Search Legislation

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 7

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ATODLEN 7. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynir gan adran 41(1))

ATODLEN 7LL+CPARTNERIAETHAU

This schedule has no associated Explanatory Notes

RHAN 1LL+CRHAGARWEINIAD

TrosolwgLL+C

1Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a DCRhT mewn perthynas â phartneriaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

2Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch trin partneriaethau;

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau cyffredin y mae partneriaeth yn ymwneud â hwy;

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i bartneriaeth o bartner neu o bersonau penodol eraill;

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau o bartneriaeth i bartner neu i bersonau penodol eraill;

(e)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch trafodiadau rhwng partneriaethau ac ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â phartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol;

(f)mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddiadau i bartneriaeth neu o bartneriaeth pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys rhent;

(g)mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddiadau buddiant mewn partneriaethau buddsoddi mewn eiddo, a thrafodiadau sy’n ymwneud â hynny;

(h)mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ymwneud ag esemptiadau a rhyddhadau i drafodiadau penodol sy’n ymwneud â phartneriaethau, ynghylch cymhwyso darpariaethau penodol yn DCRhT i drafodiadau penodol sy’n ymwneud â phartneriaethau, ac ynghylch hysbysu am drafodiadau o’r fath;

(i)mae Rhan 10 yn diffinio ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 7 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 2LL+CDARPARIAETHAU CYFFREDINOL

PartneriaethauLL+C

3Yn y Ddeddf hon, ystyr “partneriaeth” yw—

(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39);

(b)partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24);

(c)partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 (p. 12);

(d)ffyrm neu endid o gymeriad tebyg i unrhyw un neu ragor o’r rhai a enwir uchod a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 7 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trin buddiannau trethadwy fel pe baent yn cael eu dal gan bartneriaid etc.LL+C

4(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)caiff buddiant trethadwy a ddelir gan neu ar ran partneriaeth ei drin fel pe bai’n cael ei ddal gan neu ar ran y partneriaid, a

(b)caiff trafodiad tir yr ymrwymir iddo at ddibenion partneriaeth ei drin fel pe ymrwymir iddo gan neu ar ran y partneriaid,

ac nid gan neu ar ran y bartneriaeth fel y cyfryw.

(2)Mae is-baragraff (1) yn gymwys er gwaethaf y ffaith yr ystyrir bod partneriaeth yn berson cyfreithiol, neu’n gorff corfforaethol, o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth y’i ffurfir oddi tani.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 7 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drethadwy ac eithrio pan ddarperir yn arbennig ar gyfer hynnyLL+C

5Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drafodiad trethadwy er gwaethaf y ffaith fod eiddo’r bartneriaeth yn cynnwys tir, ac eithrio fel a ddarperir gan—

(a)paragraff 18 (trosglwyddo buddiant yn unol â threfniadau cynharach);

(b)paragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 7 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Parhad partneriaethauLL+C

6At ddibenion y Ddeddf hon, caiff partneriaeth ei thrin fel yr un bartneriaeth er gwaethaf newid mewn aelodaeth os yw unrhyw berson a oedd yn aelod cyn y newid yn parhau i fod yn aelod ar ôl y newid.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 7 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau etc.LL+C

7At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau nac yn gwmni buddsoddi penagored.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 7 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 7 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 3LL+CTRAFODIADAU CYFFREDIN GAN BARTNERIAETH

RhagarweiniadLL+C

8Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gymwys i drafodiadau tir yr ymrwymir iddynt fel prynwyr gan neu ar ran aelodau partneriaeth, ac eithrio trafodiadau o fewn Rhannau 4 i 8 o’r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 7 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfrifoldeb partneriaidLL+C

9(1)Mewn perthynas ag unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu o dan DCRhT gan y prynwr yn y trafodiad, neu mewn perthynas ag ef, rhaid i’r holl bartneriaid cyfrifol ei wneud neu rhaid ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd.

(2)Y partneriaid cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad yw—

(a)y personau sy’n bartneriaid ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn aelod o’r bartneriaeth ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(3)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 10 (partneriaid cynrychiadol).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 7 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 7 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Partneriaid cynrychiadolLL+C

10(1)Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn cysylltiad â’r trafodiad gan y partneriaid cyfrifol, neu mewn perthynas â hwy, gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw bartner neu bartneriaid cynrychiadol, neu mewn perthynas â hwy.

(2)Mae hyn yn cynnwys gwneud y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 (datganiad bod ffurflen dreth yn gyflawn ac yn gywir).

(3)Ystyr “partner cynrychiadol” yw partner a enwebir gan fwyafrif o’r partneriaid i weithredu fel cynrychiolydd y bartneriaeth at ddibenion y Ddeddf hon.

(4)Nid yw unrhyw enwebiad o’r fath, neu ddirymiad enwebiad o’r fath, ond yn cael effaith ar ôl i ACC gael ei hysbysu am yr enwebiad neu’r dirymiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 7 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I20Atod. 7 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhwymedigaeth partneriaid cyfrifol ar y cyd ac yn unigolLL+C

11(1)Pan fo rhwymedigaeth ar y partneriaid cyfrifol i dalu—

(a)treth neu log taliadau hwyr ar y dreth honno,

(b)swm o dan adran 55 o DCRhT (adennill ad-daliad gormodol) neu log taliadau hwyr ar y swm hwnnw, neu

(c)cosb o dan Ran 5 o DCRhT neu log taliadau hwyr ar y gosb honno,

mae’r rhwymedigaeth yn rhwymedigaeth i’r partneriaid hynny ar y cyd ac yn unigol.

(2)Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) gan berson na ddaeth yn bartner cyfrifol hyd ar ôl y dyddiad yr oedd y trafodiad y mae treth yn daladwy mewn perthynas ag ef yn cael effaith.

(3)Ni chaniateir adennill unrhyw swm o dan is-baragraff (1)(c) gan berson na ddaeth yn bartner hyd ar ôl yr adeg berthnasol.

(4)Yr adeg berthnasol—

(a)mewn perthynas â hynny o gosb sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, neu â llog taliadau hwyr ar hynny o gosb sy’n daladwy felly, yw dechrau’r diwrnod hwnnw;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gosb arall, neu log taliadau hwyr ar y gosb, yw’r adeg y digwyddodd y weithred neu’r anwaith a achosodd i’r gosb ddod yn daladwy.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “llog taliadau hwyr” yw llog taliadau hwyr o dan Ran 6 o DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 7 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I22Atod. 7 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 4LL+CTRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU I BARTNERIAETH

RhagarweiniadLL+C

12Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)mae paragraffau 13 i 17 yn gwneud darpariaeth ynghylch trin trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth, a

(b)mae paragraffau 18 a 19 yn darparu ar gyfer trin digwyddiadau penodol yn dilyn trafodiadau o’r fath fel trafodiadau tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 7 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I24Atod. 7 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: cyffredinolLL+C

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth,

(b)person yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn gyfnewid am fuddiant yn y bartneriaeth, neu

(c)person sy’n gysylltiedig ag—

(i)partner, neu

(ii)person sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef,

yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth.

(2)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw’r trosglwyddiad mewn cysylltiad â ffurfio’r bartneriaeth neu’n drosglwyddiad i bartneriaeth bresennol.

(3)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i—

Formula - MV multiplied by (100 minus SLP)%

Ffigwr 9

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac

  • SCI yn swm y cyfrannau is.

(4)Mae paragraff 14 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.

(5)Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.

(6)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, ond y partneriaid cyfrifol yw—

(a)y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad ag ef.

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 7 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I26Atod. 7 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: swm y cyfrannau isLL+C

14Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 15).

  • Cam 2

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 16).

    Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.

  • Cam 3

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan y perchennog hawl iddi yn union cyn y trafodiad.

    Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.

  • Cam 4

    Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—

    (a)

    y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 17);

    (b)

    cyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad.

  • Cam 5

    Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.

    Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 7 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I28Atod. 7 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Perchennog perthnasolLL+C

15(1)At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—

(a)os oedd gan y person, yn union cyn y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a

(b)os yw’r person, yn union ar ôl y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.

(2)At ddibenion paragraff 14 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 7 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I30Atod. 7 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Partner cyfatebolLL+C

16(1)At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 2), mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union ar ôl y trafodiad—

(a)yw’r person yn bartner, a

(b)y person yw’r perchennog perthnasol neu os yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.

(2)At ddiben is-baragraff (1)(b), mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—

(a)os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 7 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I32Atod. 7 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebolLL+C

17At ddibenion paragraff 14 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—

(a)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;

(b)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 7 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I34Atod. 7 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi trethiLL+C

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);

(c)pan drosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth wedi hynny (“trosglwyddiad y bartneriaeth”);

(d)pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth—

(i)os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), gan y person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir;

(ii)os yw’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), gan y partner o dan sylw;

(e)pan wneir trosglwyddiad y bartneriaeth yn unol â threfniadau sy’n drefniadau osgoi trethi, neu’n rhan ohonynt a oedd yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad tir;

(f)pan nad yw trosglwyddiad y bartneriaeth (oni bai am y paragraff hwn) yn drafodiad trethadwy.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, o ran trosglwyddiad y bartneriaeth—

(a)cymerir ei fod yn drafodiad tir, a

(b)mae’n drafodiad trethadwy.

(3)Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr yn y trafodiad.

(4)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol, ar ddyddiad y trafodiad, y buddiant a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir.

(5)Y gyfran honno—

(a)os nad yw’r person sy’n gwneud trosglwyddiad y bartneriaeth yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth yn union cyn y trosglwyddiad hwnnw;

(b)os yw’r person yn bartner yn union ar ôl trosglwyddiad y bartneriaeth, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad hwnnw ac ar ei ôl.

(6)Cymerir bod trosglwyddiad y bartneriaeth a’r trosglwyddiad tir yn drafodiadau cysylltiol.

(7)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â throsglwyddiad y bartneriaeth, ond y partneriaid cyfrifol yw—

(a)y rhai hynny a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trosglwyddiad ac sy’n parhau i fod yn bartneriaid ar ôl y trosglwyddiad, a

(b)unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

(8)Yn y paragraff hwn, mae i “trefniadau osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 7 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I36Atod. 7 para. 18 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Tynnu arian etc. o bartneriaeth ar ôl trosglwyddo buddiant trethadwyLL+C

19(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (“y trosglwyddiad tir”);

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1);

(c)pan geir digwyddiad cymwys o fewn is-baragraff (2) yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir yn cael effaith;

(d)pan fo’r digwyddiad cymwys yn drefniant osgoi trethi, neu’n rhan ohono;

(e)pan na fo dewis wedi ei wneud, ar adeg y digwyddiad cymwys, mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad tir o dan baragraff 36.

(2)Ystyr digwyddiad cymwys yw—

(a)tynnu o’r bartneriaeth arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n cynrychioli elw incwm, drwy fod y person perthnasol—

(i)yn tynnu cyfalaf o gyfrif cyfalaf y person perthnasol,

(ii)yn lleihau buddiant y person perthnasol yn y bartneriaeth, neu

(iii)yn peidio â bod yn bartner, neu

(b)mewn achos pan fo’r person perthnasol wedi rhoi benthyciad i’r bartneriaeth—

(i)y bartneriaeth yn ad-dalu’r benthyciad (i unrhyw raddau), neu

(ii)y person perthnasol yn tynnu o’r bartneriaeth arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n cynrychioli elw incwm.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), y person perthnasol—

(a)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(a) neu (b), yw’r person sy’n gwneud y trosglwyddiad tir, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad tir o fewn paragraff 13(1)(c), yw’r partner o dan sylw neu berson sy’n gysylltiedig â’r partner hwnnw.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, o ran y digwyddiad cymwys—

(a)cymerir ei fod yn drafodiad tir, a

(b)mae’n drafodiad trethadwy.

(5)Cymerir mai’r partneriaid yw’r prynwyr o dan y trafodiad.

(6)Mae paragraffau 9 i 11 (cyfrifoldeb partneriaid) yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad.

(7)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad—

(a)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(a), yn hafal i werth yr arian neu’r cyfwerth ariannol a dynnir o’r bartneriaeth;

(b)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b)(i), yn hafal i’r swm a ad-delir;

(c)mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b)(ii), yn hafal i hynny o werth yr arian neu’r cyfwerth ariannol a dynnir o’r bartneriaeth nad yw’n fwy na swm y benthyciad.

(8)Ond nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan is-baragraff (7) i fod yn fwy na gwerth marchnadol, ar y dyddiad y mae’r trosglwyddiad tir yn cael effaith, y buddiant trethadwy a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir, wedi ei ostwng yn ôl unrhyw swm yr oedd treth i’w chodi arno cyn hynny.

(9)Pan fo—

(a)digwyddiad cymwys yn arwain at godi treth o dan y paragraff hwn, a

(b)yr un digwyddiad yn arwain at godi treth o dan baragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo),

caiff swm y dreth a godir o dan y paragraff hwn ei ostwng (ond nid islaw sero) yn ôl swm y dreth a godir o dan y paragraff hwnnw.

(10)Yn y paragraff hwn, mae i “trefniant osgoi trethi” yr ystyr a roddir gan adran 31.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 7 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I38Atod. 7 para. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 5LL+CTRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU O BARTNERIAETH

RhagarweiniadLL+C

20Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trin trafodiadau tir penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 7 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I40Atod. 7 para. 20 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinolLL+C

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan drosglwyddir buddiant trethadwy—

(a)o bartneriaeth i berson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid, neu

(b)o bartneriaeth i berson sy’n gysylltiedig â pherson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid.

(2)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (yn ddarostyngedig i baragraff 30) yn hafal i—

Formula - MV multiplied by (100 minus SLP)%

Ffigwr 10

pan fo—

  • GM yn werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir, ac

  • SCI yn swm y cyfrannau is.

(3)Mae paragraff 22 yn darparu ar gyfer pennu swm y cyfrannau is.

(4)Mae Rhan 7 yn gymwys os yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.

(5)At ddibenion y paragraff hwn, mae eiddo a oedd yn eiddo’r bartneriaeth cyn i’r bartneriaeth gael ei diddymu neu cyn iddi beidio â bodoli fel arall i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn eiddo’r bartneriaeth hyd nes y caiff ei ddosbarthu.

(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddewis o dan baragraff 36.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 7 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I42Atod. 7 para. 21 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: swm y cyfrannau isLL+C

22Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 23).

  • Cam 2

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 24).

    Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.

  • Cam 3

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy y mae gan y perchennog hwnnw hawl iddo yn union ar ôl y trafodiad.

    Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.

  • Cam 4

    Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—

    (a)

    y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 25);

    (b)

    y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner (gweler paragraffau 26 a 27).

  • Cam 5

    Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.

    Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 7 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I44Atod. 7 para. 22 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Perchennog perthnasolLL+C

23(1)At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 1), mae person yn berchennog perthnasol—

(a)os oes gan y person, yn union ar ôl y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, a

(b)os oedd y person, yn union cyn y trafodiad, yn bartner neu’n gysylltiedig â phartner.

(2)At ddibenion paragraff 22 a’r paragraff hwn, cymerir bod gan bersonau sydd â hawl i fuddiant trethadwy fel cyd-denantiaid llesiannol hawl i’r buddiant trethadwy fel tenantiaid ar y cyd llesiannol mewn cyfrannau cyfartal.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 7 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I46Atod. 7 para. 23 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Partner cyfatebolLL+C

24(1)At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 2) mae person yn bartner cyfatebol mewn perthynas â pherchennog perthnasol os, yn union cyn y trafodiad—

(a)oedd y person yn bartner, a

(b)y person oedd y perchennog perthnasol neu os oedd yn unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.

(2)At ddibenion is-baragraff (1)(b) mae cwmni i’w drin fel unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol—

(a)os yw’n dal eiddo fel ymddiriedolwr, a

(b)os nad yw ond yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol oherwydd adran 1122(6) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (fel y mae’n cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e)).

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 7 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I48Atod. 7 para. 24 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebolLL+C

25At ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4), y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol—

(a)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, yw’r gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â’r perchennog hwnnw;

(b)os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (yng Ngham 3) mewn cysylltiad â phob un o’r perchnogion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 7 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I50Atod. 7 para. 25 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith cyn 20 Hydref 2003LL+C

26(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith cyn 20 Hydref 2003.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol i’w bennu fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.

    Y dyddiad perthnasol—

    (a)

    os oedd y partner yn bartner ar 19 Hydref 2003, yw’r dyddiad hwnnw;

    (b)

    os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.

  • Cam 2

    Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—

    (a)

    sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a

    (b)

    sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (5)).

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.

  • Cam 3

    Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

(3)Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(4)Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn 19 Hydref 2003, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(5)Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw’r offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem.

(6)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 27 y buddiant trethadwy perthnasol—

(a)yw’r buddiant trethadwy sy’n peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth o ganlyniad i’r trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, neu

(b)os creu buddiant trethadwy yw’r trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, yw’r buddiant trethadwy y crëir y buddiant hwnnw ohono.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 7 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I52Atod. 7 para. 26 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad yr oedd trosglwyddiad yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynnyLL+C

27(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion paragraff 22 (gweler Cam 4) pan fo’r dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys ac nad yw’r naill na’r llall o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(3)Yr amodau yw—

(a)bod yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;

(b)bod unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.

(4)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, a bod un o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi ei fodloni, pennir y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner fel a ganlyn⁠—

  • Cam 1

    Canfod cyfranddaliad gwirioneddol y partner yn y bartneriaeth ar y dyddiad perthnasol.

    Y dyddiad perthnasol—

    (a)

    os oedd y partner yn bartner ar y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, yw’r dyddiad hwnnw;

    (b)

    os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, yw’r dyddiad y daeth y partner yn bartner.

  • Cam 2

    Ychwanegu at y cyfranddaliad hwnnw yn y bartneriaeth unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth—

    (a)

    sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo, a

    (b)

    sy’n cyfrif at y diben hwn (gweler is-baragraff (7)).

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth.

  • Cam 3

    Didynnu o’r cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth sy’n digwydd yn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae paragraff 22 yn gymwys iddo.

    Y canlyniad yw’r cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

(5)Os effaith cymhwyso Cam 3 fyddai gostwng y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner islaw sero, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(6)Os peidiodd y partner â bod yn bartner cyn y dyddiad yr oedd trosglwyddiad y buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth yn cael effaith, y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner yw sero.

(7)Nid yw cynnydd yn cyfrif at ddibenion Cam 2 onid yw—

(a)pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny, yr offeryn a oedd yn rhoi effaith i’r trosglwyddiad wedi ei stampio â threth stamp ad valorem;

(b)pan ddigwyddodd y trosglwyddiad a arweiniodd at y cynnydd ar ôl y dyddiad hwnnw, unrhyw dreth trafodiadau tir neu, yn ôl y digwydd, dreth dir y dreth stamp sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad wedi ei thalu.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 7 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I54Atod. 7 para. 27 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 6LL+CTRAFODIADAU ERAILL SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU

RhagarweiniadLL+C

28Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiad o bartneriaeth i bartneriaeth, a

(b)trafodiadau pan ffurfir partneriaeth yn llwyr gan gyrff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 7 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I56Atod. 7 para. 28 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaethLL+C

29(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad—

(i)yn drafodiad y mae paragraff 13 (trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth) yn gymwys iddo, a

(ii)hefyd yn drafodiad y mae paragraff 21 (trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth) yn gymwys iddo.

(2)Nid yw paragraffau 13(3) ac 21(2) yn gymwys.

(3)Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw’r hyn a fyddai pe bai paragraff 13(3) yn gymwys neu, os yw’n fwy na hynny, yr hyn a fyddai pe bai paragraff 21(2) yn gymwys.

(4)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent⁠—

(a)nid yw paragraff 31 yn gymwys;

(b)cymerir mai’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent yw’r mwyaf o—

(i)y dreth a fyddai i’w chodi pe bai paragraff 31 yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, neu

(ii)y dreth a fyddai i’w chodi pe bai paragraff 31 yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;

(c)mae datgymhwyso’r band cyfradd sero y darperir ar ei gyfer gan baragraff 34 o Atodlen 6 yn cael effaith pe bai wedi cael effaith pe bai paragraff 31(6) o’r Atodlen hon yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 7 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I58Atod. 7 para. 29 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaetholLL+C

30(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan geir trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;

(b)pan fo, yn union cyn y trafodiad, yr holl bartneriaid yn gyrff corfforaethol;

(c)pan fo swm y cyfrannau is yn 75 neu’n fwy.

(2)Mae paragraffau 21 ac 31 yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3)Mae paragraff 21 yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-baragraffau (2) a (3)—

(2)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i werth marchnadol y buddiant a drosglwyddir.

(4)Mae paragraff 31(2) yn cael effaith fel pe bai “is-baragraff (5)” wedi ei roi yn lle “is-baragraffau (3) i (6)”.

(5)Mae paragraff 31 yn cael effaith fel pe bai is-baragraffau (3), (4), (6) a (7) wedi eu hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 7 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I60Atod. 7 para. 30 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 7LL+CCYMHWYSO RHANNAU 5 A 6 MEWN PERTHYNAS Â LESOEDD

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth neu o bartneriaeth: cydnabyddiaeth drethadwy sy’n cynnwys rhentLL+C

31(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 neu 21 yn gymwys iddo pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent.

(2)Mae Rhan 5 o Atodlen 6 (lesoedd: cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi) yn cael effaith gyda’r addasiadau a nodir yn is-baragraffau (3) i (6).

(3)Mae paragraff 29 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yng Ngham 1, “ y gyfran drethadwy berthnasol o werth net presennol (“GNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les” yn cael ei roi yn lle “gwerth net presennol (“GNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnod y les”;

(b)yng Ngham 2, “o’r gyfran drethadwy berthnasol” yn cael ei roi yn lle “o’r GNP”.

(4)Mae paragraff 30 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yng Ngham 1, “cyfanswm y cyfrannau trethadwy perthnasol o werthoedd net presennol (“CGNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnodau pob un o’r lesoedd” yn cael ei roi yn lle “cyfanswm gwerthoedd net presennol (“CGNP”) y rhent sy’n daladwy yn ystod cyfnodau pob un o’r lesoedd cysylltiol”;

(b)yng Ngham 2, “o gyfanswm y cyfrannau trethadwy perthnasol” yn cael ei roi yn lle “o’r CGNP”;

(c)yng Ngham 4, “cyfran drethadwy berthnasol o’r rhent” yn cael ei roi yn lle “GNP y rhent” a “gyda chyfanswm y cyfrannau trethadwy perthnasol” yn cael ei roi yn lle “gyda’r CGNP”.

(5)Mae paragraff 33(1) yn cael effaith fel pe bai “paragraffau 13 ac 21 o Atodlen 7 a pharagraffau 34 a 35 o’r Atodlen hon” yn cael ei roi yn lle “paragraffau 34 a 35”.

(6)Mae paragraff 36(1)(a) yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (i), “y gyfran drethadwy berthnasol o’r rhent blynyddol” yn cael ei roi yn lle “y rhent blynyddol”;

(b)yn is-baragraff (ii), “y gyfran drethadwy berthnasol o gyfanswm y rhenti blynyddol” yn cael ei roi yn lle “cyfanswm y rhenti blynyddol”.

(7)At ddibenion paragraffau 29, 30 a 36 o Atodlen 6 fel y’u haddaswyd gan y paragraff hwn, y gyfran drethadwy berthnasol yw—

Formula - (100 minus SCI)%

Ffigwr 11

pan fo SCI yn swm y cyfrannau is.

(8)Mae’r paragraffau a ganlyn yn gymwys wrth bennu swm y cyfrannau is—

(a)yn achos trafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, paragraff 14, a

(b)yn achos trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo, paragraff 22.

(9)Yn achos trafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo, mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 7 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I62Atod. 7 para. 31 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 8LL+CTROSGLWYDDIADAU SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU BUDDSODDI MEWN EIDDO

RhagarweiniadLL+C

32Mae’r Rhan hon o’r Atodlen yn gwneud darpariaeth—

(a)ynghylch trafodiadau penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a

(b)i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo ddewis datgymhwyso paragraff 13 mewn perthynas â thrafodiadau tir penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 7 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I64Atod. 7 para. 32 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Ystyr partneriaethau buddsoddi mewn eiddoLL+C

33(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr “partneriaeth buddsoddi mewn eiddo” yw partneriaeth y mae ei hunig weithgaredd neu ei phrif weithgaredd yn fuddsoddi neu ddelio mewn buddiannau trethadwy (pa un a yw’r gweithgaredd hwnnw yn cynnwys cynnal gweithrediadau adeiladu ar y tir o dan sylw ai peidio).

(2)Yn is-baragraff (1), mae i “gweithrediadau adeiladu” yr un ystyr ag a roddir i “construction operations” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12) (gweler adran 74 o’r Ddeddf honno).

(3)At ddibenion is-baragraff (1), mae “buddiannau trethadwy” yn cynnwys unrhyw fuddiant a fyddai’n fuddiant trethadwy oni bai am y ffaith ei fod yn ymwneud â thir y tu allan i Gymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 7 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I66Atod. 7 para. 33 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddoLL+C

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a

(b)pan fo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)cymerir bod y trosglwyddiad yn drafodiad tir, a

(b)mae’r trosglwyddiad yn drafodiad trethadwy.

(3)Y prynwr yn y trafodiad yw’r person sy’n caffael cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth neu, yn ôl y digwydd, sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad.

(4)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol eiddo perthnasol y bartneriaeth.

(5)Y gyfran honno—

(a)os nad oedd y person sy’n caffael y buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad;

(b)os oedd y person yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad ac ar ei ôl.

(6)Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math A o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—

(a)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,

(b)les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi, ac

(c)unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir.

(7)Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math B o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—

(a)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,

(b)les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi,

(c)unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir,

(d)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny,

(e)unrhyw fuddiant trethadwy y gwnaed dewis yn ei gylch o dan baragraff 36, mewn cysylltiad â’i drosglwyddiad i’r bartneriaeth, ac

(f)unrhyw fuddiant trethadwy arall nad oedd ei drosglwyddiad i’r bartneriaeth o fewn paragraff 13(1).

(8)Ystyr trosglwyddiad Math A yw—

(a)trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—

(i)holl fuddiant partner fel partner, neu ran ohono, yn cael ei gaffael gan berson arall (a gaiff fod yn bartner presennol), a

(ii)cydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei rhoi gan y person sy’n caffael y buddiant, neu ar ei ran, neu

(b)trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—

(i)person yn dod yn bartner,

(ii)buddiant partner presennol yn y bartneriaeth yn cael ei ostwng neu bartner presennol yn peidio â bod yn bartner, a

(iii)arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei dynnu o’r bartneriaeth gan y partner presennol a grybwyllir ym mharagraff (ii) (ac eithrio arian neu gyfwerth ariannol a dalwyd o’r adnoddau a oedd ar gael i’r bartneriaeth cyn y trosglwyddiad).

(9)Mae unrhyw drosglwyddiad arall y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn drosglwyddiad Math B.

(10)Mae buddiant mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel buddiant trethadwy at ddibenion paragraff 8(2) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’r graddau y bo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn fuddiant trethadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 7 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I68Atod. 7 para. 34 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Eithrio lesoedd rhent marchnadolLL+C

35(1)Nid yw les a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl trosglwyddo buddiant yn y bartneriaeth yn eiddo perthnasol y bartneriaeth at ddibenion paragraff 34(6) na (7) os bodlonir y pedwar amod a ganlyn.

(2)Amod 1 yw—

(a)nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent wedi ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad i unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent gael ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les.

(3)Amod 2 yw bod y rhent sy’n daladwy o dan y les fel y’i rhoddwyd yn rhent marchnadol ar adeg rhoi’r les.

(4)Amod 3 yw—

(a)bod cyfnod y les yn 5 mlynedd neu lai, neu

(b)os yw cyfnod y les yn fwy na 5 mlynedd—

(i)bod y les yn darparu y bydd y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 5 mlynedd o’r cyfnod, a

(ii)ei bod yn ofynnol i’r rhent sy’n daladwy o dan y les o ganlyniad i adolygiad fod yn rent marchnadol ar y dyddiad adolygu.

(5)Amod 4 yw na chafwyd unrhyw newid i’r les ers iddi gael ei rhoi sy’n golygu, yn union ar ôl i’r newid gael effaith, fod y rhent sy’n daladwy o dan y les yn llai na rhent marchnadol.

(6)Rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les ei ddenu ar y farchnad agored ar yr adeg honno.

(7)Dyddiad adolygu yw dyddiad y mae’r rhent a bennir o ganlyniad i adolygiad rhent yn daladwy ohono.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 7 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I70Atod. 7 para. 35 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Dewis gan bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo i ddatgymhwyso paragraff 13LL+C

36(1)Nid yw paragraff 13 yn gymwys i drosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo os yw’r prynwr yn y trafodiad yn dewis i’r paragraff hwnnw beidio â bod yn gymwys.

(2)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â thrafodiad—

(a)mae paragraff 21 (trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinol) hefyd wedi ei ddatgymhwyso,

(b)cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw gwerth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac

(c)mae’r trafodiad o fewn Rhan 3 (trafodiadau cyffredin gan bartneriaeth) o’r Atodlen hon.

(3)Rhaid i ddewis o dan y paragraff hwn gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno (gweler adran 41 o DCRhT am ddarpariaeth ynghylch diwygio ffurflenni treth).

(4)Mae’r dewis yn un di-alw’n-ôl, felly ni chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(5)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â thrafodiad (y “prif drafodiad”) mewn diwygiad i ffurflen dreth—

(a)mae’r dewis yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth, a

(b)caniateir diwygio unrhyw ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad yr effeithir arno (o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth honno) er mwyn adlewyrchu’r dewis hwnnw.

(6)Yn is-baragraff (5), ystyr “trafodiad yr effeithir arno” mewn perthynas â’r prif drafodiad yw trafodiad—

(a)yr oedd paragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo) yn gymwys iddo, a

(b)sy’n cael effaith ar y dyddiad, neu ar ôl y dyddiad, y mae’r prif drafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 7 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I72Atod. 7 para. 36 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Buddiannau partneriaethau: cymhwyso darpariaethau ynghylch cyfnewidLL+C

37(1)Pan fo adran 16 (cyfnewidiadau) yn gymwys i gaffael buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn gydnabyddiaeth am ymrwymo i drafodiad tir â phartner presennol, mae’r buddiant yn y bartneriaeth i’w drin fel prif fuddiant mewn tir, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 4 os yw eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys prif fuddiant mewn tir.

(2)Yn is-baragraff (1), mae i “eiddo perthnasol y bartneriaeth” yr ystyr a roddir gan baragraffau 34(6) neu (7) (fel y bo’n briodol, ac fel y’u darllenir ar y cyd â pharagraff 35).

(3)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraff 6 o Atodlen 4 (darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 7 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I74Atod. 7 para. 37 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 9LL+CCYMHWYSO ESEMPTIADAU, RHYDDHADAU, DARPARIAETHAU DCRHT A DARPARIAETHAU HYSBYSU

RhagarweiniadLL+C

38Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)mae paragraff 39 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso esemptiadau a rhyddhadau i drafodiadau y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddynt;

(b)mae paragraffau 40 a 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso rhyddhad grŵp i drafodiadau penodol a grybwyllir yn Rhan 4 o’r Atodlen hon;

(c)mae paragraff 42 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso rhyddhad elusennau i drosglwyddiadau penodol buddiant mewn partneriaeth;

(d)mae paragraff 43 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso darpariaethau penodol yn DCRhT i bartneriaethau;

(e)mae paragraff 44 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysu am drosglwyddiadau penodol buddiant mewn partneriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 7 para. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I76Atod. 7 para. 38 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cymhwyso esemptiadau a rhyddhadauLL+C

39(1)Nid yw paragraff 1 o Atodlen 3 (esemptiad ar gyfer trafodiadau nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar eu cyfer) yn gymwys i drafodiadau y mae paragraffau 13, 18, 21 neu 34 yn gymwys iddynt.

(2)Ond (yn ddarostyngedig i baragraffau 40 a 42) mae’r Atodlen hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag treth.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 7 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I78Atod. 7 para. 39 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cymhwyso rhyddhad grŵpLL+C

40(1)Mae Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) yn gymwys i—

(a)trafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, a

(b)trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18,

gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2)Mae paragraff 8 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (2)(a), “pan fo partner a oedd yn bartner ar y dyddiad yr oedd y trafodiad a ryddheir yn cael effaith (“y partner perthnasol”)” yn cael ei roi yn lle “pan fo’r prynwr”;

(b)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (2)(b)—

(b)ar yr adeg y mae’r partner perthnasol yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo buddiant trethadwy yn cael ei ddal gan aelodau’r bartneriaeth neu ar eu rhan a bod y buddiant trethadwy hwnnw—

(i)wedi ei gaffael gan y bartneriaeth neu ar ei rhan o dan y trafodiad a ryddheir, neu

(ii)yn deillio o fuddiant trethadwy a gaffaelwyd felly,

ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.;

(c)yn is-baragraff (4), “a ddelir gan neu ar ran y bartneriaeth ac i’r gyfran y mae gan y partner perthnasol hawl iddi ar yr adeg berthnasol wrth rannu elw incwm y bartneriaeth” yn cael ei roi yn lle’r geiriau o “y mae’r cwmni” hyd y diwedd;

(d)yn is-baragraff (5), y diffiniad o “cwmni cyswllt perthnasol” wedi ei hepgor.

(3)Mae paragraffau 9 i 14 yn cael effaith fel pe bai “y partner perthnasol” yn cael ei roi yn lle “y prynwr”(bob tro y mae’n digwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 7 para. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I80Atod. 7 para. 40 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Swm y cyfrannau is: cwmni cysylltiedigLL+C

41(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys, wrth gyfrifo swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad (yn unol â pharagraff 14)—

(a)pe bai cwmni (“y cwmni cysylltiedig”) wedi bod yn bartner cyfatebol i berchennog perthnasol (“y perchennog gwreiddiol”) oni bai am y ffaith nad yw Cam 2, yn rhinwedd paragraff 16(1)(b), yn cynnwys personau cysylltiedig onid ydynt yn unigolion, a

(b)pan fo’r cwmni cysylltiedig a’r perchennog gwreiddiol yn aelodau o’r un grŵp.

(2)Mae’r dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad i’w gostwng i’r swm a fyddai wedi bod yn daladwy pe bai’r cwmni cysylltiedig wedi bod yn bartner cyfatebol i’r perchennog gwreiddiol at ddibenion cyfrifo swm y cyfrannau is.

(3)Mae darpariaethau Atodlen 16 yn gymwys i ryddhad o dan is-baragraff (2) fel y maent yn gymwys i ryddhad grŵp o dan baragraff 2(1) o’r Atodlen honno, ond—

(a)fel pe bai paragraff 4(3)(a) wedi ei hepgor,

(b)fel pe bai, ym mharagraff 8(2)(a), “pan fo partner a oedd, ar y dyddiad yr oedd y trafodiad yn cael effaith, yn bartner ac yn aelod o’r un grŵp â’r trosglwyddwr (“y partner perthnasol”)” yn cael ei roi yn lle “pan fo’r prynwr”, ac

(c)gyda’r addasiadau eraill a bennir ym mharagraff 40.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 7 para. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I82Atod. 7 para. 41 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cymhwyso rhyddhad elusennauLL+C

42(1)Mae Atodlen 18 (rhyddhad elusennau) yn gymwys i drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2)Mae paragraff 1(b) yn cael effaith fel pe bai “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7,” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”.

(3)Mae paragraff 2 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (1), “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”;

(b)yn is-baragraff (1)(a), “os yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad yn cael ei ddal” yn cael ei roi yn lle “os yw E yn bwriadu dal testun y trafodiad”;

(c)is-baragraff (1)(b) wedi ei hepgor;

(d)yn is-baragraff (2), “mae buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn cael ei ddal” yn cael ei roi yn lle “mae E yn dal testun y trafodiad”;

(e)y canlynol yn cael ei fewnosod ar ôl is-baragraff (2)—

(2A)Trosglwyddir buddiant mewn partneriaeth at ddibenion yr Atodlen hon os oes trosglwyddiad o’r fath at ddibenion Atodlen 7 (gweler paragraff 48 o’r Atodlen honno).

(2B)Mae paragraff 45(1) o Atodlen 7 (ystyr cyfeiriadau at eiddo partneriaeth) yn gymwys at ddibenion yr Atodlen hon fel y bo’n gymwys at ddibenion yr Atodlen honno.;

(f)yn is-baragraff (4), “sy’n drosglwyddai o dan drosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “sy’n brynwr mewn trafodiad tir”;

(g)yn is-baragraff (4)(b), “unrhyw fuddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad” yn cael ei roi yn lle “testun y trafodiad”.

(4)Mae paragraff 3 yn cael effaith fel pe bai—

(a)“trosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “trafodiad tir”;

(b)“y trosglwyddai” yn cael ei roi yn lle “y prynwr”.

(5)Mae paragraff 4 yn cael effaith fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (1)(a), “trosglwyddiad buddiant mewn partneriaeth sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 o Atodlen 7” yn cael ei roi yn lle “trafodiad tir”;

(b)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (4)—

(4)Ar adeg y digwyddiad datgymhwyso mae eiddo’r bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy—

(a)a oedd yn cael ei ddal fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad a ryddheir, neu

(b)sy’n deillio o fuddiant a oedd yn cael ei ddal fel eiddo’r bartneriaeth ar yr adeg honno.;

(c)y canlynol yn cael ei roi yn lle is-baragraff (6)—

(6)Ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i—

(a)y buddiannau trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad a ryddheir a’r buddiannau trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth ar adeg y digwyddiad datgymhwyso, a

(b)i ba raddau y mae unrhyw fuddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth ar yr adeg honno yn dod i gael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion ac eithrio dibenion elusennol cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 7 para. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I84Atod. 7 para. 42 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Addasiadau i DCRhT mewn perthynas â phartneriaethauLL+C

43(1)Mae DCRhT yn gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir mewn cysylltiad â thrafodiad tir yr ymrwymir iddo fel prynwyr gan neu ar ran aelodau partneriaeth gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2)Mae adran 58 (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC) yn cael effaith fel pe bai is-adran (2)(c) wedi ei hepgor.

(3)Mae adran 59 (terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC) yn cael effaith fel pe bai paragraff (b) yn y diffiniad o “person cysylltiedig” yn is-adran (7) wedi ei hepgor.

(4)Mae adran 79 (yr hawlydd: partneriaethau) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei le—

79Yr hawlydd: partneriaethau mewn perthynas â thrafodiadau tir

(1)Mae’r adran hon yn ymwneud â chymhwyso adrannau 63 a 63A mewn achos pan fo—

(a)(mewn achos sydd o fewn adran 63(1)(a)) y person wedi talu’r swm o dan sylw yn rhinwedd y ffaith ei fod yn bartner mewn partneriaeth (o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 7 i DTTT),

(b)(mewn achos sydd o fewn adran 63(1)(b)) yr asesiad wedi ei wneud ar y person, neu’r dyfarniad yn ymwneud â rhwymedigaeth y person, yn rhinwedd y ffaith honno, neu

(c)(mewn achos sydd o fewn adran 63A(1)) y prynwr yn y trafodiad tir yn berson sy’n gweithredu yn rhinwedd y ffaith honno.

(2)Mewn achos o’r fath, dim ond partner cynrychiadol o fewn ystyr paragraff 10 o Atodlen 7 i DTTT gaiff wneud hawliad o dan adran 63 neu 63A mewn cysylltiad â’r swm o dan sylw.

(5)Mae adran 80 (asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliad) yn cael effaith fel pe bai “partner cyfrifol o fewn ystyr paragraff 9 o Atodlen 7 i DTTT” wedi ei roi yn lle “unrhyw berson perthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 79(3))” yn is-adran (2).

(6)Mae adran 91 (gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ymwneud â phartneriaeth yn ofynnol) yn cael effaith fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phartneriaeth o fewn ystyr paragraff 3 o Atodlen 7 i DTTT.;

(b)yn is-adran (2)—

(i)“un o’r partneriaid cyfrifol” wedi ei roi yn lle “un o’r partneriaid” (yn y ddau lle) yn y geiriau agoriadol;

(ii)“i’r partner cynrychiadol, neu os nad oes partner cynrychiadol, i un o’r partneriaid cyfrifol o leiaf” wedi ei roi yn lle “i un o’r partneriaid o leiaf” ym mharagraffau (a)(iii) ac (c);

(c)y canlynol wedi ei roi ar ôl is-adran (2)—

(3)Mae i “partner cyfrifol” a “partner cynrychiadol” yr ystyron a roddir gan baragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i DTTT.

(7)Mae adran 100 (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (6)—

(6)Pan fo unrhyw bartner cyfrifol mewn partneriaeth wedi dychwelyd ffurflen dreth, mae’r adran hon yn cael effaith fel pe bai’r ffurflen dreth honno wedi ei dychwelyd gan bob un o’r partneriaid cyfrifol.

(6A)Mae i “partneriaeth” a “partner cyfrifol” yr ystyron a roddir gan baragraffau 3 a 9 o Atodlen 7 i DTTT.

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 7 para. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I86Atod. 7 para. 43 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Hysbysu am drosglwyddo buddiant partneriaethLL+C

44(1)Nid yw trafodiad sy’n drafodiad trethadwy yn rhinwedd paragraff 18 neu 34 (trosglwyddo buddiant partneriaeth) yn drafodiad hysbysadwy onid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero.

(2)Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad uwchlaw’r terfyn cyfradd sero os yw’n cynnwys—

(a)unrhyw swm y mae treth ar raddfa uwchlaw 0% i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, neu

(b)unrhyw swm y byddai treth i’w chodi felly mewn cysylltiad ag ef oni bai am ryddhad.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 7 para. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I88Atod. 7 para. 44 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

RHAN 10LL+CDEHONGLI

Eiddo’r bartneriaeth a chyfranddaliad yn y bartneriaethLL+C

45(1)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at eiddo’r bartneriaeth yn gyfeiriad at fuddiant neu hawl a ddelir gan bartneriaeth neu ar ei rhan, neu gan aelodau partneriaeth, at ddibenion y busnes partneriaeth.

(2)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at gyfranddaliad person yn y bartneriaeth ar unrhyw adeg yn gyfeiriad at y cyfranddaliad y mae gan y person hawl iddo ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 7 para. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I90Atod. 7 para. 45 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwyLL+C

46Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at drosglwyddo buddiant trethadwy yn cynnwys—

(a)creu buddiant trethadwy,

(b)amrywio buddiant trethadwy, ac

(c)ildio neu ollwng buddiant trethadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 7 para. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I92Atod. 7 para. 46 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaethLL+C

47At ddibenion yr Atodlen hon, trosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth mewn unrhyw achos pan fo buddiant trethadwy yn dod yn eiddo’r bartneriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 7 para. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I94Atod. 7 para. 47 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant mewn partneriaethLL+C

48At ddibenion yr Atodlen hon, pan fo person yn caffael neu’n cynyddu cyfranddaliad yn y bartneriaeth trosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth (i’r partner hwnnw ac o’r partneriaid eraill).

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 7 para. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I96Atod. 7 para. 48 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaethLL+C

49At ddibenion yr Atodlen hon, trosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth mewn unrhyw achos pan fo—

(a)buddiant trethadwy a oedd yn eiddo’r bartneriaeth yn peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth, neu

(b)buddiant trethadwy yn cael ei roi neu ei greu o eiddo’r bartneriaeth ac nad eiddo’r bartneriaeth yw’r buddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 7 para. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I98Atod. 7 para. 49 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Gwerth marchnadol lesoeddLL+C

50(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â les at ddibenion yr Atodlen hon—

(a)os yw, neu os oedd, rhoi’r les yn drafodiad y mae, neu yr oedd, adran 13 yn gymwys iddo (neu’n drafodiad y byddai paragraff 13 yn gymwys iddo pe bai’r paragraff hwnnw wedi bod mewn grym ar adeg rhoi’r les), neu

(b)os yw rhoi’r les yn drafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo.

(2)Wrth bennu gwerth marchnadol y les, mae rhwymedigaeth ar ran y tenant o dan y les i’w hystyried os yw (ond dim ond os yw)—

(a)yn rhwymedigaeth megis y rhai a grybwyllir ym mharagraff 16(1) o Atodlen 6 (rhwymedigaethau tenant nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy), neu

(b)yn rhwymedigaeth i roi taliad i berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 7 para. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I100Atod. 7 para. 50 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Personau cysylltiedigLL+C

51(1)Mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (personau cysylltiedig) yn cael effaith at ddibenion yr Atodlen hon.

(2)Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1), mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (7) (partneriaid sy’n gysylltiedig â’i gilydd).

(3)Fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (1) at ddibenion paragraffau 15, 16, 23 a 24, mae’r adran honno yn cael effaith gan hepgor is-adran (6)(c) i (e) (ymddiriedolwr sy’n gysylltiedig â setliad).

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 7 para. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I102Atod. 7 para. 51 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

TrefniadauLL+C

52Yn yr Atodlen hon mae i “trefniadau” yr ystyr a roddir gan adran 31(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 7 para. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I104Atod. 7 para. 52 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources