Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1: Etholiadau

Adran 2 - Estyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol

31.Mae adran 2 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) yn nodi pwy sydd â hawl i bleidleisio fel etholwr mewn etholiadau llywodraeth leol (prif gynghorau a chynghorau cymuned) mewn unrhyw ardal etholiadol.

32.Mae’r adran hon yn diwygio adran 2 o Ddeddf 1983 er mwyn estyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru i gynnwys personau sy’n 16 oed neu’n hŷn a phersonau sy’n ddinasyddion tramor cymhwysol. Mae dinesydd tramor cymhwysol yn berson:

(a)

nad yw’n ddinesydd o’r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon nac yn ddinesydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd, a

(b)

naill ai:

  • nad oes angen caniatâd arno o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU, neu

  • nad oes angen caniatâd arno i ddod i mewn neu i aros ond bod ganddo ganiatâd o’r fath am y tro (neu y caiff ei drin fel pe bai ganddo ganiatâd o’r fath yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad).

33.Cyn ei diwygio, y sefyllfa yw bod gan berson hawl i bleidleisio fel etholwr mewn etholiad llywodraeth leol mewn unrhyw ardal etholiadol yng Nghymru os yw’r person hwnnw, ar y diwrnod y cynhelir y bleidlais:

34.Ar ôl ei diwygio, y sefyllfa yng Nghymru yw bod gan berson hawl i bleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y cynhelir y bleidlais:

35.Mae adran 4 o Ddeddf 1983 yn nodi pwy sydd â hawl i fod ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer unrhyw ardal etholiadol. Cyn ei diwygio, y sefyllfa yw bod gan berson hawl i fod yn gofrestredig ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol at ddibenion etholiadau llywodraeth leol os yw’r person hwnnw yn preswylio yn yr ardal honno ar y dyddiad perthnasol; heb fod ag unrhyw anghymhwystra cyfreithiol yn ei rwystro rhag pleidleisio (ar wahân i’w oedran); yn ddinesydd cymhwysol o’r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon neu’n ddinesydd perthnasol o’r Undeb; ac o oedran pleidleisio. Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad y mae person yn gwneud cais i gael ei gofrestru, neu’r dyddiad sy’n cael ei drin fel y dyddiad y gwneir cais, neu’r dyddiad y gwneir datganiad o wasanaeth neu ddatganiad o gysylltiad lleol.

36.Mae adran 2 o’r Ddeddf yn diwygio adran 4 o Ddeddf 1983 er mwyn pennu bod person sy’n 16 oed neu’n hŷn ac yn ddinesydd tramor cymhwysol, yn ddinesydd o’r Gymanwlad, yn ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon neu’n ddinesydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd yn gymwys i fod yn gofrestredig ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer unrhyw ardal etholiadol yng Nghymru.

Adran 3 – Darpariaeth drosiannol

37.Bydd yr estyniad i’r etholfraint yn gymwys i etholiadau llywodraeth leol a refferenda lleol sy’n digwydd ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny. Mae angen i’r darpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud ag estyn yr etholfraint mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru fod mewn grym cyn y dyddiad hwnnw at ddibenion y gwaith paratoadol sydd ei angen ar gyfer yr etholiadau a’r refferenda hynny, fel y trefniadau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy neu bleidleisio drwy’r post.

38.Mae adran 175(3) o’r Ddeddf yn darparu y bydd y darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn dod i rym ddau fis ar ôl diwrnod y Cydsyniad Brenhinol:

39.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw’r darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) ond yn cael effaith mewn perthynas ag etholiadau llywodraeth leol a refferenda lleol sy’n digwydd ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny, er gwaethaf y ffaith bod y darpariaethau’n dod i rym ddau fis ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Mae hyn yn golygu y byddant yn cael effaith at ddibenion gwneud trefniadau ar gyfer pethau fel pleidleisio drwy ddirprwy a phleidleisio drwy’r post ar gyfer etholiadau awdurdodau lleol a refferenda lleol sy’n digwydd ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny, ond na fyddant yn cael effaith at ddibenion is-etholiadau awdurdodau lleol neu refferenda lleol sy’n digwydd cyn 5 Mai.

40.Nodir y refferenda lleol perthnasol yn is-adran (3) ac maent yn ymwneud â refferenda maerol.

Adran 4 - Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth a darparu cymorth

41.Mae’r adran hon o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar brif gyngor i hybu ymwybyddiaeth o sut i gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ymysg “pobl ifanc berthnasol” a chymryd pa gamau bynnag y mae’r cyngor yn meddwl eu bod yn angenrheidiol i’w helpu i gofrestru.

42.Caiff y term “pobl ifanc berthnasol” ei ddiffinio fel y rheini sy’n 14 oed neu’n hŷn, ond o dan 18 oed, ac sy’n byw yn ardal y prif gyngor. Mae pobl ifanc o’r un oed nad ydynt yn byw yn ardal y prif gyngor ond sy’n derbyn gofal gan y cyngor (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) a phobl ifanc yn yr ystod oedran honno nad ydynt yn preswylio yn ardal y prif gyngor ac sy’n bersonau sy’n ymadael â gofal y mae gan y prif gyngor gyfrifoldebau amdanynt o dan adran 109 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hefyd wedi eu cynnwys yn y diffiniad hwn.

Adran 5 - Dwy system bleidleisio

43.Mae’r adran hon o’r Ddeddf yn pennu y gellir defnyddio, yng Nghymru, system mwyafrif syml (a elwir yn system ‘y cyntaf i’r felin’ yn aml), neu system pleidlais sengl drosglwyddadwy, pan gynhelir pleidleisiau mewn etholiadau a ymleddir i ethol cynghorwyr i brif gyngor.

44.O dan adran 36A o Ddeddf 1983 (fel y’i mewnosodir gan adran 13 o’r Ddeddf hon), mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud rheolau ynglŷn â’r ffordd y bydd y naill system a’r llall yn gweithio. Pennir y system sy’n gymwys i etholiad penodol gan adran 7 a gwneir darpariaeth i brif gynghorau newid o un system i’r llall yn adrannau 10 i 12.

Adran 7 - Y system bleidleisio sy’n gymwys

45.Bydd y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer o dan y rheolau a wneir o dan Ddeddf 1983 yn gymwys oni fo prif gyngor yn penderfynu newid y system bleidleisio.

46.Pan gaiff ardal prif gyngor newydd ei ffurfio o ganlyniad i reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro bydd y system bleidleisio yn cael ei phennu yn y rheoliadau, a bydd hynny’n gymwys hyd nes y bo’r cyngor yn pasio penderfyniad i’w newid ar ôl i’r brif ardal newydd gael ei chyfansoddi.

47.Os yw prif gyngor yn newid ei system bleidleisio, mae’r system y pasiodd y cyngor benderfyniad i newid iddi yn fwyaf diweddar yn gymwys. Mae’r newid yn cael effaith yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr a gynhelir ar ôl i’r penderfyniad i newid gael ei basio. Mae’n parhau i gael effaith hyd nes y ceir penderfyniad i’w newid eto.

48.Os cynhelir pleidlais ar gyfer etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag cyn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr o dan y system newydd, a hynny ar ôl i’r cyngor basio penderfyniad i newid y system, rhaid defnyddio’r system bleidleisio a oedd yn gymwys yn yr etholiad cyffredin diwethaf yn yr is-etholiad hwnnw.

Adran 8 - Pŵer i newid y system bleidleisio

49.Mae adran 8(1) o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i brif gyngor newid y system bleidleisio sy’n gymwys i ethol cynghorwyr yn ei ardal. Mae gweddill darpariaethau adrannau 8 a 9 o’r Ddeddf yn nodi sut y dylai prif gyngor fynd ati i newid y system bleidleisio.

50.Os y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i gyngor, caiff y cyngor ei newid i’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy, os y bleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i gyngor, gall y cyngor ei newid i’r system mwyafrif syml.

51.Cyfrifoldeb y cyngor llawn yw’r pŵer i newid y system bleidleisio; mae is-adran (4) yn nodi’n glir—

52.Mae is-adran (5) yn gosod dyletswydd ar brif gyngor i ymgynghori â’r rhai sydd â’r hawl i bleidleisio fel etholwyr mewn etholiad llywodraeth leol yn ei ardal, pob cyngor cymuned yn ei ardal ac unrhyw bersonau eraill y mae’r cyngor yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy (a allai gynnwys cyrff megis y Comisiwn Etholiadol) cyn iddo newid y system bleidleisio sy’n gymwys ar y pryd.

Adran 9 - Penderfyniadau i arfer y pŵer i newid y system bleidleisio

53.Mae adran 9 yn darparu bod rhaid i bŵer prif gyngor i newid y system bleidleisio gael ei arfer drwy benderfyniad y cyngor ac yn unol â gweddill darpariaethau’r adran hon.

54.Nid yw penderfyniad i newid y system bleidleisio ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor wedi ei basio oni fo nifer y cynghorwyr sy’n pleidleisio o’i blaid yn ddau draean o leiaf o gyfanswm y seddau cynghorwyr ar y cyngor, hynny yw, nid oes unrhyw ostyngiad yn nifer y pleidleisiau o blaid sy’n angenrheidiol os oes seddau gwag ar y cyngor pan gynhelir y bleidlais.

55.Os oes gan y prif gyngor faer sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol, ni fydd gan y maer yr hawl i bleidleisio ar benderfyniad i newid y system bleidleisio, yn rhinwedd is-adran (2) sy’n cyfyngu’r bleidlais i gynghorwyr etholedig y prif gyngor.

56.Rhaid i benderfyniad i newid y system bleidleisio ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor gael ei ystyried mewn cyfarfod a gynullwyd at y diben hwnnw. Rhaid i’r cyfarfod gael ei gynnal ar ôl diwedd cyfnod o 21 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y mae’r holl gynghorwyr yn cael hysbysiad ysgrifenedig y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal.

57.Nid yw penderfyniad dilys i arfer y pŵer i newid y system bleidleisio ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor yn gallu cael ei basio onid yw hynny’n digwydd cyn 15 Tachwedd yn y flwyddyn sydd dair blynedd cyn yr etholiad cyffredin nesaf ar gyfer y cyngor hwnnw.

58.Ar ôl i brif gyngor arfer y pŵer i newid y system bleidleisio ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor, nid yw penderfyniad pellach i arfer yr un pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo dau etholiad cyffredin ar gyfer y cyngor wedi eu cynnal o dan y system bleidleisio y’i newidiwyd iddi.

59.Pan fo cyngor wedi pleidleisio yn flaenorol ar benderfyniad i newid y system bleidleisio ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol i’r cyngor, ni fydd unrhyw benderfyniad pellach i newid y system bleidleisio sy’n cael ei basio yn ystod yr un cyfnod yn cael unrhyw effaith.

Adran 10 - Dyletswydd i hysbysu pan fydd penderfyniad yn cael ei basio

60.Mae adran 10 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau sydd wedi cynnal pleidlais ddilys i newid y system bleidleisio sy’n gymwys i ethol cynghorwyr i hysbysu Gweinidogion Cymru a’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol (“y Comisiwn”) am y newid o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y penderfyniad ei basio. Mae’r adran hon hefyd yn pennu pa wybodaeth y mae rhaid i’r hysbysiad ei chynnwys.

Adran 11 ac Atodlen 1 - Adolygiad cychwynnol gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol

61.Mae adran 11 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad bod prif gyngor wedi gwneud penderfyniad i newid y system bleidleisio, gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal y cyngor. Mae adran 11 (ac adran 137) hefyd yn cyflwyno Atodlen 1 i’r Ddeddf, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal adolygiad cychwynnol gan y Comisiwn. Ystyr “adolygiad cychwynnol” yw adolygiad a gynhelir at ddiben argymell trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

62.Mae Atodlen 1 yn darparu ar gyfer cynnal adolygiadau cychwynnol o drefniadau etholiadol gan y Comisiwn o dan yr amgylchiadau pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiadau o’r fath o dan:

Paragraff 1 - Adolygiadau cychwynnol

63.Mae paragraff 1 yn diffinio’r term “adolygiad cychwynnol” at ddibenion y Ddeddf hon, ac mae hefyd yn galluogi’r Comisiwn, wrth gynnal adolygiad cychwynnol, i wneud argymhellion ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol (a ddiffinnir ym mharagraff 3).

Paragraff 2 - Ardal sy’n cael ei hadolygu

64.Mae paragraff 2 yn diffinio ystyr “ardal sy’n cael ei hadolygu” mewn perthynas ag adolygiad cychwynnol o drefniadau etholiadol y caniateir ei gynnal yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 11 neu adran 137 o’r Ddeddf hon.

65.Pan fo prif gyngor wedi penderfynu newid ei system bleidleisio, yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw ardal y cyngor o dan sylw.

66.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais i uno’n wirfoddol, yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r brif ardal newydd a fyddai’n cael ei chreu gan yr uno o dan sylw.

67.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o dan adran 128(6) eu bod yn bwriadu gwneud rheoliadau i ailstrwythuro’r prif gynghorau a bennir yn yr hysbysiad a bod yr ailstrwythuro yn golygu trosglwyddo rhan o’r brif ardal sy’n cael ei diddymu i brif ardal arall, yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r ardal a bennir yn y cyfarwyddyd (a gaiff fod yr ardal sy’n cael ei throsglwyddo yn unig, ond a gaiff hefyd gynnwys rhan o’r brif ardal dderbyn).

68.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o dan adran 128(6) eu bod yn bwriadu gwneud rheoliadau i ailstrwythuro’r prif gynghorau a bennir yn yr hysbysiad a bod yr ailstrwythuro yn golygu cyfansoddi prif ardal newydd, yr ardal sy’n cael ei hadolygu yw’r brif ardal newydd sydd i’w chyfansoddi gan y rheoliadau ailstrwythuro.

Paragraff 3 - Termau eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen hon

69.Mae paragraff 3 yn diffinio termau penodol sy’n ymwneud â chynnal adolygiad cychwynnol gan y Comisiwn ar gyfer yr ardal a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 11 neu adran 137.

70.Caiff adolygiadau a gynhelir mewn ymateb i gyfarwyddydau o’r fath hefyd gynnwys trefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau yn yr ardaloedd a bennir, gan y bydd y Comisiwn yn gallu cynnig ac argymell newidiadau ar lefel cymunedau, a hynny ond pan fo’r newidiadau hynny ar lefel cymunedau yn berthnasol ac yn digwydd o ganlyniad i’r hyn a gynigir ac a argymhellir gan y Comisiwn ar lefel prif ardal. Nodir hyd a lled yr hyn y caniateir i’r Comisiwn ei ystyried yn “newidiadau canlyniadol perthnasol” ym mharagraff 3(1). Mae paragraff 3(2) yn diffinio’r termau “ward amlaelod” a “ward un aelod”.

Paragraff 4 - Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn

71.Mae paragraff 4 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarwyddyd o dan adran 11 neu adran 137 bennu erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad terfynol, gydag argymhellion, i Weinidogion Cymru ac y caiff cyfarwyddyd gynnwys materion penodol y mae rhaid i’r Comisiwn roi sylw iddynt wrth gynnal adolygiad cychwynnol. Gall Gweinidogion Cymru hefyd ddyroddi cyfarwyddydau cyffredinol i’r Comisiwn ynglŷn â chynnal adolygiadau cychwynnol; gallai hynny fod yn angenrheidiol pe bai’r Comisiwn yn cynnal sawl adolygiad cychwynnol ar yr un pryd, ac os felly gallai’r cyfarwyddyd cyffredinol bennu ym mha drefn y mae rhaid i’r Comisiwn gynnal yr adolygiadau unigol.

Paragraff 5 - Cynnal adolygiad cychwynnol

72.Mae paragraff 5 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn, pan fo’n cynnal adolygiad cychwynnol, geisio sicrhau bod y gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i aelodau etholedig ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu yr un fath, hyd y gall fod, ym mhob ward etholiadol o fewn y cyngor o dan sylw; y nod yw bod pob aelod etholedig ar y cyngor o dan sylw yn cynrychioli tua’r un nifer o etholwyr. Rhaid i’r Comisiwn ystyried unrhyw anghysondeb rhwng nifer y bobl a gofrestrwyd i bleidleisio a’r nifer sydd â hawl i fod yn etholwyr llywodraeth leol, ac unrhyw newid yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y pum mlynedd yn union ar ôl iddynt wneud eu hargymhellion.

73.Rhaid i’r Comisiwn hefyd ystyried gosod ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sy’n hawdd eu hadnabod, ac a fydd yn parhau i fod felly, gan osgoi torri cysylltiadau lleol.

74.At ddibenion adolygiad cychwynnol, gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r prif gyngor ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu neu gyngor cymuned mewn ardal sy’n destun adolygiad i ddarparu i’r Comisiwn unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

Paragraff 6 - Y weithdrefn ragadolygu

75.Mae paragraff 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn, cyn cynnal adolygiad cychwynnol, wneud yr ymgyngoreion gorfodol, fel y’u diffinnir gan is-baragraff (2), yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal yr adolygiad neu unrhyw gyfarwyddydau eraill a ddyroddir sy’n ymwneud â’r adolygiad. Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynglŷn â’r weithdrefn a’r fethodoleg y bwriedir eu defnyddio ar gyfer yr adolygiad cychwynnol, yn enwedig mewn perthynas â’r dull y bwriedir ei ddefnyddio i benderfynu ar nifer priodol yr aelodau etholedig ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

Paragraff 7 - Ymchwilio ac adrodd interim

76.Mae paragraff 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn, wrth gynnal adolygiad cychwynnol, gynnal pa ymchwiliadau bynnag y mae’n ystyried eu bod yn briodol, a llunio adroddiad interim sy’n cynnwys ei gynigion o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu. Rhaid i’r adroddiad interim hefyd gynnwys manylion yr adolygiad a gynhaliwyd.

77.Rhaid i’r Comisiwn anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion gorfodol, ei gyhoeddi, a dweud wrth unrhyw berson y mae’n ystyried ei bod yn briodol dweud wrtho, sut i gael gafael ar yr adroddiad. Rhaid i’r Comisiwn hefyd wahodd sylwadau ar yr adroddiad, gan hysbysu Gweinidogion Cymru, ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei bod yn briodol ei hysbysu, yn ystod pa gyfnod y gellir gwneud sylwadau.

78.Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyhoeddi’r adroddiad interim, ei anfon at bersonau penodedig a rhoi gwybod i bersonau sut i gael gafael ar yr adroddiad. Wedi hynny, ceir cyfnod o 6 i 12 wythnos (sy’n dechrau yn ddim cynharach nag 1 wythnos ar ôl i’r hysbysiad am y cyfnod ar gyfer sylwadau gael ei roi) pan fo modd gwneud sylwadau am y cynigion sydd yn yr adroddiad interim.

Paragraff 8 - Adroddiad terfynol

79.Mae paragraff 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn, yn dilyn y cyfnod ar gyfer sylwadau, ailystyried ei adroddiad interim yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd. Yna rhaid iddo lunio adroddiad terfynol sy’n cynnwys ei argymhellion o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu, unrhyw argymhellion canlyniadol o ran ffiniau a wardiau cymunedau, manylion yr adolygiad a manylion unrhyw newidiadau a wnaed i’r adroddiad interim yng ngoleuni’r sylwadau, ac esboniadau o’r newidiadau a wnaed.

80.Mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno’r adroddiad terfynol i Weinidogion Cymru a’i gyhoeddi, gan ddarparu copïau i ymgyngoreion gorfodol a phersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol darparu copïau iddynt. Rhaid i’r Comisiwn hefyd hysbysu personau a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad interim sy’n dod cyn yr adroddiad terfynol neu a wnaeth sylwadau arno ac unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol eu hysbysu, sut i gael gafael ar yr adroddiad.

81.Rhaid i brif gyngor yr anfonwyd adroddiad terfynol ato ei gyhoeddi, sicrhau ei fod ar gael i edrych arno yn ei swyddfeydd yn rhad ac am ddim am 6 wythnos ar ôl ei gael, a rhoi gwybod i etholwyr llywodraeth leol yn ei ardal sut i gael gafael ar yr adroddiad.

82.Fel arfer, ni chaniateir gwneud na chyhoeddi unrhyw argymhellion mewn cysylltiad ag adolygiadau o drefniadau etholiadol yn ystod y 9 mis cyn etholiad cyffredin, a hynny er mwyn sicrhau nad yw’r paratoadau ar gyfer etholiad cyffredin yn cael eu drysu drwy gyhoeddi trefniadau etholiadol eraill. Mae’n bosibl na fydd yr amserlenni ar gyfer adolygiadau cychwynnol o dan y Ddeddf hon yn gyson â’r cylchoedd etholiadol safonol, felly mae paragraff 8(5) yn atal dros dro y ddarpariaeth berthnasol yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) o ran argymhellion a wneir gan y Comisiwn o dan y Ddeddf hon.

Paragraff 9 - Pŵer i wneud rheoliadau pan wneir argymhellion

83.Mae paragraff 9 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl cael adroddiad terfynol gan y Comisiwn, wneud rheoliadau er mwyn gweithredu’r argymhellion (gydag addasiadau neu hebddynt) neu wneud darpariaeth arall y maent yn ystyried ei bod yn briodol ei gwneud o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu. Ni chaniateir gwneud y rheoliadau hynny hyd nes bod o leiaf 6 wythnos wedi mynd heibio ers cyhoeddi’r adroddiad pellach.

84.Wrth ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu, at ddiben gwneud rheoliadau, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a nodir ym mharagraff 5(1)(a) a (b). Mae’n ofynnol i’r Comisiwn roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a gasglwyd hyd hynny mewn cysylltiad â’r adolygiad cychwynnol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ei rhoi.

Paragraff 10 - Pŵer i wneud rheoliadau pan na wneir unrhyw argymhellion

85.Mae paragraff 10 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, os nad yw’r Comisiwn yn gallu cyflwyno adroddiad terfynol erbyn y dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru yn eu cyfarwyddyd cychwynnol, wneud rheoliadau sy’n nodi’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cael ei hadolygu ac unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, yn absenoldeb argymhellion gan y Comisiwn.

86.Wrth ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer ardal sydd o dan ystyriaeth, at ddiben gwneud rheoliadau, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a nodir ym mharagraff 5(1)(a) a (b). Pan fo amgylchiadau o’r fath yn codi, rhaid i’r Comisiwn roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a gasglwyd hyd hynny mewn cysylltiad â’r adolygiad cychwynnol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ei rhoi.

Paragraff 11 - Rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10: atodol

87.Mae paragraff 11 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r prif gyngor ar gyfer ardal sy’n cael ei hadolygu neu gyngor cymuned mewn ardal sy’n cael ei hadolygu i roi unrhyw wybodaeth iddynt y maent yn ystyried ei bod yn briodol ei rhoi at ddibenion gwneud rheoliadau o dan baragraffau 9 a 10 neu is-baragraff 11(3). Mae hyn er mwyn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn gallu cael yr holl wybodaeth berthnasol, er enghraifft os oes rhaid iddynt wneud rheoliadau o dan baragraff 10, (pan na fo’r Comisiwn wedi gwneud unrhyw argymhellion).

88.Mae paragraff 11(2) yn nodi’r gofynion sydd ar Weinidogion Cymru wrth gyhoeddi rheoliadau a wneir yn dilyn adolygiadau cychwynnol o dan y Ddeddf hon.

89.Mae paragraff 11(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan baragraffau 9 neu 10 o Atodlen 1, neu reoliadau a wneir o dan baragraff 11.

Paragraff 12 - Adolygiadau dilynol gan y Comisiwn pan wneir rheoliadau o dan baragraff 9(1)(b) neu 10(2)

90.Mae paragraff 12 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn, os yw Gweinidogion Cymru wedi gorfod gwneud rheoliadau trefniadau etholiadol o dan baragraff 9(1)(b) neu baragraff 10(2), gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol y brif ardal o dan adran 11(1) cyn gynted â phosibl ar ôl:

91.Pa un bynnag, rhaid i’r Comisiwn gynnal yr adolygiad sy’n ofynnol gan y paragraff hwn cyn yr etholiadau cyffredin nesaf ar gyfer y cyngor o dan sylw.

Paragraff 13 - Dirprwyo swyddogaethau gan y Comisiwn o dan yr Atodlen hon

92.Mae paragraff 13 yn diwygio adran 13(1) o Ddeddf 2013 fel y caiff y Comisiwn ddirprwyo i un neu ragor o’i aelodau neu i gomisiynydd cynorthwyol (y caniateir ei benodi o dan adran 11 o Ddeddf 2013) y rhai hynny o’i swyddogaethau mewn cysylltiad ag Atodlen 1 y mae’r Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol eu dirprwyo.

93.Heb y diwygiad hwn i Ddeddf 2013, ni fyddai’r Comisiwn ond yn gallu dirprwyo swyddogaethau yn y modd a ddisgrifir ac i’r personau a bennir mewn cysylltiad â’i swyddogaethau o dan Ddeddf 2013, ac fe allai hynny gyfyngu ar ei allu i gyflawni ei gyfrifoldebau a nodir yn yr Atodlen hon ar ryw adeg.

Paragraff 14 - Gorchmynion o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

94.Mae paragraff 14 yn diwygio adran 43 o Ddeddf 2013 fel y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, amrywio neu ddirymu gorchmynion (trefniadau etholiadol) a wneir o dan adrannau 37, 38, 39 neu 43 o Ddeddf 2013, o ganlyniad i reoliadau a wneir o dan baragraffau 9 neu 10 o Atodlen 1. Mae adran 43 o Ddeddf 2013 yn darparu ar gyfer amrywio a dirymu gorchmynion a wneir o dan Ddeddf 2013 ac yn nodi o dan ba amgylchiadau y caniateir amrywio neu ddirymu gorchmynion o dan yr adrannau penodedig yn Neddf 2013.

95.Heb y diwygiad hwn, ni fyddai unrhyw fodd o amrywio neu ddirymu gorchmynion a wneir o dan Ddeddf 2013, er bod y trefniadau etholiadol (neu’r ffiniau cymunedol, os yw’n newid canlyniadol), yn yr ardal o dan sylw wedi eu hailddiffinio gan reoliadau a wneir o dan baragraffau 9 neu 10 o’r Atodlen hon.

Adran 12 - Cyfyngiad ar nifer y cynghorwyr os yw’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gymwys

96.Mae’r adran hon yn datgan y bydd nifer yr aelodau y caniateir eu hethol ar gyfer pob ward etholiadol pan ddefnyddir y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yn ddim llai na thri ac yn ddim mwy na chwech.

Adran 13 - Rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau lleol yng Nghymru

97.Mae adran 36 o Ddeddf 1983 yn darparu ar gyfer y pŵer presennol y mae’r rheolau ar gyfer ethol cynghorwyr ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr yn cael eu pennu oddi tano. Mae adran 13(1) yn diwygio adran 36(1) o Ddeddf 1983 fel bod y pŵer i wneud rheolau o dan yr adran honno wedi ei gyfyngu i reolau ynghylch etholiadau ar gyfer cynghorwyr dros ardaloedd llywodraeth leol yn Lloegr yn unig.

98.Mae adran 13(3) yn mewnosod adran 36A newydd yn Neddf 1983, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheolau ynglŷn â chynnal etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru (is-adran (1)). Rhaid i reolau a wneir o dan yr adran 36A(1) newydd, boed hynny ar gyfer prif gynghorau neu ar gyfer cynghorau cymuned:

99.Rhaid i’r rheolau a wneir o dan yr adran 36A(1) newydd ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor ddarparu bod y pleidleisiau i’w cynnal o dan y ddwy system bleidleisio a awdurdodir gan y Ddeddf (system mwyafrif syml a system pleidlais sengl drosglwyddadwy).

100.Rhaid i reolau a wneir o dan yr adran 36A(1) newydd ar gyfer ethol cynghorwyr cymuned yng Nghymru ddarparu bod pleidleisiau i’w cynnal o dan system mwyafrif syml.

101.Caiff rheolau a wneir o dan yr adran 36A(1) newydd wneud unrhyw ddarpariaeth arall ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol (is-adran (4)) a chânt, at ddibenion rheolau, o ganlyniad iddynt, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddynt, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed (is-adran (5)). Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (5) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf).

102.Mae adran 13(4) yn darparu y bydd rheolau presennol, a wneir o dan adran 36 o Ddeddf 1983, sydd mewn grym yn union cyn i’r pŵer i wneud rheolau newydd ddod i rym, yn parhau i gael effaith ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe baent wedi eu gwneud o dan yr adran 36A newydd.

103.Nes bod darpariaethau a wneir yn y Ddeddf sy’n galluogi prif gyngor i newid y system bleidleisio a ddefnyddir ganddo yn dod i rym (adrannau 5 i 9), mae adran 36A yn darparu na chaiff rheolau ond amlinellu sut y mae pleidleisiau i’w cynnal o dan y system mwyafrif syml.

104.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â pha bersonau bynnag y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy cyn y gwneir unrhyw reolau o dan yr adran 36A newydd o Ddeddf 1983. Rhaid i unrhyw reolau gael eu gosod gerbron Senedd Cymru a’u cymeradwyo ganddi.

Adran 14 - Newid y cylch etholiadol ar gyfer prif gynghorau o bedair blynedd i bum mlynedd

105.Mae adran 14 yn diwygio adran 26 o Ddeddf 1972 er mwyn newid y cylch etholiadol ar gyfer prif gynghorau o bedair blynedd i bum mlynedd.

106.Mae adran 26, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn darparu mai yn 2022 y bydd yr etholiadau cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr. Cyn ei diwygio, y sefyllfa oedd y byddai etholiadau cyffredin yn cael eu cynnal bob pedwaredd flwyddyn ar ôl etholiad. Mae is-adran (2) yn diwygio adran 26 er mwyn darparu y bydd etholiadau cyffredin yn cael eu cynnal bob pumed flwyddyn.

107.Mae is-adran (3) yn newid tymor swyddi cynghorwyr mewn prif gynghorau o bedair blynedd i bum mlynedd.

Adran 15 - Newid y cylch etholiadol ar gyfer cynghorau cymuned o bedair blynedd i bum mlynedd

108.Mae adran 15 yn diwygio adran 35 o Ddeddf 1972 er mwyn newid y cylch etholiadol ar gyfer cynghorau cymuned o bedair blynedd i bum mlynedd.

109.Roedd Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 35 er mwyn darparu mai yn 2022 y bydd yr etholiadau cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr cymuned. Cyn ei diwygio, y sefyllfa oedd y byddai etholiadau cyffredin cynghorau cymuned yn cael eu cynnal bob pedwaredd flwyddyn ar ôl etholiad. Mae’r adran hon yn diwygio adran 35 er mwyn darparu y bydd etholiadau cyffredin yn cael eu cynnal bob pumed flwyddyn.

110.Mae adran 15 yn newid tymor swyddi cynghorwyr cymuned i bum mlynedd.

Adran 16 - Newid y cylch etholiadol ar gyfer meiri etholedig o bedair blynedd i bum mlynedd

111.Mae adran 16 yn diwygio adran 39 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) er mwyn newid tymor swydd maer etholedig o bedair blynedd i bum mlynedd.

Adran 17 - Estyn y pŵer i newid diwrnod arferol etholiadau lleol yng Nghymru

112.Mae’r adran hon yn diwygio adran 37ZA o Ddeddf 1983 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i newid y diwrnod y cynhelir etholiadau cyffredin ar gyfer un cyngor sir neu un cyngor bwrdeistref sirol neu ragor, neu un cyngor cymuned neu ragor, yng Nghymru.

Adran 18 - Cofrestru etholwyr llywodraeth leol heb gais

113.Mae adran 18 o’r Ddeddf yn galluogi swyddogion cofrestru i ychwanegu etholwyr at y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol heb i’r person hwnnw fod wedi gwneud cais, yn ddarostyngedig i amodau penodol, pan fônt wedi eu bodloni y dylid eu hychwanegu.

114.Mae adran 18(3) o’r Ddeddf yn mewnosod adran 9ZA newydd yn Neddf 1983 ac effaith hynny yw bod y swyddog cofrestru yn gallu ychwanegu etholwyr at y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol heb fod angen iddynt wneud cais o dan amgylchiadau penodol. Mae adran 9ZA yn nodi’r amodau a’r amgylchiadau pan gaiff swyddog cofrestru ychwanegu person at y gofrestr.

115.Mae adran 18(2) yn diwygio adran 9 o Ddeddf 1983 er mwyn darparu bod rhaid cynnwys enw, cyfeiriad a rhif etholiadol unrhyw berson y mae’r swyddog cofrestru wedi penderfynu ei gofrestru yn unol ag adran 9ZA yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol.

116.Mae adran 18(4) yn diwygio adran 9E o Ddeddf 1983 fel nad yw’r ddyletswydd yn adran 9E yn gymwys pan fo swyddog cofrestru yn bwriadu cofrestru person o dan adran 9ZA. Y ddyletswydd o dan adran 9E yw dyletswydd ar swyddog cofrestru i wahodd person a allai fod yn gymwys i wneud hynny, i wneud cais i gael ei gofrestru i bleidleisio.

117.Mae adran 18(5) o’r Ddeddf yn diwygio adran 10ZE o Ddeddf 1983. Mae adran 10ZE yn nodi o dan ba amgylchiadau y mae rhaid i berson gael ei dynnu oddi ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol. Mae adran 10ZE(1) yn darparu, pan fo person yn cael ei nodi ar gofrestr mewn cysylltiad â chyfeiriad ym Mhrydain Fawr, fod gan y person hawlogaeth i barhau i fod yn gofrestredig hyd nes y bydd y swyddog cofrestru o dan sylw yn penderfynu—

118.Pan fo hawlogaeth person i barhau i fod yn gofrestredig yn dod i ben yn rhinwedd adran 10ZE(1), rhaid i’r swyddog cofrestru dynnu cofnod y person oddi ar y gofrestr (adran 10ZE(2) o Ddeddf 1983).

119.Mae’r diwygiad a wneir gan adran 18(5)(a) o’r Ddeddf yn ychwanegu dyletswydd ychwanegol i dynnu cofnod o ganlyniad i’r adran 9ZA newydd sy’n awdurdodi ychwanegu cofnodion heb gais. Mae’n mewnosod is-adran (2A) newydd yn adran 10ZE sy’n ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru dynnu cofnod a wnaed yn rhinwedd yr adran 9ZA newydd os yw’r swyddog yn penderfynu nad oes gan berson a gofrestrwyd hawlogaeth i fod yn gofrestredig am resymau heblaw’r rhai a grybwyllir yn adran 10ZE(1).

120.Mae adran 18(5)(c) yn mewnosod is-adran (4A) newydd yn adran 10ZE o Ddeddf 1983 er mwyn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â’r weithdrefn ar gyfer penderfynu a oes rhaid tynnu cofnod oddi ar y gofrestr pan fo wedi ei wneud heb gais o dan adran 9ZA.

121.Mae adran 18(5)(d) yn mewnosod is-adran (5A) newydd yn adran 10ZE o Ddeddf 1983 er mwyn gosod dyletswydd ar swyddog cofrestru i ystyried a ddylid gwneud penderfyniad i dynnu enw oddi ar y gofrestr (pan fo wedi ei gofrestru o dan adran 9ZA) os yw’n cael gwrthwynebiad i gofrestriad y person hwnnw, neu’n dod yn ymwybodol o unrhyw reswm pam nad oes gan y person hwnnw hawlogaeth i fod wedi ei gofrestru.

122.Mae adran 13A (gwneud newidiadau i gofrestrau) o Ddeddf 1983 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru ddyroddi hysbysiad o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.

123.Mae adran 18(6) o’r Ddeddf yn ychwanegu paragraff (zc) newydd at adran 13A(1) sy’n ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei ddyroddi gan swyddog cofrestru os yw’r swyddog yn cofrestru person o dan yr adran 9ZA newydd. Rhaid i hysbysiadau gael eu dyroddi ar ddiwrnod cyntaf y mis ar ôl i’r swyddog cofrestru benderfynu cofrestru person neu, os yw diwrnod cyntaf y mis lai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y penderfynodd y swyddog gofrestru’r person, ar ddiwrnod cyntaf y mis sy’n union ar ei ôl.

124.Mae adran 13AB (gwneud newidiadau i gofrestrau: dyddiadau cyhoeddi interim) o Ddeddf 1983 yn darparu y bydd dyddiadau cyhoeddi interim, y bydd newidiadau i’r gofrestr yn cael effaith arnynt pan fyddent yn cael effaith fel arall ar y dyddiadau cyhoeddi interim neu ar ôl y dyddiadau hynny. Ceir dau ddyddiad cyhoeddi interim:

125.Mae adran 13AB yn gymwys pan fo, ar unrhyw adeg cyn dyddiad cyhoeddi interim, adran 13A yn gymwys i swyddog cofrestru mewn cysylltiad â dyfarniad, gofyniad neu benderfyniad sy’n ymwneud â chofnod ar y gofrestr nad yw wedi cael effaith eto. Pan fo’n gymwys, mae adran 13AB yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog cofrestru ddyroddi hysbysiad sy’n pennu’r newid priodol yn y gofrestr ac mae’r newid yn cael effaith o ddechrau’r dyddiad cyhoeddi interim.

126.Mae adran 18(7) o’r Ddeddf yn ychwanegu cyfeiriad at baragraff (zc) o adran 13A(1) yn adran 13AB(1). Mae hyn yn golygu, pan fo swyddog cofrestru wedi gwneud penderfyniad o fewn yr adran 13A(1)(zc) newydd cyn y dyddiad cyhoeddi interim nad yw i gael effaith hyd ddiwrnod ar y dyddiad cyhoeddi interim neu ar ei ôl, bod rhaid i’r swyddog cofrestru ddyroddi hysbysiad sy’n pennu’r newid priodol ar y gofrestr a bod y newid yn cael effaith o ddechrau’r dyddiad cyhoeddi interim.

127.Mae adran 13B(1) (gwneud newidiadau i gofrestrau: etholiadau sydd yn yr arfaeth) o Ddeddf 1983 yn darparu nad yw newidiadau i gofrestr sydd i gael effaith ar ôl y pumed diwrnod cyn dyddiad y bleidlais mewn etholiad yn cael effaith at ddibenion yr etholiad.

128.Mae is-adran (3) o adran 13B yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru ddyroddi hysbysiad sy’n pennu newidiadau i’r gofrestr y mae’r is-adran yn gymwys iddi ar y chweched neu’r pumed diwrnod cyn dyddiad y bleidlais (fel y gwêl y swyddog cofrestru yn dda) (“the appropriate publication date”) ac mae’r newid yn cael effaith o ddechrau’r diwrnod hwnnw.

129.Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad cyhoeddi priodol, adran 13A yn gymwys i swyddog cofrestru mewn cysylltiad â dyfarniad, gofyniad neu benderfyniad sy’n ymwneud â chofnod ar y gofrestr nad yw wedi cael effaith eto (boed hynny o dan adran 13A(2), 12AB(3) neu 13BC(3) neu (6)).

130.Mae adran 18(8) o’r Ddeddf yn ychwanegu cyfeiriad at yr is-baragraff (zc) newydd o adran 13A(1) o Ddeddf 1983 at adran 13B(2)(a) o Ddeddf 1983, ac effaith hynny yw cynnwys sefyllfa pan fo swyddog cofrestru wedi penderfynu cofrestru person o dan yr adran 9ZA newydd (heb i’r person hwnnw wneud cais) at y rhestr o amgylchiadau pan fo rhaid dyroddi hysbysiad o dan adran 13B(3).

131.Mae adran 56(1) o Ddeddf 1983 yn nodi’r penderfyniadau a’r dyfarniadau o dan y Ddeddf sy’n ymwneud â chofrestru etholwyr y caniateir apelio i’r llys sirol yn eu cylch.

132.Mae adran 18(9) o’r Ddeddf yn ychwanegu paragraff (azaa) newydd at adran 56(1) o Ddeddf 1983 er mwyn darparu mai mater i’r llys sirol yw apêl sy’n deillio o unrhyw benderfyniad gan swyddog cofrestru ar gyfer ardal llywodraeth leol yng Nghymru i gofrestru person o dan yr adran 9ZA newydd.

Adran 19 - Cymhwysiad person i gael ei ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol yng Nghymru

133.Mae adran 79 o Ddeddf 1972 yn nodi’r meini prawf sy’n golygu bod person yn gymwys i gael ei ethol a bod yn aelod o awdurdod lleol (hynny yw, o ran Cymru, cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned).

134.Mae adran 19 o’r Ddeddf yn diwygio adran 79 o Ddeddf 1972 er mwyn newid y meini prawf cymhwysiad i alluogi “qualifying foreign citizen” i fod yn gymwys i gael ei ethol a bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru (yn ddarostyngedig i’r ffaith y bodlonir y meini prawf eraill yn adran 79).

135.Mae adran 19 o’r Ddeddf yn mewnosod diffiniad o “qualifying foreign citizen” yn adran 79 o Ddeddf 1972 at y diben hwn.

136.I bob pwrpas, mae’n estyn y meini prawf cymhwysiad i unrhyw ddinesydd tramor sy’n preswylio yng Nghymru y mae angen caniatâd arno o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 i ddod i’r DU neu i aros yno ac sydd â chaniatâd amhenodol i aros yn y DU, neu sy’n cael ei drin fel pe bai ganddo’r caniatâd hwnnw.

137.Nid yw person yn ddinesydd tramor cymhwysol os nad oes angen caniatâd ar y person hwnnw o ganlyniad i adran 8 o Ddeddf Mewnfudo 1971 yn unig.

138.Mae adran 8 o Ddeddf Mewnfudo 1971 yn darparu nad oes angen caniatâd ar gategorïau penodol o bersonau, fel y rheini a bennir mewn gorchymyn o dan yr adran, morwyr, criwiau awyr, neu bersonau yn y gwasanaeth diplomyddol etc. i ddod i’r DU ac aros yno.

139.Mae’r diffiniad o “qualifying foreign citizen” yn adran 79 yn wahanol i’r diffiniad yn adran 203(1) o Ddeddf 1983 (y diffiniad sy’n gymwys mewn perthynas ag etholfreinio dinasyddion tramor) mewn dwy ffordd arwyddocaol:

Adran 20 - Anghymhwysiad person rhag cael ei ethol a bod yn aelod o awdurdod lleol

140.Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 80A, 80B ac 80C newydd yn Neddf 1972, sy’n nodi o dan ba amgylchiadau y mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu fod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru (hynny yw, cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru).

141.Mae adran 80A (anghymhwysiad person rhag cael ei ethol neu fod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru) yn rhestru o dan ba amgylchiadau y mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu fod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru.

142.Mae’r darpariaethau yn adran 80A(1)(a),(b) a (d), (2), (4) a (5) yn ailddatgan y seiliau ar gyfer anghymhwyso sydd yn adran 80(1)(b), (e) a (d), a (5) o Ddeddf 1972, yn y drefn honno. (Nid yw adran 80 o Ddeddf 1972 yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru mwyach yn rhinwedd paragraff 1(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf.)

143.Mae adran 80A(1)(c) yn darparu sail newydd ar gyfer anghymhwysiad: bod yn ddarostyngedig i’r gofynion hysbysu mewn gorchymyn o dan Ran 2 o’r Ddeddf Troseddau Rhywiol (gorchmynion a wneir neu ofynion a osodir gan lys mewn ymateb i ymddygiad rhywiol penodedig).

144.Mae adran 80A(6) yn newydd hefyd, ac mae’n gwahardd aelodau o awdurdod lleol yng Nghymru rhag gweithredu yn y swydd honno pe baent, heblaw am is-adrannau (3), (4) neu (5) (amser a ganiateir ar gyfer apelio yn erbyn euogfarn, gorchymyn etc.) wedi eu hanghymhwyso o dan adran 80A(1).

145.Mae adran 80B (anghymhwysiad person rhag bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru a dal swydd leol neu gyflogaeth leol) yn anghymhwyso deiliaid swyddi a chyflogeion penodol awdurdod lleol yng Nghymru (neu gorff cysylltiedig) rhag bod yn aelod o’r awdurdod hwnnw, ond nid yw’n rhwystro’r personau hynny rhag sefyll i gael eu hethol i’r awdurdod hwnnw.

146.Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r awdurdod lleol o dan adran 80B ar yr adeg y mae’n gwneud datganiad ei fod yn derbyn swydd o dan adran 83 o Ddeddf 1972. Yn hytrach, caiff y person ddewis ymddiswyddo o’r swydd daledig neu’r gyflogaeth berthnasol er mwyn cymryd swydd fel aelod. Yn yr achos hwn, bydd yr ymddiswyddiad yn cael effaith ar unwaith ni waeth beth yw’r gofyniad rhybudd yn nhelerau ac amodau’r swydd daledig neu’r gyflogaeth.

147.O dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”), mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu fod yn aelod o awdurdod lleol, os yw’n dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol. Nid yw adran 80B yn cael unrhyw effaith ar y ddarpariaeth hon.

148.Mae adran 80C (swydd daledig neu gyflogaeth y mae’r anghymhwysiad yn gymwys iddi neu iddo) yn diffinio’r term “relevant paid office or employment”.

Adran 21 - Anghymhwysiad aelod o awdurdod lleol yng Nghymru rhag cael ei benodi i swydd daledig

149.Mae’r adran hon yn mewnosod adran newydd 116A yn Neddf 1972.

150.Mae adran 116 o Ddeddf 1972 yn darparu, pan fo person yn aelod o awdurdod lleol, ac am 12 mis ar ôl iddo beidio â bod yn aelod, ei fod wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi neu ei ethol gan yr awdurdod hwnnw i unrhyw swydd daledig, ac eithrio:

151.Mae paragraff 1(7) o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn diwygio adran 116 o Ddeddf 1972 fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.

152.Mae adran 116A (ni chaiff aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru gael eu penodi yn swyddogion) yn ailddatgan y ddarpariaeth yn adran 116 mewn perthynas ag anghymhwyso os yw’r person yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, ond nid yw’n anghymhwyso cyn-aelodau. Nid yw person wedi ei anghymhwyso mwyach felly rhag cael ei benodi neu ei ethol gan awdurdod lleol yng Nghymru i unrhyw swydd daledig pan fydd yn peidio â bod yn aelod o’r awdurdod hwnnw.

Adran 22 – Cyfieithiadau etc. o ddogfennau mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru

153.Mae adran 22 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch gwneud dogfennau sy’n ymwneud â phleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn fwy hygyrch i bleidleiswyr a allai ei chael yn anodd deall ffurf a chynnwys arferol y dogfennau hynny.

154.Mae’r adran yn diwygio adran 199B o Ddeddf 1983 fel nad yw’n gymwys i etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru (mae’n parhau i fod yn gymwys i etholiadau seneddol yng Nghymru).

155.Mae’r adran 199C newydd o Ddeddf 1983 yn ailddatgan y ddarpariaeth yn adran 199B(1) i (4) o Ddeddf 1983 gydag un eithriad: pan fo’r person sy’n gyfrifol am sicrhau bod dogfennau’r etholiad ar gael yn meddwl ei bod yn briodol sicrhau eu bod ar gael mewn ieithoedd eraill o dan adran 199C(2)(b), rhaid sicrhau bod y ddogfen ar gael mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg “and Welsh”.

Adran 23 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol ac Atodlen 2 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhan 1: etholiadau

156.Mae Atodlen 2 (a gyflwynir gan adran 23) yn nodi’r mân ddiwygiadau a’r diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â Rhan 1 o’r Ddeddf.

157.Mae paragraff 2(2) yn diwygio is-adrannau (2A) i (2D) o adran 7B o Ddeddf 1983 fel y’u mewnosodwyd gan adran 19 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (“Deddf 2020”).

158.Mae is-adrannau (2A) i (2D) o adran 7B yn galluogi etholwr llywodraeth leol yng Nghymru sydd, neu sydd wedi bod, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu sy’n cael ei gadw mewn llety diogel i wneud datganiad o gysylltiad lleol o dan adran 7B fel etholwr llywodraeth leol. Pan fo person yn darparu cyfeiriad mewn datganiad o gysylltiad lleol mae’r person i’w ystyried fel pe bai’n preswylio yn y cyfeiriad a roddir yn y datganiad at ddibenion cofrestru etholiadol.

159.Mae paragraff 2(2) yn gwneud tri phrif newid i’r ddarpariaeth a fewnosodir gan Ddeddf 2020. Mae’n cael gwared ar y gofyniad a fewnosodir gan adran 19 o Ddeddf 2020 i bersonau sy’n cael eu cadw mewn llety diogel fod o dan 18 oed. Mae hefyd yn cael gwared ar y pŵer yn yr hyn a oedd yn adran 7B(2B)(b) i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu’r mathau o lety diogel y mae’r adran yn berthnasol iddynt. Yn lle hynny, mae paragraff 2(2) yn diwygio adran 7B(2D)(b) fel bod disgrifiad manylach o “secure accommodation” yn cael ei roi yn yr adran.

160.Mae paragraff 2(5) yn ganlyniadol ar y ddarpariaeth yn adran 13(2) o’r Ddeddf (datgymhwyso adran 36 o Ddeddf 1983 o ran etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru). Mae adran 36B(1) i (4) yn ailddatgan y ddarpariaeth yn adran 36(3AB), (3A), (3B) a (3C) o Ddeddf 1983 ac mae adran 36C(1) i (3) yn ailddatgan y ddarpariaeth yn adran 36(4), (5A) a (6) o Ddeddf 1983.

161.Mae paragraff 19 yn gwneud diwygiadau i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 sy’n gysylltiedig â’r newidiadau a wneir gan adran 22 o’r Ddeddf hon. Mae’r paragraff yn ailddatgan y ddarpariaeth a wneir yn adran 199B(5), (7) ac (8) o Ddeddf 1983 ond pan geir gofyniad yn adran 199B i ddarparu dogfen mewn iaith ar wahân i Saesneg mae’r gofyniad hwnnw yn dod yn ofyniad i ddarparu dogfen mewn iaith ar wahân i Saesneg “and Welsh”.

Rhan 2: Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol

Pennod 1: Y Pŵer Cyffredinol
Adran 24 - Pŵer cymhwysedd cyffredinol awdurdod lleol

162.Mae adran 24 yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol cymhwysol yng Nghymru. Defnyddir y term “pŵer cyffredinol” drwyddi draw yn y nodiadau hyn i gyfeirio at y pŵer cymhwysedd cyffredinol.

163.Mae’r pŵer cyffredinol yn rhoi i bob prif gyngor a rhai cynghorau cymuned (gweler Pennod 2), y cyfeirir atynt yn y Rhan hon fel “awdurdodau lleol cymhwysol”, yr un pwerau i weithredu ag sydd gan unigolyn yn gyffredinol, sydd felly yn eu galluogi i wneud pethau sy’n wahanol i unrhyw beth y maent hwy, neu unrhyw gorff cyhoeddus arall, wedi ei wneud o’r blaen. Diffinnir “unigolyn” yn is-adran (5) er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth ei fod yn golygu unigolyn a chanddo bwerau llawn, ac nad yw’n cynnwys unigolion a chanddynt alluedd llai; er enghraifft, plentyn.

164.Mae is-adrannau (2) a (3) yn diffinio rhychwant y pŵer ymhellach. Nid yw’n angenrheidiol i weithgareddau yr ymgymerir â hwy gan ddefnyddio’r pŵer cyffredinol fod o fudd i’r awdurdod lleol cymhwysol ei hun, ei ardal na’i drigolion, ond nid oes dim i atal y gweithgareddau rhag gwneud hynny. Wrth ddefnyddio’r pŵer cyffredinol caiff awdurdod lleol cymhwysol ymgymryd â gweithgareddau yn unrhyw le, gan gynnwys yng Nghymru a’r tu allan i Gymru.

165.Gall awdurdodau lleol cymhwysol ddefnyddio’r pŵer cyffredinol i weithredu er eu budd ariannol eu hunain, er enghraifft. Mae is-adran (2)(b) yn datgan y caniateir defnyddio’r pŵer cyffredinol i wneud pethau at ddiben masnachol, neu am ffi.

166.Mae arfer y pŵer cyffredinol yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau y darperir ar eu cyfer yn adrannau 25 (terfynau’r pŵer cyffredinol), 26 (cyfyngiadau ar godi ffi) a 27 (cyfyngiadau ar wneud pethau at ddiben masnachol), ac unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 28(3) neu (4).

167.Mae’r diwygiadau i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 3 i’r Ddeddf, yn golygu na fydd y pŵer llesiant y darperir ar ei gyfer yn adran 2 o’r Ddeddf honno yn gymwys mwyach i awdurdodau lleol Cymru.

Adran 25 – Terfynau’r pŵer cyffredinol

168.Mae’r adran hon yn amlinellu terfynau’r pŵer cyffredinol.

169.Nid yw’r pŵer cyffredinol yn galluogi awdurdodau lleol cymhwysol i osgoi gwaharddiadau neu gyfyngiadau mewn deddfwriaeth y mae Senedd Cymru neu Senedd y DU yn ei phasio ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym neu cyn hynny.

170.Nid yw’r pŵer cyffredinol ychwaith yn galluogi awdurdodau lleol cymhwysol i osgoi gwaharddiadau neu gyfyngiadau mewn deddfwriaeth y mae Senedd Cymru neu Senedd y DU yn ei phasio ar ôl i’r adran hon ddod i rym, os yw’r ddeddfwriaeth honno yn datgan ei bod yn gymwys:

171.Mae is-adran (3) yn atal awdurdod lleol cymhwysol rhag defnyddio’r pŵer cyffredinol i ddirprwyo neu gontractio allan unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau neu newid ei drefniadau llywodraethu. Mae’r materion hyn yn parhau’n ddarostyngedig i ddarpariaeth statudol ar wahân.

Adran 26 - Cyfyngiadau ar godi ffi wrth arfer pŵer cyffredinol

172.Mae’r adran hon yn cyfyngu ar allu awdurdod lleol cymhwysol i godi ffi am ddarparu gwasanaeth i berson wrth arfer y pŵer cyffredinol. Pan fo awdurdod lleol cymhwysol yn defnyddio’r pŵer cyffredinol i ddarparu gwasanaeth, mae’n darparu na chaiff godi ffi am y gwasanaeth hwnnw:

173.Mae is-adran (4) yn atal awdurdod lleol cymhwysol rhag gwneud elw mewn unrhyw flwyddyn ariannol pan fo’n defnyddio’r pŵer cyffredinol i godi ffi am ddarparu gwasanaeth, oni bai bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu at ddiben masnachol. Fodd bynnag, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad hwnnw o beidio â gwneud elw, mae is-adran (6) yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i bennu ffioedd fel y gwêl yn dda, gan gynnwys codi ffi ar rai pobl yn unig am y gwasanaeth neu godi symiau gwahanol ar bobl wahanol neu grwpiau gwahanol o bobl.

174.Mae adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn ymdrin â phwerau awdurdodau lleol cymhwysol (a chyrff eraill) i godi ffi am bethau a wneir ac eithrio wrth arfer y pŵer cyffredinol.

Adran 27 - Cyfyngiadau ar wneud pethau at ddiben masnachol wrth arfer pŵer cyffredinol

175.Mae’r adran hon yn darparu y caiff awdurdod lleol cymhwysol ddefnyddio’r pŵer cyffredinol i ymgymryd â gweithgaredd at ddiben masnachol, dim ond os yw’r gweithgaredd yn un y gallai’r awdurdod hefyd ddibynnu ar y pŵer cyffredinol i’w wneud at ddiben anfasnachol.

176.Effaith is-adran (3) yw na all awdurdod lleol cymhwysol ymgymryd â gweithgaredd mewn perthynas â rhywun at ddiben masnachol, os yw’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod wneud y gweithgaredd hwnnw.

177.Hefyd, os yw awdurdod lleol cymhwysol yn dymuno defnyddio’r pŵer cyffredinol i wneud rhywbeth at ddiben masnachol, rhaid iddo wneud hynny drwy gwmni, fel y’i diffinnir yn adran 1(1) o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu gymdeithas gofrestredig fel y’i diffinnir yn Neddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014, neu gymdeithas a gofrestrwyd neu y bernir ei bod wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol (Gogledd Iwerddon) 1969.

178.Mae is-adran (5) yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys i roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol.

179.Mae adran 95 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn ymdrin â phwerau awdurdodau lleol cymhwysol (a chyrff eraill) i wneud pethau at ddiben masnachol ac eithrio wrth arfer y pŵer cyffredinol.

Adran 28 - Pŵer i wneud darpariaeth atodol

180.Mae adran 28(1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n dileu neu’n newid darpariaethau statudol y maent yn meddwl eu bod yn atal awdurdodau lleol cymhwysol rhag defnyddio’r pŵer cyffredinol, neu’n eu rhwystro wrth iddynt ddefnyddio’r pŵer cyffredinol.

181.Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n dileu’r gorgyffwrdd rhwng y pŵer cyffredinol a phwerau eraill (er mai effaith is-adran (9)(a) yw na allant gyflawni hyn drwy ddiwygio neu gyfyngu ar y pŵer cyffredinol ei hun).

182.Mae is-adrannau (3) a (4) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n cyfyngu ar yr hyn y caiff awdurdod lleol cymhwysol ei wneud o dan y pŵer cyffredinol, neu wneud y defnydd ohono’n ddarostyngedig i amodau.

183.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon o ran pob awdurdod lleol cymhwysol, awdurdodau penodol sy’n awdurdodau lleol cymhwysol, neu fath o awdurdod lleol cymhwysol.

184.Effaith is-adrannau (7) a (8) yw bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau hyn, ymgynghori â pha bynnag awdurdodau lleol cymhwysol y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, unrhyw gynrychiolwyr prif gynghorau a chynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

185.Nid yw’r ddyletswydd i ymgynghori yn gymwys yn achos unrhyw reoliadau sy’n diwygio rheoliadau cynharach er mwyn:

Adran 29 a Rhan 1 o Atodlen 3 – Diwygiadau mewn perthynas â Phennod 1 o Ran 2: y pŵer cyffredinol

186.Mae Atodlen 3 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol (gweler y nodiadau mewn cysylltiad ag adran 37 hefyd).

187.Mae’r Atodlen wedi ei rhannu yn ddwy ran fel bod modd cychwyn y pŵer cymhwysedd cyffredinol fesul cam. Mae ei gychwyn fesul cam yn cydnabod yr angen i wneud rheoliadau sy’n pennu clerc cymwysedig a hefyd i lunio a dyroddi canllawiau o dan Bennod 2.

188.Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â chreu’r pŵer cyffredinol o ran ei gymhwyso i brif gynghorau ac mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chymhwyso’r pŵer cyffredinol i gynghorau cymuned cymwys.

189.Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau i’r Ddeddf hon ac i ddeddfwriaeth arall mewn perthynas â’r Bennod hon, gan gynnwys dileu’r pŵer llesiant ar gyfer prif gynghorau.

190.Ar y cyfan, mae’r diwygiadau yn y Rhan hon o’r Atodlen yn ymwneud â chreu’r pŵer cymhwysedd cyffredinol:

Pennod 2: Cynghorau Cymuned Cymwys
Adran 30 - Dod yn gyngor cymuned cymwys

191.Mae adran 30 yn nodi’r meini prawf y mae rhaid i gyngor cymuned eu bodloni, a’r weithdrefn y mae rhaid iddo ei dilyn, er mwyn dod yn “cyngor cymuned cymwys”. Mae dod yn gyngor cymuned cymwys yn galluogi cyngor i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o’r Rhan hon (am fod “cynghorau cymuned cymwys” yn dod o fewn y diffiniad o “awdurdodau lleol cymhwysol”).

192.Mae is-adran (1) yn darparu bod rhaid i gyngor, er mwyn dod yn gyngor cymuned cymwys, basio penderfyniad ei fod yn bodloni’r holl amodau cymhwystra a nodir yn is-adrannau (2) i (4) a’i fod yn gyngor cymuned cymwys.

193.Yr amod cymhwystra cyntaf yw ei bod yn ofynnol y datganwyd bod o leiaf ddau draean o aelodau’r cyngor cymuned wedi eu hethol. Ystyr hyn yw bod rhaid iddynt fod wedi ymgeisio am gael eu hethol mewn etholiad cyffredin neu is-etholiad, hyd yn oed os na wrthwynebwyd hwy, yn hytrach na chael eu cyfethol.

194.Yr ail amod cymhwystra yw bod rhaid bod clerc y cyngor yn dal un o’r cymwysterau a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (5). Enghraifft o gymhwyster sy’n debygol o gael ei bennu yw Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol, sef cymhwyster Lefel 3 yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

195.Mae’r amod cymhwystra olaf yn ymwneud â’r archwiliad blynyddol o gyfrifon cyngor cymuned. Er mwyn i gyngor allu penderfynu ei fod yn gyngor cymuned cymwys rhaid ei fod wedi cael dwy farn archwilydd ddiamod am ddwy flynedd ariannol yn olynol, a rhaid bod y cyngor wedi cael y ddiweddaraf ohonynt yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae penderfyniad y cyngor yn cael ei basio.

196.Archwilir cyfrifon cyngor cymuned yn flynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu ar ei ran, ac mae’r Archwilydd Cyffredinol yn rhoi ei farn ar y cyfrifon o dan adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“Deddf 2004”).

197.Er mwyn i farn yr Archwilydd Cyffredinol fod yn ddiamod, rhaid iddo fod wedi ei fodloni o ran y materion a nodir yn adran 17 o Deddf 2004, gan gynnwys:

Adran 31 - Parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys

198.Unwaith y mae cyngor cymuned wedi penderfynu ei fod yn gyngor cymuned cymwys bydd angen iddo ailddatgan yn flynyddol ei fod yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwystra. Bydd cyngor yn gwneud hynny drwy basio penderfyniad yn ei gyfarfod blynyddol.

199.Os nad yw cyngor cymuned yn pasio penderfyniad mewn cyfarfod blynyddol ei fod yn gyngor cymuned cymwys yna mae’n peidio â bod yn un ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod blynyddol o dan sylw.

200.Gall cyngor cymuned benderfynu peidio â phasio penderfyniad ei fod yn parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys am nad yw’n bodloni’r holl amodau cymhwystra mwyach. Neu, gall cyngor benderfynu nad yw’n dymuno bod yn gyngor cymuned cymwys mwyach, er gwaethaf y ffaith ei fod yn bodloni’r amodau.

Adran 32 - Peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys

201.Mae adran 32 yn darparu y caiff cyngor cymuned cymwys hefyd benderfynu ar unrhyw adeg nad yw i fod yn gyngor cymuned cymwys mwyach. Pan wneir penderfyniad o’r fath bydd y cyngor yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod y cafodd y penderfyniad ei basio ynddo.

202.Mae’r diagram isod yn dangos y prosesau y mae cyngor cymuned yn eu dilyn i ddod yn gyngor cymuned cymwys, ac i beidio â bod yn gyngor o’r fath.

Adran 33 - Cynghorau cymuned sy’n peidio â bod yn gymwys: arfer pŵer cymhwysedd cyffredinol

203.Mae adran 33 yn darparu y gall cyngor cymuned sy’n peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys (ac sydd felly’n colli’r pŵer cyffredinol) barhau i ddibynnu ar y pŵer cyffredinol mewn perthynas â phethau y mae wedi eu gwneud wrth arfer y pŵer hwnnw pan oedd yn gyngor cymuned cymwys. Golyga hyn, er enghraifft, y caiff contract yr ymrwymwyd iddo wrth arfer y pŵer cyffredinol barhau, ac nad yw wedi ei lesteirio o anghenraid, er gwaethaf y ffaith nad oes gan y cyngor cymuned y pŵer mwyach i ymrwymo i’r contract hwnnw.

Adran 34 - Cynghorau cymuned cyffredin a sefydlir ar ôl i’r Ddeddf hon gael ei phasio

204.O dan adrannau 27E a 27F o Ddeddf 1972 mae gan gyfarfodydd cymunedol y pŵer i wneud cais am orchymyn sy’n grwpio eu cymunedau gyda’i gilydd o dan “cyngor cymuned cyffredin”.

205.Pan gaiff cyngor cymuned cyffredin o’r fath ei ffurfio mae’n gyngor newydd i bob pwrpas; hyd yn oed os yw’n cynnwys, yn llwyr neu yn rhannol, gymunedau a oedd â chynghorau cymuned ar wahân cyn hynny (ac nid yw’r adran hon o’r Ddeddf ond yn gymwys pan oedd gan o leiaf hanner y cymunedau o dan sylw gynghorau cymuned ar wahân).

206.Er y gallai cyngor cymuned cyffredin newydd fodloni’r amodau cymhwystra mewn perthynas â’r gyfran o aelodau etholedig (gan y byddai’r gorchymyn a wneir gan y prif gyngor yn gwneud darpariaeth ar gyfer etholiad), a bod â chlerc cymwysedig o’r dechrau, ni fyddai’n gallu bodloni’r trydydd amod cymhwystra, sef bod â dwy farn archwilio ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

207.Gallai hynny olygu, er enghraifft, na fyddai’r cyngor newydd, er gwaethaf bod wedi ei gyfansoddi o gynghorau a oedd yn gallu penderfynu eu bod yn gynghorau cymuned cymwys yn flaenorol, yn gallu gwneud hynny am o leiaf ddwy flynedd.

208.Er mwyn sicrhau nad oes anghymhelliad i greu cyngor cyffredin, pan fo cymunedau yn teimlo y byddai hynny o fudd i’w cymuned, mae is-adran (2) yn datgymhwyso’r amod cymhwystra a nodir yn adran 30(4) am gyfnod penodol ar gyfer cynghorau cymuned cyffredin penodol.

209.Yn achos cyngor cymuned cyffredin lle’r oedd gan o leiaf hanner y cymunedau gynghorau cymuned ar wahân a oedd, yn union cyn y gorchymyn a oedd yn eu grwpio, yn bodloni’r trydydd amod cymhwystra, ni fydd yn ofynnol iddo fodloni’r trydydd amod cymhwystra hyd nes y bo’n cael dwy farn archwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (ond os yw’r farn gyntaf yn farn amodol, caiff ei drin fel pe na bai’n bodloni’r amodau cymhwystra mwyach).

210.Nid yw’r adran hon ond yn gymwys i gynghorau cymuned cyffredin a ffurfiwyd ers i’r Ddeddf gael ei phasio. Mae unrhyw gynghorau cymuned cyffredin a oedd yn weithredol cyn i’r Ddeddf gael ei phasio wedi bod yn weithredol am gyfnod digonol i fod â’u cofnodion archwilio eu hunain (er bod adran 35(5) yn darparu pŵer mwy cyffredinol, nad yw’n benodol i gynghorau cymuned newydd, i addasu neu ddatgymhwyso amodau cymhwystra yn ystod y ddwy flynedd gyntaf ar ôl i’r Bennod ddod i rym).

Adran 35 – Pŵer i ddiwygio neu addasu’r Bennod hon

211.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau (yn dilyn ymgynghoriad ag unrhyw gyrff sy’n cynrychioli cynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy) i ddiwygio’r Bennod. Caiff y rhain ychwanegu amod cymhwystra newydd, tynnu amod cymhwystra ymaith neu newid unrhyw un neu ragor o’r amodau cymhwystra.

212.Caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud rheoliadau i bennu amgylchiadau, ac eithrio’r rheini a bennir yn adran 30, pan fydd cyngor cymuned yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys os na fodlonir unrhyw un neu ragor o’r amodau. Er enghraifft, pe bai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn nodi problem ddifrifol.

Adran 36 – Canllawiau ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon

213.Rhaid i gynghorau cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â sut i arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon. Er enghraifft, gallai Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynglŷn â’r camau y gallai cyngor ystyried eu cymryd pe bai’n darganfod nad yw’n bodloni un o’r amodau cymhwystra mwyach, neu’r materion y dylai cyngor cymuned eu hystyried pe bai’n parhau i arfer y pŵer cyffredinol ar ôl peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys.

Adran 37 a Rhan 2 o Atodlen 3 – Diwygiadau mewn perthynas â Phennod 2 o Ran 2 – cynghorau cymuned cymwys

214.Mae adran 37 yn cyflwyno Rhan 2 o Atodlen 3 sy’n gwneud diwygiadau, sy’n ymwneud â’r Bennod hon, i Ran 1 o Atodlen 3 ac i ddeddfwriaeth arall, gan gynnwys diddymu’r pŵer llesiant yn adran 2 o Ddeddf 2000 yn llwyr.

215.Golyga hyn y bydd y pŵer llesiant yn peidio â bod yn gymwys i bob cyngor cymuned, waeth pa un a ydynt yn gymwys i arfer y pŵer cyffredinol ai peidio, yn ogystal â phrif gynghorau (fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan 1 o’r Atodlen).

216.Mae’r pŵer llesiant yn cael ei ddiddymu yn llwyr, er na fydd cynghorau cymuned nad ydynt wedi penderfynu eu bod yn gymwys yn gallu defnyddio’r pŵer cyffredinol. Gwneir hyn ar y sail y gallai bod â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol, yn ogystal ag adran 137 o Ddeddf 1972, ychwanegu at y dryswch presennol y mae’r sector cynghorau cymuned yn adrodd arno o ran y pwerau sydd ar gael iddynt.

217.Byddai cadw’r pŵer llesiant hefyd yn lleihau’r cymhelliad i gynghorau cymuned fodloni’r meini prawf cymhwystra er mwyn gallu manteisio ar y pŵer cyffredinol.

218.Mae’r meini prawf hynny yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned ddangos rheolaeth ariannol gadarn yn gyson, cael arweiniad a mewnbwn gan glerc sydd â chymwysterau penodol, ac adolygu’n gyson ac yn gyhoeddus a yw’n bodloni’r meini prawf, ac a ddylai ddod yn gyngor cymuned cymwys neu barhau i fod yn gyngor o’r fath.

219.Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn diwygio Deddf 1972 er mwyn cyfyngu ar bŵer awdurdodau lleol i fynd i wariant at ddibenion penodol nad ydynt fel arall wedi eu hawdurdodi i gynghorau cymuned nad ydynt yn gynghorau cymuned cymwys. Gwneir y diwygiad hwn am y bydd cynghorau cymuned cymwys yn gallu dibynnu ar y pŵer cyffredinol (ehangach) i fynd i wariant yr eid iddo fel arall o dan y pŵer hwn.

220.Mae’r Atodlen hefyd yn diddymu’r pŵer sydd gan Weinidogion Cymru o dan Bennod 9 o Ran 7 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“Fesur 2011”) i ddarparu ar gyfer cynllun sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru achredu cyngor cymuned os bydd y meini prawf a nodir yn y rheoliadau wedi eu bodloni.

221.Nid yw’r pŵer hwn wedi ei ddefnyddio, ar y sail y byddai’n well cael sefyllfa lle byddai’r sector llywodraeth leol ei hun yn gyfrifol am benderfynu ar “ansawdd”, yn hytrach na bod yn ddibynnol ar Weinidogion Cymru i roi’r statws hwnnw. Yn lle hynny, y meini prawf ar gyfer achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol a ragwelir ym Mesur 2011 yw’r sail ar gyfer y meini prawf cymhwystra i ddefnyddio’r pŵer cymhwysedd cyffredinol. Bydd yr angen i gynghorau benderfynu eu bod yn gymwys drwy gyfeirio at gyfres o feini prawf gwrthrychol yn parhau i ddarparu dull o sicrhau ansawdd cynghorau cymuned a chymell cynghorau i wella.

222.Mae’r Atodlen hefyd yn ychwanegu cyfeiriadau at y pŵer cymhwysedd cyffredinol at ddeddfwriaeth a oedd yn cyfeirio at y pŵer llesiant yn flaenorol, ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill.

Rhan 3: Hybu Mynediad at Lywodraeth Leol

Pennod 2: Cyfranogiad y Cyhoedd o fewn Llywodraeth Leol
Adran 39 - Dyletswydd i annog pobl leol i gyfranogi pan fo prif gynghorau yn gwneud penderfyniadau

223.Mae adran 39 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i annog pobl leol i gyfranogi pan fo’r prif gyngor yn gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys pan fo’r cyngor yn gwneud penderfyniadau mewn partneriaeth ag unigolyn neu gorff arall, fel prif gyngor arall, neu ar y cyd ag unigolyn neu gorff arall, fel bwrdd iechyd lleol.

224.At ddibenion yr adran hon, mae penderfyniad yn cynnwys pan fo penderfyniad wedi ei ddirprwyo i unigolyn gan brif gyngor.

Adran 40 - Strategaeth ar annog cyfranogiad

225.Mae adran 40 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i lunio a chyhoeddi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd sy’n pennu sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir gan adran 39.

226.Mae adran 62 o Fesur 2011 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i wneud trefniadau i alluogi unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol i ddwyn ei safbwyntiau ar unrhyw fater sy’n cael ei ystyried gan bwyllgor trosolwg a chraffu i sylw’r pwyllgor hwnnw. Rhaid i’r strategaeth cyfranogiad y cyhoedd hefyd ymdrin â’r trefniadau a wnaed neu a wneir yn unol â’r ddyletswydd a osodir gan adran 62 o Fesur 2011.

Adran 41 - Strategaeth cyfranogiad y cyhoedd: ymgynghori ac adolygu

227.Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i ymgynghori â phobl leol (y’u diffinnir yn adran 171 fel pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal y cyngor) ac unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy wrth lunio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd. Rhaid i’r strategaeth gyntaf gael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i adran 40 ddod i rym.

228.Caiff y cyngor adolygu ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ar unrhyw adeg, ond rhaid iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl etholiad cyffredin i ethol cynghorwyr. Unwaith eto, wrth adolygu’r strategaeth, rhaid i’r cyngor ymgynghori â phobl leol ac unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

229.Ar ôl cynnal adolygiad, caiff cyngor ddiwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu roi strategaeth arall yn ei lle, ond rhaid iddo ymgynghori yn gyntaf â phobl leol ac unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy. Os yw’n diwygio strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu’n rhoi strategaeth arall yn ei lle, rhaid iddo gyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig neu’r fersiwn newydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

Adran 42 - Dyletswydd i wneud cynllun deisebau

230.Mae adran 42 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i lunio cynllun deisebau, gan nodi sut y bydd yn ymdrin â deisebau, gan gynnwys deisebau electronig, ac yn ymateb iddynt.

Adran 43 - Dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogol

231.Mae adran 43 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriad electronig a chyfeiriad post y gellir anfon gohebiaeth iddo ar gyfer pob aelod o’r cyngor. Caiff fod yn gyfeiriad swyddogol yn hytrach na chyfeiriad cartref.

Adran 44 – Canllawiau ar arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon

232.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth arfer y swyddogaethau o dan Bennod 2, gan gynnwys y swyddogaethau o annog cyfranogiad y cyhoedd pan fo prif gynghorau yn gwneud penderfyniadau, datblygu strategaeth ar annog cyfranogiad a gwneud a chyhoeddi cynllun deisebau.

Pennod 3: Arweiniadau i’r Cyfansoddiad
Adran 45 – Dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfansoddiad ac arweiniad i’r cyfansoddiad

233.Mae adran 45 o’r Ddeddf yn diwygio adran 37 o Ddeddf 2000 (cyfansoddiad awdurdod lleol).

234.Mae adran 37 o Ddeddf 2000 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i lunio a diweddaru dogfen (y cyfeirir ati yn yr adran honno fel eu cyfansoddiad) sy’n cynnwys copïau o reolau sefydlog a chod ymddygiad y cyngor, unrhyw wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo i’w chadw ac unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.

235.Mae adran 45 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd bellach ar brif gynghorau i lunio a diweddaru arweiniad i’r cyfansoddiad sy’n egluro cynnwys eu cyfansoddiad mewn iaith gyffredin.

236.Cyn ei diwygio, mae adran 37 o Ddeddf 2000 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i sicrhau bod copïau o’u cyfansoddiad ar gael yn eu prif swyddfa i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol. Rhaid i gyngor ddarparu copi o’i gyfansoddiad i unrhyw un sy’n gofyn am gopi, yn gyfnewid am ffi resymol a bennir gan yr awdurdod.

237.Ar ôl i adran 37 gael ei diwygio gan adran 45, gosodir dyletswydd ar brif gynghorau i sicrhau bod copïau o’u cyfansoddiad a’r arweiniad i’r cyfansoddiad yn cael eu cyhoeddi’n electronig a’u bod ar gael yn eu prif swyddfa i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol. Rhaid i gyngor ddarparu copi o’i gyfansoddiad a’r arweiniad i’r cyfansoddiad i unrhyw un sy’n gofyn am gopi naill ai’n rhad ac am ddim neu am dâl nad yw’n uwch na chost darparu’r copi.

Pennod 4: Mynediad at Gyfarfodydd Awdurdodau Lleol
Adran 46 - Darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol

238.Mae adran 46(1) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau wneud, a chyhoeddi, trefniadau sy’n sicrhau bod trafodion mathau penodol o gyfarfod cyngor yn cael eu darlledu ar ffurf electronig mewn modd sy’n caniatáu i aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn mynychu’r cyfarfod weld a chlywed y trafodion. Rhaid i’r trafodion gael eu darlledu yn fyw (yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau a bennir mewn rheoliadau) a rhaid iddynt fod ar gael ar ffurf electronig ar ôl y cyfarfod am gyfnod a bennir mewn rheoliadau.

239.Mae is-adran (2) yn pennu’r mathau o gyfarfod cyngor y mae’r ddyletswydd i wneud trefniadau yn gymwys iddynt. Nid yw ond yn gymwys i gyfarfodydd, neu rannau o gyfarfodydd, sy’n agored i’r cyhoedd, a’r unig fath o gyfarfod y mae’n gymwys iddo drwy weithrediad uniongyrchol yr is-adran yw cyfarfod prif gyngor, sy’n golygu cyfarfodydd y cyngor llawn (is-adran (2)(a)).

240.Caniateir estyn y ddyletswydd i gyfarfodydd cyrff sy’n gweithredu o fewn y cyngor drwy i Weinidogion Cymru bennu’r cyrff hynny mewn rheoliadau (is-adran (2)(a) ac is-adran (4)).

241.Y mathau o gyrff y caniateir eu pennu yw:

242.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n cynnwys darpariaeth bellach mewn cysylltiad â darlledu ar ffurf electronig gyfarfodydd prif gyngor neu gorff a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (2).

243.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor roi sylw i ganllawiau a lunnir gan Weinidogion Cymru ynghylch ei ddyletswydd i wneud a chyhoeddi trefniadau o dan is-adran (1).

244.Mae is-adran (8) yn rhoi pwerau eang i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyfarfodydd cyrff penodol eraill gael eu darlledu ar ffurf electronig, gan gynnwys drwy ddiwygio, ddirymu neu ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Mae’r pŵer yn arferadwy drwy reoliadau.

245.Y cyrff y caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i’r gofynion hynny yw:

246.Rhaid i’r holl reoliadau o dan yr adran hon gael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru cyn cael eu gwneud (gweler adran 174(5)(d)).

Adran 47 – Mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol

247.Mae adran 47 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau er mwyn sicrhau y gellir cynnal eu cyfarfodydd mewn modd sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fynychu’r cyfarfod. Rhaid i’r awdurdod gyhoeddi’r trefniadau hyn, ac os caiff y trefniadau eu diwygio neu os rhoddir rhai newydd yn eu lle rhaid i’r trefniadau newydd gael eu cyhoeddi yn ogystal.

248.O dan y trefniadau, bydd rhaid iddi fod yn bosibl cynnal cyfarfodydd yn rhithwir. Nid yw adran 47 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarfodydd gael eu cynnal ar ffurf benodol, fodd bynnag. Mater i’r rhai sy’n gyfrifol am drefnu’r cyfarfodydd fydd penderfynu pa un ai i’w cynnal yn gwbl rithwir, yn rhannol rithwir – pan fo rhai sy’n cymryd rhan yn yr un lleoliad ffisegol ac eraill yn ymuno â’r cyfarfod yn rhithwir – neu ar ffurf cyfarfodydd ffisegol.

249.Rhaid i awdurdodau roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth wneud y trefniadau hyn.

250.Nid yw’r math o gyfarpar neu gyfleuster arall sydd i’w ddefnyddio er mwyn hwyluso cyfarfodydd rhithwir yn cael ei bennu ond rhaid iddo, o dan is-adran (2), alluogi’r holl gyfranogwyr yn y cyfarfod i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd.

251.Mae adran (2) yn pennu ymhellach, pan fo’n ofynnol i’r cyfarfod gael ei ddarlledu o dan adran 46 o’r Ddeddf, bod rhaid i’r holl gyfranogwyr yn y cyfarfod allu gweld ei gilydd a chael eu gweld gan ei gilydd yn ogystal â gallu siarad â’i gilydd a chael eu clywed gan ei gilydd.

252.Mae is-adran (6) yn pennu’r cyrff sy’n dod o fewn y diffiniad o “awdurdod lleol” at ddiben yr adran hon, ac mae hefyd yn diffinio “cyfarfodydd awdurdod lleol”, sef y cyfarfodydd y mae’r ddyletswydd a nodir yn is-adran (1) yn gymwys iddynt.

253.Mae is-adran (7) yn darparu, pan fo deddfiad yn cyfeirio at y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol (fel y’i diffinnir yn is-adran (6)), yn bresennol ynddo neu’n ymddangos ger ei fron, ei fod yn cynnwys ei gyfranogiad drwy gyfrwng y trefniadau a roddwyd yn eu lle er mwyn bodloni gofynion yr adran hon. Mae’r is-adran hon hefyd yn darparu nad yw cyfeiriad at “y lle y mae cyfarfod awdurdod lleol i’w gynnal” wedi ei gyfyngu i leoliad ffisegol.

254.Mae is-adran (8) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud newidiadau i’r amodau a nodir yn is-adran (2), er enghraifft, er mwyn ymdrin â datblygiadau technolegol o ran sut y gellir cynnal cyfarfodydd yn rhithwir, ac i ychwanegu cyd-fwrdd at y diffiniad o awdurdod lleol yn is-adran (6).

Adran 48 - Cyfranogi yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned

255.Mae adran 48 yn diwygio Rhan 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, sy’n nodi’r gofynion o ran cyfarfodydd a thrafodion cynghorau cymuned.

256.Ychwanegwyd paragraff (27A) sy’n darparu bod rhaid rhoi cyfle rhesymol i aelodau o’r cyhoedd sy’n mynychu cyfarfod cyngor cymuned gyflwyno sylwadau ynglŷn ag unrhyw eitem o fusnes sydd i’w thrafod yn y cyfarfod.

257.Fel mater o arfer da, mae nifer o gynghorau cymuned a thref eisoes yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gyflwyno sylwadau, heb rwymedigaeth statudol i wneud hynny. Serch hynny, mae hyn yn dibynnu ar ddisgresiwn y cyngor ac nid yw’n digwydd ym mhobman.

258.Mae’r ddyletswydd i roi cyfle i aelodau o’r cyhoedd gyflwyno sylwadau wedi ei hamodi yn adran 27A(2) i’r graddau y caiff y sawl sy’n cadeirio’r cyfarfod gyfyngu ar y cyfle hwnnw os yw o’r farn bod defnydd rhywun o’r cyfle yn debygol o amharu ar gynnal y cyfarfod yn effeithiol.

259.Bydd gan y sawl sy’n cadeirio ddisgresiwn eang i benderfynu beth sy’n cyfrif fel cyfle rhesymol ond bydd rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn â’r mater a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 27A(3).

Adran 49 – Hysbysiadau etc. ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleol ac Atodlen 4 – Hysbysiad am gyfarfodydd awdurdodau lleol, mynediad at ddogfennau a mynychu cyfarfodydd

260.Mae Atodlen 4, a gyflwynir gan adran 49 o’r Ddeddf, yn gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau ar gyfer cyfarfodydd awdurdodau lleol a mynychu’r cyfarfodydd hynny.

261.Mae Rhan 1 o Atodlen 4 yn ategu’r newidiadau a gyflwynir gan adran 47 mewn cysylltiad â mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol (gan gynnwys mynychu o bell) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi dogfennau penodol awdurdodau lleol ar ffurf electronig. Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i adran 47.

Rhan 1 o Atodlen 4 – Hysbysiad am gyfarfodydd awdurdodau lleol a mynediad at ddogfennau

262.Mae Rhan 5A o Ddeddf 1972 (adrannau 100A i 100K) yn gwneud darpariaeth ynghylch mynediad at gyfarfodydd prif gynghorau (a chyrff llywodraeth leol penodol eraill), a mynediad at ddogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd hynny a’u cyhoeddi.

263.Mae paragraff 1 yn diwygio adran 100A o Ddeddf 1972 (yr is-adran (6)(aa) newydd), fel bod rhaid i hysbysiad cyhoeddus am gyfarfodydd prif gynghorau yng Nghymru (fel y’u diffinnir yn adran 100J) gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig a bod rhaid iddo gynnwys gwybodaeth sy’n darparu manylion am y trefniadau ar gyfer cyfarfod (gan gynnwys a yw’n agored i’r cyhoedd, a yw’n cael ei gynnal o bell a sut i gael mynediad at gyfarfod a gynhelir o bell). Nid yw’n ofynnol mwyach i’r hysbysiad gael ei osod yn swyddfeydd y prif gyngor.

264.Mae paragraff 2 yn diwygio adran 100K(3) o Ddeddf 1972 ac mae’n ganlyniadol ar yr is-adran (6)(aa) newydd yn adran 100A; mae’r pŵer presennol yn adran 100K(3), sy’n galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i roi cyfeiriad at nifer uwch o ddiwrnodau yn lle’r cyfeiriad at dri diwrnod yn adran 100A(6)(a) (sef is-adran na fydd yn gymwys yng Nghymru mwyach), yn gymwys i’r adran 100A(6)(aa) newydd.

265.Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cyfarfodydd a thrafodion prif gynghorau a chyrff llywodraeth leol eraill.

266.Mae paragraff 3 yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, er mwyn gwneud ei ddarpariaethau ynghylch cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus am gyfarfodydd prif gynghorau yn gyson â’r gofynion a nodir yn yr adran 100A ddiwygiedig o Ddeddf 1972. Mae’r is-adran (2B) newydd yn diffinio “a meeting held through remote means”.

267.Mae paragraff 4 yn diwygio paragraff 26 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, fel bod rhaid i hysbysiadau cyhoeddus am gyfarfodydd cynghorau cymuned gynnwys yr wybodaeth a nodir yn yr is-baragraff (2ZA) newydd (gan gynnwys a yw’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, a yw’n cael ei gynnal o bell a sut i gael mynediad at gyfarfod a gynhelir o bell). Mae’r is-baragraff (2ZB) newydd yn diffinio “a meeting held through remote means”. Ni wneir unrhyw newidiadau i’r gofynion presennol bod rhaid i hysbysiadau am gyfarfodydd cynghorau cymuned gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig a bod rhaid iddynt gael eu gosod mewn man amlwg yn y gymuned.

268.Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad at Gyfarfodydd) 1960 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi mynediad i’r cyhoedd a’r wasg at gyfarfodydd awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, a hefyd ynghylch dogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd hynny.

269.Mae paragraff 5 yn diwygio adran 1 o Ddeddf 1960 fel bod rhaid i hysbysiadau am gyfarfodydd y cyrff a restrir yn yr is-adran (4ZA) newydd gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn yr is-adran (4ZB) newydd.

270.Mae’r gofynion yn debyg i’r rhai a fewnosodir yn adran 100A o Ddeddf 1972 (sy’n ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi hysbysiadau ar ffurf electronig a rhoi gwybodaeth ynghylch sut i gael mynediad at gyfarfodydd a gynhelir o bell). Mae’r is-adran (4ZC) newydd yn diffinio “a meeting held through remote means” ac mae hefyd yn darparu bod gofyniad i gyhoeddi hysbysiad ar ffurf electronig yn ofyniad i gyhoeddi ar wefan y corff hwnnw os oes gan y corff hwnnw wefan.

271.Mae paragraff 6 yn diwygio adran 100B o Ddeddf 1972 (mynediad at agenda ac at adroddiadau cysylltiedig), fel ei bod yn gymwys i brif gynghorau yn Lloegr yn unig.

272.Mae paragraff 7 yn mewnosod adran 100BA newydd (mynediad at agenda ac at adroddiadau cysylltiedig: prif gynghorau yng Nghymru) yn Rhan 5A o Ddeddf 1972. Mae’r adran newydd yn darparu bod rhaid i gopïau o’r agenda a’r adroddiadau cysylltiedig ar gyfer cyfarfod prif gyngor yng Nghymru gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig. Mae’r cyfyngiadau sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth esempt benodol (fel y’i nodir yn Atodlen 12A i Ddeddf 1972) yn parhau i fod yn gymwys (gweler adrannau 100BA(2) a (7)).

273.Pan na fo cyfarfod yn cael ei gynnal o bell yn unig a bod aelodau o’r cyhoedd yn bresennol, rhaid darparu nifer rhesymol o gopïau o’r agenda a’r adroddiadau at eu defnydd. Mae is-adran (9) yn darparu ar gyfer cyflenwi (ar gais ac yn amodol ar daliad) ddogfennau penodol sy’n ymwneud â’r cyfarfod i unrhyw bapur newydd.

274.Mae paragraff 8 yn diwygio adran 100C o Ddeddf 1972 (edrych ar gofnodion a dogfennau eraill ar ôl cyfarfodydd) fel bod is-adran (1) yn gymwys i brif gynghorau yn Lloegr yn unig a’r is-adrannau (1A) i (1C) newydd yn gymwys i brif gynghorau yng Nghymru.

275.Mae is-adran (1A) yn darparu bod rhaid i’r dogfennau a restrir yn is-adran (1B) gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig a bod rhaid iddynt barhau i fod ar gael ar ffurf electronig am chwe blynedd o ddyddiad y cyfarfod, mae is-adran (1C) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor, ar ôl cyfarfod, gyhoeddi nodyn ar ffurf electronig yn nodi’r wybodaeth a restrir yn is-adran (1C).

276.Mae paragraff 9 yn diwygio adran 100D o Ddeddf 1972 (edrych ar bapurau cefndirol) fel bod rhaid i gopi o unrhyw ddogfen a gynhwysir ar y rhestr o bapurau cefndirol ar gyfer adroddiad ar gyfer cyfarfod prif gyngor yng Nghymru gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig.

277.Mae is-adran (1)(c) newydd yn darparu, os yw’r swyddog priodol yn ystyried nad yw’n rhesymol ymarferol cyhoeddi dogfen gefndirol ar ffurf electronig, er enghraifft dogfen gefndirol faith iawn, bod rhaid i o leiaf un copi o’r ddogfen fod ar gael i edrych arno yn swyddfeydd y cyngor (ystyr “proper officer” yw swyddog priodol a benodir gan y cyngor at y diben hwn: gweler adran 270(3) o Ddeddf 1972).

278.Mae’r is-adran (2A) newydd yn darparu bod rhaid i gopïau o’r dogfennau a gynhwysir ar y rhestr o bapurau cefndirol (boed hwy’n cael eu cyhoeddi ar ffurf electronig neu ar gael i edrych arnynt) fod ar gael am chwe blynedd o ddyddiad y cyfarfod; caiff y cyfnod cadw ar gyfer y papurau cefndirol hynny ei estyn o 4 i 6 blynedd er mwyn bod yn gyson â’r gofynion cadw ar gyfer dogfennau eraill y cyfarfod.

279.Mae paragraff 10 yn diwygio adran 100H o Ddeddf 1972 (darpariaeth atodol ynghylch mynediad at gyfarfodydd a dogfennau); os yw dogfen ar gael i edrych arni o dan Ran 5A o Ddeddf 1972, caiff person wneud copi o ran o’r ddogfen neu’r ddogfen gyfan, neu ofyn i gopi o ran o’r ddogfen neu’r ddogfen gyfan gael ei ddarparu, a chaniateir codi ffi resymol ar y person hwnnw.

280.Mae’r is-adran (3A) newydd yn darparu na chaiff prif gyngor, wrth gyhoeddi dogfennau, wneud unrhyw beth sy’n torri hawlfraint (ac eithrio pan fo’r cyngor yn berchen ar yr hawlfraint).

281.Mae’r is-adran (5)(aa) newydd yn darparu, pan fo unrhyw ddogfen y gellir cael mynediad ati yn cael ei chyhoeddi ar ffurf electronig, y bydd cyhoeddi unrhyw fater difenwol yn freintiedig, oni phrofir bod y cyhoeddiad wedi ei wneud yn faleisus.

282.Mae’r is-adran (8) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor yng Nghymru roi cyfleusterau yn eu lle i alluogi aelodau o’r cyhoedd, na fyddent yn gallu gwneud hynny fel arall, i gael mynediad at ddogfennau y mae’n ofynnol iddynt gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig. Gallai’r mathau o gyfleusterau y gellid eu rhoi yn eu lle gynnwys cael mynediad at gyfrifiaduron, trefniadau i ddarparu copïau o ddogfen, mynediad at swyddfeydd er mwyn edrych ar ddogfennau etc.

283.Mae’r is-adran (9) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chyhoeddi dogfennau, eu darparu ac edrych arnynt o dan Ran 5A o Ddeddf 1972.

284.Mae adran 228 o Ddeddf 1972 yn cynnwys darpariaeth ynghylch edrych ar ddogfennau penodol awdurdodau lleol. Mae paragraff 11 yn diwygio adran 228(1) (cofnodion cyfarfodydd cyngor cymuned) er mwyn cael gwared ar y gofyniad i gofnodion cynghorau cymuned yng Nghymru fod ar gael i edrych arnynt. Mae eisoes yn ofynnol, o dan adran 55(1)(c) o Ddeddf 2013, cyhoeddi ar ffurf electronig gofnodion cyfarfodydd ac (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol) unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt yn y cofnodion. Nid yw’r gofynion o dan Ddeddf 2013 wedi newid.

285.Mae paragraff 12 yn mewnosod paragraff 26ZA newydd yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gyhoeddi ar ffurf electronig, ar ôl cyfarfod, nodyn sy’n rhoi’r wybodaeth a restrir yn is-baragraff (1) a chan gydymffurfio ag is-baragraff (2).

286.Mae paragraff 13 yn diwygio adran 100E o Ddeddf 1972 (cymhwyso i bwyllgorau ac is-bwyllgorau) er mwyn darparu ar gyfer sut y mae’r dyletswyddau newydd a gynhwysir yn y diwygiadau i adrannau 100A i 100D a gyflwynir ar gyfer prif gynghorau yng Nghymru i gael eu cyflawni mewn perthynas â phwyllgorau ac is-bwyllgorau prif gynghorau. Yn achos cyd-bwyllgor, rhaid i’r gofynion gael eu cyflawni gan bob cyngor sy’n cyfansoddi’r cyd-bwyllgor.

287.Mae paragraff 14 yn diwygio adran 100J o Ddeddf 1972 er mwyn egluro bod cyfeiriadau at “principal council in Wales” yn Rhan 5A o Ddeddf 1972 yn cynnwys awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru, awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru a chyd-fwrdd neu gyd-bwyllgor i brif gynghorau yng Nghymru.

288.Mae paragraff 15 yn diwygio adran 100K o Ddeddf 1972 er mwyn diffinio ystyr “meeting held through remote means” yn Rhan 5A o Ddeddf 1972.

289.Mae adran 270 o Ddeddf 1972 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch diffinio termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn Neddf 1972. Mae paragraff 16 yn diwygio adran 270 er mwyn darparu bod gofyniad i gyhoeddi hysbysiad ar ffurf electronig, a osodir ar awdurdod lleol yng Nghymru gan Ddeddf 1972 neu ar unrhyw gorff neu awdurdod arall yng Nghymru gan Ran 5A o Ddeddf 1972, yn ofyniad i’w gyhoeddi ar wefan yr awdurdod, os oes un ganddo.

290.O dan adran 232 o Ddeddf 1972, rhaid i awdurdodau lleol roi hysbysiadau cyhoeddus y mae’n ofynnol eu rhoi, drwy eu gosod mewn man amlwg yn eu hardal ac mewn unrhyw fodd arall sy’n ddymunol er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd. Mae hyn yn gymwys oni bai bod darpariaeth ddatganedig i’r gwrthwyneb.

291.Mae paragraff 17 yn diwygio adran 232 fel bod rhaid i hysbysiad cyhoeddus gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig yn ogystal. Mae’r is-adran (1ZA) bresennol, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gyhoeddi’r hysbysiadau hynny ar ffurf electronig, wedi ei hepgor gan fod cynghorau cymuned wedi eu cynnwys yn yr is-adran (1)(c) newydd.

292.Mae paragraff 17(4) yn mewnosod darpariaeth newydd yn adran 232 o Ddeddf 1972, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch y modd y rhoddir hysbysiad cyhoeddus y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei roi; caiff y rheoliadau hynny hefyd wneud darpariaeth ynghylch y modd y rhoddir hysbysiad cyhoeddus gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. Mae rheoliadau a wneir o dan y pwerau hyn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.

293.Caiff adran 232 o Ddeddf 1972 ei chymhwyso i awdurdodau Parciau Cenedlaethol gan baragraff 17(2)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae paragraff 18 yn darparu nad yw’r is-adran (1)(c) newydd yn adran 232 o Ddeddf 1972 (gweler paragraff 17) yn gymwys i awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Gellid cyflawni gofyniad ar awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru i gyhoeddi hysbysiadau cyhoeddus ar ffurf electronig drwy arfer y pwerau i wneud rheoliadau o dan yr is-adrannau (3) a (4) newydd o adran 232 o Ddeddf 1972 (gweler paragraff 17).

294.Mae paragraff 19 yn diwygio paragraffau 4 a 26 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 fel bod rhaid i wysion i fynychu cyfarfodydd prif gynghorau a chynghorau cymuned gael eu hanfon at aelodau ar ffurf electronig a bod rhaid iddynt gael eu dilysu gan y swyddog priodol perthnasol mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol(ystyr “proper officer” yw swyddog priodol a benodir gan y cyngor at y diben hwn: gweler adran 270(3) o Ddeddf 1972). Os yw aelod o brif gyngor neu o gyngor cymuned yn gwneud cais, fodd bynnag, rhaid i’r wŷs, yn hytrach, gael ei hanfon i gyfeiriad post a bennir gan yr aelod neu gael ei gadael yno.

295.Mae paragraff 20 yn diwygio paragraff 26 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 er mwyn galluogi cyngor cymuned i gyfarfod yn unrhyw le (o fewn ardal y cyngor neu’r tu allan iddi) y mae’r cyngor yn ei gyfarwyddo. O ganlyniad, caiff y cyfyngiadau ar gynghorau cymuned yn cynnal cyfarfodydd mewn mangre drwyddedig (a gynhwyswyd yn flaenorol yn is-baragraff 26(1) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972) eu dileu.

296.Mae paragraff 21 yn diwygio paragraff 26 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 er mwyn darparu bod rhaid i hysbysiad am gyfarfodydd pwyllgorau ac is-bwyllgorau cynghorau cymuned gael ei gyhoeddi yn y modd a ddisgrifir yn yr is-baragraffau (2D) a (2E) newydd.

297.Cymhwysir adrannau 100A i 100D a 100H o Ddeddf 1972 i gynghorau iechyd cymuned a phwyllgorau iechyd cymuned gan adran 1 o Ddeddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988. Caiff y Ddeddf honno ei diddymu gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Mae paragraff 22 yn gwneud darpariaeth arbed fel bod adrannau 100A i 100D a 100H o Ddeddf 1972 yn parhau i fod yn gymwys i gynghorau iechyd cymuned a phwyllgorau iechyd cymuned (hyd nes y bo’r diddymiad yn cael effaith) fel pe na bai’r diwygiadau a wneir i’r adrannau hynny gan baragraffau 1, 2 a 6 i 10 o’r Atodlen 4 hon wedi eu gwneud.

Rhan 2 o Atodlen 4 – Mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol: diwygiadau canlyniadol

298.Mae paragraff 23(1) yn rhoi is-baragraff newydd yn lle paragraff 29(1) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 er mwyn darparu y caiff cyngor cymuned benderfynu drosto ei hun ar y dull o bleidleisio yn ei gyfarfodydd, yn hytrach na’i bod yn ofynnol iddo bleidleisio drwy godi dwylo (fel ag yr oedd yn ofynnol ym mharagraff 29(1) yn flaenorol), sy’n anghyson â chynnal cyfarfodydd cyngor cymuned o bell.

299.Mae is-baragraffau (2) a (3), yn y drefn honno, yn diddymu adran 4 o Fesur 2011 (mynychu o bell) ac adran 59 o Ddeddf 2013 (Mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell) o ganlyniad i adran 47 o’r Ddeddf.

300.Effaith is-baragraff (4) yw nad yw gwneud a chyhoeddi trefniadau ar gyfer cynnal cyfarfodydd prif gyngor neu ei weithrediaeth o dan adran 47 o’r Ddeddf hon yn swyddogaeth i weithrediaeth awdurdod lleol.

Adran 50 – Rheoliadau ynglŷn â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd a chyhoeddi gwybodaeth

301.Mae adran 50 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd hynny a chyhoeddi gwybodaeth benodol.

302.Mae is-adran (1) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol a’r gofynion sy’n ymwneud â hysbysiadau a dogfennau sy’n cael eu llunio ar gyfer y cyfarfodydd hynny gan gynnwys y materion a restrir yn is-adran (2), ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

303.Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol sy’n nodi manylion penodol fel y’u rhestrir yn yr is-adran, a hawliau i gael mynediad at yr wybodaeth honno.

304.Mae is-adran (5) yn diffinio “awdurdod lleol” a “cyfarfod awdurdod lleol” at ddibenion yr adran hon.

305.Mae’r pwerau i wneud rheoliadau yn is-adrannau (1) a (3) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.

Adran 51 – Rheoliadau ynglŷn â chyfarfodydd cymunedol

306.Mae adran 51 yn mewnosod paragraffau 36A a 36B newydd yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972:

307.Mae paragraff 36A(1) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â chynnal cyfarfodydd cymunedol a’r modd y’u cynhelir a’r gofynion ynghylch hysbysiadau a dogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd hynny gan gynnwys y materion a restrir yn is-baragraff (2), ond heb fod yn gyfyngedig iddynt. Mae rheoliadau o dan y paragraff 36A(1) newydd yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.

308.Mae’r paragraff 36B newydd yn darparu bod rhaid i brif gyngor a chyngor cymuned sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â chyfarfodydd cymunedol roi sylw i unrhyw ganllawiau ynghylch arfer y swyddogaethau hynny a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 52 – Adroddiadau blynyddol gan gynghorau cymuned

309.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynglŷn â blaenoriaethau a gweithgareddau’r cyngor, a’r hyn a gyflawnodd yn ystod y flwyddyn ariannol a aeth heibio.

310.Mae is-adran (3) yn datgymhwyso adran 101 o Ddeddf 1972 (sy’n caniatáu i gyngor cymuned wneud trefniadau i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog i’r cyngor neu gan awdurdodau penodol eraill) o ran y penderfyniad ynghylch cynnwys terfynol yr adroddiad blynyddol. Nid yw hyn yn rhwystro, er enghraifft, swyddog rhag llunio drafft o’r adroddiad i’r cyngor cymuned llawn ei ystyried a phenderfynu arno.

Rhan 4: Gweithrediaethau, Aelodau, Swyddogion a Phwyllgorau Awdurdodau Lleol

Adran 54 ac Atodlen 5 – Prif Weithredwyr

311.Mae adran 4 o Ddeddf 1989 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau ddynodi un o’u swyddogion yn bennaeth gwasanaeth taledig arnynt. Rhaid i’r swyddog hwn, pan fo’n ystyried bod hynny’n briodol, lunio adroddiad ar gyfer ei gyngor yn nodi ei gynigion mewn cysylltiad ag amryw o faterion a restrir yn yr adran honno. Rhaid i’r prif gyngor ddarparu staff, swyddfa ac adnoddau eraill i’r swyddog er mwyn caniatáu iddo gyflawni ei ddyletswyddau.

312.Caiff rôl statudol y pennaeth gwasanaeth taledig ei chyflawni’n aml gan y swyddog y cyfeirir ato fel arfer fel y prif weithredwr neu’r rheolwr gyfarwyddwr. Er bod y termau hyn yn cael eu defnyddio’n helaeth i ddynodi pennaeth gweinyddiaeth cyngor ledled llywodraeth leol yng Nghymru, nid yw’r naill enw na’r llall yn ymddangos mewn deddfwriaeth ym maes llywodraeth leol.

313.Mae adran 54 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor benodi prif weithredwr. Caiff darpariaethau adran 4 o Ddeddf 1989 eu hailddatgan ac ychwanegir at y rhestr o faterion i gynnwys materion sy’n ymwneud â pherfformiad a llywodraethu; sef cynllunio ariannol, rheoli asedau a rheoli risg. Mae hyn yn cysoni’r materion y mae prif weithredwr yn gyfrifol amdanynt ag arferion llywodraethu modern. Mae adran 54 hefyd yn ei gwneud yn glir bod y mater o reoli staff hefyd yn cwmpasu hyfforddi a datblygu staff.

314.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 5, sy’n diwygio adran 4 o Ddeddf 1989 er mwyn datgymhwyso’r gofyniad ar brif gynghorau i benodi pennaeth gwasanaeth taledig. Mae Atodlen 5 hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol sy’n berthnasol i brif weithredwyr.

Adran 55 - Disodli cyfeiriadau at “cyflog” yn adran 143A o Fesur 2011

315.Cyn ei diwygio, roedd adran 143A o Fesur 2011 yn darparu pwerau i’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chyflogau penaethiaid gwasanaeth taledig prif gynghorau.

316.Mae Atodlen 5 i’r Ddeddf (a drafodir uchod) yn diwygio adran 143A o Fesur 2011 i roi cyfeiriadau at “prif weithredwr” yn lle “pennaeth gwasanaeth cyflogedig”, ac mae adran 55 yn rhoi’r term “cydnabyddiaeth ariannol” yn lle “cyflog” neu “cyflogau”. Bydd y diwygiad hwn yn caniatáu i’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wneud argymhellion mewn cysylltiad ag amrediad ehangach o daliadau i brif weithredwyr gan gynnwys cyflog, unrhyw fonysau a buddion eraill.

317.Mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr ystyr a roddir i “remuneration” yn adran 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, sy’n cynnwys ystod o gydnabyddiaethau ariannol gan gynnwys: cyflog neu daliadau o dan gontract am wasanaethau; bonysau; lwfansau; buddion mewn nwyddau neu wasanaethau; cynnydd mewn hawlogaeth i bensiwn; a thaliadau penodol sy’n daladwy pan fo prif weithredwr yn rhoi’r gorau i ddal y swydd.

Adran 56 – Ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru

318.Mae adran 56 yn diwygio adran 143A o Fesur 2011. Mae’r is-adran (5C) newydd yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ymateb “awdurdod perthnasol cymwys” i argymhelliad a wneir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn anghyson â’r argymhelliad. Mae’r adran yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo awdurdod perthnasol cymwys, o dan adran 143(5B), i ailystyried ei ymateb, na ellir dirprwyo’r swyddogaeth o ailystyried a bod rhaid i’r cyngor llawn ei chyflawni.

319.Yn adran 143A o Fesur 2011, ystyr “awdurdod lleol cymwys” yw prif gynghorau yn unig i bob pwrpas. Mae hynny oherwydd ei fod yn cael ei ddiffinio drwy gyfeirio at y diffiniad o “awdurdod perthnasol” (gweler adran 144 o’r Mesur, y mae “awdurdod perthnasol” yn cwmpasu amrywiaeth o gyrff llywodraeth leol oddi tani), ond nid yw ond yn cynnwys y cyrff hynny:

Adran 57 ac Atodlen 6 – Penodi cynorthwywyr gweithrediaeth

320.Mae adran 57 yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 2000 er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi aelodau o brif gynghorau yn gynorthwywyr i weithrediaethau prif gynghorau. Ni fydd y cynorthwywyr yn aelodau o’r weithrediaeth, ond gallant weithredu ar ei rhan mewn amgylchiadau penodol. Gellid defnyddio’r swyddi hyn i gefnogi mwy o amrywiaeth ymysg cynghorwyr sy’n rhan o wneud penderfyniadau’r weithrediaeth.

321.Mae’r adran hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 6 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â chynorthwywyr i weithrediaethau, gan gynnwys darpariaethau sy’n estyn cyfyngiadau penodol sy’n gymwys i aelodau o weithrediaeth i gynorthwywyr gweithrediaeth; er enghraifft cael gwared ar eu hawl i ddal swyddi penodol o fewn eu cynghorau (megis cadeirydd, is-gadeirydd ac ati).

Adran 58 ac Atodlen 7 – Rhannu swydd: arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth

322.Mae adran 58 yn cyflwyno Atodlen 7 i’r Ddeddf, sy’n diwygio Deddf 2000 i wneud darpariaeth mewn perthynas ag arweinwyr gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth yn rhannu swydd.

323.Mae paragraff 2 o Atodlen 7 yn diwygio adran 11 o Ddeddf 2000 er mwyn newid uchafswm yr aelodau gweithrediaeth o 10 i:

324.Mae paragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn mewnosod paragraffau 2(2A) a 2A newydd yn Atodlen 1 i Ddeddf 2000 i’w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau yng Nghymru gynnwys yn eu trefniadau gweithrediaeth ddarpariaeth sy’n galluogi dau gynghorydd neu ragor i rannu swydd ar weithrediaeth, gan gynnwys swydd arweinydd y weithrediaeth.

325.Mae’r Atodlen hefyd yn mewnosod paragraff 2B newydd, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch hawliau pleidleisio a chworwm. O dan y paragraff hwnnw, mae’r rhai sy’n rhannu swydd yn cyfrif fel un person i bob pwrpas at ddibenion pleidleisio a chworwm.

Adran 59 - Cynnwys canllawiau o dan adran 38 o Ddeddf 2000, a dyletswydd i roi sylw iddynt

326.Mae Rhan 2 o Ddeddf 2000 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweithrediaethau a threfniadau gweithrediaeth prif gyngor. Mae adran 38 o’r Rhan honno yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan honno.

327.Mae’r adran hon yn mewnosod is-adran (1A) newydd yn adran 38 er mwyn egluro y caiff canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth a gynlluniwyd i annog arfer da mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

328.Mae ystyr cydraddoldeb ac amrywiaeth yn deillio o adran 8(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2006; mae “diversity” yn golygu bod unigolion yn wahanol i’w gilydd, ac mae “equality” yn golygu cydraddoldeb rhwng unigolion.

329.Mae adran 59 hefyd yn diwygio adran 38(1) o Ddeddf 2000 er mwyn estyn y ddyletswydd i roi sylw i ganllawiau i feiri etholedig ac arweinyddion gweithrediaeth prif gynghorau.

Adran 60 - Rhannu swydd: swyddi nad ydynt yn swyddi gweithrediaeth o fewn prif gynghorau

330.Mae adran 60 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau at ddiben hwyluso neu alluogi rhannu “swydd o fewn prif gyngor”.

331.Mae is-adran (2) yn rhestru’r swyddi o fewn prif gyngor y caniateir gwneud rheoliadau mewn perthynas â hwy, ac maent yn cynnwys y swyddi allweddol y darperir ar eu cyfer yn Rhan 2 o Ddeddf 1972 (megis cadeirydd, aelod llywyddol etc.), cadeirydd neu is-gadeirydd etc. pwyllgor neu is-bwyllgor, neu ddirprwy faer. Mae hyn yn golygu nad yw’r ddarpariaeth yn gymwys i unrhyw swydd yr etholir y person iddi gan y cyhoedd.

332.Nid yw pŵer Gweinidogion Cymru o dan yr adran newydd hon yn gyfyngedig i alluogi’r swyddi hyn i gael eu rhannu. Caiff rheoliadau hefyd gynnwys darpariaeth ynghylch sut y bydd y trefniadau i rannu’r swyddi hyn yn gweithio, gan gynnwys sut y gellir arfer swyddogaethau penodol mewn swydd a rennir. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd, mewn rheoliadau, ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau hwyluso rhannu swydd drwy gael gwared ar unrhyw rwystrau a geir, er enghraifft, yn rheolau sefydlog yr awdurdod.

333.Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru i ategu rheoliadau a wneir o dan yr adran hon.

Adran 61 – Absenoldeb teuluol i aelodau awdurdodau lleol

334.Mae adran 61 yn diwygio Rhan 2 o Fesur 2011 drwy ddileu uchafswm yr wythnosau o hawlogaeth i’r gwahanol fathau o absenoldeb teuluol sydd ar gael i aelodau o brif gynghorau.

335.Mae’r darpariaethau yn golygu y gellir pennu’r cyfnod hwyaf o absenoldeb ar gyfer pob math o absenoldeb teuluol mewn rheoliadau (caiff pob math o absenoldeb teuluol ei lywodraethu gan reoliadau pa un bynnag). Mae hyn yn cynnig hyblygrwydd i newid hyd y gwahanol gyfnodau o absenoldeb.

Adran 62 - Dyletswyddau ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad

336.Roedd Rhan 3 o Ddeddf 2000 yn sefydlu fframwaith statudol i hybu a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad moesegol aelodau a chyflogeion awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Ystyr “relevant authority” yw prif gyngor, cyngor cymuned, awdurdod tân ac achub neu awdurdod Parc Cenedlaethol.

337.Er mwyn meithrin diwylliant mewn awdurdod lleol sy’n arddel safonau ymddygiad uchel mae’n ofynnol i arweinwyr lleol a’r holl aelodau dderbyn cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, yn unigol ac ar y cyd.

338.Mae adran 62 yn adeiladu ar y trefniadau presennol drwy fewnosod adran 52A newydd yn Neddf 2000, sy’n gosod dyletswydd ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol o fewn prif gyngor i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel ymysg aelodau eu grŵp. Mae’n ofynnol i arweinyddion grwpiau gydweithredu â phwyllgor safonau’r cyngor wrth arfer ei swyddogaethau cyffredinol a phenodol ar gyfer hybu safonau uchel (gweler isod).

339.Mae is-adran (3) yn diwygio adran 54 o Ddeddf 2000 i ehangu swyddogaethau penodol pwyllgor safonau i gynnwys monitro i ba raddau y mae arweinyddion grwpiau gwleidyddol yn cydymffurfio â’r ddyletswydd newydd y mae’r Ddeddf yn ei gosod arnynt i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel ymhlith aelodau eu grŵp. Rhaid i bwyllgor safonau hefyd gynghori arweinyddion grwpiau, neu ddarparu neu drefnu hyfforddiant ar eu cyfer, ar y ddyletswydd newydd.

340.Mae adran 106(5) o Ddeddf 2000 yn ddiangen bellach (gweler adran 105(1)o Ddeddf 2000), ac felly’n cael ei hepgor gan is-adran (4)(a) o’r adran hon. Mae’r diwygiadau eraill a wneir gan yr adran hon o natur ganlyniadol, neu’n adlewyrchu’r posibilrwydd y gallai adran 63 o’r Ddeddf gael ei chychwyn cyn yr adran hon.

Adran 63 – Dyletswydd ar bwyllgor safonau i wneud adroddiad blynyddol

341.O dan adran 54 o Ddeddf 2000 mae’n ofynnol i brif gyngor, awdurdod tân ac achub neu awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru (ond nid cyngor cymuned) sefydlu pwyllgor safonau.

342.Swyddogaethau cyffredinol pwyllgor safonau o dan adran 54(1) o Ddeddf 2000 yw hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdod perthnasol a’u cynorthwyo i ufuddhau i’r cod ymddygiad.

343.Yn ogystal â’r swyddogaeth newydd a osodir gan adran 62(3) o’r Ddeddf, mae gan bwyllgor safonau hefyd swyddogaethau penodol o dan adran 54(2) o Ddeddf 2000, sef:

344.Mae adran 56(1) o Ddeddf 2000 yn darparu bod pwyllgor safonau prif gyngor (neu is-bwyllgor a sefydlir i’r diben hwnnw) hefyd yn arfer y swyddogaethau hyn mewn perthynas ag aelodau cynghorau cymuned yn ei ardal.

345.Mae adran 63 o’r Ddeddf yn mewnosod adran 56B newydd yn Neddf 2000, sy’n gosod gofyniad ar bwyllgor safonau i lunio adroddiad blynyddol i’r awdurdod o dan sylw. Yn achos prif gyngor, mae’r gofyniad i adrodd i’r awdurdod yn y cyd-destun hwn yn cynnwys unrhyw gynghorau cymuned yn ei ardal.

346.Rhaid i’r adroddiad:

347.Bwriedir i’r gofyniad i lunio adroddiad blynyddol sicrhau bod dull rheolaidd a chyson ar waith i adrodd ar safonau ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru a’u hystyried. Bwriedir i hyn helpu i hybu perchnogaeth leol a chydgyfrifoldeb ar ran aelodau am sicrhau safonau ymddygiad yn eu hawdurdod. I’r perwyl hwn, mae adran 56B yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdod perthnasol i ystyried yr adroddiad ac unrhyw argymhellion gan ei bwyllgor safonau o fewn tri mis o’u cael. Bydd ystyriaeth yr awdurdod o adroddiad ar gofnod i’r cyhoedd yn sgil ei chyhoeddi yng nghofnodion y cyngor.

Adran 64 ac Atodlen 8 – Ymchwiliadau penodol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

348.Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) bwerau o dan adran 69 o Ddeddf 2000 i ymchwilio i honiadau bod aelod neu aelod cyfetholedig, gan gynnwys cyn-aelodau a chyn-aelodau cyfetholedig, o “relevant authority” (gweler y nodyn ar adran 62) wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad ei awdurdod, neu y gallai fod wedi methu â gwneud hynny.

349.Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adran 70 o Ddeddf 2000 i wneud gorchymyn sy’n cymhwyso neu’n atgynhyrchu unrhyw ddarpariaethau yn adrannau 60 i 63 o’r Ddeddf honno, fel yr oedd yr adrannau hynny yn cael effaith yn union cyn iddynt gael eu diddymu gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, at ddiben unrhyw ymchwiliad o dan adran 69.

350.Cyn iddynt gael eu diddymu, roedd adrannau 60 i 63 yn ymdrin â’r weithdrefn ar gyfer ymchwilio i achosion honedig o dorri’r cod ymddygiad mewn awdurdodau penodol yn Lloegr. Roedd yr adrannau hynny yn ymdrin â materion fel gwrthdaro buddiannau, pwerau i gael a datgelu gwybodaeth ac amddiffyn rhag achosion difenwi.

351.Gwnaed Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 (fel y’i diwygiwyd) (2006 Rhif 949 (Cy.98)) yn unol â’r pwerau yn adran 70 o Ddeddf 2000 ac mae’n llywodraethu’r weithdrefn ar gyfer ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon o dan adran 69 o’r Ddeddf honno.

352.Nid yw’r pŵer yn adran 70 i gymhwyso cyfraith sydd wedi ei diddymu yn arwain at gyfraith hygyrch. Mae adran 64 o’r Ddeddf ac Atodlen 8 iddi yn mynd i’r afael â’r broblem hon drwy osod darpariaeth gyfatebol ar gyfer ymchwiliadau ar wyneb Deddf 2000 ar ffurf yr adrannau 69A i 69F newydd, a thrwy roi adran 74 newydd yn lle’r un wreiddiol. Ni wnaed unrhyw newidiadau o sylwedd i effaith y gyfraith ond mae’r darpariaethau, pan fo hynny’n briodol, wedi eu halinio â phwerau’r Ombwdsmon o ran ymchwilio i gamweinyddu a methiant gwasanaethau yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”).

353.Mae’r adran 69A(1) newydd yn darparu, pan fo gan yr Ombwdsmon wrthdaro buddiannau fel y’i diffinnir yn is-adrannau (2) neu (4), bod rhaid iddo arfer y pŵer o dan baragraff 14 o Atodlen 1 i Ddeddf 2019 i ddirprwyo:

354.Mae paragraff 14 o Atodlen 1 i Ddeddf 2019 yn darparu y caiff yr Ombwdsmon awdurdodi unrhyw berson i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon ar ran yr Ombwdsmon. Fodd bynnag, ni chaiff yr Ombwdsmon wneud trefniadau gyda Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru na’r Cwnsler Cyffredinol o dan Ddeddf 2019 nac fel arall, i’r naill arfer swyddogaethau’r llall nac i’r naill ddarparu rhai gwasanaethau penodedig i’r llall.

355.Mae is-adrannau (2) a (3) yn darparu bod y gofyniad i ddirprwyo yn gymwys os oedd yr Ombwdsmon yn aelod o’r awdurdod perthnasol neu’n swyddog iddo neu’n aelod o bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor o’r awdurdod perthnasol ar unrhyw bwynt o fewn pum mlynedd i:

356.O dan is-adran (4) mae’r gofyniad i ddirprwyo yn gymwys hefyd os yw’r Ombwdsmon yn ystyried bod ganddo, neu ei bod yn debygol bod ganddo, fuddiant yn y materion y caniateir ymchwilio iddynt neu ganlyniad unrhyw ymchwiliadau y caniateir eu cynnal. Mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon ddatgelu natur y buddiant i’r person y byddai, neu y mae, unrhyw ymchwiliad o dan adran 69 yn gymwys iddo. Rhaid i’r Ombwdsmon hefyd ddatgelu’r wybodaeth hon i unrhyw berson sydd wedi gwneud honiad fel a ddisgrifir yn adran 69(1)(a).

357.Mae is-adran (6) yn darparu, pe bai’r Ombwdsmon yn penderfynu a ddylid ymchwilio i achos ai peidio neu’n ymchwilio i achos, a hynny’n groes i is-adran (1), na fyddai hynny’n effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan yr Ombwdsmon.

358.Mae’r adran 69B newydd yn nodi’r gofynion ar gyfer ymchwiliadau o dan adran 69. Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon roi cyfle i’r person y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef roi sylwadau ar ba un a yw wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod y mae, neu yr oedd, yn aelod neu’n aelod cyfetholedig ohono.

359.Mae’r adran 69B(2) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

360.Mae is-adran (3) yn darparu mai mater i’r Ombwdsmon, yn amodol ar y gofynion eraill a bennir yn yr adran hon, yw penderfynu ar y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad. Er enghraifft, gallai’r Ombwdsmon sefydlu gweithdrefnau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o gwynion a gallai, mewn unrhyw achos penodol, wyro oddi wrth unrhyw weithdrefnau o’r fath a sefydlwyd os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol.

361.Mae’r adran 69B(4)(a) newydd yn darparu y caiff yr Ombwdsmon wneud unrhyw ymchwiliadau y mae’r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol. Mae is-adran (4)(b) yn darparu mai mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a ganiateir i berson gael ei gynrychioli’n gyfreithiol neu gael ei gynrychioli mewn rhyw ffordd arall (e.e. gan eiriolwr annibynnol).

362.Mae’r adran 69B(6) newydd yn rhoi pŵer i’r Ombwdsmon wneud taliadau tuag at dreuliau pobl sy’n cynorthwyo’r Ombwdsmon mewn ymchwiliad, ar yr amod yr eir iddynt yn briodol, a thalu lwfansau penodol. Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw’n briodol gwneud taliadau o’r fath neu osod unrhyw amodau ar daliadau o’r fath.

363.Mae’r adran 69C(1) newydd o Ddeddf 2000 yn rhoi pŵer i’r Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfennau sy’n berthnasol i ymchwiliad o dan adran 69 o’r Ddeddf honno. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth neu ddogfennau mewn fformat electronig.

364.Mae’r adrannau 69D(1) a (2) newydd yn galluogi’r Ombwdsmon i dystio i’r Uchel Lys fod unigolyn, ym marn yr Ombwdsmon, wedi rhwystro’r Ombwdsmon (neu aelod o staff yr Ombwdsmon) heb esgus cyfreithlon wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rhan hon neu fod y person wedi gweithredu mewn modd a fyddai’n gyfystyr â dirmyg llys, pe bai’r weithred wedi ei chyflawni mewn cysylltiad ag achos yn yr Uchel Lys.

365.Os bydd yr Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif o’r fath, caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater ac os bydd yr Uchel Lys yn dyfarnu bod y person dan sylw wedi rhwystro’r Ombwdsmon, caiff yr Uchel Lys ymdrin â’r person fel pe bai wedi cyflawni dirmyg o ran yr Uchel Lys (adran 69D(5)).

366.Mae’r adran 69E newydd yn darparu na chaiff yr Ombwdsmon, aelod o’i staff, neu berson sy’n cynorthwyo’r Ombwdsmon ond datgelu gwybodaeth a gafwyd wrth arfer swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan Rhan 3 o Ddeddf 2000:

(a)

at ddibenion:

  • swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan Bennod 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf 2000 neu Ran 3 neu 5 o Ddeddf 2019;

  • swyddogaethau Panel Dyfarnu Cymru gan gynnwys swyddogaethau ei Lywydd, ei Ddirprwy Lywydd a’i dribiwnlysoedd, o dan Bennod 4 o Ran 3 o Ddeddf 2000;

  • achos troseddol neu ymchwiliad i drosedd;

(b)

os gwneir y datgeliad i:

  • Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan Ran 2 o Ddeddf 2004;

  • y Comisiwn Etholiadol at ddibenion unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

367.Mae’r adran 69F newydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio Bennod 3 of Rhan 3 o Ddeddf 2000 er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch arfer swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan adran 69.

368.Mae’r adran 74 newydd yn darparu bod cyhoeddi mater yn gwbl freintiedig, at ddibenion cyfraith difenwad, os gwneir hynny wrth arfer swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan Benodau 3 a 4 o Ran 3 o Ddeddf 2000; neu mewn cyfathrebiadau â’r Ombwdsmon neu berson sy’n arfer swyddogaeth ar ran yr Ombwdsmon at ddiben y swyddogaethau hynny, neu mewn cysylltiad â hwy. Mae “publication” yn dwyn yr ystyr arferol a roddir iddo o dan y gyfraith sy’n ymwneud â difenwad.

Adran 65 – Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i bwyllgorau trosolwg a chraffu

369.Mae adran 22(10) o Ddeddf 2000 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu i’r cyhoedd neu i aelodau o brif gyngor am benderfyniadau gweithrediaeth y cyngor hwnnw.

370.Mae adran 65 yn diwygio adran 22(10) fel y gall rheoliadau ei gwneud yn ofynnol hefyd i bwyllgorau trosolwg a chraffu a’u his-bwyllgorau gael gwybodaeth am benderfyniadau o’r fath. Bydd gwybodaeth well am y penderfyniad y mae’r weithrediaeth yn bwriadu ei wneud yn galluogi’r pwyllgorau hyn i gynllunio eu gwaith yn well.

Adran 66 – Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau benodi cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu

371.Mae adran 66 yn diwygio pŵer i wneud rheoliadau yn adran 58 o Fesur 2011 fel y caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau sefydlu cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu. Byddai modd defnyddio’r pŵer diwygiedig i wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i gynghorau sefydlu cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu pan fo gwasanaethau yn cael eu darparu ar draws ardaloedd y cynghorau hynny.

Adran 67 – Cynlluniau hyfforddi cynghorau cymuned

372.Mae adran 67 yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned wneud cynllun sy’n nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud er mwyn ymdrin ag anghenion hyfforddi ei gynghorwyr a’i staff.

373.Y bwriad yw y bydd cynghorwyr cymuned, fel grŵp, a’r staff sy’n cefnogi’r cyngor, drwy ystyried y ddarpariaeth hyfforddi yn y modd hwn, yn dod i feddu ar y cyd ar yr wybodaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen arnynt i’r cyngor allu gweithredu’n effeithiol. Nid yw’n angenrheidiol i’r holl gynghorwyr a’r holl staff fod wedi cael yr un hyfforddiant a datblygu’r un arbenigedd.

374.Mae is-adrannau (2) a (3) yn nodi’r amserlen ar gyfer llunio cynllun hyfforddi cyntaf cyngor cymuned, a pha bryd y mae’n ofynnol iddo lunio un newydd wedi hynny. Pennir pa bryd y mae’r cynllun cyntaf i’w lunio gan y dyddiad y daw’r is-adran i rym, ac mae’n caniatáu hyd at 6 mis i’r cyngor cymuned gydymffurfio. Mae hyn yn cynnig cyfnod rhesymol i gyngor cymuned ystyried sgiliau presennol ei gynghorwyr a’i staff, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau yn unol ag is-adran (7), ac i lunio cynllun ynghylch darparu hyfforddiant.

375.Rhaid sefydlu cynllun hyfforddi newydd ar ôl pob etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr cymuned i adlewyrchu’r newidiadau o ran anghenion hyfforddi wrth i’r cynghorwyr, ac o bosibl y staff hefyd, newid. Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned adolygu ei gynllun hyfforddi o bryd i’w gilydd. Mater i ddisgresiwn y cyngor cymuned yw pa mor aml y caiff cynllun ei adolygu, i adlewyrchu amgylchiadau lleol.

376.Rhaid i’r cynllun hyfforddi, ac unrhyw gynlluniau diwygiedig, gael eu cyhoeddi, a bwriedir i hyn hwyluso atebolrwydd o ran y mater hwn.

377.Mae is-adran (6) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor llawn ystyried y cynllun hyfforddi drwy ddarparu nad yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys. Mae hyn yn golygu na all y swyddogaethau o bennu cynnwys cynllun hyfforddi, neu adolygu cynllun, gael eu dirprwyo i bwyllgor etc. nac i swyddog i’r cyngor cymuned.

Rhan 5: Cydweithio gan Brif Gynghorau

Pennod 2: Canllawiau ynglŷn â chydweithio
Adran 69 – Canllawiau ynglŷn â chydweithio

378.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer eu swyddogaethau drwy gydweithio â phrif gyngor arall.

379.Mae is-adran (2) yn nodi’r hyn y mae’n ei olygu i arfer swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall.

Pennod 3: Sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig pan fo cais wedi ei wneud
Adran 70 – Cais gan brif gynghorau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig

380.O dan yr adran hon caiff dau brif gyngor neu ragor wneud “cais cyd-bwyllgor corfforedig” i Weinidogion Cymru yn gofyn iddynt ystyried sefydlu, drwy reoliadau, o dan adran 72, gyd-bwyllgor corfforedig i arfer, mewn perthynas â phrif ardaloedd y cynghorau hynny, swyddogaeth neu swyddogaethau i’r cynghorau hynny neu’r swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76 o ran y swyddogaeth llesiant economaidd).

381.Efallai y bydd prif gynghorau yn dymuno gwneud cais cyd-bwyllgor corfforedig os ydynt, er enghraifft, yn ystyried y byddai manteision yn deillio o arfer swyddogaeth benodol ar y cyd drwy gorff corfforedig.

382.Mae is-adran (2) yn amlinellu’r camau y mae rhaid i Weinidogion Cymru eu cymryd os ydynt, ar ôl cael cais cyd-bwyllgor corfforedig, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.

Adran 71 – Ymgynghori cyn gwneud cais cyd-bwyllgor

383.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau ymgynghori â’r personau hynny a restrir yn yr adran cyn gwneud cais cyd-bwyllgor corfforedig. Diffinnir “pobl leol” yn adran 171(1).

Adran 72 – Rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt

384.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i sefydlu corff corfforedig, a elwir yn “cyd-bwyllgor corfforedig”, mewn ymateb i gais o dan adran 70. Bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer y swyddogaeth neu’r swyddogaethau a bennir yn y rheoliadau mewn perthynas ag ardaloedd y cynghorau a wnaeth y cais (a elwir “y cynghorau perthnasol”).

385.Mae is-adran (3) yn cyfyngu ar y mathau o swyddogaethau y caniateir eu pennu yn y rheoliadau; ni chaiff y rhain ond bod yn swyddogaethau i’r cynghorau perthnasol neu’r swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76).

386.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo rheoliadau yn pennu’r math cyntaf o swyddogaeth, fod rhaid iddynt hefyd ddatgan a yw’r swyddogaeth i’w harfer gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y cynghorau perthnasol, neu a yw hi i’w harfer yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r cynghorau perthnasol. Os yw’r swyddogaeth i’w harfer yn gydredol, mae’n golygu y caiff y cyd-bwyllgor corfforedig a phrif gyngor ill dau arfer y swyddogaeth ar wahân mewn perthynas ag ardal y prif gyngor.

387.Un enghraifft o le y byddai is-adran (5) yn berthnasol yw pan fo gan brif gyngor swyddogaeth y caniateir gwneud amrywiaeth o bethau oddi tani, ond bod cyd-bwyllgor corfforedig i gael y pŵer i wneud pethau penodol yn unig o blith y pethau hynny. Caiff y rheoliadau bennu swyddogaeth drwy bennu’r pethau penodol y caiff y cyd-bwyllgor corfforedig eu gwneud.

388.Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau yn adran 73 wedi eu bodloni.

389.Yn y Rhan hon, cyfeirir at reoliadau a wneir o dan yr adran hon (yn ogystal â rheoliadau a wneir o dan adran 74) fel “rheoliadau cyd-bwyllgor”.

Adran 73 – Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt

390.Mae’r adran hon yn nodi’r amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 72.

Pennod 4 – Sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig pan na fo cais wedi ei wneud
Adran 74 – Rheoliadau cyd-bwyllgorau pan na fo cais wedi ei wneud

391.Mae is-adran (1) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i sefydlu corff corfforedig, a elwir yn “cyd-bwyllgor corfforedig”, i arfer y swyddogaeth neu’r swyddogaethau a bennir yn y rheoliadau mewn perthynas â’r prif ardaloedd a bennir yn y rheoliadau (a elwir “yr ardaloedd perthnasol”). Un o’r ffyrdd y mae’r pŵer hwn yn wahanol i bŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 72 yw y caniateir sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig o dan y pŵer hwn heb gais na chydsyniad gan brif gynghorau.

392.Mae is-adran (3) yn cyfyngu ar y mathau o swyddogaethau y caniateir eu pennu mewn rheoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer hwn; ni chânt ond bod yn swyddogaethau i’r prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol sy’n ymwneud â gwella addysg neu â thrafnidiaeth, y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol neu’r swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76).

393.Os pennir y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol mewn rheoliadau o dan yr adran hon, mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 9 i’r Ddeddf hon, yn gymwys ac mae’n nodi’r swyddogaeth honno a’r ddarpariaeth gysylltiedig.

394.I gael esboniad o is-adran (5), gweler y nodyn ar gyfer adran 72(4). I gael esboniad o is-adran (6), gweler y nodyn ar gyfer adran 72(5).

395.Ni fydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau yn adran 75 wedi eu bodloni.

396.Yn y Rhan hon, cyfeirir at reoliadau a wneir o dan yr adran hon (yn ogystal â rheoliadau a wneir o dan adran 72) fel “rheoliadau cyd-bwyllgor”.

Adran 75 – Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau o dan adran 74

397.Mae’r adran hon yn nodi’r amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 74.

Pennod 5 – Darpariaeth bellach mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cyd-bwyllgor
Adran 76 - Y swyddogaeth llesiant economaidd

398.Mae’r adran hon yn creu swyddogaeth llesiant economaidd ar gyfer cyd-bwyllgorau corfforedig. Ni fydd gan gyd-bwyllgor corfforedig y swyddogaeth hon onid yw’r swyddogaeth wedi ei phennu yn y rheoliadau cyd-bwyllgor sy’n sefydlu’r pwyllgor (gan gynnwys pan fo’r swyddogaeth yn cael ei hychwanegu at y rheoliadau hynny gan reoliadau diwygio a wneir o dan adran 80).

399.Pan fo’r swyddogaeth llesiant economaidd wedi ei rhoi i gyd-bwyllgor corfforedig, caiff wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal. Caniateir arfer y swyddogaeth er budd neu mewn perthynas â’i ardal gyfan neu unrhyw ran ohoni, neu er budd neu mewn perthynas â’r holl bersonau neu unrhyw bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal.

400.Pan fo’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried y byddai hynny’n debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal, caiff hefyd wneud unrhyw beth er budd neu mewn perthynas ag unrhyw berson neu ardal a leolir y tu allan i ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys ardaloedd y tu allan i Gymru.

401.Mae is-adran (4) yn galluogi rheoliadau cyd-bwyllgor, a wneir o dan adran 72 neu 74, a chan gynnwys pan wneir diwygiadau i’r rheoliadau hynny o dan adran 80(1), a rheoliadau atodol etc. a wneir o dan adran 83(2) i wneud arfer y swyddogaeth llesiant economaidd yn ddarostyngedig i waharddiadau, cyfyngiadau neu derfynau eraill.

Adran 77 – Darpariaeth y caniateir ei chynnwys neu y mae rhaid ei chynnwys mewn rheoliadau cyd-bwyllgor

402.Mae is-adran (1) yn nodi darpariaeth y mae rhaid ei chynnwys yn yr holl reoliadau cyd-bwyllgor. Mae is-adran (2) yn nodi darpariaeth y mae rhaid ei chynnwys o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr is-adran honno. Mae is-adran (3) yn nodi enghreifftiau o ddarpariaeth y caniateir ei chynnwys mewn rheoliadau cyd-bwyllgor.

Adran 78 - Cais gan brif gynghorau i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor

403.O dan yr adran hon caiff y prif gynghorau ar gyfer cyd-bwyllgor corfforedig wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 80 er mwyn diwygio neu ddirymu’r rheoliadau cyd-bwyllgor a sefydlodd y pwyllgor, pa un a wnaed y rhain o dan adran 72 neu o dan adran 74. Mae is-adran (2), fodd bynnag, yn gwneud ceisiadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol.

404.Mae’r cyfyngiadau ym mharagraff (a) o is-adran (2) yn ymwneud â cheisiadau i ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 72 ac i geisiadau i ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74. Ni chaiff cais ofyn i swyddogaeth newydd gael ei phennu yn y rheoliadau cyd-bwyllgor (fel y byddai’r swyddogaeth yn dod yn arferadwy gan y pwyllgor) onid yw’n swyddogaeth i’r cynghorau sy’n gwneud y cais neu onid y swyddogaeth llesiant economaidd yw’r swyddogaeth honno.

405.Mae’r cyfyngiadau ym mharagraff (b) yn ymwneud yn unig â cheisiadau i ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74. Ni chaiff cais ofyn i swyddogaeth gael ei hepgor o’r rheoliadau cyd-bwyllgor (fel na fyddai’n arferadwy gan y pwyllgor mwyach), neu gael ei haddasu, os yw’n swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth.

406.Mae paragraff (b) hefyd yn darparu na chaiff cais ofyn i’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol gael ei hepgor o reoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74. Nodir y swyddogaeth honno yn Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 9 i’r Ddeddf hon; ni chaniateir addasu’r swyddogaeth o dan adran 80 pa un bynnag.

407.Mae paragraff (b) hefyd yn darparu na all cais ofyn i’r swyddogaeth llesiant gael ei hepgor o’r rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74. Nodir y swyddogaeth honno yn adran 76; ni chaniateir ei haddasu o dan adran 80 pa un bynnag.

408.Caniateir defnyddio’r pŵer yn adran 80 i ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn gosod gwaharddiadau, cyfyngiadau neu derfynau eraill ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd, neu i hepgor neu addasu gwaharddiadau, cyfyngiadau neu derfynau eraill a osodwyd eisoes. Effaith paragraff (b), fodd bynnag, yw na chaiff cais o dan yr adran hon ofyn i waharddiadau etc. o’r fath gael eu gosod mewn rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74, eu haddasu neu eu hepgor ohonynt.

409.Effaith paragraff (c) o is-adran (2) yw na chaiff cais ofyn i reoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74 gael eu dirymu.

410.Effaith is-adran (3) yw y caniateir gwneud cais o dan yr adran hon i brif gyngor a’i ardal ymuno â chyd-bwyllgor corfforedig presennol, ond dim ond os yw’r cyngor hwnnw a’r holl gynghorau presennol ar y pwyllgor yn gwneud y cais ar y cyd.

Adran 79 - Darpariaeth bellach mewn perthynas â cheisiadau

411.Mae’r adran hon yn nodi’r gofynion y mae rhaid i brif gynghorau eu bodloni cyn gwneud cais o dan adran 78 i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor, a’r gofynion a osodir ar Weinidogion Cymru os ydynt yn penderfynu peidio â gwneud y rheoliadau.

412.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy cyn iddynt wneud cais i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor.

413.Pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl cael cais o dan adran 78, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau sy’n diwygio neu’n dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor corfforedig, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt hysbysu’r prif gynghorau a wnaeth y cais.

Adran 80 – Diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor

414.Mae adran 80(1) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn diwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor, pa un a wnaed y rheoliadau cyd-bwyllgor o dan adran 72 neu o dan adran 74.

415.Mae is-adran (2) yn gosod amodau ar y modd y mae Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 80(1), ond mae amodau gwahanol yn gymwys gan ddibynnu ar yr hyn y mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r pŵer i’w wneud.

416.Er mwyn gallu defnyddio’r pŵer yn adran 80(1) i ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 72, rhaid i Weinidogion Cymru fodloni’r amodau a nodir yn adran 81. Mae’r amodau hyn yn gymwys pa fath bynnag o ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru yn ei wneud i’r rheoliadau cyd-bwyllgor. Os yw Gweinidogion Cymru yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 72, fodd bynnag, mae’r amodau yn adran 82 yn gymwys.

417.Mae’r amodau yn adran 81 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r pŵer yn adran 80(1) i ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74 mewn ffyrdd penodol: pan fo Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r pŵer i bennu swyddogaeth ychwanegol yn y rheoliadau cyd-bwyllgor neu i addasu neu hepgor swyddogaethau penodedig presennol. Ceir eithriadau i’r rheol hon, fodd bynnag, ac mae’r rhain wedi eu nodi yn is-baragraffau (i) i (iii) o is-adran (2)(b).

418.Mae’r amodau yn adran 82 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r pŵer yn adran 80(1) i ddiwygio rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74 mewn modd nad yw’n golygu pennu swyddogaethau ychwanegol neu addasu neu hepgor swyddogaethau penodedig presennol, neu mewn modd nad yw’n golygu gwneud yr un o’r pethau hyn ond sy’n dod o fewn un o’r eithriadau yn is-baragraffau (i) i (iii) o is-adran (2)(b).

419.Enghraifft 1: pe bai rheoliadau o dan is-adran 80(1) yn ychwanegu swyddogaeth sy’n ymwneud â thai at reoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74, byddai’r amodau yn adran 81 yn gymwys. Ymysg pethau eraill, byddai angen i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais o dan adran 78 oddi wrth y prif gynghorau y mae eu hardaloedd yn cael eu cwmpasu gan y cyd-bwyllgor corfforedig, a bod wedi cael cydsyniad y cynghorau hynny.

420.Enghraifft 2: pe bai rheoliadau o dan is-adran 80(1) yn ychwanegu swyddogaeth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth at reoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74, byddai’r amodau yn adran 82 yn gymwys gan fod yr eithriad yn is-baragraff (i) o is-adran (2)(b) yn dod yn berthnasol. Mae’r amodau hyn yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori a hysbysu, ond nid yw’n ofynnol cael cais na chydsyniad.

421.Enghraifft 3: pe bai rheoliadau o dan is-adran 80(1) yn diwygio darpariaethau ynghylch aelodaeth mewn rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74, byddai’r amodau yn adran 82 yn gymwys.

422.Enghraifft 4: pe bai rheoliadau o dan is-adran 80(1) yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor a wnaed o dan adran 74, byddai’r amodau yn adran 82 yn gymwys.

423.Mae is-adran (3) yn cyfyngu ar y mathau o swyddogaethau y caniateir eu pennu mewn rheoliadau gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 80(1). Mae’r rhain wedi eu cyfyngu i:

424.I gael esboniad o is-adran (4), gweler y nodyn ar gyfer adran 72(4). I gael esboniad o is-adran (5), gweler y nodyn ar gyfer adran 72(5).

425.Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn diddymu’r cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan y rheoliadau hynny, neu pan fônt yn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn tynnu swyddogaeth oddi ar gyd-bwyllgor corfforedig. Caiff rheoliadau o’r fath o dan yr adran hon ddarparu bod y swyddogaeth a oedd yn cael ei harfer neu’r swyddogaethau a oedd yn cael eu harfer gan y cyd-bwyllgor corfforedig i’w harfer gan berson arall. Ni chaniateir gwneud darpariaeth o’r fath, fodd bynnag, mewn perthynas â’r swyddogaeth llesiant economaidd na’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol.

Adran 81 - Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor: cais gan brif gynghorau yn ofynnol

426.Mae adran 81 yn nodi’r amodau sy’n gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer yn adran 80(1) mewn ffyrdd penodol. Gweler y nodyn ar gyfer adran 80 i gael esboniad o ba bryd y bydd yr amodau hyn yn gymwys.

Adran 82 - Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor: nid yw cais gan brif gynghorau yn ofynnol

427.Mae adran 82 yn nodi’r amodau sy’n gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer yn adran 80(1) mewn ffyrdd penodol. Gweler y nodyn ar gyfer adran 80 i gael esboniad o ba bryd y bydd yr amodau hyn yn gymwys.

Adran 83 – Darpariaeth atodol etc. mewn rheoliadau penodol o dan y Rhan hon

428.Mae is-adran (1) yn darparu y caiff rheoliadau cyd-bwyllgor a rheoliadau o dan adran 80 (is-adrannau (1) neu (7)) gynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

429.Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar wahân sy’n cynnwys darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed, sy’n gymwys mewn perthynas â’r holl gyd-bwyllgorau corfforedig, cyd-bwyllgor corfforedig penodol neu gyd-bwyllgorau corfforedig sy’n dod o fewn disgrifiad penodol. Caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer o dan yr is-adran hon hefyd i osod gwaharddiadau, cyfyngiadau neu derfynau eraill ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76).

430.Mae is-adran (5) yn nodi enghreifftiau o ddarpariaeth atodol, gysylltiedig etc. y caniateir ei chynnwys mewn rheoliadau cyd-bwyllgor, rheoliadau o dan adran 80, rheoliadau o dan is-adran (2) a rheoliadau o dan is-adran (7).

Adran 84 – Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio, i ddirymu etc. ddeddfiadau

431.Mae is-adran (1) yn nodi’r hyn y caiff rheoliadau cyd-bwyllgor, rheoliadau o dan adran 80 a rheoliadau o dan adran 83 ei wneud mewn perthynas â deddfiadau. Gweler Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 ac adran 171 (dehongli) o’r Ddeddf hon i gael ystyr “deddfiad”.

432.Mae is-adran (2) yn bŵer ar wahân i wneud rheoliadau er mwyn gwneud y pethau a nodir ym mharagraffau (a) a (b) mewn perthynas â deddfiadau, at ddibenion y Rhan hon neu mewn cysylltiad â hi.

Adran 85 – Gofyniad i ddarparu gwybodaeth etc.

433.Mae’r adran hon yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor, awdurdod Parc Cenedlaethol neu gyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth neu ddogfennau (gweler y diffiniad yn adran 68) y maent yn ystyried eu bod yn briodol at ddibenion ystyried a ddylid gwneud rheoliadau o dan y Rhan hon neu at ddibenion roi effaith i’r rheoliadau hynny neu mewn cysylltiad â’r rheoliadau hynny.

Adran 86 – Canllawiau

434.O dan is-adran (1), rhaid i brif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforedig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Penodau 3, 4 a 5 o’r Rhan hon o’r Ddeddf.

435.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Parciau Cenedlaethol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Pennod 4 a Phennod 5 o’r Rhan hon.

Adran 87 – Arfer swyddogaethau gan brif gynghorau o dan y Rhan hon

436.Mae adran 87 yn darparu nad yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys i’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4) o’r adran hon. O ganlyniad, ni chaiff y prif gyngor drefnu i’r swyddogaethau hyn gael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor na swyddog o’r cyngor na chan brif gyngor arall.

437.Mae is-adran (2) yn gwahardd y swyddogaethau hyn rhag bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth prif gyngor ac mae is-adran (3) yn darparu bod maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr prif gyngor at ddibenion y swyddogaethau hynny.

Adran 88 – Diwygiadau sy’n ymwneud â chynllunio strategol a chyd-awdurdodau trafnidiaeth ac Atodlen 9 - Diwygiadau sy’n gysylltiedig â chyd-bwyllgorau corfforedig

438.Mae adran 88 yn cyflwyno Atodlen 9.

Rhan 1 o Atodlen 9 — Creu swyddogaethau cynllunio strategol ar gyfer cyd-bwyllgorau corfforedig penodol a diddymu’r pwerau i sefydlu paneli cynllunio strategol etc.

439.Mae paragraffau 1 i 8 o Atodlen 9 yn diwygio Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 er mwyn disodli’r system sydd yn y Ddeddf honno ar hyn o bryd. O dan y system hon, caiff Gweinidogion Cymru sefydlu ardal gynllunio strategol ynghyd â phanel cynllunio strategol i lunio cynllun datblygu strategol ar gyfer yr ardal honno.

440.Mae’r diwygiadau i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn cynnwys diddymu adrannau 60D i 60J, gan gael gwared ar bwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu paneli cynllunio strategol.

441.O dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 fel y’i diwygiwyd gan Atodlen 9 (gweler hefyd adran 74(4)), mae cynllun datblygu strategol i’w lunio gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd gan reoliadau cyd-bwyllgor o dan adran 74, ac y rhoddwyd iddo’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol gan y rheoliadau cyd-bwyllgor (gan gynnwys pan fo rheoliadau o dan adran 80 wedi diwygio’r rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn rhoi’r swyddogaeth honno i’r cyd-bwyllgor corfforedig). Mae’r cynllun datblygu strategol i’w lunio ar gyfer ardal y cyd-bwyllgor corfforedig.

442.Mae paragraffau 9 i 48 yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i ddeddfiadau eraill.

Rhan 2 o Atodlen 9— Diddymu’r pŵer i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth

443.Mae Rhan 2 o Atodlen 9 yn diwygio Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 er mwyn diddymu pwerau Gweinidogion Cymru i sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth. Yn lle hynny, bydd Gweinidogion Cymru yn gallu defnyddio’r pwerau yn adran 72 (gyda chydsyniad prif gynghorau) neu adran 74 (heb gydsyniad cynghorau) i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer swyddogaeth prif gyngor sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.

444.Mae paragraff 50 yn gwneud diwygiad canlyniadol i Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhan 6: Perfformiad Prif Gynghorau a’u Llywodraethu

Pennod 1: Perfformiad, Asesiadau Perfformiad ac Ymyrraeth
Adran 89 – Dyletswydd ar brif gyngor i adolygu ei berfformiad yn barhaus

445.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd barhaus ar brif gyngor i ystyried i ba raddau y mae’n cyflawni’r materion a nodir ym mharagraffau (a) a (b) o is-adran (1), ac i ba raddau y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol o ran ei alluogi i gyflawni’r materion hynny.

446.Yn y Bennod hon, cyfeirir at y materion a nodir yn is-adran (1) fel y “gofynion perfformiad”.

447.Bwriedir i’r materion hyn gwmpasu’r modd y disgwylir i brif gyngor arfer ei swyddogaethau, defnyddio ei adnoddau a llywodraethu ei hun yn gyffredinol.

448.Yn benodol, o ran defnyddio adnoddau, mae’r gofynion perfformiad yn adlewyrchu un o’r materion y mae’n ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei fodloni ei hun yn eu cylch, o dan adran 17(2)(d) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, wrth archwilio cyfrifon prif gyngor, sef bod y cyngor wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau ei fod yn defnyddio adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol.

449.Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i brif gynghorau ynghylch y gofynion perfformiad neu arfer unrhyw swyddogaeth i brif gyngor o dan Bennod 1. Rhaid i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.

Adran 90 – Dyletswydd i ymgynghori â phobl leol etc. ar berfformiad

450.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor, o leiaf unwaith y flwyddyn, ymgynghori â’r rheini a restrir yn yr adran hon er mwyn cael eu safbwyntiau ynghylch i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni ei ofynion perfformiad. Caiff “pobl leol” ei ddiffinio yn adran 171 ac mae’n golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal prif gyngor.

Adran 91 – Dyletswydd ar brif gyngor i adrodd ar ei berfformiad

451.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor lunio adroddiad (“adroddiad hunanasesu”) mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, sy’n nodi casgliadau’r cyngor ynghylch i ba raddau y gwnaeth fodloni ei ofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno. Bydd safbwyntiau’r cyngor ynghylch ei berfformiad a ffurfiwyd ganddo o ganlyniad i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 89 yn gallu llywio’r casgliadau a nodir yn yr adroddiad, a rhaid i’r casgliadau hynny ystyried safbwyntiau pobl leol ynghylch perfformiad y cyngor. Gall safbwyntiau pobl leol fod yn rhai a gafwyd gan y cyngor wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd i ymgynghori yn adran 90 neu’n rhai a gafwyd ganddo drwy ddulliau eraill; er enghraifft, o ganlyniad i lythyrau a anfonwyd at y cyngor sy’n rhoi sylwadau ar ba un a yw’r cyngor wedi arfer swyddogaethau penodol yn effeithiol.

452.Rhaid i’r cyngor lunio adroddiad hunanasesu mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno. Rhaid i’r adroddiad nodi unrhyw bethau y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwneud, neu y mae eisoes wedi eu gwneud, i wella ei berfformiad yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yna, pan fydd y cyngor yn llunio’r adroddiad mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol nesaf honno, rhaid iddo nodi ei gasgliadau ynghylch i ba raddau y gwnaeth y pethau hynny wella ei berfformiad.

453.Mae’r adran yn nodi gofynion eraill sy’n gymwys i’r adroddiad, gan gynnwys pwy ddylai gael copi o’r adroddiad a phryd y mae rhaid ei gyhoeddi.

454.Rhaid i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r prif gyngor adolygu drafft o’r adroddiad hunanasesu, a chaiff argymell newidiadau. Sefydlwyd pwyllgorau llywodraethu ac archwilio fel pwyllgorau archwilio o dan adran 81 o Fesur 2011. Mae adran 115 o’r Ddeddf hon yn newid eu henw ac yn gwneud rhai newidiadau i’w swyddogaethau (gweler hefyd Bennod 2 o’r Rhan hon o ran darpariaethau ynghylch eu haelodaeth a’u trafodion).

455.Pan fo’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn argymell newidiadau i’r casgliadau yn yr adroddiad drafft, neu i’r camau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd neu y mae wedi eu cymryd er mwyn gwella ei berfformiad, ond bod y prif gyngor yn penderfynu peidio â gwneud y newidiadau hynny, rhaid i’r cyngor roi ei resymau yn fersiwn derfynol yr adroddiad hunanasesu.

Adran 92 – Dyletswydd ar brif gyngor i drefnu asesiad perfformiad gan banel

456.Mae is-adran (1) o’r adran hon yn gosod dyletswydd ar brif gyngor i wneud trefniadau fel bod panel yn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn cyflawni’r gofynion perfformiad (cyfeirir at hyn fel “asesiad perfformiad gan banel”).

457.O dan drefniadau’r cyngor, dylai asesiad perfformiad gan banel gael ei gynnal o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor. Dylai adroddiad y panel gael ei gyhoeddi o leiaf chwe mis cyn yr etholiad cyffredin nesaf a dylai ymateb y cyngor i’r adroddiad hwnnw (o dan adran 93) gael ei gyhoeddi o leiaf bedwar mis cyn yr etholiad cyffredin nesaf.

458.Mae’r adran hefyd yn nodi safbwyntiau pwy y mae rhaid i banel eu ceisio a’u hystyried, wrth gynnal asesiad perfformiad gan banel (gweler adran 171 am y diffiniad o “pobl leol”).

459.Yn dilyn asesiad perfformiad gan banel rhaid i banel lunio adroddiad sy’n nodi ei gasgliadau ac unrhyw gamau y mae’r panel yn argymell bod y cyngor yn eu cymryd er mwyn bodloni ei ofynion perfformiad i raddau mwy yn y dyfodol.

460.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor ddarparu copi o’r adroddiad i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

461.Effaith is-adran (8) yw na all aelodau’r panel ond gwneud pethau ar y cyd ag aelodau eraill y panel, nid ar eu pennau eu hunain.

Adran 93 – Dyletswydd ar brif gyngor i ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel

462.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar brif gyngor i ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel y mae’n ei gael. Yn ei ymateb, mae’n ofynnol i’r cyngor nodi i ba raddau y mae’n derbyn casgliadau’r panel ac i ba raddau y mae’n bwriadu mabwysiadu unrhyw argymhellion sydd yn yr adroddiad. Dylai’r prif gyngor hefyd nodi unrhyw gamau y mae’n bwriadu eu cymryd er mwyn cynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

463.Rhaid i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r prif gyngor adolygu drafft o’r ymateb, a chaiff argymell newidiadau. Pan fo’r pwyllgor yn argymell newidiadau i’r datganiadau a wneir yn yr ymateb drafft o dan is-adran (2), ond bod y prif gyngor yn penderfynu peidio â gwneud y newidiadau hynny, rhaid iddo roi ei resymau yn fersiwn derfynol yr ymateb i’r adroddiad ar yr asesiad perfformiad gan banel.

464.Rhaid i’r cyngor anfon ei ymateb at y personau hynny a restrir yn is-adran (6), a chyhoeddi’r ymateb.

465.I gael eglurhad o is-adran (7), gweler y nodyn ar gyfer adran 92.

Adran 94 – Asesiadau perfformiad gan baneli: rheoliadau atodol

466.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer penodi gan brif gynghorau y paneli a fydd yn cynnal asesiadau perfformiad, ac mewn cysylltiad â hynny. Caiff Gweinidogion, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch penodi aelodau paneli ac ynghylch talu ffioedd i aelodau paneli, neu mewn perthynas â hwy (er enghraifft, darpariaeth ynghylch digolledu cyflogwr sy’n caniatáu i gyflogai gael amser i ffwrdd o’r gwaith i fod yn aelod o banel).

Adran 95 – Pŵer yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal arolygiad arbennig

467.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiad o brif gyngor er mwyn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad (cyfeirir at yr arolygiad hwn ym Mhennod 1 fel “arolygiad arbennig”). Caiff yr Archwilydd Cyffredinol gynnal arolygiad o’r fath pan fo’n ystyried nad yw prif gyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, neu y gallai fod yn methu â gwneud hynny. Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud y penderfyniad i gynnal arolygiad arbennig, ac eithrio mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol ystyried cynnal arolygiad arbennig.

468.Cyn cynnal arolygiad arbennig, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi hysbysiad i brif gyngor yn rhoi’r rhesymau amdano, ac yn nodi’r materion y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu eu harolygu.

469.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol lunio adroddiad yn dilyn yr arolygiad arbennig. Rhaid i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi a’i anfon at y cyngor, at Estyn ac at Weinidogion Cymru. Rhaid i gyngor sicrhau bod yr adroddiad ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Adran 96 – Dyletswydd ar brif gyngor i ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

470.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i brif gyngor lunio ymateb i unrhyw argymhellion i’r cyngor sydd mewn adroddiad ar arolygiad arbennig o dan adran 95(6)(b).

471.Rhaid i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r prif gyngor adolygu drafft o’r ymateb a chaiff argymell newidiadau. Pan fo prif gyngor yn penderfynu peidio â gwneud newidiadau y mae’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn eu hargymell i ddatganiadau yn yr ymateb ynghylch unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i argymhellion gan yr Archwilydd Cyffredinol, rhaid i’r cyngor nodi ei resymau yn fersiwn derfynol yr ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol.

Adran 97 – Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

472.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymateb i unrhyw argymhellion a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 95(6)(b) ar gyfer camau sydd i’w cymryd gan Weinidogion Cymru.

Adran 98 – Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol

473.Mae adran 98 yn rhoi pwerau i’r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys person y dirprwywyd pwerau’r Archwilydd Cyffredinol iddo (gweler is-adran (5)) wneud pethau penodol at ddibenion arolygiad arbennig o brif gyngor o dan adran 95.

474.Mae is-adran (1) yn rhoi pwerau i’r Archwilydd Cyffredinol fynd i fangre prif gyngor er mwyn gwneud pethau y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyngor hwnnw.

475.Mae hyn yn cynnwys arolygu dogfennau y mae’r cyngor yn eu dal. Diffinnir yn adran 112 bod “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf. Ar ôl mynd i fangre cyngor caiff yr Archwilydd Cyffredinol arolygu, er enghraifft, wybodaeth y mae’r cyngor yn ei dal ar gyfrifiadur neu mewn cyfleuster storio gwybodaeth electronig.

476.Dyma enghreifftiau o’r pethau y gallai’r Archwilydd Cyffredinol eu gwneud yn ofynnol gan brif gyngor o dan is-adran (2): bod dogfen yn cael ei hanfon ato neu y caniateir iddo ddefnyddio swyddfa neu gyfleusterau copïo ym mangre’r cyngor tra bo’r arolygiad yn cael ei gynnal.

477.Mae is-adran (3) yn galluogi’r Archwilydd Cyffredinol i’w gwneud yn ofynnol i berson ymddangos ger ei fron (er enghraifft, yn swyddfeydd yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn swyddfa o fewn prif gyngor y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei defnyddio) i ddarparu:

478.Mae is-adran (4) yn nodi pwerau’r Archwilydd Cyffredinol i wneud copïau o ddogfennau, i’w gwneud yn ofynnol i gynghorau wneud copïau at ddefnydd yr Archwilydd Cyffredinol ac i gadw dogfennau y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi eu harchwilio neu y’u darparwyd iddo. Os yw’r Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol cadw dogfen (er enghraifft, y copi gwreiddiol o lythyr y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei astudio ymhellach), ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol ond cadw’r ddogfen am ba hyd bynnag y bo hynny’n angenrheidiol at ddibenion yr arolygiad arbennig.

Adran 99 - Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: rhybudd a thystiolaeth adnabod

479.Mae adran 99 yn nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer y pwerau o dan adran 98.

480.Effaith is-adran (1) yw, yn ddarostyngedig i is-adran (3), na chaiff yr Archwilydd Cyffredinol arfer y pŵer o dan adran 98(1) i fynd i fangre cyngor oni roddwyd o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd ysgrifenedig i’r prif gyngor.

481.Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) yn nodi ystyr y term “diwrnod gwaith” (gweler Atodlen 1 i’r Ddeddf honno). Mae’n golygu diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80).

482.Rhaid rhoi rhybudd i’r cyngor gan ddefnyddio un o’r dulliau a nodir yn is-adran (5), ond ni ellir ond defnyddio’r dull ym mharagraff (c) o is-adran (5) os yw’r cyngor wedi hysbysu’r Archwilydd Cyffredinol am gyfeiriad e-bost sydd i’w ddefnyddio at y diben hwnnw. Nid yw paragraff (c) yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ddarparu cyfeiriad e-bost at y diben hwnnw.

483.Er enghraifft, os caiff rhybudd ei anfon i brif swyddfa’r cyngor drwy’r post dosbarth cyntaf ar ddydd Llun, caiff yr Archwilydd Cyffredinol arfer y pŵer o dan adran 98(1) i fynd i fangre’r cyngor yn ddim cynharach na’r dydd Gwener yn ystod yr wythnos honno.

484.Mae is-adran (2) yn cynnwys gofynion rhybuddio cyfatebol sy’n gymwys i arfer y pwerau o dan adran 98(2). Unwaith eto, rhaid rhoi rhybudd i gyngor gan ddefnyddio un o’r dulliau yn is-adran (5).

485.Effaith is-adran (3) yw nad yw’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol roi rhybudd cyn arfer pŵer o dan adran 98(1) neu (2) os yw’r Archwilydd Cyffredinol yn ystyried y byddai rhoi rhybudd yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, yr arolygiad arbennig (er enghraifft, pe bai’r Archwilydd Cyffredinol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol archwilio gwybodaeth benodol ar fyrder cyn iddi gael ei dileu).

486.Mae is-adran (4) yn cynnwys gofynion rhybuddio sy’n gymwys i arfer y pwerau o dan adran 98(3) i’w gwneud yn ofynnol i berson ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol.

487.Os yw’r person y mae’n ofynnol iddo ddod gerbron arolygydd yn aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor, mae’n ofynnol rhoi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd ysgrifenedig. Rhaid rhoi rhybudd gan ddefnyddio un o’r dulliau yn is-adran (6). Yn achos personau eraill y mae’n ofynnol iddynt ddod gerbron arolygydd, mae’n ofynnol rhoi saith niwrnod gwaith clir o rybudd a rhaid rhoi rhybudd gan ddefnyddio un o’r dulliau yn is-adran (7).

488.Caiff cyngor etc., y mae person yn ceisio arfer pŵer yn ei erbyn o dan adran 98, ofyn am dystiolaeth o awdurdod y person hwnnw i arfer y pŵer. Os nad yw’r person yn dangos y dystiolaeth ni chaiff arfer y pŵer.

Adran 100 - Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: troseddau

489.Mae adran 100 yn creu troseddau o fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 98, heb esgus rhesymol, neu o rwystro’n fwriadol arfer y pwerau mynediad ac arolygu, neu’r pŵer i gopïo a chadw dogfennau, o dan adran 98.

Adran 101 – Ffioedd yr Archwilydd Cyffredinol

490.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddfa Archwilio Cymru bennu graddfa ffioedd am gynnal arolygiadau arbennig. Bydd disgresiwn gan Swyddfa Archwilio Cymru i godi ffi sy’n wahanol i’r raddfa benodedig os yw’r gwaith sy’n gysylltiedig ag arolygiad arbennig yn sylweddol fwy neu’n sylweddol lai na’r hyn a ragwelwyd gan y raddfa benodedig. Cyn pennu graddfa ffioedd, rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ymgynghori â Gweinidogion Cymru ac unrhyw gynrychiolwyr prif gynghorau y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Adran 102 – Cefnogaeth a chymorth gan Weinidogion Cymru

491.O dan yr adran hon caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw gefnogaeth a chymorth i brif gyngor y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor yn cyflawni’r gofynion perfformiad. Mae’r adran hon hefyd yn caniatáu i brif gyngor ofyn am gefnogaeth a chymorth gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw. Cyn darparu cefnogaeth a chymorth i gyngor o dan yr adran hon (boed hynny mewn ymateb i gais oddi wrth y cyngor ai peidio), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyngor ynghylch y gefnogaeth a’r cymorth y maent yn bwriadu eu darparu.

Adran 103 – Cyfarwyddyd i brif gyngor ddarparu cefnogaeth a chymorth

492.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i ddarparu unrhyw gefnogaeth a chymorth i brif gyngor arall (“y cyngor a gefnogir”) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyngor a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad. Rhaid i’r cyfarwyddyd nodi pa gefnogaeth a chymorth y mae rhaid eu rhoi i’r cyngor a gefnogir.

493.Cyn rhoi’r cyfarwyddyd, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau gyngor y mae’r cyfarwyddyd yn effeithio arnynt.

Adran 104 – Pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd

494.Mae’r adran hon yn nodi’r amodau sy’n gymwys er mwyn i Weinidogion Cymru arfer y pwerau cyfarwyddo yn adrannau 105, 106 a 107 (“cyfarwyddyd ymyrryd”). Rhaid eu bod yn ystyried nad yw’r prif gyngor y bydd y cyfarwyddyd yn ymwneud ag ef yn bodloni’r gofynion perfformiad, neu nad yw’n debygol ei fod yn eu bodloni.

495.Mae’r adran hon hefyd yn nodi pa gamau y mae rhaid i Weinidogion Cymru eu cymryd cyn rhoi cyfarwyddyd ymyrryd ac o dan ba amgylchiadau nad yw’r camau hyn yn gymwys.

Adran 105 – Cyfarwyddyd i gydweithredu â darparu cefnogaeth a chymorth

496.Mae’r adran hon (sy’n ddarostyngedig i adran 104) yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor, y cyfeirir ato fel “y cyngor a gefnogir”, i gydweithredu â’r personau hynny a restrir yn is-adran (1) at ddibenion galluogi darparu cefnogaeth neu gymorth iddynt. Mae hyn yn cynnwys personau sy’n gweithredu ar ran y personau a restrir yn is-adran (1), yn eu cynorthwyo neu’n awdurdodedig ganddynt.

497.Mae’r adran yn nodi ym mha ffyrdd y gallai fod yn ofynnol gan gyfarwyddyd, neu o dan gyfarwyddyd, o dan yr adran hon i’r cyngor a gefnogir gydweithredu.

Adran 106 – Cyfarwyddyd i gymryd cam penodedig neu i gadw rhag ei gymryd etc.

498.Mae’r adran hon (sy’n ddarostyngedig i adran 104) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor i gymryd cam penodedig, i gadw rhag ei gymryd neu i roi’r gorau i’w gymryd. Mae’n cynnwys enghreifftiau o’r camau y gallai fod yn ofynnol i brif gyngor eu cymryd.

Adran 107 – Cyfarwyddyd bod swyddogaeth i’w chyflawni gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai

499.Mae’r adran hon (sy’n ddarostyngedig i adran 104) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n cael yr effaith bod swyddogaeth neu swyddogaethau prif gyngor, fel y’u pennir yn y cyfarwyddyd, yn cael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu gan berson a enwebir gan Weinidogion Cymru.

500.Mae is-adran (3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i gymhwyso neu ddatgymhwyso unrhyw ddarpariaethau statudol mewn perthynas â swyddogaethau sydd i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai o ganlyniad i gyfarwyddyd o dan yr adran hon.

Adran 108 – Arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon

501.Mae’r adran hon yn darparu y caniateir i swyddogaethau a roddir i brif gyngor o dan y Bennod hon (ac eithrio swyddogaethau a roddir i bwyllgor llywodraethu ac archwilio) gael eu cyflawni gan y cyngor neu gan ei weithrediaeth, fel y penderfyna’r cyngor.

502.Mae is-adrannau (2) i (4) yn darparu nad yw’r swyddogaethau a restrir yn is-adran (4) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 101 o Ddeddf 1972 nac adrannau 14 a 15 o Ddeddf 2000.

503.Golyga hyn, os yw’r cyngor yn penderfynu bod un o’r swyddogaethau rhestredig hynny i fod yn gyfrifoldeb i’r cyngor, na chaniateir ei ddirprwyo i bwyllgor nac is-bwyllgor i’r cyngor, nac i swyddog i’r cyngor, nac i brif gyngor arall. Yn yr un modd, os yw’r cyngor yn penderfynu bod un o’r swyddogaethau rhestredig hynny i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y cyngor, ni chaniateir ei dyrannu i bwyllgor o’r weithrediaeth nac i un o swyddogion y cyngor, er enghraifft.

Adran 109 - Pŵer Gweinidogion Cymru i ychwanegu at y rhestr o bersonau y mae rhaid anfon adroddiadau etc. atynt

504.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ychwanegu at y rhestrau o bersonau y mae rhaid anfon adroddiadau ac ymatebion penodol sy’n cael eu llunio o dan y Bennod hon atynt.

Adran 110 - Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio etc. ddeddfiadau a rhoi pwerau newydd

505.Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso deddfiadau (ond nid darpariaethau’r Bennod hon) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn atal neu’n rhwystro prif gyngor rhag cydymffurfio â’r Bennod hon.

506.Caiff Gweinidogion Cymru hefyd roi pwerau newydd i brif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn caniatáu neu hwyluso cydymffurfiad â’r Bennod hon.

Adran 111 - Canllawiau

507.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i unrhyw berson sydd â swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon (ac eithrio Archwilydd Cyffredinol Cymru a phrif gynghorau; ceir darpariaeth gyfatebol ar ganllawiau sy’n gymwys i brif gynghorau yn adran 89(3)) roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer y swyddogaethau hynny.

508.Os yw rhywun yn arfer swyddogaeth o dan y Bennod hon sy’n ymwneud ag asesu i ba raddau y mae prif gyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad (er enghraifft, os yw panel yn cynnal asesiad o dan drefniadau a wnaed o dan adran 92), rhaid iddynt roi sylw i unrhyw ganllawiau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu dyroddi ynghylch y gofynion perfformiad. Unwaith eto, nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys i Archwilydd Cyffredinol Cymru nac i brif gynghorau.

Adran 113 – Datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau a diddymu darpariaethau ynglŷn â chydlynu archwiliad

509.Mae’r adran hon yn diwygio Mesur 2009, sy’n cynnwys system asesu perfformiad, fel ei fod yn peidio â bod yn gymwys i brif gynghorau.

510.Mae’r adran hefyd yn diddymu’r darpariaethau ym Mesur 2009 sy’n ymdrin â chydgysylltu archwiliad (adran 23) a rhannu gwybodaeth (adran 33). Mae Pennod 3 o’r Rhan hon yn cynnwys darpariaeth newydd ynghylch cydgysylltu rhwng rheoleiddwyr penodol ac mae adran 159 yn cynnwys darpariaeth newydd ynghylch rhannu gwybodaeth.

Adran 114 – Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

511.Mae’r adran hon yn diwygio paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf LlCD”). Mae hyn yn adlewyrchu adran 91(11) o’r Ddeddf hon a chyda’i gilydd mae’r darpariaethau yn caniatáu i brif gyngor gyhoeddi ei adroddiad hunanasesu o fewn yr un ddogfen â’i adroddiad o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf LlCD, pan fo’r adroddiadau yn ymwneud â’r un flwyddyn ariannol.

Adran 115 ac Atodlen 10 - Enw newydd ar bwyllgorau archwilio a’u swyddogaethau newydd

512.Mae adran 115 yn diwygio adran 81 o Fesur 2011 (prif gynghorau i benodi pwyllgorau archwilio) er mwyn newid enw pwyllgorau archwilio i “pwyllgorau llywodraethu ac archwilio”, a rhoi swyddogaethau ychwanegol i’r pwyllgorau hynny.

513.O ganlyniad i’r newid enw, mae amryw o newidiadau canlyniadol i’w gwneud i Fesur 2011 ac mae’r rhain wedi eu nodi yn Atodlen 10, a gyflwynir gan yr adran hon.

Pennod 2: Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio: Aelodaeth a Thrafodion
Adran 116 - Aelodaeth o bwyllgor llywodraethu ac archwilio

514.Mae adran 116 o’r Ddeddf yn diwygio adran 82 o Fesur 2011 er mwyn cynyddu nifer yr aelodau lleyg ar bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

515.Cyn ei diwygio, y sefyllfa o dan adran 82 o Fesur 2011 yw bod rhaid i ddwy ran o dair o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio, o leiaf, fod yn aelodau o’r prif gyngor a bod rhaid i un aelod o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio, o leiaf, fod yn aelod lleyg.

516.Ar ôl ei diwygio, y sefyllfa yw bod rhaid i ddwy ran o dair o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio fod yn aelodau o’r cyngor a bod rhaid i draean ohonynt fod yn bersonau lleyg.

517.Yn ogystal â hynny, caiff tair is-adran ((5A), (5B) a (5C)) eu hychwanegu at adran 82 o Fesur 2011. Mae’r rhain yn darparu bod rhaid i bwyllgor llywodraethu ac archwilio benodi cadeirydd a dirprwy gadeirydd i’r pwyllgor. Rhaid i gadeirydd y pwyllgor fod yn berson lleyg ac ni chaiff y dirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth y cyngor nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.

Adran 117 – Ystyr person lleyg

518.Mae adran 117 o’r Ddeddf yn diwygio adran 87 o Fesur 2011. Mae’n gosod cyfyngiadau ychwanegol ar bwy gaiff fod yn “aelod lleyg” o bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Adran 118 – Trafodion etc.

519.Mae’r adran hon yn diwygio adran 83 o Fesur 2011, gan newid y trefniadau ar gyfer cadeirio cyfarfodydd. Cyn ei diwygio, roedd adran 83 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor archwilio yn penodi un o’i aelodau yn gadeirydd. Caiff y person hwn fod yn aelod o’r prif gyngor neu’n aelod lleyg ond ni chaiff fod yn aelod o grŵp gweithrediaeth. Os nad oes grwpiau gwrthblaid, caiff y person sydd i fod yn gadeirydd y pwyllgor archwilio fod yn aelod o grŵp gweithrediaeth ond ni chaiff fod yn aelod o weithdrediaeth y cyngor.

520.Ar ôl ei diwygio, mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gael ei gadeirio gan gadeirydd y pwyllgor (a benodir yn awr o dan adran 82) neu, yn absenoldeb y cadeirydd, gan y dirprwy gadeirydd. Os yw’r ddau yn absennol, caiff y pwyllgor benodi aelod arall o’r pwyllgor (na chaiff fod yn aelod o weithrediaeth y cyngor nac yn gynorthwyydd i’r weithrediaeth) i gadeirio’r cyfarfod.

Pennod 3: Cydgysylltu rhwng rheoleiddwyr
Adran 119 – Cydgysylltu rhwng rheoleiddwyr

521.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth o fath sy’n debyg i’r ddarpariaeth yn adran 23 o Fesur 2009, sy’n cael ei diddymu gan adran 113 o’r Ddeddf hon. Yn wahanol i adran 23, fodd bynnag, nid yw ond yn gymwys mewn perthynas â phrif gynghorau.

522.Mae’n gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru a phob “rheoleiddiwr perthnasol” i roi sylw i’r angen i gydgysylltu wrth arfer eu “swyddogaethau perthnasol” (gweler adran 120 am ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”). Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio amserlen mewn perthynas â phob prif gyngor ar gyfer pob blwyddyn ariannol (ond caiff yr amserlen ymwneud â mwy nag un flwyddyn ariannol).

523.Rhaid i’r amserlen ddangos ar ba ddyddiadau neu yn ystod pa gyfnodau (yn ystod y flwyddyn y mae’n ymwneud â hi neu’r blynyddoedd y mae’n ymwneud â hwy) y dylai Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol arfer eu swyddogaethau perthnasol, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol. Yna rhaid i’r holl reoleiddwyr perthnasol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru gymryd pob cam rhesymol i gadw at yr amserlen.

524.Mae dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd i gynorthwyo’r rheoleiddwyr perthnasol i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan yr adran hon.

Adran 120 - “Rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”

525.At ddibenion adran 119, mae’r adran hon yn diffinio swyddogaethau perthnasol Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn rhestru, mewn tabl, y rheoleiddwyr perthnasol a’u swyddogaethau perthnasol.

526.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio’r tabl sy’n rhestru’r rheoleiddwyr perthnasol a’u swyddogaethau.

Rhan 7: Uno ac Ailstrwythuro Prif Ardaloedd

Pennod 1: Uno Prif Ardaloedd yn Wirfoddol
Adran 121 – Ceisiadau i uno

527.Mae adran 121 yn galluogi dau brif gyngor neu ragor i wneud cais ar y cyd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “cais i uno”) i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt wneud rheoliadau i uno eu prif ardaloedd i greu un brif ardal newydd.

528.Mae is-adran (2) yn datgymhwyso adran 101 o Ddeddf 1972 (sy’n caniatáu i brif gyngor wneud trefniadau i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog i’r cyngor neu gan unrhyw brif gyngor arall) mewn perthynas â’r swyddogaeth o wneud cais i uno’n wirfoddol.

529.Mae is-adran (3) yn darparu bod gwneud cais yn swyddogaeth na chaiff gweithrediaethau’r cynghorau hynny ei chyflawni. Felly, dim ond cyngor llawn pob un o’r prif gynghorau sy’n gwneud y cais ar y cyd gaiff wneud penderfyniad i wneud cais i uno’n wirfoddol.

530.Os oes gan gyngor sy’n uno faer sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol, bydd gan y maer hawl i gymryd rhan yn unrhyw gyfarfod o’r cyngor i gymeradwyo’r cais, a phleidleisio ynddo.

531.Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo cais i uno’n wirfoddol rhaid iddynt hysbysu’r cynghorau o dan sylw.

Adran 122 – Ymgynghori cyn gwneud cais i uno

532.Rhaid i brif gynghorau fod wedi ymgynghori ynglŷn â’r cynnig i uno cyn cyflwyno cais ar y cyd i uno’n wirfoddol. Rhestrir y rhanddeiliaid y mae rhaid ymgynghori â hwy yn yr adran hon. Mae ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym gan gynghorau sydd am uno yn bodloni’r gofyniad hwn i ymgynghori.

Adran 123 – Canllawiau ynglŷn â cheisiadau i uno

533.Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i brif gynghorau ynghylch cais ar y cyd i uno’n wirfoddol, ac mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau roi sylw i’r canllawiau hynny.

534.Gallai’r canllawiau ymdrin â materion y bydd angen i brif gynghorau eu hystyried wrth lunio cais, gan gynnwys y buddion a fwriedir, y costau a’r arbedion, asesiadau effaith, cwmpas ymgyngoriadau ac unrhyw faterion perthnasol eraill, er enghraifft (ar ôl i’r darpariaethau yn Rhan 1 ynghylch dewis system bleidleisio ddod i rym) nodi pa system bleidleisio y dylid ei defnyddio ar gyfer yr etholiadau cyntaf i’r cyngor newydd ar gyfer y brif ardal newydd (gweler adran 126).

535.Mae’r ddyletswydd i roi sylw i ganllawiau yn gymwys mewn perthynas â chanllawiau a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru cyn i’r adran hon ddod i rym, os cafodd y canllawiau eu dyroddi yn benodol fel canllawiau ar geisiadau i uno.

Adran 124 – Rheoliadau uno

536.Ar ôl cael cais i uno’n wirfoddol, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu gwneud rheoliadau (“rheoliadau uno”) i roi effaith i’r uno a gynigir yn y cais. Mae adran 124 yn nodi’r materion penodol y mae rhaid ymdrin â hwy mewn rheoliadau uno, gan adlewyrchu’r materion sylfaenol sy’n ymwneud â sefydlu sir neu fwrdeistref sirol newydd a’i chyngor.

537.Disgwylir mai’r dyddiad pan fydd y cyngor ar gyfer y brif ardal newydd yn ysgwyddo’r holl swyddogaethau (y cyfeirir ato yn y Ddeddf fel “y dyddiad trosglwyddo”, a elwir yn aml hefyd “y Diwrnod Breinio”) fydd 1 Ebrill yn y flwyddyn benodedig, i gyd-daro â dechrau blwyddyn ariannol llywodraeth leol. Rhagwelir mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai’r dyddiad trosglwyddo’n cael ei bennu ar ddyddiad gwahanol yn y flwyddyn benodedig. Caiff yr ardaloedd sy’n uno a’u cynghorau eu diddymu ar y dyddiad trosglwyddo.

Adran 125 – Cynghorau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol

538.Rhaid i reoliadau uno gynnwys darpariaeth ynglŷn â sefydlu’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd. Fel a drafodir isod, bydd y cyngor cysgodol yn bodoli cyn i’r cyngor newydd ysgwyddo ei holl gyfrifoldebau, a bydd yn bodoli yn gydredol â’r prif gynghorau y bydd yn eu disodli yn y pen draw. Bydd y cyngor cysgodol yn cymryd camau i sicrhau y bydd y cyngor yn barod, ar y dyddiad trosglwyddo, i ysgwyddo holl swyddogaethau prif gyngor.

539.Y bwriad yw, bron bob tro y bydd cynghorau yn uno’n wirfoddol, y bydd y cyngor cysgodol yn “cyngor cysgodol etholedig”, wedi ei ethol gan etholwyr llywodraeth leol yn ardaloedd y cynghorau sy’n uno. Bydd y cyngor cysgodol fel rheol yn cael ei ethol ym mis Mai yn y flwyddyn cyn y dyddiad trosglwyddo, a bydd y cynghorwyr cysgodol yn cychwyn yn eu swyddi ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad.

540.Mewn achosion eithriadol, gall y cyngor cysgodol gynnwys holl gynghorwyr y cynghorau sy’n uno (“cyngor cysgodol dynodedig”). Sefydlir y cyngor cysgodol dynodedig o ddyddiad a bennir yn y rheoliadau uno.

541.Rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu i’r cyngor cysgodol (boed yn etholedig neu’n ddynodedig) fod â gweithrediaeth gysgodol ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet.

542.Bydd y cyngor cysgodol a’i weithrediaeth yn gweithio ochr yn ochr â chynghorau a gweithrediaethau’r awdurdodau sy’n uno yn ystod y cyfnod (“y cyfnod cysgodol”) sy’n dechrau o’r dyddiad pan gaiff y cyngor cysgodol ei ethol neu ei ddynodi hyd at y dyddiad trosglwyddo penodedig. Nodir swyddogaethau’r cyngor cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol yn y rheoliadau uno.

543.Rhaid cynnwys trefniadau ar gyfer ariannu’r cyngor cysgodol yn y rheoliadau uno ac fe allai’r rhain gynnwys gosod cyfrifoldebau ar un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno, yn enwedig o ran gweinyddu cyllid y cyngor cysgodol.

544.Yn achos cyngor cysgodol etholedig, caiff yr awdurdodau sy’n uno a’u cynghorau eu diddymu ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y cyngor cysgodol yn ysgwyddo’r holl swyddogaethau yn awtomatig. Ni chynhelir etholiadau o’r newydd.

545.Yn achos cyngor cysgodol dynodedig, caiff yr awdurdodau sy’n uno a’u cynghorau eu diddymu ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y cyngor cysgodol dynodedig yn cymryd yr awenau. Yn ystod y cyfnod cychwynnol ar ôl y dyddiad trosglwyddo (“y cyfnod cyn etholiad”), bydd cyngor y brif ardal newydd yn parhau i gynnwys yr aelodau a etholwyd i’r hen gynghorau sy’n uno, er y bydd eu hen gynghorau sy’n uno wedi eu diddymu ar y dyddiad trosglwyddo. Yn gyffredinol, cynhelir yr etholiadau cyntaf i’r cyngor newydd cyn gynted ag y bo modd, a hynny mae’n debyg ar ddydd Iau cyntaf mis Mai ar ôl y dyddiad trosglwyddo. Yna bydd y cynghorwyr sydd newydd eu hethol yn cymryd drosodd ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiadau a bydd y rhai a oedd yn gwasanaethu ar y cyngor cysgodol dynodedig yn ymddeol (er ei bod yn ddigon posibl y bydd rhai ohonynt wedi eu hethol ar y cyngor newydd).

Adran 126 – Y system bleidleisio

546.Mae adran 7 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi prif gyngor i ddewis ei system bleidleisio, sef dewis rhwng y system mwyafrif syml a’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae adran 126 yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau uno bennu pa system sydd i’w defnyddio yn yr etholiadau cyntaf ar gyfer cyngor a grëwyd drwy uno’n wirfoddol.

547.Y cynghorau sy’n uno fydd yn gyfrifol yn y lle cyntaf am gytuno ymysg ei gilydd pa system y dylid ei defnyddio ar gyfer yr etholiadau cyntaf i’r awdurdod newydd a rhoi gwybod i Weinidogion Cymru (yn y cais i uno fwy na thebyg) pa system a ddewiswyd.

548.Os na fydd y cynghorau sy’n uno’n gallu cytuno, bydd y fformiwla a nodir yn is-adran (2)(b) yn gymwys. Bydd Gweinidogion Cymru yn pennu’n gyntaf pa system bleidleisio a oedd yn cael ei defnyddio ym mhob un o’r cynghorau sy’n uno, neu yn y rhan fwyaf ohonynt, yn union cyn dyddiad y cais i uno; os oedd y ddwy system yn cael eu defnyddio yn yr un nifer o gynghorau sy’n uno, bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar ôl ymgynghori â’r cynghorau sy’n uno.

549.O dan adran 175(6), mae’r darpariaethau yn Rhan 1 sy’n ymwneud â’r dewis o system bleidleisio yn dod i rym ar 6 Mai 2022 (y diwrnod ar ôl y dyddiad a drefnwyd ar gyfer cynnal yr etholiadau cyffredin llywodraeth leol cyntaf ar ôl i’r Ddeddf gael ei phasio). Os cyflwynir cais i uno’n wirfoddol cyn i’r darpariaethau ynglŷn â dewis system bleidleisio yn Rhan 1 ddod i rym, rhaid cynnal etholiadau cyntaf y cyngor newydd gan ddefnyddio’r system mwyafrif syml (is-adran (4)).

Adran 127 – Etholiadau

550.Mae adran 127 yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau uno bennu dyddiad yr etholiadau cyffredin cyntaf i’r prif gyngor newydd a hyd cyfnodau swyddi’r cynghorwyr a gaiff eu hethol yn yr etholiad hwnnw.

551.Caiff rheoliadau uno hefyd gynnwys darpariaeth i ganslo’r etholiadau cyffredin i’r prif gynghorau sy’n uno ac, os oes angen gwneud hynny, estyn cyfnodau swyddi cynghorwyr y cynghorau hynny tan y dyddiad trosglwyddo. Nid oes diben cynnal etholiadau i gynghorau y bwriedir eu diddymu yn y dyfodol agos. Yn yr un modd, os oes gan un neu ragor o’r cynghorau sy’n uno faer sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol, gellid cynnwys darpariaeth yn y rheoliadau uno i estyn cyfnod swydd y maer presennol a chanslo etholiad a drefnwyd.

552.Caiff y rheoliadau uno hefyd wneud darpariaeth ynghylch is-etholiadau, gan gynnwys darpariaeth i ddatgymhwyso neu addasu, am gyfnod a bennir yn y rheoliadau uno, y gofyniad (yn adran 89 o Ddeddf 1972) i gynnal is-etholiad i lenwi swydd sy’n digwydd dod yn wag ar gyngor sy’n uno. Mae adran 89(3) o Ddeddf 1972 hefyd yn atal is-etholiadau dros dro os bydd swydd yn digwydd dod yn wag ymhen 6 mis i’r etholiadau cyffredin nesaf a drefnwyd ar gyfer y cyngor o dan sylw.

553.Yn gyffredinol, byddai angen gwneud darpariaeth yn y rheoliadau uno i bennu’r dyddiad olaf ar gyfer cynnal is-etholiad mewn cyngor sy’n uno; fel arfer, bydd angen pennu dyddiad terfynol er mwyn sicrhau na cheir sefyllfa lle y byddai, fel arall, angen cynnal is-etholiad ddiwrnodau’n unig cyn i’r prif gynghorau lleol presennol gael eu diddymu. Byddai hynny’n wastraff arian ac adnoddau eraill.

554.Gallai rheoliadau uno hefyd gynnwys darpariaeth i ddatgymhwyso neu addasu (mewn perthynas â chyngor sy’n uno) adran 88 o Ddeddf 1972, sy’n nodi gofynion a therfynau amser ar gyfer llenwi swydd cadeirydd sy’n digwydd dod yn wag mewn prif gyngor. Ni fyddai fawr o ddiben cynnal cyfarfod arbennig o gyngor sy’n uno i lenwi swydd o’r fath pe byddai’n digwydd o fewn ychydig wythnosau i ddiddymu’r cyngor.

555.Mae adran 127(2)(c) hefyd yn galluogi rheoliadau uno i wneud darpariaeth ar gyfer cynnal is-etholiadau, llenwi swyddi sy’n digwydd dod yn wag etc. mewn cynghorau cysgodol; byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, drefniadau ar gyfer pennu’r swyddog canlyniadau ar gyfer is-etholiadau yn y cyfnod hyd nes y bydd y cyngor cysgodol wedi penodi ei swyddog canlyniadau ei hun.

556.Mae etholiadau cyffredin i gynghorau cymuned fel rheol yn cael eu cyfuno ag etholiadau cyffredin i brif gynghorau at ddibenion effeithlonrwydd. Mae is-adran (2)(d) yn galluogi etholiadau cynghorau cymuned i gael eu gohirio, a gellid ei defnyddio i sicrhau eu bod yn cyd-daro â dyddiad yr etholiadau cyffredin cyntaf i’r prif gyngor newydd.

557.Mae is-adran (3) yn galluogi rheoliadau uno i bennu pwy fydd yn gyfrifol am amrywiol drefniadau’r etholiadau cyntaf i’r cyngor newydd a chyfarfod cyntaf y cyngor newydd. Gan amlaf, caiff y trefniadau eu rhannu rhwng y cynghorau sy’n uno a’u swyddogion, ond os oes angen caiff y rheoliadau ddarparu y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo prif gyngor (o dan is-adran (4)) o ran penodi swyddog canlyniadau.

Adran 128 - Dyletswydd ar gynghorau sy’n uno i hwyluso trosglwyddo effeithiol

558.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar gynghorau sy’n uno i gymryd pob cam rhesymol i hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff etc. er mwyn rhoi effaith i’r uno. Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno i gymryd camau neu i beidio â chymryd camau mewn perthynas â chyflawni ei ddyletswydd o dan yr adran hon.

Pennod 2: Ailstrwythuro Prif Ardaloedd
Adran 129 – Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau ailstrwythuro

559.Mae adran 129 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer ailstrwythuro prif gynghorau. Mae’r adran hon hefyd yn nodi’r amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ailstrwythuro.

560.Fel a nodir yn adran 131, bydd rheoliadau ailstrwythuro yn darparu ar gyfer diddymu prif gyngor a’i sir neu ei fwrdeistref sirol a hefyd-

561.Yr amod cyntaf a osodir gan adran 129 yw bod rhaid bod Gweinidogion Cymru wedi cael naill ai adroddiad ar arolygiad arbennig o brif gyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 95 o’r Ddeddf (yn ymwneud â materion sy’n gysylltiedig â pherfformiad y cyngor neu’r modd y’i llywodraethir), neu gais i ddiddymu a gyflwynwyd gan brif gyngor o dan adran 130 o’r Ddeddf.

562.Nid yw’n ofynnol bod arolygiad arbennig wedi ei gynnal o unrhyw gyngor arall y gallai’r rheoliadau ailstrwythuro effeithio arno, nac ychwaith bod cais i ddiddymu wedi ei wneud gan y cyngor hwnnw.

563.Ni fydd cael adroddiad ar arolygiad arbennig neu gais i ddiddymu ynddo’i hun yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddechrau proses sy’n arwain at reoliadau ailstrwythuro.

564.Bydd angen i Weinidogion Cymru ystyried cynnwys yr adroddiad neu’r cais a defnyddio unrhyw dystiolaeth a gwybodaeth arall sy’n briodol ac sydd ar gael iddynt cyn symud ymlaen i’r cam nesaf. Ni fydd pob adroddiad ar arolygiad arbennig yn codi pryderon sy’n peri i’r Gweinidogion ystyried rheoliadau ailstrwythuro fel opsiwn; bydd yn dibynnu’n llwyr ar amgylchiadau’r prif gyngor o dan sylw.

565.Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r broses o wneud rheoliadau ailstrwythuro, rhaid iddynt gydymffurfio â’r ail amod. Yr ail amod yw bod rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r cynghorau yr effeithir arnynt eu bod wedi cael adroddiad ar arolygiad arbennig neu gais i ddiddymu.

566.Y cynghorau yr effeithir arnynt yw’r prif gyngor a oedd yn destun yr adroddiad ar arolygiad arbennig neu a gyflwynodd y cais i ddiddymu ac unrhyw brif gyngor arall y gallai unrhyw gynnig i ailstrwythuro’r prif gyngor o dan sylw effeithio arno. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad o’r fath.

567.Y trydydd amod yw bod rhaid i Weinidogion Cymru (os ydynt yn dymuno bwrw ymlaen) ymgynghori wedyn â phersonau penodedig ynglŷn â’r camau y maent yn ystyried eu cymryd mewn perthynas â’r cyngor o dan sylw.

568.Nodir y personau y mae rhaid ymgynghori â hwy yn yr adran ac maent yn cynnwys y prif gyngor a oedd yn destun yr adroddiad ar arolygiad arbennig neu a gyflwynodd y cais i ddiddymu (y cyfeirir ato fel “y cyngor sydd o dan ystyriaeth”), a chynghorau eraill yr effeithir arnynt o bosibl.

569.Y pedwerydd amod yw bod rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cynnal ymgynghoriad o’r fath, ac ar ôl pwyso a mesur yr holl dystiolaeth a’r holl wybodaeth, ddod i’r casgliad nad yw llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn debygol o gael ei chyflawni gan y cyngor sydd o dan ystyriaeth cyn y cânt gynnig y dylid gwneud rheoliadau ailstrwythuro mewn perthynas â’r cyngor.

570.Os bodlonir pob un o’r amodau uchod, caiff Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen i gydymffurfio â’r pumed amod.

571.Y pumed amod yw bod rhaid i Weinidogion Cymru, os ydynt yn bwriadu gwneud rheoliadau ailstrwythuro, roi hysbysiad am y cynigion hynny i’r cyngor sydd o dan ystyriaeth ac:

572.Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â phob amod cyn gwneud rheoliadau ailstrwythuro.

Adran 130 – Ceisiadau i ddiddymu

573.Mae adran 130 yn galluogi prif gyngor i gyflwyno cais ysgrifenedig (“cais i ddiddymu”) i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried diddymu’r cyngor a’i ardal. Rhaid i’r cais i ddiddymu nodi rhesymau’r cyngor dros wneud y cais a rhaid i’r cyngor ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

574.Mae is-adran (4) yn datgymhwyso adran 101 o Ddeddf 1972 (sy’n caniatáu i brif gyngor wneud trefniadau i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog i’r cyngor neu gan unrhyw brif gyngor arall) mewn perthynas â’r swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.

575.Mae is-adran (5) yn darparu bod gwneud cais i ddiddymu yn swyddogaeth na chaiff gweithrediaeth y prif gyngor ei chyflawni. Felly, dim ond y cyngor llawn o dan sylw gaiff wneud cais i ddiddymu. Os oes gan y cyngor faer sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol, bydd gan y maer hawl i gymryd rhan yn unrhyw gyfarfod o’r cyngor i gymeradwyo’r cais i ddiddymu, a phleidleisio ynddo.

Adran 131 – Rheoliadau ailstrwythuro

576.Mae adran 131 yn darparu y bydd rheoliadau ailstrwythuro yn darparu ar gyfer diddymu’r prif gyngor sydd o dan ystyriaeth a’i brif ardal (hynny yw, cyngor y mae’r pum amod yn adran 129 wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef, a’r sir neu’r fwrdeistref sirol y mae’n gyngor ar ei chyfer) ar ddyddiad a bennir yn y rheoliadau (“y dyddiad trosglwyddo”).

577.Bydd y rheoliadau yn pennu’r newidiadau i’r strwythurau llywodraeth leol a fydd yn arwain at ddisodli ardal y prif gyngor o dan sylw, a rhaid i’r rheini (fel a nodir uchod mewn perthynas ag adran 129) fod ar ffurf y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau:

(a)

bod rhannau o’r brif ardal a ddiddymir ar y dyddiad trosglwyddo yn dod yn rhannau o brif ardaloedd eraill sy’n bodoli eisoes;

(b)

bod prif ardal newydd yn cael ei chyfansoddi ar y dyddiad trosglwyddo drwy-

  • ddiddymu un neu ragor o brif gynghorau eraill a’u prif ardaloedd, ac

  • uno’r brif ardal neu’r prif ardaloedd a ddiddymir ag ardal gyfan neu ran o ardal y prif gyngor sydd o dan ystyriaeth (a ddiddymir yn ogystal).

Adran 132 – Rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu bod rhan o brif ardal i ddod yn rhan o brif ardal arall sy’n bodoli eisoes

578.Os yw rheoliadau ailstrwythuro yn cynnwys darpariaeth sydd, i bob pwrpas, yn trosglwyddo rhan neu rannau o’r brif ardal sydd o dan ystyriaeth i brif ardal arall sy’n bodoli eisoes, rhaid i’r rheoliadau gynnwys y ddarpariaeth a nodir yn is-adran (1) o’r adran hon.

579.Mae is-adran (1)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheoliadau ddarparu mai’r system bleidleisio sydd i’w defnyddio yn yr etholiadau cyffredin cyntaf ar ôl y dyddiad trosglwyddo fydd y system sydd i’w defnyddio mewn etholiadau i brif gyngor yr ardal y trosglwyddwyd y rhan neu’r rhannau o’r cyngor a ddiddymwyd iddi. Mewn geiriau eraill, ni fydd unrhyw newid i’r system bleidleisio mewn prif ardal y mae rhan o brif ardal a ddiddymwyd yn cael ei hychwanegu ati.

580.Mae is-adran (2) yn rhestru’r materion y caniateir eu cynnwys mewn rheoliadau ailstrwythuro sy’n ymwneud â throsglwyddo rhan neu rannau o’r ardal sydd o dan ystyriaeth i brif ardal arall sy’n bodoli eisoes. Bydd pa un a gaiff y materion a restrir yn is-adran (2) eu cynnwys mewn rheoliadau ailstrwythuro ai peidio yn dibynnu ar amgylchiadau’r ailstrwythuro. Gallant gynnwys neilltuo cynghorwyr ardal a drosglwyddwyd i gyngor y brif ardal sy’n derbyn; byddai hynny’n galluogi’r ardal a drosglwyddwyd i gael cynrychiolaeth ar gyngor yr ardal sy’n derbyn tan yr etholiadau cyffredin nesaf, ac erbyn hynny bydd digon o amser wedi bod i adolygu trefniadau etholiadol yr ardal dderbyn fwy (gweler adran 138 ac Atodlen 1).

581.Mae is-adrannau (2)(b) i (h) yn galluogi rheoliadau ailstrwythuro i wneud darpariaeth ynghylch amryw o faterion sy’n ymwneud ag etholiadau, gweithrediaethau, cyfnodau swyddi a chydnabyddiaeth ariannol mewn cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro.

582.Y cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro yw’r cyngor sydd o dan ystyriaeth a’r cynghorau hynny a fydd yn derbyn rhan o ardal y cyngor hwnnw neu’n uno â’r ardal gyfan honno neu â rhan ohoni.

583.Er enghraifft, efallai y bydd angen canslo etholiadau cyffredin yn yr ardal sy’n cael ei diddymu, gohirio etholiadau cyffredin yn un neu ragor o’r ardaloedd sy’n derbyn ac estyn cyfnodau swyddi cynghorwyr sy’n gwasanaethu ar y cynghorau. Os oes gan gyngor sy’n cael ei ddiddymu faer sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol efallai y bydd angen estyn cyfnod ei swydd fel ei bod yn dod i ben ar y dyddiad trosglwyddo; os oes gan gyngor sy’n derbyn faer sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol, efallai y bydd angen ailddiffinio ardal ei awdurdodaeth er mwyn darparu ar gyfer y rhannau newydd o ardal y cyngor ac efallai y bydd hefyd yn briodol ystyried y trefniadau o ran cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig y cynghorau.

584.Efallai y bydd yn briodol mewn rhai amgylchiadau i newid enw a statws ardal sy’n derbyn er mwyn cydnabod hefyd enw a statws yr ardal y trosglwyddwyd y rhan sy’n cael ei derbyn ohoni (gweler is-adran (2)(i) a (j) ynghylch hynny).

Adran 133 – Rheoliadau ailstrwythuro sy’n cyfansoddi prif ardal newydd

585.Os yw rheoliadau ailstrwythuro yn cynnwys darpariaeth sy’n golygu creu prif ardal newydd (yn rhinwedd diddymu un neu ragor o brif ardaloedd eraill a’i huno neu eu huno ag ardal gyfan neu ran o’r ardal sydd o dan ystyriaeth), rhaid i’r rheoliadau gynnwys y ddarpariaeth a nodir yn is-adran (1) o’r adran hon. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd nid yn unig y brif ardal sydd o dan ystyriaeth yn cael ei diddymu, ond hefyd unrhyw brif ardal arall neu brif ardaloedd eraill y bydd ardal gyfan neu ran o ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth yn uno â hi neu â hwy.

586.Rhaid bod gan yr ardal newydd gyngor cysgodol, ac mae is-adran (1)(e) yn darparu y bydd y cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol etholedig, ond mae is-adran (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried bod hynny’n briodol, i ddarparu y bydd y cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol dynodedig.

587.Mae is-adran (7) yn diffinio’r ddau fath o gyngor cysgodol y darperir ar eu cyfer.

Adran 134 – Rheoliadau ailstrwythuro: atodol

588.Mae adran 134 yn galluogi rheoliadau ailstrwythuro i gynnwys darpariaeth atodol i’r hyn a nodir yn adrannau 132 a 133 i helpu i roi effaith i ailstrwythuro o unrhyw ddisgrifiad.

589.Mae is-adran (1) yn galluogi rheoliadau ailstrwythuro i gymhwyso darpariaeth benodedig sy’n gymwys i uno gwirfoddol, fel a nodir mewn rhannau eraill o’r Ddeddf.

590.Mae is-adran (1)(a) yn caniatáu teilwra o’r fath ar y darpariaethau ym Mhennod 4 o’r Rhan hon (trefniadau cydnabyddiaeth ariannol (gweler isod)) fel eu bod yn briodol ar gyfer amgylchiadau ailstrwythuro sy’n golygu creu prif ardal newydd (fel y darperir ar ei gyfer dan adran 131(b)), ac yn ymarferol o dan yr amgylchiadau hynny.

591.Mae is-adrannau (1)(b) ac (1)(c) yn galluogi rheoliadau ailstrwythuro i gynnwys darpariaeth sy’n teilwra’r ddarpariaeth a nodir yn adran 127 (etholiadau a chynghorwyr) a pharagraffau 2 a 3 o Atodlen 11 (aelodaeth a swyddogaethau pwyllgorau pontio (gweler isod)) fel y gellir eu gwneud yn briodol ar gyfer amgylchiadau ailstrwythuro o bob math, ac yn ymarferol o dan yr amgylchiadau hynny.

592.Nid yw’r disgresiwn a roddir yn adran 134(1) i deilwra darpariaeth arall yn galluogi’r rheoliadau i gynnwys darpariaeth gwbl newydd; rhaid bod bwriad iddi gyflawni’r un amcanion sylfaenol â’r ddarpariaeth a nodir yn yr adrannau a bennwyd, ac unig fwriad unrhyw addasiadau etc. yw darparu ar gyfer amgylchiadau’r ailstrwythuro o dan sylw.

593.Mae is-adran (2) yn galluogi rheoliadau ailstrwythuro i gynnwys darpariaeth i sefydlu pwyllgor (neu gorff arall) i ddarparu cyngor ac argymhellion i bersonau penodedig ynghylch trosglwyddo (o un prif gyngor i un arall) swyddogaethau a rhwymedigaethau etc..

594.Gallai fod angen pwyllgor o’r fath mewn amgylchiadau pan fo rheoliadau ailstrwythuro’n diddymu prif gyngor ac yn rhannu ei ardal ymhlith nifer o brif gynghorau eraill sy’n bodoli eisoes. Efallai na fyddai pwyllgor pontio fel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 11 (fel a gâi ei sefydlu pan fo prif ardal newydd yn cael ei chreu) yn ymarferol, a gellid sefydlu pwyllgor (a allai gynnwys y cyngor a ddiddymwyd a’r holl gynghorau sy’n derbyn) o dan y ddarpariaeth hon er mwyn ystyried yr holl faterion perthnasol.

595.Mae is-adran (2) hefyd yn galluogi rheoliadau ailstrwythuro i gynnwys darpariaeth i sefydlu corff corfforedig a chanddo’r cyfrifoldebau a’r pwerau a ddisgrifir ym mharagraff (b). Ni fyddai angen corff o’r fath (a elwir yn ymarferol yn “pwyllgor gweddilliol”) pan fo ardal y prif gyngor sydd o dan ystyriaeth yn uno’n gyfan gwbl ag ardal prif gyngor arall i greu prif ardal, a phrif gyngor, newydd. Yn achos ailstrwythuro pan fo ardal y cyngor sydd o dan ystyriaeth yn cael ei rhannu rhwng dau neu ragor o brif gynghorau eraill, ni fyddai’n hawdd bob amser pennu’r cyngor olynol priodol. Gellid sefydlu corff gweddilliol i gymryd meddiant o eiddo dros ben a’i waredu.

596.Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori o dan adran 129(4) neu ar ôl cael cais i ddiddymu, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau ailstrwythuro, rhaid iddynt hysbysu’r holl brif gynghorau sydd wedi bod yn rhan o’r broses hyd at yr adeg honno.

597.Mae is-adran (4) yn darparu i bob pwrpas, wrth bennu’r system bleidleisio sydd i’w defnyddio yn yr etholiadau cyffredin cyntaf i brif gyngor newydd a sefydlir o dan reoliadau ailstrwythuro, mai dim ond y system mwyafrif syml neu’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy y caiff y rheoliadau ailstrwythuro eu pennu.

598.Mae’r dewis o systemau pleidleisio yn adlewyrchu’r systemau a nodir yn adran 7 o’r Ddeddf hon. O dan adran 175(6), mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r dewis o system bleidleisio yn dod i rym ar 6 Mai 2022 (y diwrnod ar ôl y dyddiad a drefnwyd ar gyfer cynnal yr etholiadau cyffredin llywodraeth leol cyntaf ar ôl i’r Ddeddf gael ei phasio).

599.Os bydd Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad am eu cynigion mewn perthynas ag ailstrwythuro o dan adran 129(6) cyn i’r darpariaethau ynglŷn â dewis system bleidleisio ddod i rym, rhaid cynnal etholiadau cyntaf y cyngor newydd gan ddefnyddio’r system mwyafrif syml (is-adran (5)).

Adran 135 - Dyletswydd ar gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i hwyluso trosglwyddo

600.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i gymryd pob cam rhesymol i hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff etc. er mwyn rhoi effaith i’r ailstrwythuro. Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i gymryd camau neu i beidio â chymryd camau mewn perthynas â chyflawni ei ddyletswydd o dan yr adran hon.

Pennod 3: Swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag uno ac ailstrwythuro
Adran 136 ac Atodlen 11 - Pwyllgorau pontio

601.Mae adran 136 yn cyflwyno Atodlen 11, sy’n gwneud darpariaeth ynglŷn â sefydlu pwyllgorau pontio ar gyfer awdurdodau sy’n uno ac awdurdodau sy’n cael eu hailstrwythuro.

Rhan 1 o Atodlen 11: Cynghorau sy’n uno

Paragraff 1 – Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

602.Yn union ar ôl gwneud cais i uno yn wirfoddol, rhaid i’r cynghorau sy’n gwneud cais (“y cynghorau sy’n uno”) sefydlu pwyllgor pontio.

Paragraff 2 – Aelodaeth pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

603.Rhaid i bwyllgor pontio gynnwys nifer cyfartal o aelodau etholedig o’r cynghorau sy’n uno, ac o leiaf 5 aelod o bob cyngor. Rhaid i brif aelod gweithrediaeth (hynny yw, yr arweinydd gweithrediaeth, neu’r maer a etholwyd yn uniongyrchol os oes gan y cyngor un) pob un o’r cynghorau sy’n uno fod yn aelod o’r pwyllgor pontio.

604.Rhaid i’r aelod gweithrediaeth sy’n gyfrifol am gyllid mewn cyngor sy’n uno (a all hefyd fod yn arweinydd gweithrediaeth) hefyd gael ei benodi i’r pwyllgor pontio.

605.Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor, ond nid oes gan gyfetholedigion yr hawl i bleidleisio. Rhaid i aelodaeth cyngor sy’n uno o bwyllgor pontio adlewyrchu’r cydbwysedd gwleidyddol o fewn y cyngor sy’n uno, yn unol â’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 i Ddeddf 1989.

Paragraff 3 – Swyddogaethau pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno

606.Rhaid i bwyllgor pontio roi cyngor ac argymhellion i’r cynghorau a’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd ar y materion a bennir ym mharagraff 3(1). Diben hyn yw sicrhau bod y pwyllgor pontio yn helpu i nodi’r materion y mae angen ymdrin â hwy wrth bontio o’r hen gynghorau i’r cyngor newydd, a’i fod yn gwneud argymhellion er mwyn ymdrin â’r materion a nodir.

607.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo pwyllgor pontio i roi cyngor ac argymhellion iddynt.

Rhan 2 o Atodlen 11: Cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

Paragraff 4 – Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

608.Ar ôl rhoi hysbysiad o dan adran 129(6) eu bod yn bwriadu ailstrwythuro prif gynghorau penodedig, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cynghorau i sefydlu pwyllgor pontio; caiff Gweinidogion Cymru bennu swyddogaethau ac aelodaeth y pwyllgor pontio yn y cyfarwyddyd.

Rhan 3 o Atodlen 11: Pwyllgorau pontio cynghorau sy’n uno a chynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

Paragraff 5 – Is-bwyllgorau i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

609.Mae paragraff 5 yn galluogi pwyllgor pontio (boed hwnnw’n bwyllgor a sefydlwyd o dan Ran 1 neu o dan Ran 2 o’r Atodlen hon) i sefydlu un is-bwyllgor neu ragor er mwyn cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion y mae’r pwyllgor pontio yn eu hatgyfeirio iddo. Ni fydd gan unrhyw un a benodir i is-bwyllgor nad yw’n aelod etholedig o un o’r cynghorau sy’n uno neu’n cael eu hailstrwythuro yr hawl i bleidleisio ar faterion sy’n dod gerbron yr is-bwyllgor.

Paragraff 6 – Darparu cyllid, cyfleusterau a gwybodaeth i bwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro

610.Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro dalu costau’r pwyllgor pontio. Os nad yw’r cynghorau yn gallu cytuno ar ddosraniad y costau rhyngddynt, bydd Gweinidogion Cymru yn dyfarnu ar y gyfran o’r gost y bydd pob cyngor yn ei thalu.

611.Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’n cael eu hailstrwythuro ddarparu cyfleusterau ac adnoddau, gan gynnwys staff a gwybodaeth, i’r pwyllgor os yw’r pwyllgor, neu unrhyw un neu ragor o’i is-bwyllgorau, yn gwneud cais rhesymol amdanynt.

Paragraff 7 - Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro: darpariaeth bellach

612.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo pwyllgor pontio i arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd, ac o dan adran 172 rhaid i bwyllgor pontio gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir.

613.Ni chaiff pwyllgor archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad ag unrhyw beth a wneir gan y pwyllgor pontio.

614.Yn gyffredinol, ni fydd gan y pwyllgorau pontio y pŵer i wneud penderfyniadau ar faterion polisi, materion strategol na materion gweithredol mewn perthynas â chyngor newydd na chyngor presennol; eu swyddogaeth fydd cynghori a gwneud argymhellion (ac mewn perthynas â chynghorau sy’n uno mae paragraff 3 yn nodi eu swyddogaethau yn benodol). Gall y pwyllgorau archwilio a chraffu perthnasol ystyried unrhyw benderfyniadau a wneir gan y cynghorau presennol yng ngoleuni cyngor neu argymhellion gan y pwyllgorau pontio.

Adran 137 ac Atodlen 12 – Cyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio

615.Mae adran 137 yn cyflwyno Atodlen 12, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i osod cyfyngiadau a rheolaethau penodol ar weithgareddau penodedig cynghorau sy’n uno a chynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro.

Paragraff 1 - Cyfyngu ar drafodiadau a recriwtio etc. drwy gyfarwyddyd

616.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro i beidio ag ymgymryd â “gweithgaredd cyfyngedig” heb ystyried barn person a bennir yn y cyfarwyddyd, neu (yn ôl y digwydd) heb gael cydsyniad ysgrifenedig person a bennir yn y cyfarwyddyd. Y personau y caniateir eu pennu yn y cyfarwyddyd yw’r personau hynny (gan gynnwys awdurdodau) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol eu pennu, a gaiff gynnwys Gweinidogion Cymru eu hunain, pwyllgorau pontio a phwyllgorau cysgodol (gweler paragraff 2(2)).

617.Mae paragraff 1(2) yn disgrifio’r gweithgareddau cyfyngedig y gellir dyroddi cyfarwyddydau yn eu cylch o dan yr Atodlen hon.

618.Mae paragraff 1(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n ceisio penodi neu ddynodi person i “swydd gyfyngedig” i gydymffurfio â gofynion penodedig ynglŷn â’r penodiad neu’r dynodiad; nodir y “swyddi cyfyngedig” ym mharagraff 1(4).

619.Mae paragraff 1(5) yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro ddarparu manylion ynglŷn â chynnig i gyflawni gweithgaredd cyfyngedig i’r person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1), a darparu manylion i Weinidogion Cymru ynglŷn â chynnig i benodi neu ddynodi person i swydd gyfyngedig pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan is-baragraff (3).

620.Mae paragraff 1(6) yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro gyhoeddi ei resymau dros benderfynu bwrw ymlaen â gweithgaredd cyfyngedig pan fo’r person a bennir mewn cyfarwyddyd sy’n gosod y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) wedi rhoi barn na fyddai’n briodol i’r cyngor sy’n uno neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro wneud hynny.

Paragraff 2 - Cyfarwyddydau o dan baragraff 1: atodol

621.Mae paragraff 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch beth y caniateir ei gynnwys mewn cyfarwyddyd o dan baragraff 1. Yn benodol, mae is-baragraff (3) yn galluogi teilwra cyfarwyddyd o dan baragraff 1 fel y gellir pennu personau gwahanol at ddibenion darparu barn neu gydsyniad mewn perthynas â materion gwahanol.

622.O dan is-baragraff (4), gall cyfarwyddydau hefyd ddarparu gofynion gwahanol mewn perthynas â gwerthoedd gwahanol o’r un gweithgareddau cyfyngedig; er enghraifft, gallai’r cyfarwyddyd ddarparu bod angen cydsyniad cyngor cysgodol ar gyfer pryniannau tir o werth is ond bod angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer pryniannau o werth uwch.

Paragraff 3 - Cyfarwyddydau o dan baragraff 1: darpariaeth bellach ynglŷn â chronfeydd wrth gefn

623.Mae paragraff 3 yn golygu y caiff cyfarwyddyd o dan baragraff 1 ganiatáu i gyngor, heb farn neu gydsyniad (yn ôl y digwydd) y person a bennir yn y cyfarwyddyd, gynnwys yn y cyfrifiad gorfodol o ofynion cyllideb y cyngor-

Paragraff 4 - Cyfarwyddyd o dan baragraff 1(3): atodol

624.Mae paragraff 4 yn galluogi cyfarwyddyd o dan baragraff 1(3) (ynglŷn â swyddi cyfyngedig) i gael ei deilwra fel y gellir pennu gofynion gwahanol ar gyfer swyddi o ddisgrifiadau gwahanol o fewn yr un cyngor. Caiff y gofynion ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol a hyd unrhyw benodiad neu ddynodiad ar gyfer person.

Paragraff 5 - Cyfarwyddydau: canlyniadau mynd yn groes iddynt

625.Mae paragraff 5 yn nodi canlyniadau methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddir o dan baragraff 1:

Paragraff 6 - Dehongli paragraffau 1 a 7

626.Mae paragraff 6 yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch y termau a ddefnyddir yn yr Atodlen, gan gynnwys o ran natur y gweithgareddau cyfyngedig a bennir ym mharagraff 1. Mae’n nodi’r trothwyon ariannol gofynnol mewn perthynas â’r gweithgareddau hynny; nid yw gweithgaredd sydd o dan y trothwyon hynny yn “gweithgaredd cyfyngedig” felly ni ellir ei reoli o dan gyfarwyddyd o dan baragraff 1.

627.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r trothwyon a nodir yn y paragraff hwn drwy reoliadau.

Paragraff 7 - Dyfarnu a yw trothwyon ariannol wedi eu croesi

628.Mae paragraff 7 yn nodi materion amrywiol sydd i’w hystyried wrth ddyfarnu a yw’r trothwyon ariannol wedi eu croesi. Maent yn cynnwys, er enghraifft, gofyniad i ystyried nid yn unig y caffaeliad tir o dan sylw, ond hefyd gaffaeliadau tir eraill a ddigwyddodd o fewn amserlen gysylltiedig ac sy’n ymwneud â’r un mater â’r caffaeliad o dan sylw, neu fater tebyg. Bwriad y gofynion hyn yw gwarchod rhag sefyllfa lle y mae cynghorau yn hollti caffaeliadau etc. er mwyn gostwng eu gwerth fel eu bod islaw’r trothwyon ariannol ym mharagraff 6, ac felly’n osgoi gorfod cydymffurfio â gofynion cyfarwyddyd o dan baragraff 1.

Paragraff 8 - Trothwyon ariannol: darpariaeth bellach

629.Mae’r paragraff hwn yn darparu, os bydd anghytuno ynglŷn ag a yw trothwy wedi ei groesi ai peidio, mai Gweinidogion Cymru a fydd yn penderfynu ar y mater. Mae hefyd yn darparu, pan fo trafodiad cyfan neu ran o’r trafodiad yn ymwneud â chydnabyddiaeth (hynny yw, budd y mae un parti i’r trafodiad yn addo ei roi i barti arall, mewn perthynas â’r trafodiad) nad yw ar ffurf arian, bod gwerth y gydnabyddiaeth yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r trothwyon ariannol ym mharagraff 6.

Paragraff 9 - Canllawiau mewn perthynas â thrafodiadau, recriwtio etc.

630.Os yw Gweinidogion Cymru yn dyroddi canllawiau ynglŷn â’r materion sydd yn yr Atodlen hon, rhaid i’r person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan baragraff 1 roi sylw i’r canllawiau hynny.

631.Mae prif gynghorau yn ddarostyngedig i ddyletswydd i roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 146, a gall y canllawiau hynny ymdrin â’r materion a nodir ym mharagraff 9(1).

Adran 138 - Adolygiadau o drefniadau etholiadol

632.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal “adolygiad cychwynnol” o’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardaloedd sy’n destun cais i uno, neu gynnig i ailstrwythuro.

633.Os yw’r adolygiad yn ymwneud ag ailstrwythuro sy’n golygu trosglwyddo rhan o ardal sydd i’w diddymu i brif ardal arall, rhaid i’r cyfarwyddyd bennu’r ardal a fydd yn destun yr adolygiad cychwynnol (oherwydd efallai na fydd angen cynnwys yr ardal dderbyn gyfan yn yr adolygiad). Caiff cyfarwyddyd ar gyfer adolygiad cychwynnol o ardaloedd o’r fath bennu hefyd nad yw materion penodol a nodir ym mharagraff 3(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf (a fyddai’n cael eu hystyried fel arfer mewn adolygiad cychwynnol o brif ardal gyfan) i’w hystyried mewn adolygiad o ardal fwy cyfyngedig.

634.Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu’r system bleidleisio y mae’r trefniadau etholiadol i’w hadolygu mewn perthynas â hi.

635.Mae’r adran hon (ynghyd ag adran 11) yn cyflwyno Atodlen 1 (gweler paragraffau 63 i 94 o’r Nodiadau hyn yn ei chylch) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal adolygiad cychwynnol gan y Comisiwn mewn cysylltiad ag uno ac ailstrwythuro (yn ogystal ag mewn perthynas â newidiadau i’r system bleidleisio mewn ardal nad yw’n destun uno neu ailstrwythuro).

636.Mae is-adran (6) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 29(3) o Ddeddf 2013 drwy reoliadau. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ailosod dechrau’r cyfnod adolygu o 10 mlynedd pan fo rhaid i’r Comisiwn gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol pob un o brif gynghorau Cymru. Dechreuodd y cylchoedd adolygu 10 mlynedd ar 30 Medi 2013, pan ddaeth adran 29(3) o Ddeddf 2013 i rym.

Adran 139 - Gwahardd gwneud newidiadau i drefniadau gweithrediaeth

637.Ar ôl cael cais i uno’n wirfoddol neu ar ôl rhoi hysbysiad ynglŷn â chynnig i ailstrwythuro o dan adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro na chânt gymryd unrhyw gamau i newid eu trefniadau gweithrediaeth (gan gynnwys cynnal refferendwm ar gynnig i newid y trefniadau hynny) hyd nes y bo’r rheoliadau uno neu’r rheoliadau ailstrwythuro wedi dod i rym neu hyd nes y bo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad i’r prif gynghorau o dan sylw nad ydynt yn bwriadu gwneud rheoliadau o’r fath.

638.Pan fo cyfarwyddyd mewn grym, nid yw cyngor yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd a osodir gan ddeddfiad arall, neu oddi tano, i gymryd camau i newid ffurf ei weithrediaeth. Felly, er enghraifft, ni fyddai’n ofynnol, o dan unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 34 o Ddeddf 2000, i gyngor sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o’r fath weithredu mewn ymateb i ddeiseb yn galw am refferendwm ar gynnig i gyflwyno maer sydd wedi ei ethol yn uniongyrchol.

Adran 140 - Gofyniad ar brif gynghorau i ddarparu gwybodaeth etc. i Weinidogion Cymru

639.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw brif gyngor sy’n gysylltiedig ag uno gwirfoddol neu ailstrwythuro i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau i Weinidogion Cymru sy’n ymwneud ag uno neu ailstrwythuro posibl neu uno neu ailstrwythuro sy’n mynd rhagddo.

Adran 141 - Gofyniad ar brif gynghorau i ddarparu gwybodaeth etc. i gyrff eraill

640.Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw brif gyngor sy’n gysylltiedig ag uno gwirfoddol neu ailstrwythuro i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sy’n ymwneud ag uno neu ailstrwythuro posibl neu uno neu ailstrwythuro sy’n mynd rhagddo i’r cyrff a bennir yn yr adran hon.

Pennod 4: Trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer prif gynghorau newydd

641.Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau cydnabyddiaeth ariannol prif gynghorau newydd (gan gynnwys cynghorau cysgodol) a sefydlir o dan y Rhan hon, gan gyfeirio at y trefniadau presennol y mae’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn arfer swyddogaethau oddi tanynt o dan Ran 8 o Fesur 2011. Mae cyfrifoldeb statudol ar y Panel i bennu ystod a lefel y lwfansau a delir i aelodau etholedig prif awdurdodau lleol ac mewn perthynas â chyflogau prif weithredwyr prif gynghorau.

Adran 142 - Cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

642.Mae adran 142 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Panel i gyflawni’r “swyddogaethau perthnasol” mewn perthynas â chynghorau cysgodol, a phrif gynghorau newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi (hynny yw, y dyddiad y mae’r cyngor cysgodol yn ysgwyddo holl swyddogaethau prif gyngor ac yn disodli’r cynghorau sy’n uno neu’n cael eu hailstrwythuro a ddiddymir).

643.Y swyddogaethau perthnasol yw’r rhai a nodir yn adran 142 o Fesur 2011 (sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau etholedig) ac adran 143 o Fesur 2011 (pensiynau aelodau etholedig).

644.Rhaid i’r Panel ddilyn y gweithdrefnau a nodir yn Rhan 8 o Fesur 2011 (ac eithrio adran 143A o’r Mesur hwnnw) yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn is-adran (4) o’r adran hon, sy’n addasu ac yn datgymhwyso agweddau ar Ran 8 o Fesur 2011.

645.Mae is-adran (4)(a) yn darparu bod y cyngor cysgodol yn “awdurdod perthnasol” at ddibenion Rhan 8 o Fesur 2011; diffinnir “awdurdod perthnasol” yn adran 144(2) o Fesur 2011. Mae is-adran (4)(b) yn ymwneud â’r gofynion yn adrannau 147 a 148 o Fesur 2011 sy’n nodi erbyn pa ddyddiadau y mae rhaid i’r Panel gyhoeddi ei adroddiad blynyddol a fersiynau drafft o’r adroddiad blynyddol.

646.Fel a nodir uchod, y dyddiad trosglwyddo ar gyfer prif gyngor newydd fydd 1 Ebrill yn gyffredinol, ond bydd yr adroddiad blynyddol a’r adroddiad blynyddol drafft lle y bydd y Panel yn nodi ei benderfyniadau ar gyfer blwyddyn gyntaf y cyngor hwnnw yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd cyn i’r trosglwyddo ddigwydd. Mae is-adran (4)(b) yn golygu y caiff y Panel, yn yr amgylchiadau hyn, wneud penderfyniadau mewn cysylltiad â’r “darpar gyngor” cyn iddo gael ei sefydlu, fel pe bai eisoes wedi ei sefydlu.

647.Bydd is-adran (5) yn caniatáu i’r Panel ymdrin â’r amgylchiadau pan fo cyngor cysgodol dynodedig wedi dod yn gyngor y breiniwyd pwerau llawn ynddo ar y dyddiad trosglwyddo (1 Ebrill bron bob tro) ac nad yw’r cyngor etholedig ar gyfer yr ardal newydd yn ei ddisodli hyd nes y cynhelir yr etholiadau cyffredin cyntaf, ym mis Mai yn yr un flwyddyn fwy na thebyg. Mae is-adran (5) yn galluogi’r Panel, wrth wneud penderfyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol gyntaf yr awdurdod newydd, i wneud penderfyniadau gwahanol ar gyfer y cyfnodau cyn ac ar ôl y set gyntaf o etholiadau.

Adran 143 – Adroddiadau gan y Panel mewn perthynas â chynghorau cysgodol a phrif gynghorau newydd

648.Mae adran 143(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol gynnwys ei benderfyniadau cyntaf ar dâl a phensiynau ar gyfer aelodau o’r cyngor cysgodol mewn adroddiad y mae rhaid ei gyhoeddi erbyn dyddiad a nodir yn y cyfarwyddyd a roddir i’r Panel gan Weinidogion Cymru o dan adran 141(1).

649.Caiff yr adroddiad “cyntaf” mewn cysylltiad â’r cyngor cysgodol fod yn adroddiad blynyddol neu’n adroddiad atodol; golyga hyn y gellir cyhoeddi’r adroddiad ar adeg sy’n briodol mewn cysylltiad â sefydlu’r cyngor cysgodol, yn hytrach na bod yn gaeth i’r amserlen sy’n ofynnol o dan adran 147 o Fesur 2011. Hefyd, mae adran 148(1A)(b) o Fesur 2011 wedi ei datgymhwyso os yw’r adroddiad cyntaf yn adroddiad atodol, felly nid yw’r cyfnod ar gyfer sylwadau ar adroddiad drafft o dan yr amgylchiad hwn yn gaeth i’r cyfyngiadau yn adran 148(1A)(b), a chaniateir iddo fod mor hir ag yr ystyrir ei bod yn briodol.

650.Mae is-adran (5) yn nodi at bwy y mae rhaid i’r Panel anfon drafft o adroddiad (boed hwnnw’n adroddiad blynyddol neu atodol) sy’n ymwneud â chyngor cysgodol neu’r cyngor ar gyfer prif ardal newydd.

651.Pan fo’r adroddiad cyntaf yn adroddiad atodol, mae is-adrannau (6) i (8) yn darparu y caniateir i’r gofynion penodedig y caniateir eu gosod gan adroddiad blynyddol o dan Fesur 2011 gael eu cymhwyso gan yr adroddiad atodol yn yr achos penodol hwn.

Adran 144 – Canllawiau i’r Panel

652.Mae adran 143 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 142 a 143.

Adran 145 - Datganiadau ar bolisïau tâl

653.Mae adran 145 yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cysgodol lunio a chymeradwyo datganiad ar bolisïau tâl (fel y darperir ar gyfer hynny yn adrannau 38 a 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011) ar gyfer y cyfnodau a nodir yn is-adran (3).

654.Y diben yw sicrhau bod gan y cyngor cysgodol ddatganiad cyhoeddus sy’n cyfleu polisïau’r cyngor cysgodol ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â thâl ei weithlu yn y dyfodol, a thâl ei brif swyddogion a’i gyflogeion ar y cyflogau isaf yn arbennig.

655.Er mwyn cynorthwyo’r cyngor cysgodol, mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor pontio gyhoeddi argymhellion ynglŷn â’r datganiad ar bolisïau tâl sydd i’w lunio gan y cyngor cysgodol, yn ddim hwyrach na 6 wythnos cyn y diwrnod y mae’r cyngor cysgodol yn cael ei ethol neu ei sefydlu. Mae cynghorau cysgodol wedi eu gwahardd rhag penodi prif swyddog hyd nes y bydd y datganiad ar bolisïau tâl ar gyfer y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) wedi ei lunio a’i gymeradwyo.

656.Mae i’r term “prif swyddog” yr un ystyr ag a roddir i “chief officer” yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac mae’n cynnwys y swyddogion a ganlyn mewn prif gyngor:

(a)

ei brif weithredwr (a benodir o dan adran 54 o’r Ddeddf hon; ond hyd nes y bydd yr adran honno yn dod i rym, bydd yn cynnwys pennaeth gwasanaeth taledig prif gyngor);

(b)

swyddog monitro (a ddynodir o dan adran 5(1) o Ddeddf 1989);

(c)

prif swyddog statudol a grybwyllir yn adran 2(6) o Ddeddf 1989, hynny yw:

  • y cyfarwyddwr gwasanaethau plant;

  • y cyfarwyddwr iechyd y cyhoedd;

  • y prif swyddog addysg;

  • y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol;

  • swyddog sy’n gyfrifol am weinyddu materion ariannol yr awdurdod;

(d)

prif swyddog anstatudol a grybwyllir yn adran 2(7) o Ddeddf 1989, hynny yw:

  • person y mae’r prif weithredwr yn uniongyrchol gyfrifol amdano;

  • person y mae’n ofynnol iddo, mewn cysylltiad â’i holl ddyletswyddau neu’r rhan fwyaf ohonynt, adrodd yn uniongyrchol i’r prif weithredwr neu sy’n uniongyrchol atebol iddo;

  • unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo, mewn cysylltiad â’i holl ddyletswyddau neu’r rhan fwyaf ohonynt, adrodd yn uniongyrchol i’r awdurdod lleol ei hun neu i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor iddo, neu sy’n uniongyrchol atebol iddynt;

(e)

dirprwy brif swyddog a grybwyllir yn adran 2(8) o Ddeddf 1989, hynny yw, person y mae’n ofynnol iddo, mewn cysylltiad â’i holl ddyletswyddau neu’r rhan fwyaf ohonynt, adrodd yn uniongyrchol i un neu ragor o’r prif swyddogion statudol neu anstatudol, neu sy’n uniongyrchol atebol iddynt. Nid yw hyn yn cynnwys person y mae ei ddyletswyddau yn rhai ysgrifenyddol neu glercaidd yn unig, neu sydd fel arall o natur gwasanaethau cymorth.

657.Mae is-adran (6) yn cymhwyso adran 143A o Fesur 2011 i gynghorau cysgodol. O ganlyniad, caiff y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wneud argymhellion i gyngor cysgodol ynglŷn ag unrhyw bolisi yn natganiad y cyngor cysgodol ar bolisi tâl ac unrhyw newid arfaethedig i gyflog prif weithredwr y cyngor cysgodol.

658.Rhaid i gyngor cysgodol roi sylw i unrhyw argymhelliad gan y Panel wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 38 a 39 o Ddeddf Lleoliaeth 2011. Os yw’r cyngor cysgodol yn bwriadu gwneud newid i gyflog ei brif weithredwr nad yw’n gymesur â newid i gyflogau aelodau staff eraill y cyngor, rhaid i’r cyngor cysgodol ymgynghori â’r Panel ynglŷn â’r newid a rhoi sylw i unrhyw argymhelliad gan y Panel.

Pennod 5: Atodol
Adran 146 – Canllawiau

659.Rhaid i’r cyrff a restrir yn adran 146 roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan.

Adran 147 - Darpariaeth ganlyniadol etc. arall

660.Mae adran 147 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gynnwys mewn rheoliadau uno ac ailstrwythuro ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol (gweler is-adran (5)). Cânt hefyd wneud rheoliadau ar wahân sy’n cynnwys darpariaeth atodol etc. er mwyn rhoi effaith lawn i’r rheoliadau uno neu ailstrwythuro penodol, neu at ddibenion rheoliadau penodol neu o ganlyniad iddynt.

661.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol (hynny yw, sy’n gymwys mewn perthynas â’r holl reoliadau uno neu ailstrwythuro) am yr un rhesymau. Mae’r adran yn nodi rhai o’r pethau penodol y gellir defnyddio’r pwerau ar eu cyfer, gan gynnwys trosglwyddo staff, eiddo ac atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol) o’r awdurdodau sy’n uno neu’n cael eu hailstrwythuro i’r awdurdod neu’r awdurdodau sy’n eu holynu.

662.Mae is-adran (8) yn darparu bod Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246) (y cyfeirir yn gyffredin atynt fel “TUPE”) yn gymwys i drosglwyddiad staff a wneir o dan y rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10.

663.Mae eithrio rheoliad 4(6) TUPE yn golygu y bydd atebolrwydd cyngor a ddiddymir i gael ei erlyn, ei euogfarnu a’i ddedfrydu am unrhyw drosedd yn cael ei drosglwyddo i’r cyngor newydd. Heb y ddarpariaeth hon byddai unrhyw atebolrwydd troseddol ar ran cyngor a ddiddymir, o dan gontractau cyflogaeth neu mewn cysylltiad â hwy, a drosglwyddir i’r cyngor newydd yn diflannu pan fo’r cynghorau yn cael eu diddymu.

664.Mae eithrio rheoliad 10 TUPE yn cadw hawliau pensiwn galwedigaethol staff sy’n cael eu trosglwyddo o dan neu yn rhinwedd rheoliadau uno neu ailstrwythuro. Heb y ddarpariaeth hon, ni fyddai’r cyngor newydd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i barchu hawliau, dyletswyddau nac atebolrwyddau pensiwn o dan gontractau cyflogaeth presennol.

Adran 148 – Y weithdrefn gychwynnol ar gyfer rheoliadau ailstrwythuro

665.Mae adran 148 yn nodi gweithdrefn fanylach ar gyfer cael cymeradwyaeth Senedd Cymru i reoliadau ailstrwythuro (nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau uno).

666.Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru ddrafft arfaethedig o’r rheoliadau ailstrwythuro, eglurhad o baham y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw llywodraeth leol effeithiol a hwylus yn debygol o gael ei chyflawni yn ardal y cyngor o dan sylw oni fo rheoliadau ailstrwythuro yn cael eu gwneud, a manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynnig i ailstrwythuro.

667.Rhaid i’r drafft arfaethedig o’r rheoliadau ailstrwythuro a’r dogfennau cysylltiedig gofynnol gael eu gosod gerbron Senedd Cymru ddim llai na 60 niwrnod cyn gosod y drafft terfynol o’r rheoliadau gerbron Senedd Cymru at ddibenion cael cymeradwyaeth Senedd Cymru ar ffurf penderfyniad cadarnhaol (gweler adran 174(4)).

668.Ar ddiwedd y 60 niwrnod, os yw Gweinidogion Cymru yn gosod y drafft terfynol o’r rheoliadau ailstrwythuro gerbron Senedd Cymru, rhaid i ddatganiad fynd gyda hwy sy’n nodi pa sylwadau a gafwyd ers i’r rheoliadau drafft arfaethedig gael eu gosod a pha newidiadau a wnaed yn y rheoliadau drafft terfynol, os oes newidiadau.

669.Nid yw’r weithdrefn fanylach yn gymwys i reoliadau a wneir at ddiben diwygio rheoliadau ailstrwythuro yn unig.

Adran 150 – Diddymu deddfiadau eraill

670.Mae adran 150 yn diddymu deddfwriaeth benodedig, sef:

Mae’r diwygiad hwn yn golygu na chaiff y Comisiwn argymell diddymu prif ardal na chyfansoddi prif ardal newydd;

Nid oes bwriad i fwrw ymlaen â’r rhaglen honno, felly mae’r darpariaethau penodedig naill ai yn ddiangen neu wedi eu disbyddu i bob pwrpas erbyn hyn.

Rhan 8: Cyllid Llywodraeth Leol

Adran 151 – Pwerau awdurdodau bilio i’w gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â hereditamentau

671.Mae’r adran hon yn diwygio Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), i alluogi awdurdod bilio yng Nghymru (prif gyngor) i roi hysbysiad i bersonau penodol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi i’r awdurdod wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, sy’n ymwneud ag eiddo penodol, ac y mae’r cyngor o’r farn y bydd yn ei helpu i arfer ei swyddogaethau o ran yr ardreth annomestig.

672.Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, wybodaeth y mae’r cyngor o’r farn y bydd yn ei helpu i bennu swm yr ardreth sy’n ddyledus mewn perthynas â’r eiddo.

673.Ni chaiff y cyngor ond rhoi hysbysiad o dan y ddarpariaeth hon i bersonau a chanddynt gysylltiad penodol â’r eiddo, fel y nodir yn y paragraff 5(1D) newydd o Atodlen 9 i Ddeddf 1988.

674.Mae’n drosedd, i’w chosbi drwy ddirwy, darparu gwybodaeth ffug wrth ymateb i hysbysiad. Mae person sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad yn agored i ddirwy.

Adran 152 – Gofyniad i ddarparu i awdurdodau bilio wybodaeth sy’n berthnasol wrth benderfynu a yw person yn atebol i dalu ardrethi annomestig

675.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau y bydd person yn ddarostyngedig oddi tanynt i ddarparu i brif gynghorau wybodaeth sy’n ymwneud â phennu pwy sy’n atebol i dalu ardreth annomestig, a’r swm sydd i’w dalu. Nid oes rhaid i’r cyngor ofyn am yr wybodaeth; ni fydd dyletswydd barhaus i ddarparu’r wybodaeth.

676.Caiff y rheoliadau awdurdodi prif gyngor i osod cosb ariannol ar bersonau nad ydynt yn darparu’r wybodaeth. Caiff y rheoliadau hefyd wneud darparu gwybodaeth ffug yn drosedd, i’w chosbi drwy ddirwy.

677.Rhaid i’r rheoliadau hefyd ddarparu y caiff person apelio yn erbyn gosod cosb.

Adran 153 – Pwerau awdurdodau bilio i arolygu eiddo

678.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i brif gynghorau fynd i eiddo yn eu hardal a’i arolygu, os ydynt o’r farn bod angen gwneud hynny at ddibenion cyflawni eu swyddogaethau o ran ardrethi annomestig. Cyn arfer y pŵer hwn, rhaid i gyngor gael cymeradwyaeth Tribiwnlys Prisio Cymru, ac ar ôl cael y gymeradwyaeth honno rhaid iddo hysbysu trethdalwyr o leiaf 24 awr ymlaen llaw o’i fwriad i gynnal arolygiad.

679.Mae’n drosedd, i’w chosbi drwy ddirwy, oedi neu rwystro arolygiad.

Adran 154 - Lluosyddion

680.Mae’r adran hon yn diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel mai’r mynegai prisiau defnyddwyr yw’r mesur chwyddiant wrth gyfrifo’r lluosydd ardrethi annomestig (cyn hyn defnyddiwyd y mynegai prisiau manwerthu). Darperir pŵer hefyd i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid y mesur chwyddiant.

Adran 155 – Diwygio Pennod 3 o Ran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

681.Mae’r adran hon yn diwygio’r ddarpariaeth a geir yn adrannau 84J, 84K, 84M, 84N a 84P o Ddeddf 1988 (sy’n ymwneud â chyfrifo a thalu’r grant cynnal refeniw) er mwyn cywiro amrywiol groesgyfeiriadau a diwygiadau cysylltiedig.

Adran 156 – Atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol i dalu’r dreth gyngor

682.Mae adran 156 yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) er mwyn ehangu’r pŵer ym mharagraff 11 o’r Atodlen honno. Mae’r pŵer hwnnw’n galluogi Gweinidogion Cymru i bennu disgrifiadau o bobl (y tu hwnt i’r rheini a grybwyllir eisoes yn Atodlen 1) sydd i’w diystyru wrth gyfrifo faint o bobl sy’n preswylio mewn annedd at ddibenion pennu a oes disgownt i’w roi ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy.

683.Fel y’i hehangwyd gan adran 156, mae’r pŵer hwnnw’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu nad yw person sydd i’w ddiystyru at ddibenion disgownt y dreth gyngor ychwaith i fod yn atebol ar y cyd nac yn unigol am y dreth gyngor (hynny yw, ni fydd yn atebol i dalu’r dreth gyngor ar ei ben ei hun, nac ar y cyd ag eraill).

Adran 157 – Tynnu ymaith y pŵer i ddarparu ar gyfer carcharu dyledwyr y dreth gyngor

684.Mae’r adran hon yn diwygio paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 1992. Mae paragraff 1 o’r Atodlen honno’n darparu pŵer eang i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adennill y dreth gyngor. Effaith yr adran hon yw tynnu ymaith bŵer Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth y caniateir anfon person i garchar am beidio â thalu’r dreth gyngor oddi tani.

Adran 158 – Y weithdrefn ar gyfer rheoliadau a gorchmynion penodol a wneir o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

685.Mae’r adran hon yn nodi’r weithdrefn y mae rhaid ei dilyn wrth wneud rheoliadau a gorchmynion penodol o dan Ddeddf 1992.

Rhan 9: Amrywiol

Adran 159 – Rhannu gwybodaeth

686.Mae is-adran (1) yn darparu y caiff aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth, at ddibenion cyflawni swyddogaeth benodedig mewn perthynas â phrif gyngor, ofyn am wybodaeth neu ddogfen (diffinnir “dogfen” yn is-adran (9)) gan aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth.

687.Mae is-adran (2) yn darparu ei bod yn ofynnol i’r ail aelod hwnnw gydymffurfio â chais o’r fath os cafwyd yr wybodaeth neu’r ddogfen neu os crëwyd yr wybodaeth neu’r ddogfen wrth arfer swyddogaethau penodedig yr aelod hwnnw, ac os yw darparu’r wybodaeth neu’r ddogfen yn rhesymol ymarferol. Nodir aelodau’r grŵp rhannu gwybodaeth, a swyddogaethau penodedig pob aelod, yn y tabl.

688.Mae is-adran (3) yn rhoi pŵer i aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru at ddiben arfer eu swyddogaethau o dan Ran 4, Pennod 1 o Ran 6 a Phennod 2 o Ran 7 o’r Ddeddf, os yw’r Archwilydd Cyffredinol neu Weinidogion Cymru wedi gofyn am yr wybodaeth neu’r ddogfen. Fodd bynnag, nid yw’r pŵer hwn wedi ei roi i aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth ond os nad oes unrhyw ddyletswydd ar yr aelod i ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen i’r Archwilydd Cyffredinol neu i Weinidogion Cymru, ac nad oes ganddo bŵer arall i wneud hynny.

689.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio’r tabl sy’n rhestru’r aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth a’u swyddogaethau penodedig. Cyn gwneud unrhyw reoliadau i ddiwygio’r tabl, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau (mae “personau” yn cynnwys cyrff – gweler Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019) sy’n cynrychioli prif gynghorau fel y mae’r Gweinidogion yn meddwl ei bod yn briodol, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y person y bydd cofnod newydd neu gofnod a ddiwygiwyd yn ymwneud ag ef a’r person y mae cofnod sydd i’w hepgor yn ymwneud ag ef.

690.Mae is-adran (10) yn diddymu yn rhannol adran 33 o Fesur 2009, sy’n darparu ar gyfer rhannu gwybodaeth a dogfennau rhwng rheoleiddwyr penodol ac mae’n gorgyffwrdd i ryw raddau â darpariaethau’r adran hon.

691.Mae’r diddymiad rhannol hwn yn cadw’r darpariaethau sy’n ymwneud â rhannu gwybodaeth a dogfennau mewn cysylltiad â swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adrannau 17 a 19 o Fesur 2009.

692.Diddymir adran 33 yn llawn wedi hynny gan adran 113 o’r Ddeddf, a fydd hefyd yn diddymu is-adran (10) o adran 159 oherwydd ni fydd angen yr is-adran honno ar ôl diddymu adran 33 o Fesur 2009 yn llwyr.

693.Gweler adran 175(1)(g) a’r nodyn esboniadol ar gyfer yr adran honno ynglŷn ag adran 159 yn dod i rym. Bydd adran 113 yn cael ei dwyn i rym drwy orchymyn.

Adran 160 – Diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 sy’n ganlyniadol ar adran 159

694.Mae adran 160 yn diwygio adran 54 o Ddeddf 2004 sy’n cyfyngu ar y dibenion y caniateir i wybodaeth a geir gan neu ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan ddarpariaethau statudol penodol, gan gynnwys Rhan 1 o Fesur 2009, gael ei datgelu. Mae adran 33 yn Rhan 1 o Fesur 2009 ond caiff ei diddymu i raddau helaeth gan adran 159(10) a’i diddymu’n llwyr wedi hynny gan adran 113.

695.Mae adran 160 yn mewnosod yn adran 54 gyfeiriadau at y ddarpariaeth rannu gwybodaeth newydd yn adran 159. Effaith hyn yw y bydd y cyfyngiadau yn adran 54 yn gymwys i wybodaeth a geir gan, neu ar ran ,yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 159, ac y caniateir datgelu gwybodaeth y mae adran 54 yn gymwys iddi o dan adran 159 neu at ddibenion swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol sy’n swyddogaethau penodedig o fewn ystyr adran 159 (mae adran 54(2)(b) eisoes yn ymdrin â rhai o’r swyddogaethau penodedig hynny).

Adran 161 – Pennaeth gwasanaethau democrataidd

696.Mae adran 8 o Fesur 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol (a ddiffinnir yn adran 175 o’r Mesur fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) ddynodi un o’i swyddogion yn bennaeth ei wasanaethau democrataidd. Mae’r swyddog hwn yn gyfrifol am gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn adran 9 o’r Mesur.

697.O dan adran 8(1)(b) o Fesur 2011 mae’n ofynnol i awdurdod ddarparu i’w bennaeth gwasanaethau democrataidd unrhyw staff, llety ac adnoddau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigonol i alluogi’r pennaeth gwasanaethau democrataidd i gyflawni ei swyddogaethau.

698.Mae is-adran (1) yn diwygio Mesur 2011 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’i swyddogaeth o dan adran 8(1)(b) o Fesur 2011.

699.Cyn ei diwygio, mae adran 8(4)(b) o Fesur 2011 yn atal awdurdod lleol rhag dynodi ei swyddog monitro yn bennaeth ei wasanaethau democrataidd. Mae is-adran (2) yn diddymu paragraff (b) er mwyn dileu’r cyfyngiad hwn.

700.Mae is-adran (3) yn diwygio adran 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 i ddynodi bod y pennaeth gwasanaethau democrataidd yn brif swyddog at ddibenion datganiad ar bolisïau tâl y cyngor.

Adran 162 ac Atodlen 13 – Diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfod cymunedol

701.Mae adran 162 yn cyflwyno Atodlen 13 sy’n diwygio Deddf 1972 er mwyn diddymu pleidleisiau cymunedol, ac eithrio pleidleisiau llywodraethu cymunedol, sy’n galluogi cymuned i gynnal pleidlais ar gynnig o’r math a grybwyllir yn adrannau 27A, 27C, 27E, 27G, 27I a 27K o Ddeddf 1972, gan gynnwys cynigion i sefydlu neu i ddiddymu cyngor cymuned neu i grwpio â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin.

702.Mae paragraff 6(5) o Atodlen 13 yn cael ei roi yn lle paragraff 34(5) a (6) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, gan ddarparu pŵer a fydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglŷn â chynnal pleidleisiau llywodraethu cymunedol.

703.Mae paragraff 12 o Atodlen 13 yn diddymu diwygiad a wneir i baragraff 34(5) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 o ganlyniad i adran 13 o’r Ddeddf hon. Ni fydd angen y diwygiad canlyniadol i baragraff 34(5) pan fydd paragraff 6(5) o Atodlen 13 yn cymryd lle paragraffau 34(5) a (6) i ddarparu ar gyfer pŵer newydd Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau.

Adran 163 – Y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn penodi ei brif weithredwr

704.Mae adran 163 yn diwygio adran 8 o Ddeddf 2013 fel na fydd penodi prif weithredwr y Comisiwn, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr is-adran (2A) newydd o adran 8, yn swyddogaeth i Weinidogion Cymru mwyach ac yn hytrach bydd yn swyddogaeth i’r Comisiwn.

705.Mae’r is-adran (2A) newydd o adran 8 yn caniatáu i Weinidogion Cymru benodi prif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt, mewn amgylchiadau pan fo’r swydd honno wedi bod yn wag am fwy na chwe mis.

706.Ni chaiff y Comisiwn na Gweinidogion Cymru benodi person i swydd prif weithredwr os yw’r person hwnnw’n dal un o’r swyddi a nodir yn is-adran (4) newydd o adran 8.

707.Mae adran 163(6) yn dileu cyfeiriadau diangen at “yng Nghymru” o adrannau 4(3)(c) a (d) ac 11(2)(c) a (d) o Ddeddf 2013. Gweler adran 72 o Ddeddf 2013 am ystyr “awdurdod lleol” yn y Ddeddf honno.

Adran 164 – Cyfarwyddydau o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

708.Mae’r adran hon yn diwygio adran 48 o Ddeddf 2013 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddydau i’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ac i brif gynghorau, yn ymwneud ag arfer swyddogaethau’r cyrff hynny o dan Ran 3 o Ddeddf 2013. Mae adran 48 yn nodi pethau penodol y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn neu brif gyngor i’w gwneud. Mae adran 164 yn diwygio’r rhestr hon o bethau penodol.

Adran 165 ac Atodlen 14 – Uno a daduno byrddau gwasanaethau cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

709.Mae adran 165 yn diwygio Pennod 3 o Ran 4 o Ddeddf LlCD.

710.Mae is-adran (2) yn tynnu ymaith adran 47(3) o Ddeddf LlCD sy’n datgan mai dim ond os yw’r un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sy’n ceisio uno neu’n cael cyfarwyddyd i uno y gall byrddau uno, ac nad yw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall yn aelod o unrhyw un o’r byrddau hynny.

711.Mae is-adran (3) yn ychwanegu is-adrannau at adran 47 o Ddeddf LlCD. Mae’r adrannau 47(7) i 47(9) newydd yn darparu y gall bwrdd sydd wedi uno ddaduno, neu ddaduno’n rhannol (neu gael cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i wneud hynny) os ystyrir y byddai’n helpu i gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant. Mae hyn yn ymdebygu i’r darpariaethau presennol ar gyfer uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus.

712.Nid oedd gwybodaeth yn Neddf LlCD ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ar ôl uno. Nid yw’r weithred o uno yn arwain at lunio cynllun llesiant newydd. Dim ond etholiadau llywodraeth leol (“ordinary elections” o dan adran 26 o Ddeddf 1972) sy’n sbarduno hynny.

713.Roedd hynny’n gadael amheuaeth ynglŷn â pha gynllun llesiant lleol y byddai bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sydd newydd uno yn gweithio arno hyd at y set nesaf o etholiadau llywodraeth leol; gallai hynny fod yn sawl blwyddyn, yn dibynnu pa bryd y mae’r uno yn digwydd.

714.Mae’r is-adrannau (5), (6), (10) ac (11) newydd o adran 47 o Ddeddf LlCD yn nodi pa gamau y mae angen eu cymryd o ran adolygu a pharatoi cynlluniau llesiant lleol ar ôl uno byrddau, daduno byrddau, neu eu daduno’n rhannol.

715.Ar ôl uno neu ddaduno, rhoddir hyblygrwydd i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus fabwysiadu ac addasu’r cynlluniau llesiant lleol sydd ar waith yn ei ardal yn union cyn ei sefydlu, i ba raddau bynnag y mae’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sydd newydd ei ffurfio yn ystyried yn briodol (gallai hynny fod yn llwyr, ddim o gwbl, neu unrhyw beth yn y canol). Nid oes unrhyw ofyniad i gynnal yr asesiad o lesiant lleol eto. Dim ond pan gaiff cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39(7) o Ddeddf LlCD (h.y. mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol) ei lunio y mae angen gwneud hynny.

716.Ar y cyfan caiff yr asesiadau eu llunio i ddarparu sail dystiolaeth ddibynadwy ar gyfer cylch etholiad llywodraeth gyfan. Mae hawl gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio tystiolaeth ychwanegol i’r asesiadau felly os oes newidiadau ffeithiol y credant y dylai eu cynlluniau eu hadlewyrchu ar ôl uno/daduno, gallant ddefnyddio’r wybodaeth honno heb orfod llunio asesiadau newydd o lesiant.

717.Mae’r is-adran (12) newydd yn darparu bod rhaid i fwrdd, cyn cyhoeddi cynllun ar ôl uno neu ddaduno, ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Gweinidogion Cymru. Gall uno neu ddaduno gael ei sbarduno gan gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru, felly mae ymgynghori â hwy ynglŷn â chynlluniau diwygiedig yn rhoi cyfle ffurfiol i Weinidogion Cymru eu bodloni eu hunain bod y cynlluniau diwygiedig yn debygol o hybu’r pwrpas sy’n sail i unrhyw gyfarwyddyd Gweinidogol, ymysg pethau eraill.

718.Bydd disgresiwn gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus o ran pwy arall y mae’n ymgynghori ag ef. Caiff canllawiau o dan Ddeddf LlCD roi arweiniad ynglŷn â’r cyrff y gall bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â hwy.

719.Os yw bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â’i bartneriaid gwahoddedig, rhaid darllen y ddyletswydd i lunio a chyhoeddi “cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol” yng ngoleuni’r amser a gymer i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â hwy.

720.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 14 sy’n diwygio deddfwriaeth bresennol yng ngoleuni’r newidiadau a wneir i adran 47 o Ddeddf LlCD.

721.Mae paragraff 1 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf LlCD, er enghraifft ychwanegu cyfeiriadau at ddaduno byrddau gwasanaethau cyhoeddus pan geir cyfeiriad at uno.

722.Mae is-adran (6) o adran 39 yn cael ei dileu (yn ogystal ag unrhyw gyfeiriadau eraill at yr is-adran hon yn Neddf LlCD) am fod byrddau eisoes wedi llunio eu cynlluniau llesiant cyntaf yn dilyn cychwyn yr adran.

723.Mae paragraffau 2 i 9 yn gwneud diwygiadau i Ddeddfau eraill sy’n cyfeirio at gynlluniau llesiant lleol.

Adran 166 – Awdurdodau tân ac achub cyfunol: ymchwiliadau

724.Mae’r adran hon yn diwygio adrannau 2 a 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i ddileu’r gofyniad bod Gweinidogion Cymru yn cynnal ymchwiliad cyn amrywio cynllun cyfuno Awdurdod Tân ac Achub (“ATA”), ac eithrio pan fyddai’r amrywiad yn addasu’r ardal y mae’r ATA yn ei gwasanaethu, neu pe byddai’n diddymu’r cynllun cyfuno.

725.O ganlyniad i ddiwygiadau a wneir gan yr adran hon i adran 2(9)(c) a 4(7)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ni fydd angen ymchwiliad os yw cynllun cyfuno i’w wneud, i’w amrywio neu i’w ddirymu at ddiben rhoi effaith i orchymyn o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 (trefniadau ar gyfer llywodraeth leol) neu reoliadau o dan Ran 7 o’r Ddeddf hon (uno ac ailstrwythuro prif ardaloedd) yn unig.

726.O ganlyniad i’w diwygiad i adran 2(10), caniateir gwneud cynllun o dan adran 2 (ond ni chaiff ddod i rym) cyn bod gorchymyn a wneir o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 neu reoliadau a wneir o dan Ran 7 o’r Ddeddf hon yn dod i rym.

727.Mae adran 166 hefyd yn diwygio adran 34(3) o Ddeddf 2013 i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymgynghori ag unrhyw ATA ar gyfer ardal a allai gael ei heffeithio gan adolygiad arfaethedig o drefniadau llywodraeth leol o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

Adran 167 – Perfformiad awdurdodau tân ac achub a’u llywodraethu

728.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 21A newydd yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i roi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ymwneud â pherfformiad ATA yng Nghymru a’u llywodraethu.

729.Mae adran 21A(1), (2) a (3) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ATA yng Nghymru lunio cynllun mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau, a gosod gofynion mewn cysylltiad â’r cynllun hwnnw, gan gynnwys yr hyn sydd i’w gynnwys ynddo, ei lunio a’i adolygu, ei gyhoeddi, a’r cyfnod y mae’n berthnasol iddo.

730.O ran yr hyn y mae cynlluniau i’w gynnwys, caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, osod gofyniad i nodi:

731.Mae adran 21A(4) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer asesu perfformiad awdurdod tân ac achub ac adrodd arno, gan gynnwys gosod gofynion cysylltiedig ar ATA. Gall hyn gynnwys pennu amrywiaeth o fesurau perfformiad, megis dangosyddion perfformiad, technegau ansoddol (astudiaethau achos ac arolygon) a thechnegau dadansoddol (meincnodi) y gall ATA eu defnyddio i asesu eu perfformiad a’u cynnydd yn erbyn eu cynlluniau strategol. Caiff hefyd gynnwys gwybodaeth ar amseriad priodol adrodd ar berfformiad, a’r gynulleidfa ar gyfer hynny.

732.Mae adran 21A(5) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag ATA (neu bersonau sy’n eu cynrychioli), cynrychiolwyr cyflogeion, ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran honno.

Adran 168 - Awdurdodau tân ac achub: datgymhwyso Mesur 2009

733.Mae is-adran (1) yn dileu “awdurdodau tân ac achub” o’r diffiniad o “awdurdod gwella Cymreig” yn adran 1 o Fesur 2009 ac yn gwneud diwygiadau eraill fel bod y drefn wella a nodir yn Rhan 1 o Fesur 2009 yn peidio â bod yn gymwys i ATA.

734.Mae is-adran (2) yn diddymu cymhwysiad adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (pŵer awdurdodau penodol i godi ffi am wasanaethau disgresiynol) i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru drwy hepgor “Welsh improvement authorities” o’r diffiniad o awdurdod perthnasol yn adran 93(9) a rhoi dau gyfeiriad newydd yn ei le at “a county or county borough council in Wales” ac “a National Park authority for a National Park in Wales”.

735.Mae pŵer gan awdurdodau tân ac achub i godi ffi ar berson am gamau a gymerir ac eithrio at ddiben masnachol, o dan adran 18A o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol – gweler adrannau 18A a 18B o’r Ddeddf honno).

736.O ganlyniad i ddatgymhwyso Rhan 1 o Fesur 2009 i awdurdodau tân ac achub, mae is-adran (3) yn hepgor o adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ddarpariaethau a oedd yn cymhwyso darpariaethau penodol o Fesur 2009 gydag addasiadau mewn perthynas â’r ddyletswydd ar awdurdodau tân ac achub o dan adran 21(7) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i roi sylw i’r Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Adran 169 - Awdurdodau Parciau Cenedlaethol: datgymhwyso Mesur 2009

737.Mae adran 169 yn dileu “awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru” o’r diffiniad o “awdurdod gwella Cymreig” yn adran 1 o Fesur 2009 ac yn gwneud diwygiadau eraill fel bod y drefn wella a nodir yn Rhan 1 o Fesur 2009 yn peidio â bod yn gymwys i awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.

Adran 170 - Diddymu Mesur 2009

738.Mae’r adran hon yn diddymu Mesur 2009 ac yn diwygio deddfiadau eraill er mwyn dileu cyfeiriadau at ddarpariaethau Mesur 2009. Mae’r adran hon i’w dwyn i rym drwy orchymyn ar yr un pryd ag y mae adran 113 (datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas â phrif gynghorau), adran 168 (datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub) neu adran 169 (datgymhwyso Mesur 2009 mewn perthynas ag awdurdodau Parc Cenedlaethol) yn dod i rym, pa adran neu adrannau bynnag o’r rheini sydd i’w dwyn i rym olaf.

Rhan 10: Cyffredinol

Adran 171 - Dehongli

739.Mae adran 171 yn diffinio nifer o eiriau a thermau a ddefnyddir drwy gydol y Ddeddf.

740.Mae hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â phob dyletswydd o dan y Ddeddf (ond nid dyletswydd a osodir drwy ddiwygio deddfiad arall) i gyhoeddi rhywbeth. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd gyhoeddi’r ddogfen ar ffurf electronig (sy’n golygu ar wefan y person hwnnw, os oes ganddo un), ac mewn unrhyw fodd arall y mae’r person yn ystyried ei fod yn briodol.

Adran 172 - Cyfarwyddydau

741.Mae adran 172 yn gwneud darpariaeth sy’n gymwys i’r holl gyfarwyddydau a roddir o dan y Ddeddf (gan ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu rhoi ar ffurf ysgrifenedig a bod y person y’u rhoddir iddynt yn cydymffurfio â hwy).

Adran 173 - Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

742.Mae adran 173 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n cynnwys darpariaethau atodol etc. er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf. Caiff y rheoliadau a wneir ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (ond pan fônt yn gwneud hynny, maent yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn Senedd Cymru; gweler adran 174(5)(t)).

Adran 174 – Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

743.Mae adran 174 yn gwneud darpariaeth gyffredinol am y modd y mae’r amryfal reoliadau y caniateir eu gwneud o dan y Ddeddf i’w gwneud. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau yn Senedd Cymru sy’n gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau, a’r ddarpariaeth ategol (hynny yw, darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed) y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau.

Adran 175 – Dod i rym

744.Mae adran 175 yn nodi pa bryd y mae darpariaethau’r Ddeddf hon yn dod i rym, a phan fo’r darpariaethau’n dod i rym drwy orchymyn, yn nodi pa ddarpariaeth y caiff y gorchymyn ei chynnwys. Mae’r ddarpariaeth hon yn ymdrin ag ystod o wahanol ddulliau o gychwyn darpariaethau.

745.Daw pwerau amrywiol i wneud rheoliadau i rym y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, gan gynnwys y pwerau i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig o dan Ran 5, ac i ddarparu ar gyfer uno prif ardaloedd yn wirfoddol o dan Ran 7 (caiff y pŵer i ddarparu ar gyfer ailstrwythuro prif ardaloedd o dan y Rhan honno ei gychwyn drwy orchymyn, ac mae is-adran (2) o adran 175 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hyn).

746.Mae’r ffaith bod adran 159 yn cael ei chychwyn yn rhannol yn ymwneud â chychwyn Rhan 5 a’r ffaith y caiff Rhan 6 (rheoli perfformiad) ei chychwyn drwy orchymyn. Mae’r darpariaethau sy’n cael eu cychwyn yn adran 166 ar y diwrnod ar ôl y Cydsyniad Brenhinol yn gysylltiedig â’r ffaith bod y darpariaethau ar uno gwirfoddol yn dod i rym.

747.Daw darpariaethau eraill i rym ar ddyddiadau penodedig, sy’n cyd-daro a dechrau’r flwyddyn ariannol llywodraeth leol (gweler is-adran (4)), neu bwriedir iddynt ddigwydd ar ddiwrnod yr etholiadau cyffredin nesaf i’r prif gynghorau (ar 5 Mai 2022; gweler is-adran (5)), neu’r diwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw (gweler is-adran (6)).

Adran 176 – Enw byr

748.Mae adran 176 yn darparu mai Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yw enw byr y Ddeddf.