Rhagarweiniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Mai 2018 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 13 Mehefin 2018. Fe’u lluniwyd gan Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf.
2.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf, ond nid ydynt yn rhan ohoni. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Pan fo adran o’r Ddeddf yn hunanesboniadol ac nad ymddengys bod angen unrhyw esboniad na sylw pellach, nis rhoddir.
3.Yn y nodiadau hyn, cyfeirir at Ddeddf Tai 1996 fel “Deddf 1996” a chyfeirir at Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1996 fel “Atodlen 1”.