Crynodeb a Chefndir
3.Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru gymryd camau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru:
Mae Rhan 1 yn gosod dyletswyddau ar Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â hygyrchedd cyfraith Cymru.
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch dehongli a gweithredu’r Ddeddf ei hun a deddfwriaeth Cymru a ddeddfir ar ôl i Ran 2 ddod i rym.
Mae Rhan 3 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau yn neddfwriaeth Cymru ac i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanol, ac mae’n darparu ar gyfer cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall a darpariaeth ynghylch pryd a sut y daw’r Ddeddf i rym.
4.Mae’r Ddeddf yn rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru o wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac egluro a symleiddio gweithrediad deddfwriaeth Cymru.
5.Mae nifer o ymchwiliadau ac ymgynghoriadau yn gefndir i’r Ddeddf.
6.Yn ei adroddiad Deddfu yng Nghymru (Hydref 2015), gwnaeth Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru nifer o argymhellion a oedd yn ymwneud ag ansawdd deddfwriaeth, ei llunio a chraffu arni. Yn benodol, argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun hirdymor ar gyfer cydgrynhoi deddfau Cymru, a bod y Cwnsler Cyffredinol yn gweithio tuag at lunio Deddf Dehongli ar wahân i Gymru.
7.Yn ei adroddiad Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru (Comisiwn y Gyfraith Rhif 336, Mehefin 2016), argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn polisi o gydgrynhoi a chodeiddio’r gyfraith yng Nghymru. Gwnaeth nifer o argymhellion a oedd yn ymwneud â’r broses o gydgrynhoi a chodeiddio, gan gynnwys y dylai fod yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol gyflwyno rhaglen godeiddio ac adrodd ar gynnydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
8.Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith hefyd fod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried, ac yn adolygu’n gyson, y manteision ymarferol o gyflwyno Deddf Dehongli i Gymru, a gwnaeth argymhellion pellach a oedd yn ymwneud ag ansawdd deddfwriaeth, ei chyhoeddi a’i hargaeledd.
9.Wedi hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen ymgynghori Dehongli deddfwriaeth Cymru: Ystyried Deddf ddehongli i Gymru (WG 32209, Mehefin 2017), a oedd yn ceisio barn ar fanteision cael Deddf Dehongli ar wahân i Gymru ac ar ddull gweithredu Deddf o’r fath. Ar ôl hyn, cynhaliwyd ail ymgynghoriad, Bil Deddfwriaeth (Cymru) Drafft (WG 34368, Mawrth 2018) a oedd yn cynnwys Bil drafft ac yn ceisio barn ar y dull gweithredu a nodwyd yn y drafft. Ystyriwyd yr ymatebion i’r ddau ymgynghoriad wrth ddatblygu Bil Deddfwriaeth (Cymru) i’w gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol.