Search Legislation

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

Newidiadau dros amser i: Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 06/05/2020

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/01/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(A gyflwynir gan adran 6)

ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O EIRIAU AC YMADRODDION

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2Atod. 1 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

TABL

Aelod-wladwriaeth (member State)ystyr “Aelod-wladwriaeth” yw Gwladwriaeth sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd
Arglwydd Ganghellor (Lord Chancellor)ystyr “Arglwydd Ganghellor” yw Arglwydd Uchel Ganghellor Prydain Fawr
Awdurdod Cyllid Cymru (Welsh Revenue Authority)ystyr “Awdurdod Cyllid Cymru” yw’r awdurdod a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6)
Banc Lloegr (Bank of England)

ystyr “Banc Lloegr”, yn unol â gofynion y cyd-destun, yw—

(a)

Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr, neu

(b)

banc Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr

blwyddyn ariannol (financial year)ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn sy’n gorffen â 31 Mawrth
Bwrdd Iechyd Lleol (Local Health Board)ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales Commission)ystyr “Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
Comisiwn Elusennau (Charity Commission)ystyr “Comisiwn Elusennau” yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, a barheir gan adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25)
Cwnsler Cyffredinol (Counsel General)ystyr “Cwnsler Cyffredinol” yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a benodir o dan adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
Cyfoeth Naturiol Cymru (Natural Resources Wales)ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230))
cyfraith UE a ddargedwir (retained EU law)mae i “cyfraith UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained EU law” gan adran 6(7) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [F1(gweler hefyd paragraff 7 of Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020)]
y Cyfrin Gyngor (the Privy Council)ystyr “y Cyfrin Gyngor” yw’r Arglwyddi ac eraill o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor Ei Mawrhydi
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Her Majesty’s Revenue and Customs)mae i “Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ” yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (a gweler adrannau 3(5) ac 11(4) o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 (p. 11), sy’n darparu i gyfeiriadau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gynnwys swyddogion penodol sydd wedi eu dynodi o dan y Ddeddf honno)
Cymru (Wales)

ystyr ”Cymru” yw—

(a)

ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)), ynghyd â

(b)

y môr sy’n gyfagos i Gymru o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol,

ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales)ystyr “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yw’r Cynulliad ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
[F2cytundeb ymadael â'r UE (EU withdrawal agreement)mae i “cytundeb ymadael â'r UE” yr ystyr a roddir i “withdrawal agreement” yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (gweler adran 39(1) a (6) o'r Ddeddf honno)]
cytundeb yr AEE (EEA agreement)ystyr “cytundeb yr AEE” yw’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, ynghyd â’r Protocol sy’n amrywio’r Cytundeb hwnnw a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, fel y’i haddesir neu yr ychwanegir ato o bryd i’w gilydd; ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl [F3diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu] nid yw’n cynnwys unrhyw deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir
y Cytuniadau (the Treaties) neu Cytuniadau’r UE (the EU Treaties)

mae i “y Cytuniadau” neu “Cytuniadau’r UE”—

(a)

[F4mewn perthynas ag amser cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018;

(b)

mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymuendau Ewropeaidd 1972 fel yr oedd ganddi effaith yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, ac mae'n cyfeirio at y Cytuniadau neu Gytuniadau'r UE fel yr oeddent yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu]

datganiad statudol (statutory declaration)ystyr “datganiad statudol” yw datganiad a wneir yn rhinwedd Deddf Datganiadau Statudol 1835 (p. 62)
Deddf Cynulliad (Assembly Act)ystyr “Deddf Cynulliad” yw Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
deddfiad (enactment)

ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol—

(a)

Deddf Cynulliad,

(b)

Mesur Cynulliad,

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,

(d)

unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, neu

(e)

unrhyw is-ddeddfwriaeth

deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct EU legislation)mae i “deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct EU legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [F1(gweler hefyd paragraff 7 of Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020)]
y Deyrnas Unedig (United Kingdom)ystyr “y Deyrnas Unedig” yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
[F5diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (implementation period completion day) mae i “diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu” yr ystyr sydd i “IP completion day” o fewn ystyr Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hynny (gweler adran 39(1) i (5) o'r Ddeddf honno)]
diwrnod gwaith (working day)ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80)
diwrnod ymadael (exit day)mae “diwrnod ymadael” ac ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol ag “exit day” yn adran 20(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)
Goruchaf Lys (Supreme Court)ystyr “Goruchaf Lys”yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a sefydlwyd gan adran 23 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4)
graddfa safonol (standard scale)mae i “graddfa safonol”, mewn perthynas â dirwy neu gosb am drosedd ddiannod, yr ystyr a roddir i “standard scale” gan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48)
Gweinidog y Goron (Minister of the Crown)ystyr “Gweinidog y Goron” yw deiliad swydd yn Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys y Trysorlys
Gweinidogion Cymru (the Welsh Ministers)mae “Gweinidogion Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 o’r Ddeddf honno)
gwladwriaeth AEE (EEA state)

ystyr “gwladwriaeth AEE”, mewn perthynas ag unrhyw bryd, yw—

(a)

gwladwriaeth sydd ar y pryd yn Aelod-wladwriaeth, neu

(b)

unrhyw wladwriaeth arall sydd ar y pryd yn barti i gytundeb yr AEE

is-ddeddfwriaeth (subordinate legislation)

ystyr “is-ddeddfwriaeth” yw rheoliadau, gorchmynion, rheolau, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, cynlluniau, gwarantau, isddeddfau ac offerynnau eraill a wneir o dan—

(a)

Deddf Cynulliad,

(b)

Mesur Cynulliad,

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, neu

(d)

deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir

Lloegr (England)mae i “Lloegr” yr ystyr a roddir i “England” gan Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)
llw (oath), affidafid (affidavit), a tyngu llw (swear)mae “llw” ac “affidafid” yn cynnwys cadarnhad a datganiad; ac mae “tyngu llw” yn cynnwys cadarnhau a datgan
Llys Apêl (Court of Appeal)ystyr “Llys Apêl” yw Llys Apêl Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr
Llys Ewropeaidd (European Court)ystyr “Llys Ewropeaidd” yw Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd
Llys y Goron (Crown Court)ystyr “Llys y Goron” yw Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd yn wreiddiol gan adran 4 o Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23) (a ddiddymwyd gan Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54))
Llys Gwarchod (Court of Protection)ystyr “Llys Gwarchod” yw’r Llys Gwarchod a sefydlwyd gan adran 45 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9)
llys sirol (county court)ystyr “llys sirol” yw’r llys sirol yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran A1 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28)
llys teulu (family court)ystyr “llys teulu” yw’r llys teulu yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran 31A o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42)
llys ynadon (magistrates’ court)ystyr “llys ynadon” yw llys ynadon, o fewn yr ystyr a roddir i “magistrates’ court” gan adran 148 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), yng Nghymru a Lloegr
Llywodraeth Cymru (Welsh Government)mae “Llywodraeth Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
mân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct minor EU legislation) amae i “mân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct minor EU legislation”ac mae i “prif ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct principal EU legislation” gan adran 7(6) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [F1(gweler hefyd paragraff 7 of Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020)]
prif ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct principal EU legislation
Mesur Cynulliad (Assembly Measure)ystyr “Mesur Cynulliad” yw Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a beidiodd â chael effaith yn rhinwedd adran 106 o’r Ddeddf honno, yn ddarostyngedig i’r arbediad a barheir gan baragraff 5 o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4))
mis (month)ystyr “mis” yw mis calendr
offeryn UE (EU instrument)ystyr “offeryn UE” yw unrhyw offeryn a ddyroddir gan sefydliad UE, ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl [F6diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu] nid yw’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir
person (person)mae “person” yn cynnwys corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig
Prif Weinidog (First Minister)ystyr “Prif Weinidog” yw Prif Weinidog Cymru a benodir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 45(2) o’r Ddeddf honno, sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog)
rheolau llys (rules of court)ystyr “rheolau llys”, mewn perthynas ag unrhyw lys, yw rheolau a wneir gan yr awdurdod a chanddo’r pŵer i wneud rheolau neu orchmynion sy’n rheoleiddio arferion a threfniadaeth y llys hwnnw
rhwymedigaeth UE a ddargedwir (retained EU obligation)

ystyr “rhwymedigaeth UE a ddargedwir” yw rhwymedigaeth—

(a)

a grëwyd neu a gododd gan neu o dan Gytuniadau UE cyn [F7diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu], a

(b)

sy’n ffurfio rhan o gyfraith UE a ddargedwir,

fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd

sefydliad UE (EU institution)ystyr “sefydliad UE” yw unrhyw un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd
tir (land)mae “tir” yn cynnwys adeiladau a strwythurau eraill, tir a orchuddir â dŵr, ac unrhyw ystad, buddiant, hawddfraint, gwasanaethfraint, hawl mewn tir neu hawl dros dir
tribiwnlys Cymreig (Welsh tribunal)mae i “tribiwnlys Cymreig” yr ystyr a roddir i “Welsh tribunal” gan adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4)
trosedd ddiannod (summary offence)

ystyr “trosedd ddiannod” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, na ellir ei rhoi ar brawf ond yn ddiannod—

(a)

heb gynnwys trosedd a drinnir fel pe bai y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod yn unig yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), a

(b)

gan anwybyddu adran 40 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) (sy’n darparu ar gyfer achosion pryd y caniateir cynnwys cownt sy’n cyhuddo person o drosedd ddiannod mewn ditiad)

trosedd dditiadwy (indictable offence)

ystyr “trosedd dditiadwy” yw—

(a)

trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn unig, neu

(b)

trosedd neillffordd

trosedd neillffordd (offence triable either way)

ystyr “trosedd neillffordd” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf naill ai ar dditiad neu’n ddiannod—

(a)

heb gynnwys trosedd y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn rhinwedd adran 40 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) yn unig, a

(b)

gan anwybyddu adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) (sy’n ei gwneud yn ofynnol bod troseddau neillffordd penodol i’w rhoi ar brawf yn ddiannod os yw’r gwerth sydd ynghlwm yn fach)

y Trysorlys (the Treasury)ystyr “y Trysorlys” yw Comisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi
Uchel Lys (High Court)ystyr “Uchel Lys”yw Uchel Lys Barn Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr
yr UE (the EU) neu yr Undeb Ewropeaidd (the European Union)ystyr “yr UE” neu “yr Undeb Ewropeaidd” yw’r Undeb a sefydlwyd gan y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a lofnodwyd yn Maastricht ar 7 Chwefror 1992, fel y’i diwygiwyd gan unrhyw Gytuniad diweddarach; ac mae’n cynnwys, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn ei chaniatáu neu’n ei gwneud yn ofynnol, Cymuned Ynni Atomig Ewrop
Uwchlysoedd (Senior Courts)ystyr “Uwchlysoedd” yw Uwchlysoedd Cymru a Lloegr (gweler adran 1 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54))
ysgrifennu (writing)mae “ysgrifennu” yn cynnwys teipio, argraffu, lithograffi, ffotograffiaeth a dulliau eraill o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau ar ffurf weladwy
Ysgrifennydd Gwladol (Secretary of State)ystyr “Ysgrifennydd Gwladol”yw un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi

(A gyflwynir gan adran 41)

ATODLEN 2LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

Deddf Dehongli 1978 (p. 30)LL+C

1Yn lle adran 23B o Ddeddf Dehongli 1978 (cymhwyso’r Ddeddf at Fesurau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Deddfau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru etc.) rhodder—

23BApplication of this Act to Welsh legislation

(1)The provisions of this Act, except sections 1 to 3, apply to the following as they apply to an Act—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales, and

(b)an Act of the National Assembly for Wales, other than the Legislation (Wales) Act 2019, which receives Royal Assent before the day on which Part 2 of that Act (interpretation and operation of Welsh legislation) comes fully into force.

(2)The provisions of this Act apply to an instrument—

(a)made under a Measure or Act of the National Assembly for Wales, and

(b)made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,

as they apply to other subordinate legislation.

(3)The provisions of this Act apply to an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority, only if—

(a)the instrument is made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,

(b)the instrument is made (at any time) with any other person who is not a devolved Welsh authority, or

(c)the instrument contains any provision that applies otherwise than in relation to Wales.

(4)Nothing in subsection (2) or (3) limits the operation of sections 12 to 14A in relation to a power or duty to make an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies, but section 11 does not apply in relation to such an instrument.

(5)In the application of this Act to a Measure or Act of the National Assembly for Wales, references to the passing of an Act or an enactment are to be read as references to the enactment of the Measure or Act.

(6)In this section, “devolved Welsh authority” and “Wales” have the same meanings as in the Government of Wales Act 2006 (see sections 157A and 158 of that Act).

23CInterpretation of this Act in relation to Welsh legislation

(1)In this Act, references to an enactment include an enactment comprised in—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales,

(b)an Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),

(c)an instrument made under such an Act or Measure (whenever the instrument is made), or

(d)an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority (whenever the instrument is made, and whether or not it is made with any other person),

but the reference in section 16(2) to a temporary enactment does not include an enactment comprised in legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (see section 3(1) of that Act).

(2)In section 17(2)(b), the reference to subordinate legislation includes an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies.

(3)In section 18, the reference to an act or omission which constitutes an offence under two or more Acts includes an act or omission which constitutes an offence under—

(a)any legislation to which that section applies, and

(b)any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies,

and the reference to “those Acts” is to be read accordingly.

(4)In section 19(1), references to “another Act” include—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales, and

(b)any Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),

and the reference in paragraph (c) to “Acts” is to be read accordingly.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

2(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 156 (testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth)—

(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Subsection (1) does not apply to any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (but section 5 of that Act makes corresponding provision in relation to legislation to which that Part applies).;

(b)hepgorer is-adrannau (2) i (5).

(3)Yn Atodlen 7B, ym mharagraff 7(2)(e), hepgorer is-baragraff (ii).

(4)Yn Atodlen 10, hepgorer paragraff 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)LL+C

3(1)Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 19, hepgorer is-adrannau (3) a (4).

(3)Yn adran 20, hepgorer is-adrannau (4) a (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources