Search Legislation

Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2018.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, ATODLEN 4. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynir gan adran 18(1))

ATODLEN 4LL+CCYDNABYDDIAETH DRETHADWY

This schedule has no associated Explanatory Notes

Arian neu gyfwerth ariannolLL+C

1Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, oni ddarperir fel arall, yw unrhyw gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddir am destun y trafodiad, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan y prynwr neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Treth ar werthLL+C

2Mae’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad yn cynnwys unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad, ac eithrio treth ar werth sydd i’w chodi yn rhinwedd opsiwn i drethu unrhyw dir o dan Ran 1 o Atodlen 10 i Ddeddf Treth ar Werth 1994 (p. 23) a wneir ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 4 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cydnabyddiaeth ohiriedigLL+C

3Mae swm neu werth y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad i’w bennu heb unrhyw ddisgownt am ohirio’r hawl i’w gael neu i gael unrhyw ran ohono.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 4 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Dosrannu teg a rhesymolLL+C

4(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli—

(a)i ddau drafodiad tir neu ragor,

(b)yn rhannol i drafodiad tir ac yn rhannol i fater arall, neu

(c)yn rhannol i faterion sy’n ei gwneud yn gydnabyddiaeth drethadwy ac yn rhannol i faterion eraill,

i’w dosrannu ar sail deg a rhesymol.

(2)Os na chaiff y gydnabyddiaeth ei dosrannu felly, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei dosrannu felly.

(3)At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gydnabyddiaeth a roddir am yr hyn sydd, yn ei hanfod, yn un fargen i’w thrin fel pe bai i’w phriodoli i holl elfennau’r fargen—

(a)er bod cydnabyddiaeth ar wahân yn cael ei rhoi, neu yr honnir ei bod yn cael ei rhoi, ar gyfer elfennau gwahanol o’r fargen, neu

(b)er bod, neu yr honnir bod, trafodiadau ar wahân mewn cysylltiad ag elfennau gwahanol o’r fargen.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 4 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I8Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

CyfnewidiadauLL+C

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys wrth bennu’r gydnabyddiaeth drethadwy pan fo person (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i un trafodiad tir neu ragor fel prynwr yn gydnabyddiaeth lwyr neu rannol y bydd y person hwnnw (ar ei ben ei hun neu ar y cyd) yn ymrwymo i un trafodiad tir neu ragor fel gwerthwr.

(2)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “trafodiad perthnasol” yw unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau hynny, a

(b)ystyr “caffaeliad perthnasol” yw trafodiad perthnasol yr ymrwymir iddo fel prynwr ac ystyr “gwarediad perthnasol” yw trafodiad perthnasol yr ymrwymir iddo fel gwerthwr.

(3)Mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys os prif fuddiant mewn tir yw testun unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau perthnasol—

(a)pan wneir caffaeliad perthnasol unigol, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw—

(i)gwerth marchnadol testun y caffaeliad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(ii)os rhoi les am rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw, a

(iii)unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r caffaeliad hwnnw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith;

(b)pan wneir dau gaffaeliad perthnasol neu ragor, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer pob caffaeliad perthnasol yw—

(i)gwerth marchnadol testun y caffaeliad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(ii)os rhoi les am rent yw’r caffaeliad, y rhent hwnnw, a

(iii)unrhyw dreth ar werth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r caffaeliad hwnnw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

(4)Wrth bennu gwerth marchnadol at ddiben is-baragraff (3)(a)(i) a (b)(i), rhaid diystyru gostyngiad yn yr hyn a fyddai, fel arall, yn werth marchnadol y testun pan fo’r gostyngiad yn deillio o unrhyw beth a wneir (boed gan y prynwr neu gan unrhyw berson arall) i osgoi treth, a bod hynny’n brif ddiben iddo, neu’n un o’i brif ddibenion.

(5)Mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys os nad prif fuddiant mewn tir yw testun unrhyw un o’r trafodiadau perthnasol—

(a)pan wneir caffaeliad perthnasol unigol yn gydnabyddiaeth ar gyfer un gwarediad perthnasol neu ragor, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y caffaeliad yw swm neu werth unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ac eithrio’r gwarediad neu’r gwarediadau a roddir am y caffaeliad;

(b)pan wneir dau gaffaeliad perthnasol neu ragor yn gydnabyddiaeth ar gyfer un gwarediad perthnasol neu ragor, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer pob caffaeliad perthnasol yw’r gyfran briodol o swm neu werth unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ac eithrio’r gwarediad neu’r gwarediadau a roddir am y caffaeliadau.

(6)At ddibenion is-baragraff (5)(b) y gyfran briodol yw—

Ffigwr 3

pan—

  • GM yw gwerth marchnadol testun y caffaeliad y pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar ei gyfer, ac

  • CGM yw cyfanswm gwerth marchnadol testun yr holl gaffaeliadau perthnasol.

(7)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraff 6 (darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol).

(8)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achos y mae paragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 4 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I10Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennolLL+C

6Yn achos trafodiad tir sy’n rhoi effaith i ddarnddosbarthu neu rannu buddiant trethadwy y mae gan bersonau hawl iddo ar y cyd, nid yw’r gyfran o’r buddiant a ddelir gan y prynwr yn union cyn y darnddosbarthu neu’r rhannu yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 4 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I12Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Prisio cydnabyddiaeth anariannolLL+C

7Oni ddarperir fel arall, cymerir mai gwerth unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir, ac eithrio—

(a)arian (boed mewn sterling neu mewn arian arall), neu

(b)dyled fel y’i diffinnir at ddibenion paragraff 8 (dyled fel cydnabyddiaeth),

yw ei werth marchnadol ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 4 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I14Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Dyled fel cydnabyddiaethLL+C

8(1)Pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf⁠—

(a)ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus i’r prynwr neu gan y gwerthwr, neu

(b)ysgwyddo dyled bresennol gan y prynwr,

cymerir mai swm y ddyled a ad-delir, a ollyngir neu a ysgwyddir yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad, neu ran ohoni, yn ôl y digwydd.

(2)Ond pan fo’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad tir yn llwyr neu’n rhannol ar ffurf y canlynol ill dau—

(a)ad-dalu neu ollwng dyled sy’n ddyledus gan y gwerthwr, a

(b)ysgwyddo’r ddyled honno gan y prynwr,

tybir mai swm y ddyled a ysgwyddir yw’r holl gydnabyddiaeth drethadwy neu ran ohoni, yn ôl y digwydd.

(3)Pan fo—

(a)dyled yn cael ei sicrhau ar destun trafodiad tir yn union cyn y trafodiad ac yn union ar ei ôl, a

(b)hawliau neu rwymedigaethau, mewn perthynas â’r ddyled honno, unrhyw barti i’r trafodiad yn newid o ganlyniad i’r trafodiad neu mewn cysylltiad â’r trafodiad,

yna at ddibenion y paragraff hwn mae’r prynwr yn ysgwyddo’r ddyled honno, ac mae’r ysgwyddo dyled hwnnw yn gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

(4)Mewn achos y mae is-baragraff (1)(b) neu (2) yn gymwys iddo—

(a)pan fo’r ddyled a ysgwyddir yn ddyled, neu’n cynnwys dyled, a sicrheir ar yr eiddo sy’n ffurfio testun y trafodiad, a

(b)pan oedd, yn union cyn y trafodiad, ddau berson neu ragor yn dal cyfran anrhanedig o’r eiddo hwnnw bob un, neu pan fo dau berson neu ragor o’r fath yn union ar ei ôl,

mae swm y ddyled sicredig a ysgwyddir i’w bennu fel pe bai swm y ddyled honno sy’n ddyledus gan bob un o’r personau hynny, ar adeg benodol, y gyfran ohono sy’n cyfateb i gyfran anrhanedig y person o’r eiddo ar yr adeg honno.

(5)At ddibenion is-baragraff (4), caiff pob cyd-denant eiddo ei drin fel pe bai’n dal cyfran anrhanedig gyfartal ohono.

(6)Os effaith y paragraff hwn fyddai bod swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn fwy na gwerth marchnadol testun y trafodiad, mae swm y gydnabyddiaeth drethadwy i’w drin fel pe bai wedi ei gyfyngu i’r gwerth hwnnw.

(7)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyled” yw rhwymedigaeth, boed yn bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu yn y dyfodol,

(b)ystyr “dyled bresennol”, mewn perthynas â thrafodiad, yw dyled a grëwyd neu a oedd yn codi cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, ac nad oedd wedi ei chreu neu nad oedd yn codi mewn cysylltiad â’r trafodiad, ac

(c)mae cyfeiriadau at swm dyled yn gyfeiriadau at y prif swm sy’n daladwy neu, yn ôl y digwydd, gyfanswm y prif symiau sy’n daladwy, ynghyd â swm unrhyw log cronedig sy’n ddyledus ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith neu cyn hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 4 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I16Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Achosion pan na fodlonir amodau ar gyfer esemptiad yn llawnLL+C

9(1)Pe byddai trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno o dan baragraff 5 o Atodlen 3 (cydsyniadau a pherchnogiadau gan gynrychiolwyr personol) oni bai am is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw (achosion pan fo person sy’n caffael eiddo yn rhoi cydnabyddiaeth amdano), nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn cynnwys swm unrhyw ddyled sicredig a ysgwyddir.

(2)Yn is-baragraff (1) mae i “dyled sicredig” yr un ystyr ag ym mharagraff 5 o Atodlen 3.

(3)Pe byddai trafodiad tir yn esempt rhag codi treth arno o dan baragraff 6 o Atodlen 3 (amrywio gwarediadau testamentaidd etc.) oni bai am fethiant i fodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b) o’r paragraff hwnnw (dim cydnabyddiaeth ac eithrio amrywio gwarediad arall), nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn cynnwys gwneud unrhyw amrywiad a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 4 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I18Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Cyfnewid symiau mewn arian tramorLL+C

10(1)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swm neu werth y gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad yn gyfeiriadau at ei swm neu ei gwerth mewn sterling.

(2)At ddibenion y Ddeddf, hon mae gwerth sterling cyfatebol swm a fynegir mewn arian arall i’w ganfod drwy gyfeirio at gyfradd gyfnewid derfynol Llundain ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (oni bai bod y partïon wedi defnyddio cyfradd wahanol at ddibenion y trafodiad).

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 4 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I20Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Gwneud gwaithLL+C

11(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir ar ffurf gwneud gwaith adeiladu, gwella neu drwsio adeilad neu waith arall i gynyddu gwerth tir, yna—

(a)i’r graddau y bodlonir yr amodau a bennir yn is-baragraff (2), nid yw gwerth y gwaith yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, a

(b)i’r graddau na fodlonir yr amodau hynny, mae gwerth y gwaith i’w ystyried fel cydnabyddiaeth drethadwy.

(2)Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)y gwneir y gwaith ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith,

(b)y gwneir y gwaith ar dir a gaffaelir neu sydd i’w gaffael o dan y trafodiad neu ar dir arall a ddelir gan y prynwr neu gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, ac

(c)nad yw’n un o amodau’r trafodiad bod y gwerthwr neu berson sy’n gysylltiedig â’r gwerthwr yn gwneud y gwaith.

(3)Pan fo, yn rhinwedd—

(a)adran 10(5) (contract a throsglwyddo), neu

(b)paragraff 20 o Atodlen 6 (cytundeb ar gyfer les),

ddau drafodiad hysbysadwy (gyda’r contract neu’r cytundeb yn drafodiad cyntaf a’r trafodiad y rhoddir effaith iddo wrth gwblhau neu, yn ôl y digwydd, roi’r les, yn ail drafodiad), caiff yr amod yn is-baragraff (2)(a) ei drin fel pe bai wedi ei fodloni mewn perthynas â’r ail drafodiad os bodlonir ef mewn perthynas â’r cyntaf.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at gaffael tir yn gyfeiriadau at gaffael prif fuddiant ynddo;

(b)cymerir mai gwerth y gwaith yw’r swm y byddai’n rhaid ei dalu ar y farchnad agored am wneud y gwaith o dan sylw, ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gan gynnwys unrhyw dreth ar werth a fyddai i’w chodi mewn cysylltiad â gwneud y gwaith).

(5)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol).

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 4 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I22Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Darparu gwasanaethauLL+C

12(1)Pan fo’r holl gydnabyddiaeth neu ran o’r gydnabyddiaeth ar gyfer trafodiad tir ar ffurf darparu gwasanaethau (ac eithrio gwneud gwaith y mae paragraff 11 yn gymwys iddo), cymerir mai gwerth y gydnabyddiaeth honno yw’r swm y byddai’n rhaid ei dalu ar y farchnad agored ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith er mwyn cael y gwasanaethau hynny.

(2)Mae’r swm hwnnw yn cynnwys unrhyw dreth ar werth a fyddai i’w chodi mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaethau.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 18 (trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgol).

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 4 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I24Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trafodiad tir yr ymrwymir iddo o ganlyniad i gyflogaethLL+C

13Pan ymrwymir i drafodiad tir o ganlyniad i gyflogaeth y prynwr, neu gyflogaeth person sy’n gysylltiedig â’r prynwr, yna—

(a)os yw’r trafodiad yn arwain at godi treth o dan Bennod 5 o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) (buddion trethadwy: llety preswyl) ac—

(i)nad oes unrhyw rent yn daladwy gan y prynwr, neu

(ii)bod y rhent sy’n daladwy gan y prynwr yn llai na swm cyfwerth ag arian parod y budd wedi ei gyfrifo o dan adran 105 neu 106 o’r Ddeddf honno,

cymerir bod swm yn daladwy gan y prynwr fel rhent sy’n hafal â’r swm cyfwerth ag arian parod sydd i’w godi o dan yr adrannau hynny;

(b)pe bai’r trafodiad yn arwain at godi treth o dan y Bennod honno oni bai am adran 99 o’r Ddeddf honno (llety a ddarperir am gyflawni dyletswyddau), y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yw’r gydnabyddiaeth wirioneddol (os oes un);

(c)os nad yw paragraff (a) na pharagraff (b) yn gymwys, cymerir nad yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yn ddim llai na gwerth marchnadol testun y trafodiad ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 4 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I26Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Indemniad a roddir gan brynwrLL+C

14Pan fo’r prynwr yn cytuno i indemnio’r gwerthwr mewn cysylltiad ag atebolrwydd i drydydd parti sy’n codi o dorri rhwymedigaeth ar ran y gwerthwr mewn perthynas â’r tir y mae’r trafodiad yn ymwneud ag ef, nid yw’r cytundeb nac unrhyw daliad a wneir yn unol ag ef yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 4 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I28Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Prynwr yn agored i dalu treth etifeddiantLL+C

15Pan fo—

(a)trafodiad tir—

(i)yn drosglwyddiad gwerth o fewn adran 3 o Ddeddf Treth Etifeddiant 1984 (p. 51) (trosglwyddiadau gwerth), neu

(ii)yn warediad, y rhoddir effaith iddo gan ewyllys neu o dan y gyfraith diewyllysedd, o fuddiant trethadwy a gynhwyswyd yn ystad person yn union cyn iddo farw,

a

(b)y prynwr yn agored i dalu neu’n dod yn agored i dalu, yn cytuno i dalu neu’n talu mewn gwirionedd unrhyw dreth etifeddiant sy’n ddyledus mewn perthynas â’r trosglwyddiad neu’r gwarediad,

nid yw atebolrwydd, cytundeb na thaliad y prynwr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 4 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I30Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Prynwyr yn agored i dreth ar enillion cyfalafLL+C

16(1)Pan fo—

(a)trafodiad tir y mae’r buddiant trethadwy o dan sylw, oddi tano—

(i)yn cael ei gaffael mewn modd ac eithrio bargen a wneir hyd braich, neu

(ii)yn cael ei drin gan adran 18 o Ddeddf Trethiant Enillion Trethadwy 1992 (p. 12) (trafodiadau rhwng personau cysylltiedig) fel pe bai wedi ei gaffael yn y modd hwnnw,

a

(b)y prynwr yn agored i dalu neu’n dod yn agored i dalu, neu’n talu mewn gwirionedd, unrhyw dreth ar enillion cyfalaf sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad cyfatebol o’r buddiant trethadwy,

nid yw atebolrwydd neu daliad y prynwr yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os oes cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad (gan ddiystyru’r atebolrwydd neu’r taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b)).

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 4 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I32Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Costau breinioLL+C

17Nid yw costau y mae’r prynwr yn mynd iddynt o dan adran 9(4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) neu adran 33 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (costau breinio) yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 4 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I34Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Trefniadau sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus neu addysgolLL+C

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn unrhyw achos pan ymrwymir i drefniadau—

(a)lle trosglwyddir tir, neu y rhoddir neu yr aseinir les ar gyfer tir, gan gorff cymwys (“A”) i berson nad yw’n gorff cymwys (“B”) (“y prif drosglwyddiad”),

(b)lle rhoddir, yn gydnabyddiaeth (boed lwyr neu rannol) ar gyfer y prif drosglwyddiad, les neu is-les gan B i A ar gyfer yr holl dir hwnnw, neu’r holl dir i raddau helaeth (“yr adles”),

(c)pan fo B yn ymrwymo i wneud gwaith neu ddarparu gwasanaethau i A, a

(d)pan fo peth o’r gydnabyddiaeth neu’r holl gydnabyddiaeth a roddir gan A i B am wneud y gwaith hwnnw neu ddarparu’r gwasanaethau hynny yn gydnabyddiaeth mewn arian,

pa un a drosglwyddir, neu y rhoddir neu yr aseinir les, ar gyfer unrhyw dir arall yn ogystal gan A i B ai peidio (“trosglwyddiad o dir dros ben”).

(2)Mae’r canlynol yn gyrff cymwys—

(a)cyrff cyhoeddus o fewn paragraff 1 o Atodlen 20 neu a bennir mewn rheoliadau o dan y paragraff hwnnw (rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus);

(b)sefydliadau o fewn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch o fewn ystyr adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13);

(c)corfforaethau addysg bellach o fewn ystyr adran 17 o’r Ddeddf honno;

(d)corfforaethau addysg uwch o fewn ystyr adran 90 o’r Ddeddf honno.

(3)Nid yw’r canlynol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y prif drosglwyddiad nac unrhyw drosglwyddiad o dir dros ben—

(a)yr adles,

(b)B yn gwneud gwaith adeiladu i A, neu

(c)B yn darparu gwasanaethau i A.

(4)Nid yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer yr adles yn cynnwys—

(a)y prif drosglwyddiad,

(b)unrhyw drosglwyddiad o dir dros ben, neu

(c)y gydnabyddiaeth mewn arian a delir gan A i B am y gwaith adeiladu neu’r gwasanaethau eraill y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3).

(5)Mae is-baragraffau (3) a (4) i’w diystyru at ddibenion pennu a yw’r trafodiad tir o dan sylw yn un hysbysadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I36Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources