Adran 22 – Datganiadau o wasanaeth: darpariaeth bellach
62.Mae adran 22 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch datganiadau o wasanaeth mewn diwygiadau i Reoliadau 2001.
63.Mae adran 22(2) yn diwygio rheoliad 25 ac yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog cofrestru anfon neges atgoffa at berson sydd â chymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A) o Ddeddf 1983 y bydd y datganiad o wasanaeth yn peidio â bod yn weithredol ac y bydd yr hawl i barhau i fod ar y gofrestr yn dod i ben pan fydd y person yn cyrraedd 18 oed.
64.Mae adran 22(3)(a) yn diwygio rheoliad 26B fel nad yw person sy’n hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A) yn ddarostyngedig i’r gofyniad i ddarparu’r dogfennau a nodir ym mharagraffau (2) i (6) o’r rheoliad.
65.Mae adran 22(3)(b) hefyd yn diwygio rheoliad 26B drwy bennu’r dogfennau y gall fod eu hangen ar swyddog cofrestru yn achos person sy’n hawlio cymhwyster gwasanaeth o dan adran 14(1A). Caiff swyddog cofrestru ofyn i’r ymgeisydd ddarparu pasbort neu gerdyn adnabod yr ymgeisydd, neu gopi o un. Os darperir copi, rhaid iddo gael ei ardystio gan swyddog perthnasol. Mae adran 22(3)(b) yn mewnosod diffiniad o swyddog perthnasol yn rheoliad 26B ac yn eithrio rhiant, gwarcheidwad, priod neu bartner sifil yr ymgeisydd o’r diffiniad hwnnw.