Cyflwyniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 16 Gorffennaf 2019 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar [DD MMM 2019]. Fe’u lluniwyd gan Swyddfa Cwnsleriaid Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
2.Ni fwriedir i’r Nodiadau Esboniadol fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o gynnwys y Ddeddf. Os ymddengys nad oes angen rhoi unrhyw esboniad neu sylw ar ddarpariaeth unigol yn y Ddeddf, nis rhoddir.