Adran 21 – Cynnwys datganiadau o wasanaeth
59.Mae adran 21 yn diwygio Rheoliadau 2001 drwy addasu’r ddarpariaeth bresennol a gwneud darpariaeth ychwanegol ynglŷn â chynnwys datganiad o wasanaeth mewn achosion lle y mae datganydd yn hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A). Mae adran 21(2)(a) yn diwygio rheoliad 15 fel nad yw person sy’n hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A) yn ddarostyngedig i’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 15(1)(c) ond mae’n ofynnol iddo ddarparu’r wybodaeth a bennir yn rheoliad 15A.
60.Mae adran 21(2)(b) yn diwygio ystyr adran Llywodraeth yn rheoliad 15(3) mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru fel ei fod yn cynnwys unrhyw sefydliad lle y mae gweision y Goron yn gweithio.
61.Mae adran 21(3) yn mewnosod rheoliad 15A yn rheoliadau 2001. Mae’r rheoliad yn gwneud darpariaeth ynghylch y wybodaeth sydd ei hangen mewn datganiad o wasanaeth lle y mae person yn hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A). Mae’r rhain yn cynnwys manylion rhiant neu warcheidwad yr ymgeisydd sydd â chymhwyster gwasanaeth. Er enghraifft, rhaid i ddatganiad a wneir ar sail rhiant neu warcheidwad sy’n aelod o’r lluoedd arfog gynnwys y gwasanaeth, y rheng neu’r dosbarth, a rhif gwasanaeth, a chatrawd neu gorfflu (lle y bo’n briodol) y rhiant hwnnw neu’r gwarcheidwad hwnnw.