Grwpiau corfforaethol
Adrannau 77 a 78 – Dynodi grŵp o gwmnïau; ac amodau ar gyfer dynodi yn aelod o grŵp
147.Mae adran 77 yn caniatáu i ACC ddynodi dau neu ragor o gyrff corfforaethol yn grŵp at ddibenion y dreth. Effaith dynodi grŵp yw y caiff aelod cynrychiadol y grŵp ei drin, at ddibenion y dreth, fel gweithredwr safle tirlenwi y safleoedd sy’n cael eu gweithredu gan aelodau’r grŵp. Yn unol â hynny, bydd rhaid i swm o dreth, cosb neu log y byddai’n ofynnol fel arall i aelod o’r grŵp ei dalu o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir tra bo’n aelod o’r grŵp gael ei dalu, yn hytrach, gan yr aelod cynrychiadol. Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â rhwymedigaeth aelodau o grŵp ar y cyd ac yn unigol.
148.Er mwyn cael dynodiad grŵp, mae angen gwneud cais i ACC. Rhaid i ACC fod wedi ei fodloni bod y cais yn cael ei wneud gyda chytundeb pob aelod arfaethedig o’r grŵp. Ni chaniateir gwneud dynodiad grŵp oni fo holl aelodau’r grŵp yn cyflawni gweithrediadau trethadwy neu’n bwriadu gwneud hynny. Rhaid i bob aelod o’r grŵp fod o dan reolaeth yr un corff corfforaethol, unigolyn neu unigolion. Os yw ACC yn gwrthod cais grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y gwrthodiad.
Adran 79 – Amrywio neu ganslo dynodiad
149.Pan fo grŵp wedi ei ddynodi, caiff ACC amrywio’r dynodiad drwy ychwanegu neu dynnu ymaith aelod o’r grŵp neu drwy newid yr aelod cynrychiadol. Mae gan ACC hefyd y pŵer i ddiddymu dynodiad grŵp. Gall ACC amrywio neu ddiddymu dynodiad grŵp ar ei gymhelliad ei hun neu yn dilyn cais gan yr aelod cynrychiadol. Caniateir hefyd i unrhyw aelod o’r grŵp wneud cais i amrywio dynodiad grŵp pan fo’r cais hwnnw yn ymwneud â’r ffaith bod yr aelod hwnnw yn dymuno cael ei dynnu ymaith o’r dynodiad grŵp.
150.Rhaid i ACC amrywio neu ddiddymu’r dynodiad grŵp os yw’n fodlon nad yw amodau’r dynodiad yn cael eu bodloni mwyach.
151.Mae ACC yn amrywio neu’n diddymu drwy ddyroddi hysbysiad i bob aelod o’r grŵp, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu hychwanegu at y grŵp neu eu tynnu ymaith ohono. Os yw ACC yn gwrthod amrywio neu ddiddymu’r dynodiad grŵp, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y gwrthodiad.
Adran 80 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi grwpiau o gwmnïau
152.Mae adran 80 yn diwygio adran 172(2) o DCRhT fel bod y gweithdrefnau adolygu ac apelio yn Rhan 8 o’r Ddeddf honno yn berthnasol i benderfyniadau sy’n ymwneud â dynodi grŵp at ddibenion TGT.