid i’r canllawiau gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

5Dyddiad y cyfarfod cyntaf ar ôl etholiad 2021

Rhaid i Senedd Cymru gyfarfod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau yn union ar ôl y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer etholiad 2021.

6Pŵer i ohirio etholiad 2021 am hyd at 6 mis

(1)Caiff Prif Weinidog Cymru (“y Prif Weinidog”) gynnig i’r Llywydd fod y pôl ar gyfer etholiad 2021 yn cael ei ohirio os yw’r Prif Weinidog, am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws, yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud hynny.

(2)Ond cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r Prif Weinidog ymgynghori â’r aelod o staff yn Llywodraeth Cymru sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru yn Brif Swyddog Meddygol Cymru.

(3)Yn dilyn cynnig gan y Prif Weinidog, caiff y Llywydd bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021—

(a)os yw Senedd Cymru yn cymeradwyo’r diwrnod sydd i’w bennu drwy benderfyniad sy’n cael ei basio drwy bleidlais nad yw nifer Aelodau’r Senedd sy’n pleidleisio o’i blaid yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm nifer seddi’r Senedd, a

(b)os nad yw Senedd Cymru wedi ei diddymu.

(4)Wrth bennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl—

(a)rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol;

(b)ni chaiff y Llywydd bennu diwrnod sydd ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl pennu diwrnod ar gyfer cynnal y pôl, rhaid i’r Llywydd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad—

(a)o’r diwrnod a bennwyd ar gyfer cynnal y pôl, a

(b)o’r rheswm dros arfer y pŵer i bennu diwrnod.

(6)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas â gohirio pôl os yw’r Llywydd neu’r Prif Weinidog yn gofyn iddo wneud hynny.

(7)Caniateir i’r pwerau yn is-adrannau (1) a (3) gael eu harfer fwy nag unwaith.

(8)Rhaid i’r Prif Weinidog osod datganiad gerbron Senedd Cymru ar neu cyn 24 Mawrth 2021 sy’n nodi pa un a yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer yn is-adran (1) ai peidio.

(9)Os nad yw’r Prif Weinidog yn bwriadu arfer y pŵer, rhaid i’r datganiad nodi—

(a)y rhesymau dros beidio ag arfer y pŵer, a

(b)a ellir cynnal ymgyrch etholiadol lawn a theg, ym marn y Prif Weinidog, gan bob person sy’n ceisio cael ei ethol yn etholiad 2021 nad yw’n rhoi unrhyw berson sy’n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwnnw o dan anfantais.

(10)Nid yw unrhyw fwriad a fynegir yn y datganiad o dan is-adran (8) yn effeithio ar arfer y pŵer yn is-adran (1).

(11)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu ar y pŵer yn adran 4 o Ddeddf 2006 i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd.

(12)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf sydd i’w defnyddio gan y Prif Weinidog ar gyfer penderfynu a yw’n angenrheidiol neu’n briodol gohirio’r pôl ar gyfer etholiad 2021 am reswm sy’n ymwneud â’r coronafeirws o dan is-adran (1).

(13)Rhaid i’r meini prawf gael eu cyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

7Pŵer i ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu y caiff y pleidleisio na fyddai fel arall yn ofynnol iddo ddigwydd ond ar y dyddiad a bennir o dan adran 6 ddigwydd ar un neu ragor o ddiwrnodau ychwanegol a bennir yn y rheoliadau.

(3)O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)ni chânt bennu diwrnod ond os yw’n dod o fewn y cyfnod o 7 niwrnod yn union cyn y diwrnod a bennir ar gyfer cynnal y pôl;

(b)cânt ei gwneud yn ofynnol i bleidleisio ar ddiwrnodau ychwanegol ddigwydd mewn lleoliadau penodol neu ddisgrifiadau neu gategorïau o leoliadau a bennir yn y rheoliadau;

(c)cânt addasu ystyr cyfeiriad perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud â darpariaeth a wneir yn y rheoliadau.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfeiriad perthnasol” yw cyfeiriad (sut bynnag y’i mynegir) mewn unrhyw ddeddfiad neu ddogfen at ddiwrnod neu ddyddiad y pôl yn etholiad 2021.

(5)Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddarparu cyngor mewn perthynas ag arfer y pŵer yn is-adran (2) os gofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(6)Wrth osod rheoliadau drafft o dan is-adran (7) gerbron Senedd Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru ar yr un pryd osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad o’r rhesymau dros y rheoliadau.

(7)Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(8)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (7) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(9)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (7), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(10)Nid yw is-adrannau (7) ac (8)—

(a)yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

(b)yn atal gwneud rheoliadau newydd.

(11)Nid yw rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael unrhyw effaith pan fo’r pôl yn etholiad 2021 a’r pôl yn etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu yng Nghymru i’w cynnal gyda’i gilydd o dan erthygl 16A o Orchymyn 2007.

(12)Yn is-adran (11), mae i “etholiad arferol comisiynwyr heddlu a throseddu ar gyfer ardaloedd heddlu” yr ystyr a roddir i “ordinary election of police and crime commissioners for police areas” yn adran 50 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13).

8Pŵer pellach i amrywio dyddiad etholiad 2021

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os pennir y diwrnod ar gyfer cynnal pôl etholiad 2021 o dan adran 6.

(2)Caiff y Llywydd gynnig, ar gyfer cynnal y pôl, ddiwrnod nad yw’n fwy nag un mis yn gynharach, nac yn fwy nag un mis yn ddiweddarach, na’r diwrnod a bennir o dan adran 6.

(3)Ni chaniateir i’r pŵer o dan is-adran (2) gael ei arfer er mwyn cynnig dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(4)Os yw’r Llywydd yn cynnig diwrnod o dan is-adran (2), caiff Ei Mawrhydi drwy broclamasiwn o dan y Sêl Gymreig—

(a)diddymu Senedd Cymru;

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r pôl yn yr etholiad gael ei gynnal ar y diwrnod a gynigiwyd.

(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i broclamasiwn gael ei wneud o dan is-adran (4), rhaid i’r Llywydd gyhoeddi datganiad—

(a)o’r diwrnod y mae’r pôl i’w gynnal, a

(b)o’r rheswm dros arfer pŵer y Llywydd o dan is-adran (2).

9Canllawiau ar ymgyrchu etholiadol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i bersonau sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu etholiadol at ddiben etholiad a bennir yn is-adran (2) ynghylch sut y cânt ymgymryd â’r gweithgareddau hynny yn unol â deddfiadau sy’n gosod cyfyngiadau sy’n ymwneud â rheoli’r coronafeirws.

(2)Yr etholiadau yw—

(a)etholiad 2021;

(b)etholiad sydd i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021 o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol;

(c)etholiad sydd i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021 i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru.

(3)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys ond os yw cyfyngiadau a osodir gan ddeddfiad yn effeithio ar weithgareddau ymgyrchu etholiadol at ddiben etholiad a bennir yn is-adran (2) ac ond i’r graddau y mae’r cyfyngiadau hynny yn effeithio ar y gweithgareddau hynny.

10Pŵer i ohirio is-etholiadau’r Senedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys ar ôl 6 Mai 2021 pan fo etholiad i’w gynnal o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol (“is-etholiad i’r Senedd”).

(2)Caiff y Llywydd bennu dyddiad ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer is-etholiad i’r Senedd sydd y tu allan i’r cyfnod sy’n ofynnol o dan adran 10(5) neu (6) o Ddeddf 2006.

(3)Wrth bennu diwrnod o dan is-adran (2), rhaid i’r Llywydd bennu diwrnod sef y diwrnod cynharaf y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn rhesymol ymarferol.

(4)O ran y pŵer o dan is-adran (2)—

(a)caniateir iddo gael ei arfer fwy nag unwaith, a

(b)ni chaniateir iddo gael ei arfer er mwyn pennu dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(5)Cyn arfer y pŵer o dan is-adran (2), rhaid i’r Llywydd ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

11Pŵer i ohirio is-etholiadau awdurdodau lleol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu—

(a)bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol i’w gynnal ar ddyddiad, neu o fewn cyfnod, a bennir yn y rheoliadau;

(b)bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol y byddai’n ofynnol ei gynnal fel arall ar ddyddiad sy’n dod o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliadau i’w gynnal yn lle hynny ar ddyddiad diweddarach, neu o fewn cyfnod arall, a bennir yn y rheoliadau.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “is-etholiad awdurdod lleol” yw etholiad—

(a)pan fo dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad yn dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 6 Mai 2021 ac sy’n dod i ben â 5 Tachwedd 2021, a

(b)pan fo’n etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu—

(a)dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021, neu

(b)cyfnod sy’n dod i ben ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(4)Caniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer fwy nag unwaith mewn cysylltiad ag unrhyw is-etholiad awdurdod lleol.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at is-etholiadau awdurdodau lleol o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (er enghraifft, drwy gyfeirio at natur, dyddiad neu leoliad yr etholiadau).

(6)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(8)Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(9)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (8) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(10)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (8), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(11)Nid yw is-adrannau (8) ac (9)—

(a)yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

(b)yn atal gwneud rheoliadau newydd.

(12)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) ac nad yw is-adran (8) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

12Gorchmynion a rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau yn 2021

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 2006 (pŵer i wneud gorchymyn o ran cynnal etholiadau’r Senedd) sy’n cynnwys darpariaeth—

(a)nad yw ond yn gymwys i etholiad 2021, neu

(b)nad yw ond yn gymwys i etholiad o dan adran 10 o Ddeddf 2006 i lenwi sedd wag aelod etholaethol y mae’r pôl ar ei gyfer i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheolau o dan adran 36A o Citation id="c00201" Class="UnitedKingdomPublicGeneralAct" Year="1983" Number="0002">Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) (pŵer i wneud rheolau mewn perthynas â chynnal etholiadau cynghorwyr ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru) nad ydynt ond yn gymwys i etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru y mae’r pôl ar ei gyfer i’w gynnal cyn 6 Tachwedd 2021.

(3)Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(4)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (3) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(5)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(6)Nid yw is-adrannau (3) a (4)—

(a)yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheolau neu’r gorchymyn cyn iddynt neu cyn iddo beidio â chael effaith, nac

(b)yn atal gwneud rheolau newydd neu orchymyn newydd.

Atodol

13Effaith y Ddeddf hon ar y pŵer presennol i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau

(1)Nid yw’r Ddeddf hon yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan adran 13 o Ddeddf 2006, ond mae is-adran (7) o’r adran honno (gweithdrefn Senedd Cymru) yn ddarostyngedig i adran 12.

(2)Nid yw’r Ddeddf hon yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheolau o dan adran 36 neu adran 36A o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2), ond mae adran 36A(10) (gweithdrefn Senedd Cymru) yn ddarostyngedig i adran 12.

14Addasu Gorchymyn 2007

(1)Mae Gorchymyn 2007 wedi ei addasu mewn perthynas ag etholiad 2021 fel a ganlyn.

(2)Mae erthygl 2(1) (dehongli) yn cael effaith fel pe bai’n cynnwys y diffiniad o “coronavirus” a roddir gan adran 16.

(3)Yn erthygl 84(2)(b) (amseru o ran pryd y mae person yn dod yn ymgeisydd mewn perthynas ag etholiad cyffredinol i’r Senedd) yn cael effaith—

(a)fel pe bai “the ordinary general election for membership of Senedd Cymru the poll for which is, on the day on which this provision comes into force, due to be held on 6 May 2021” wedi ei roi yn lle “any subsequent Assembly election”;

(b)ym mharagraff (i), fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (aa)—

(aa)which is 21 days before 6 May 2021, computed in accordance with rule 2 of the rules set out in Schedule 5;.

(4)Yn Atodlen 1, mae paragraff 7 (y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisio absennol yn etholiadau’r Senedd) yn cael effaith—

(a)fel pe bai “and sub-paragraph (3A)” yn is-baragraff (2) wedi ei fewnosod ar ôl “sub-paragraph (3)”;

(b)fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (3)—

(3A)Where an application—

(a)to vote by proxy under article 9(1), or

(b)for the appointment of a proxy under article 11(6) or (7)

is made on the grounds set out in sub-paragraph (3AB) the application shall be disregarded if it is received after 5pm on the day of the poll at the election for which it is made.

(3AB)The grounds are that—

(a)the application is made as a result of the need to comply with an enactment relating to coronavirus or to follow guidance relating to coronavirus issued by the Welsh Ministers, and

(b)the applicant became aware of the grounds after 5pm on the sixth day before the date of the poll at the election for which it is made.

(5)Yn Atodlen 5 (rheolau etholiadau’r Senedd)—

(a)mae rheol 1(1) (yr amserlen ar gyfer cynnal trafodion mewn etholiad i’r Senedd), yn y tabl, yn y golofn â’r pennawd “Time”, mae’r cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod “Delivery of nomination papers.” yn cael effaith—

(i)fel pe bai “9” wedi ei roi yn lle’r cyfeiriad at “10”;

(ii)fel pe bai “5” wedi ei roi yn lle’r cyfeiriad at “4”.

(b)mae rheol 4 (enwebu ymgeiswyr mewn etholiad etholaeth i’r Senedd) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—

(1A)The constituency nomination paper may also be delivered on the candidate’s behalf by a person authorised by the candidate for the purpose if the candidate has given the person’s name and address to the returning officer in writing or electronically before or at the time the paper is delivered.

(c)mae rheol 6 (enwebu ymgeiswyr unigol mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—

(1A)The individual nomination paper may also be delivered on the candidate’s behalf by a person authorised by the candidate for the purpose if the candidate has given the person’s name and address to the returning officer in writing or electronically before or at the time the paper is delivered.

(d)mae rheol 9(1) (cydsyniad i enwebu mewn etholiad etholaeth i’r Senedd) yn cael effaith—

(i)fel pe bai is-baragraff (b) wedi ei hepgor;

(ii)fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (c)—

(c)is delivered at the place for the delivery of nomination papers or is delivered electronically to an electronic address for that purpose; and

(d)is delivered within the time specified for the delivery of the nomination papers.

(e)mae rheol 9(2) (cydsyniad i enwebu mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd) yn cael effaith—

(i)fel pe bai is-baragraff (b) wedi ei hepgor;

(ii)fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraff (c)—

(c)is delivered at the place for the delivery of individual nomination papers or party nomination papers, or is delivered electronically to an electronic address for that purpose; and

(d)is delivered within the time specified for the delivery of the nomination papers.

15Adolygiad: paratoadau ar gyfer cynnal y pôl

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiadau o’r paratoadau ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021.

(2)Rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf erbyn 19 Chwefror 2021.

(3)Rhaid cynnal adolygiadau dilynol o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 diwrnod hyd at gynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021.

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad yn crynhoi canlyniad yr adolygiad a nodi a yw’n rhesymol rhagweld unrhyw oedi i etholiad 2021.

Cyffredinol

16Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

17Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu a wneir oddi tani, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu a wneir oddi tani, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu a wneir oddi tani, cânt drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)gwneud darpariaeth ôl-weithredol mewn perthynas ag is-etholiad awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 11(2), gan gynnwys darpariaeth sy’n cael effaith mewn perthynas ag adegau cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym;

(b)diwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon);

(c)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(4)Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(5)Ond—

(a)os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (4) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)os na chaiff y cynnig i basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(6)Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)wedi ei diddymu, neu

(b)ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(7)Nid yw is-adrannau (4) a (5)—

(a)yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

(b)yn atal gwneud rheoliadau newydd.

(8)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) ac nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

18Dod i rym

Daw’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y cydsyniad Brenhinol.

19Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources