Crynodeb a’R Cefndir
4.Cyrff sydd wedi eu cofrestru gyda Gweinidogion Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf 1996 yw landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gallant fod yn elusen gofrestredig, yn gymdeithas a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 neu’n gwmni cofrestredig. Rhaid iddynt fod yn gyrff nad ydynt yn gwneud elw, a bod wedi eu sefydlu at ddiben darparu, adeiladu, gwella neu reoli tai i’w gosod neu hosteli, neu fod hynny’n rhan o’u hamcanion neu eu pwerau.
5.Ar 29 Medi 2016, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dylid dosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn Gorfforaethau Cyhoeddus Anariannol yn y cyfrifon gwladol. Y rheswm am hyn yw bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ddarostyngedig i’r hyn y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei alw’n rheolaeth lywodraethol, drwy bwerau rheoleiddio yn bennaf, a nodir yn Neddf 1996. Cyn hynny, roeddent yn cael eu dosbarthu yn Gorfforaethau Preifat Anariannol.
6.Caiff cyfran helaeth o’r rhaglen datblygu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ei hariannu drwy fenthyca o’r sector preifat sy’n ategu Grant Tai Cymdeithasol a rhaglenni ariannu eraill Llywodraeth Cymru.
7.Bydd dosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn Gorfforaethau Cyhoeddus Anariannol yn cynyddu Dyled Net y Sector Cyhoeddus a Lefel Fenthyca Net y Sector Cyhoeddus, gan y byddai unrhyw fenthyciadau marchnad y sector preifat gan y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hyn sydd wedi eu hailddosbarthu i’r sector cyhoeddus yn sgorio fel tâl yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru. Byddai cyllid ar gyfer tai yn cystadlu â blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru, ac mae’n debygol y byddai hynny’n golygu llai o dai fforddiadwy newydd ac opsiynau cyfyngedig i Lywodraeth Cymru fanteisio ar gyfraniad cadarnhaol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i’r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt, gan gynnwys manteision sylweddol o ran yr economi a chyflogaeth leol. Byddai hefyd yn creu ansicrwydd i randdeiliaid, gan gynnwys cyllidwyr sydd wedi gwneud ymrwymiadau tymor hir i ariannu sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig annibynnol.
8.Mae’r Ddeddf hon yn diwygio neu’n dileu’r elfennau hynny o reolaeth llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a arweiniodd at benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn Gorfforaethau Cyhoeddus Anariannol, fel y gellir ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn Gorfforaethau Preifat Anariannol unwaith eto.