Adran 92 – Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
167.Mae adran 92 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a fydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer arian grant er budd cymunedau yr effeithir arnynt gan warediadau tirlenwi neu weithgarwch paratoi ar gyfer tirlenwi, megis gweithgarwch mewn gorsafoedd trosglwyddo gwastraff. Gall y Cynllun ddarparu i’r grantiau gael eu dyrannu drwy gyfeirio at feini prawf penodedig a gallant fod yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn y Cynllun neu gan Weinidogion Cymru yn y cynigion grant. Rhagwelir y gall y meini prawf penodedig gynnwys cyfeiriadau at fioamrywiaeth, lleihau gwastraff a gwelliannau cymdeithasol neu amgylcheddol eraill i’r gymuned, ymysg pethau eraill. Cyhoeddir manylion am y ffordd y bydd y Cynllun yn gweithredu ar wahân ar yr adeg y daw TGT yn weithredol ym mis Ebrill 2018 neu cyn hynny.
168.Mae adran 92(4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r Cynllun o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 4 blynedd ar ôl ei gyhoeddi am y tro cyntaf a chynnal adolygiadau pellach fesul cyfnod o ddim mwy na 4 blynedd ar ôl yr adolygiad cyntaf. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phersonau priodol wrth adolygu’r Cynllun.
169.Mae adran 92(5) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun yn dilyn adolygiad, ond ni chaniateir dirymu’r Cynllun o fewn y 4 blynedd gyntaf. Mae adran 92(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw Gynllun diwygiedig.
170.Mae adran 92(7) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod y Cynllun, ac unrhyw fersiynau diwygiedig diweddarach ohono, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.