Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018

Landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu am newidiadau cyfansoddiadol, etc.

Adran 3 - Newid rheolau neu erthyglau

11.Mae adran 3 yn diwygio paragraff 9 a pharagraff 11 o Atodlen 1.

Paragraff 9 o Atodlen 1

12.Mae paragraff 9 o Atodlen 1 yn gymwys i landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Mae cymdeithasau cofrestredig wedi eu cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

13.Mae paragraff 9 o Atodlen 1 wedi ei ddiwygio i ddileu’r gofyniad i landlord cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i newid rheolau penodol, ac yn lle hynny mae’n gosod dyletswydd ar landlord cymdeithasol cofrestredig i hysbysu Gweinidogion Cymru.

14.Os yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn newid unrhyw un neu ragor o’i reolau, gan gynnwys ei enw a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, nid oes angen iddo gael cydsyniad Gweinidogion Cymru. Rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt. I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.

Paragraff 11 o Atodlen 1

15.Mae paragraff 11 o Atodlen 1 yn gymwys i landlord cymdeithasol cofrestredig sydd wedi ei gofrestru yn gwmni (gan gynnwys cwmni sy’n elusen gofrestredig). Caiff cofrestriad cwmnïau ei gofnodi gan y Cofrestrydd Cwmnïau. Rhaid i gwmni ffeilio Erthyglau Cymdeithasu gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau. Dogfen yw hon sy’n nodi diben y cwmni yn ogystal â dyletswyddau a chyfrifoldebau ei aelodau. Rhaid i’r cwmni hefyd anfon copi o unrhyw benderfyniad sy’n addasu ei erthyglau at y Cofrestrydd Cwmnïau.

16.Mae paragraff 11 o Atodlen 1 wedi ei ddiwygio gan adran 3, gan ddileu’r gofyniad i landlord cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i newid rheolau penodol, ac yn lle hynny mae’n gosod dyletswydd ar landlord cymdeithasol cofrestredig i hysbysu Gweinidogion Cymru am y newidiadau hynny.

17.Os yw landlord cymdeithasol cofrestredig sydd wedi ei gofrestru yn gwmni yn gwneud newidiadau i’w enw, i gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu i’w erthyglau cymdeithasu, nid oes angen iddo gael cydsyniad Gweinidogion Cymru, ond rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt. I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.

Adran 4 – Cyfuno a newidiadau strwythurol eraill

18.Mae adran 4 yn diwygio paragraffau 12 i 14 o Atodlen 1.

Paragraff 12 o Atodlen 1

19.Mae paragraff 12 o Atodlen 1 yn gymwys i landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014.

20.Mae adran 109 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 yn caniatáu i gymdeithas gofrestredig basio penderfyniad arbennig i gyfuno â chymdeithas arall. Mae adran 110 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i gymdeithas gofrestredig basio penderfyniad arbennig i drosglwyddo ymrwymiadau rhwng cymdeithasau. Mae adran 112 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i gymdeithas gofrestredig basio penderfyniad i’w throsi ei hun yn gwmni, i gyfuno â chwmni neu i drosglwyddo ei hymrwymiadau i gwmni. Rhaid anfon copi o’r penderfyniad at yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

21.Gall cymdeithas hefyd basio penderfyniad arbennig i ddirwyn y gymdeithas i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986. Os yw cymdeithas yn gwneud hynny, rhaid iddi anfon copi o’r penderfyniad at yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

22.Gall cymdeithas sy’n solfent hefyd wneud cais i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol am gofrestru offeryn diddymu a fydd yn caniatáu iddi gael ei diddymu ac yn terfynu ei chofrestriad fel cymdeithas.

23.Gwneir diwygiadau i baragraff 12 o Atodlen 1 i ddileu’r gofynion i landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i benderfyniad:

  • i gyfuno â chymdeithas arall, i drosglwyddo ei ymrwymiadau i gymdeithas arall, i’w drosi ei hun yn gwmni cofrestredig, i gyfuno â chwmni neu i drosglwyddo ei ymrwymiadau i gwmni; neu

  • i gael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 neu drwy offeryn diddymu, ac

  • yn lle hynny gosodir dyletswydd ar landlord cymdeithasol cofrestredig i hysbysu Gweinidogion Cymru am benderfyniadau o’r fath.

24.O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i baragraff 12 o Atodlen 1 gan adran 4, nid oes rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i benderfyniad i gyfuno â chymdeithas arall, i drosglwyddo ei ymrwymiadau i gymdeithas arall, i’w drosi ei hun yn gwmni cofrestredig, i gyfuno â chwmni neu i drosglwyddo ei ymrwymiadau i gwmni. Rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt. I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.

25.Yn ogystal â hynny, rhaid i unrhyw hysbysiad i Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw un neu ragor o’r penderfyniadau y cyfeirir atynt yn y paragraff uchod (ac eithrio penderfyniadau i drosi cymdeithas yn gwmni) ddod gyda datganiad sy’n nodi’r modd yr ymgynghorodd y landlord cymdeithasol cofrestredig â’i denantiaid cyn pasio’r penderfyniad o dan sylw.

26.Nid yw’n ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i benderfyniad gael ei basio bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 neu os yw’r landlord cymdeithasol cofrestredig i gael ei ddiddymu drwy offeryn diddymu. Rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt. I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.

Paragraff 13 o Atodlen 1

27.Mae paragraff 13 yn gymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmnïau cofrestredig y mae eu cofrestriad fel landlord cymdeithasol wedi ei gofnodi gan y Cofrestrydd Cwmnïau.

28.Mae adran 899 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn caniatáu i gwmni wneud cais am orchymyn llys i ddod i gyfaddawd neu wneud trefniant â’i gredydwyr neu ei aelodau. Mae adran 900 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i’r cwmni wneud cais am orchymyn llys i drosglwyddo’r cyfan neu unrhyw ran o’i ymgymeriad, neu ei eiddo neu ei rwymedigaethau, at ddibenion atgyfansoddi neu gyfuno’r cwmni, ymhlith pethau eraill. Rhaid i’r cwmni anfon y copi swyddfa o’r gorchymyn at y Cofrestrydd Cwmnïau.

29.Gall landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmni hefyd basio penderfyniad o dan adran 115 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 i drosi yn gymdeithas gofrestredig a rhaid iddo anfon copi o’r penderfyniad at y Cofrestrydd Cwmnïau.

30.Gall cyfarwyddwr, gweinyddwr neu ddatodwr i’r cwmni hefyd wneud trefniant gwirfoddol â chredydwyr y cwmni o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Rhaid i aelodau a chredydwyr y cwmni gymeradwyo’r trefniant hwn.

31.Gall cwmni basio penderfyniad arbennig ei fod yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986, ac yn unol ag adran 30 o Ddeddf Cwmnïau 2006, rhaid anfon copi o’r penderfyniad at y Cofrestrydd Cwmnïau.

32.Gwneir newidiadau i baragraff 13 o Atodlen 1 i ddileu’r gofynion bod landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmni yn cael cydsyniad Gweinidogion Cymru er mwyn cymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a restrir yn y pedwar paragraff blaenorol.

33.O ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan adran 4, mae’r sefyllfa o dan baragraff 13 fel a ganlyn:

  • Nid oes angen i gwmni gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud cais am orchymyn llys o dan adran 899 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ond rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.

  • Nid oes angen i gwmni gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud cais am orchymyn llys o dan adran 900 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ond rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.

  • Os yw cwmni’n pasio penderfyniad o dan adran 115 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 i drosi’r cwmni yn gymdeithas gofrestredig, nid oes angen iddo gael cydsyniad Gweinidogion Cymru ond rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.

  • Nid yw mwyach yn ofynnol i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i unrhyw drefniant gwirfoddol o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 mewn perthynas â chwmni ond rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.

  • Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru roi eu cydsyniad cyn i gwmni basio penderfyniad arbennig ei fod i’w ddirwyn i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986. Rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.

Paragraff 14 o Atodlen 1

34.Mae adran 4 hefyd yn dileu paragraff 14 o Atodlen 1, gan ddileu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud cais i ddirwyn i ben landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmni neu’n gymdeithas gofrestredig o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 pan fo landlord cymdeithasol cofrestredig naill ai’n methu â chyflawni ei ddibenion neu ei amcanion yn briodol, neu’n analluog i dalu ei ddyledion.

Adran 5 – Cyfarwyddydau ynghylch hysbysiadau sydd i’w rhoi i Weinidogion Cymru

35.Mae adran 5 yn ychwanegu paragraff 13A pellach at Atodlen 1.

36.O dan adrannau 3 a 4 o’r Ddeddf, mewnosodir dyletswyddau yn Atodlen 1 o Ddeddf 1996 sy’n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru am newidiadau penodol. Mae’r paragraff 13A ychwanegol hwn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddydau sy’n pennu sut y byddant yn cael eu hysbysu a beth a gynhwysir mewn hysbysiad, ac yn gosod terfyn amser ar gyfer hysbysiadau. Mae hefyd yn eu galluogi i amrywio’r gofynion hyn yn ôl yr amgylchiadau. Gall cyfarwyddyd fod yn gymwys i bob landlord cymdeithasol cofrestredig neu i rai penodol, neu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ddisgrifiad penodol, a chaiff fod yn gymwys i bob hysbysiad, i hysbysiadau o ddisgrifiad penodol neu o dan amgylchiadau penodol.

37.Gall cyfarwyddyd hefyd hepgor gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru a chaiff amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd blaenorol.

38.Rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â chyfarwyddyd sy’n gymwys iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources