Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Rhan 3: Dyletswydd gonestrwydd

Adran 3 – Pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys

11.Mae’r adran hon yn esbonio pryd y bydd y ddyletswydd gonestrwydd yn Rhan 3 yn gymwys. Pan fydd y ddyletswydd yn gymwys, rhaid i gorff GIG gymryd camau penodol yn unol â gweithdrefn a nodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 4.

12.At ddiben y Rhan hon, mae corff GIG yn fwrdd iechyd lleol, yn ymddiriedolaeth GIG, yn awdurdod iechyd arbennig ac yn ddarparwr gofal sylfaenol. Mae darparwr gofal sylfaenol yn berson sy’n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol (gwasanaethau ymarferydd cyffredinol), gwasanaethau deintyddol cyffredinol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol ar ran bwrdd iechyd lleol. Yn unol ag adran 11(7), mae cymhwyso’r ddyletswydd i awdurdodau iechyd arbennig yn estyn i awdurdodau iechyd arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ond nid yw’n cynnwys unrhyw awdurdod iechyd arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border special health authority” yn adran 8A(5) o’r Ddeddf honno) ac eithrio Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau yng Nghymru.

13.Bydd rhaid dilyn gweithdrefn y ddyletswydd gonestrwydd pan fo’r ddau amod yn is-adrannau (2) a (3) wedi eu bodloni.

14.Yr amod cyntaf yw bod y defnyddiwr gwasanaeth y mae’r corff GIG yn darparu neu wedi bod yn darparu gofal iechyd iddo wedi dioddef canlyniad andwyol. Caiff defnyddiwr gwasanaeth ei drin fel pe bai wedi dioddef canlyniad andwyol os yw’r defnyddiwr gwasanaeth yn profi mwy nag ychydig o niwed annisgwyl neu niwed anfwriadol neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y gallai brofi niwed o’r fath. Bydd ystyr “mwy nag ychydig o niwed” yn cael ei nodi mewn canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 10 o’r Ddeddf. Bydd y canllawiau yn cael eu datblygu gan roi sylw i ddiffiniadau presennol o niwed, megis y rheini a ddefnyddir yn y System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu, sef y system bresennol ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau andwyol o ran diogelwch cleifion yn y GIG. At ddiben y ddyletswydd gonestrwydd, mae niwed yn cynnwys niwed seicolegol.

15.Mae’r ddyletswydd yn cael ei sbarduno nid yn unig pan wyddys bod niwed wedi digwydd ond mewn achosion pan allai niwed ddigwydd yn y dyfodol; er enghraifft, pan allai gwall wrth roi meddyginiaeth achosi canlyniad andwyol rywbryd yn y dyfodol. Gall cam gweithredu a gymerir gan gorff GIG wrth ddarparu gofal iechyd neu fethu â chymryd camau gweithredu sbarduno’r ddyletswydd. Rhaid bod y niwed yn anfwriadol neu’n annisgwyl sy’n golygu nad yw’r ddyletswydd yn gymwys pan fo canlyniadau annymunol yn digwydd o ganlyniad i gyflwr meddygol.

16.Yr ail amod yw bod darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor, a achosodd i’r defnyddiwr gwasanaeth ddioddef y canlyniad. Felly, rhaid i’r canlyniad ymwneud â darparu’r gofal gan y corff GIG yn hytrach na chael ei briodoli’n gyfan gwbl i salwch neu gyflwr isorweddol y person. Fodd bynnag, nid oes angen iddi fod yn sicr mai’r gofal iechyd a achosodd y niwed; mae’n ddigon y gall y gofal iechyd fod wedi bod yn ffactor. Nid yw cymhwyso’r ddyletswydd yn dangos bod y corff GIG wedi gweithredu’n esgeulus.

Adran 4 – Gweithdrefn dyletswydd gonestrwydd

17.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu mewn rheoliadau ar gyfer gweithdrefn sydd i’w dilyn gan gorff GIG pan yw’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys i’r corff. Bydd y weithdrefn yn nodi’r camau gweithredu sydd i’w cymryd gan gyrff y GIG pan yw’r ddyletswydd yn gymwys.

18.Mae is-adrannau (2) a (3) yn rhoi manylion o ran yr hyn y mae rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth yn ei gylch. Rhaid i’r rheoliadau, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i’r Corff GIG hysbysu’r defnyddiwr gwasanaeth neu ei gynrychiolydd bod y ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol, darparu gwybodaeth am unrhyw ymholiadau pellach a gynhelir, a gwneud darpariaeth ynghylch cymorth ac ymddiheuriad.

Adran 5 – Darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiad

19.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gofal sylfaenol lunio adroddiad blynyddol ar ba un a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn perthynas â’r gofal iechyd a ddarperir gan y darparwr. Mae’r adran yn nodi pa wybodaeth y mae rhaid i’r adroddiad ei chynnwys (ond gall gynnwys gwybodaeth arall).

20.Pan fo darparwr gofal sylfaenol wedi darparu gofal iechyd ar ran dau neu ragor o fyrddau iechyd lleol mewn blwyddyn ariannol benodol, bydd yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr lunio adroddiad ar wahân mewn cysylltiad â phob bwrdd iechyd lleol.

Adran 6 – Cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5

21.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gofal sylfaenol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, anfon yr adroddiad blynyddol a lunnir o dan adran 5 i’r bwrdd iechyd lleol y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

22.Rhaid i fwrdd iechyd lleol lunio crynodeb o’r adroddiadau y mae wedi eu cael gan y darparwyr gofal sylfaenol o dan is-adran (1).

Adran 7 – Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adrodd

23.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig (gan gynnwys Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau yng Nghymru), cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad blynyddol ar y ddyletswydd gonestrwydd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn y mae rhaid i’r adroddiad hwnnw ei gynnwys (ond gall gynnwys gwybodaeth arall).

Adran 8 – Cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7

24.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 7 gyhoeddi’r adroddiadau a lunnir o dan yr adran honno.

25.Yn achos bwrdd iechyd lleol, rhaid i’r adroddiad gynnwys y crynodeb a lunnir o dan adran 6 o’r adroddiadau a ddarperir i’r bwrdd iechyd lleol gan ddarparwyr gofal sylfaenol sy’n darparu gwasanaethau ar ei ran. Felly, bydd y bwrdd iechyd lleol yn gyfrifol am gyhoeddi gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ddyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â’i wasanaethau ei hun a’r gwasanaethau a ddarperir gan wasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer ei ardal. Bydd hyn yn golygu y bydd yr holl wybodaeth am y ddyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad ag ardal bwrdd iechyd lleol yn cael ei chyhoeddi gyda’i gilydd.

Adran 9 – Cyfrinachedd

26.Mae is-adran (1) o’r adran hon yn darparu na chaiff adroddiad a gyhoeddir o dan adran 8 gan gorff GIG enwi unigolion penodol. Yr unigolion yw: unrhyw berson y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu wedi ei ddarparu iddo gan neu ar ran y corff; ac unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran person o’r fath. Yn ychwanegol, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG, wrth benderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiad adran 8, roi sylw i’r angen i osgoi cynnwys unrhyw wybodaeth sydd, er nad yw’n rhoi enw unigolyn mewn gwirionedd, yn debygol o olygu, o dan yr amgylchiadau, fod modd gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw. Gallai amgylchiadau o’r fath godi, er enghraifft, pan fo manylion gofal claf penodol wedi cael sylw yn y cyfryngau. Diben y ddarpariaeth hon yw sicrhau cyfrinachedd.

Adran 10 – Canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru

27.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG, wrth arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â’r ddyletswydd gonestrwydd, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Adran 11 – Dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill

28.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli termau a ddefnyddir yn Rhan 3 gan gynnwys ystyr “gofal iechyd”, “salwch” a “corff GIG”.

29.Yn rhinwedd is-adran (5), pan fo gofal iechyd yn cael ei ddarparu fel rhan o gontract, cytundeb neu drefniant rhwng dau gorff GIG, bernir bod y gofal wedi ei ddarparu gan y corff sy’n darparu’r gofal yn hytrach na’r corff a drefnodd i’r gofal gael ei ddarparu ar ei ran. Mae hyn yn golygu y byddai’r ddyletswydd gonestrwydd, mewn perthynas â threfniant o’r fath, os y’i defnyddir, yn gymwys i ddarparwr y gofal yn unig. Mae hyn yn cynnwys gofal iechyd a ddarperir ar ran y corff GIG gan ddarparwr gofal sylfaenol.

30.O dan is-adran (6), pan fo gofal iechyd yn cael ei ddarparu ar ran corff GIG gan gorff nad yw’n gorff GIG, bydd y ddyletswydd gonestrwydd, os y’i defnyddir mewn perthynas â’r gofal iechyd o dan sylw, yn gymwys i’r corff GIG, nid i’r corff a ddarparodd y gofal.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources