Search Legislation

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: PENNOD 7

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/01/2024

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/09/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, PENNOD 7. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 7LL+C[F1RHYDDHAD] YN ACHOS ASESIAD GORMODOL NEU DRETH A ORDALWYD

Asesiad dwblLL+C

62Hawlio ymwared yn achos asesiad dwblLL+C

Caiff person sy’n credu bod treth ddatganoledig wedi ei hasesu ar y person hwnnw fwy nag unwaith mewn perthynas â’r un mater wneud hawliad i ACC am ymwared rhag unrhyw dreth a godir ddwywaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 62 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Treth a ordalwyd etc.LL+C

63Hawlio [F2rhyddhad] rhag treth a ordalwyd etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo person wedi talu swm o dreth ddatganoledig ond yn credu nad oedd y dreth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(b)pan aseswyd bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, neu pan fo dyfarniad [F3ACC] wedi ei wneud bod swm o dreth ddatganoledig i’w godi ar berson, ond bod y person yn credu na ddylid codi’r dreth ddatganoledig arno.

(2)Caiff y person wneud hawliad i ACC ad-dalu’r swm neu [F4ollwng y swm].

(3)Pan fo’r adran hon yn gymwys, nid yw ACC yn rhwym i roi [F5rhyddhad] ac eithrio fel y darperir yn y Rhan hon neu drwy neu o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau eraill [F6Deddfau Trethi Cymru].

(4)At ddibenion yr adran hon ac adrannau [F763A] i 81, trinnir swm a delir gan un person ar ran person arall fel swm a dalwyd gan y person arall.

[F863AHawlio rhyddhad mewn cysylltiad â threth trafodiadau tir: rheoliadau yn peidio â chael effaithLL+C

(1)Os yw—

(a)yn rhinwedd adran 26(2) o DTTT, y bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir mewn rheoliadau a wrthodir yn gymwys i drafodiad trethadwy, a

(b)o ganlyniad, swm y dreth trafodiadau tir sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r trafodiad yn fwy na’r swm a fyddai wedi bod i’w godi fel arall,

caiff y prynwr yn y trafodiad wneud hawliad i ACC am ollwng neu ad-dalu’r swm o dreth trafodiadau tir na fyddai wedi bod i’w godi pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi eu gwneud.

(2)Pan fo ACC yn penderfynu rhoi effaith i hawliad o dan is-adran (1) rhaid iddo hefyd ollwng neu ad-dalu unrhyw gosb neu log sy’n perthyn i’r swm o dreth a ollyngir neu a ad-delir.

(3)Mae unrhyw gosb neu log yn perthyn i swm o dreth at y diben hwn i’r graddau⁠—

(a)y mae i’w phriodoli neu i’w briodoli i’r swm, a

(b)na fyddid wedi mynd iddo oni bai am gymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir i’r trafodiad o dan sylw.

(4)Rhaid i hawliad o dan is-adran (1) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r hwyraf o—

(a)y dyddiad y mae’r rheoliadau a wrthodir yn peidio â chael effaith, neu

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth sy’n cynnwys asesiad o’r dreth sydd i’w chodi a gyfrifir gan ddefnyddio’r bandiau treth a’r cyfraddau treth a bennir yn y rheoliadau a wrthodir.

(5)Mae hawliad o dan is-adran (1) i’w drin fel pe bai’n ddiwygiad a wneir o dan adran 41 i’r asesiad o’r dreth sydd i’w chodi sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen dreth.

(6)Yn yr adran hon—

  • mae i “rheoliadau a wrthodir” (“rejected regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 26(1)(a) o DTTT;

  • mae i “trafodiad trethadwy” (“chargeable transaction”) yr ystyr a roddir gan adran 17 o’r Ddeddf honno.]

Cyfoethogi anghyfiawnLL+C

64[F9Gwrthod hawliadau am ryddhad oherwydd cyfoethogi anghyfiawn]LL+C

Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am [F10ryddhad] a wneir o dan adran 63 [F11neu 63A] pe byddai ad-dalu neu [F12ollwng y] swm yn cyfoethogi’r hawlydd yn annheg, neu i’r graddau y byddai’n gwneud hynny.

65Cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellachLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo swm a dalwyd ar ffurf treth ddatganoledig a fyddai (ar wahân i adran 64) i’w ad-dalu i unrhyw berson (“y trethdalwr”) neu [F13i’w ollwng], a

(b)pan fo holl gost neu ran o gost talu’r swm hwnnw i ACC wedi ei hysgwyddo, at ddibenion ymarferol, gan berson heblaw’r trethdalwr.

(2)Pan fo, mewn achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo, golled neu niwed wedi dod i ran y trethdalwr, neu y gallai colled neu niwed ddod i’w ran, o ganlyniad i ragdybiaethau anghywir a wnaed yn achos y trethdalwr am y ffordd y mae unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â threth ddatganoledig yn gweithredu, mae’r golled honno i’w diystyru neu’r niwed hwnnw i’w ddiystyru, ac eithrio i raddau’r swm sydd wedi ei feintioli, wrth wneud unrhyw ddyfarniad—

(a)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai ad-dalu swm i’r trethdalwr neu [F14ollwng y swm] yn cyfoethogi’r trethdalwr, neu

(b)o ba un a fyddai neu i ba raddau y byddai unrhyw gyfoethogiad o ran y trethdalwr yn annheg.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y swm sydd wedi ei feintioli” yw’r swm (os o gwbl) y mae’r trethdalwr yn dangos ei fod y swm a fyddai’n digolledu’r trethdalwr yn briodol am golled neu niwed y dengys y trethdalwr iddo ddod i ran y trethdalwr yn sgil gwneud y rhagdybiaethau anghywir.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddarpariaethau sy’n ymwneud â threth ddatganoledig yn gyfeiriad at unrhyw ddarpariaethau—

(a)mewn unrhyw ddeddfiad neu [F15ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir] (boed mewn grym o hyd ai peidio) sy’n berthnasol i’r dreth ddatganoledig neu i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â hi, neu

(b)mewn unrhyw hysbysiad a gyhoeddir gan ACC o dan neu at ddibenion unrhyw ddeddfiad o’r fath.

66Cyfoethogi anghyfiawn: trefniadau talu’n ôlLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i drefniadau talu’n ôl a wneir gan unrhyw berson gael eu diystyru at ddibenion adran 64 ac eithrio pan fo’r trefniadau—

(a)yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi gan y rheoliadau, a

(b)wedi eu cefnogi gan unrhyw ymrwymiadau i gydymffurfio â darpariaethau’r trefniadau ag y bo’n ofynnol eu rhoi i ACC yn ôl y rheoliadau.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “trefniadau talu’n ôl” yw unrhyw drefniadau at ddibenion hawliad o dan adran 63 [F16neu 63A]

(a)a wneir gan unrhyw berson at ddiben sicrhau na chaiff y person ei gyfoethogi’n annheg yn sgil ad-dalu neu [F17ollwng] unrhyw swm yn unol â’r hawliad, a

(b)sy’n darparu ar gyfer talu’n ôl i bersonau sydd at ddibenion ymarferol wedi ysgwyddo holl gost neu ran o gost y taliad gwreiddiol o’r swm hwnnw i ACC.

(3)Mae’r ddarpariaeth a gaiff ei rhagnodi drwy reoliadau o dan yr adran hon ar gyfer ei chynnwys mewn trefniadau talu’n ôl yn cynnwys yn benodol—

(a)darpariaeth sy’n gwneud taliad yn ôl o’r math a ddarperir ar ei gyfer yn y trefniadau yn ofynnol o fewn unrhyw gyfnod ar ôl yr ad-daliad y mae’n ymwneud ag ef a bennir yn y rheoliadau;

(b)darpariaeth ar gyfer ad-dalu symiau i ACC pan na fo’r symiau hynny yn cael eu talu’n ôl yn unol â’r trefniadau;

(c)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod llog a delir gan ACC ar unrhyw swm a ad-delir ganddo i’w drin yn yr un ffordd â’r swm hwnnw at ddibenion unrhyw ofyniad o dan y trefniadau i dalu personau yn ôl neu i ad-dalu ACC;

(d)darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion sy’n ymwneud â dilyn y trefniadau a ddisgrifir yn y rheoliadau yn cael eu cadw a’u darparu i ACC.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon osod rhwymedigaethau ar bersonau a bennir yn y rheoliadau—

(a)i wneud yr ad-daliadau i ACC y mae’n ofynnol iddynt eu gwneud yn unol ag unrhyw ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau talu’n ôl yn rhinwedd is-adran (3)(b) neu (c);

(b)i gydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw drefniadau o’r fath yn rhinwedd is-adran (3)(d).

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch ym mha ffurf a modd, a phryd, y mae ymrwymiadau i’w rhoi i ACC yn unol â’r rheoliadau a chaiff unrhyw ddarpariaeth o’r fath ganiatáu i ACC benderfynu ynghylch y materion hynny yn unol â’r rheoliadau.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch cosbau pan fo person yn torri rhwymedigaeth a osodir yn rhinwedd is-adran (4).

(7)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth yn benodol—

(a)ynghylch yr amgylchiadau pan gyfyd rhwymedigaeth i gosb;

(b)ynghylch symiau cosbau;

(c)ar gyfer cosbau penodedig, cosbau dyddiol a chosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at symiau’r ad-daliadau y byddai’r person wedi bod yn agored i’w gwneud i ACC pe byddai’r rhwymedigaeth wedi ei thorri;

(d)ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau;

(e)ynghylch adolygiadau o gosbau neu apelau yn eu herbyn;

(f)ynghylch gorfodi cosbau.

(8)Ond ni chaiff y rheoliadau greu troseddau.

(9)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (6) ddiwygio unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(10)Nid yw rheoliadau a wneir felly yn gymwys i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I10A. 66 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2

Seiliau eraill dros wrthod hawliadauLL+C

67Achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliadLL+C

(1)Nid oes angen i ACC roi effaith i hawliad am [F18ryddhad] a wneir o dan adran 63 os yw’r hawliad yn dod o fewn achos a ddisgrifir yn yr adran hon, neu i’r graddau y mae’n gwneud hynny.

(2)Achos 1 yw pan fo’r swm o dreth ddatganoledig a dalwyd, neu sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd—

(a)camgymeriad mewn hawliad [F19neu ddewis], neu

(b)camgymeriad o ran gwneud [F20hawliad neu ddewis, neu fethu â gwneud hawliad neu ddewis].

[F21(2A)Yn is-adran (2), ystyr “dewis” yw dewis a wneir o dan baragraff 3, 5 neu 12 o Atodlen 15 i DTTT (rhyddhadau sy’n ymwneud â thai cymdeithasol).]

(3)Achos 2 yw pan fo’r hawlydd yn gallu ceisio [F22rhyddhad] drwy gymryd camau eraill o dan y Rhan hon, neu pan fydd yn gallu gwneud hynny.

(4)Achos 3 yw—

(a)pan allai’r hawlydd fod wedi ceisio [F23rhyddhad] drwy gymryd camau o’r fath o fewn cyfnod sydd wedi dod i ben erbyn hyn, a

(b)pan wyddai’r hawlydd neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod [F23rhyddhad] o’r fath ar gael.

(5)Achos 4 yw pan wneir yr hawliad ar seiliau—

(a)sydd wedi eu rhoi gerbron y tribiwnlys yn ystod apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, neu

(b)sydd wedi eu rhoi gerbron ACC yn ystod adolygiad gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu, sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei ddyfarnu gan y tribiwnlys yn rhinwedd adran 184.

(6)Achos 5 yw pan wyddai’r hawlydd, neu pan ddylai’n rhesymol fod wedi gwybod, am y seiliau ar gyfer yr hawliad cyn y diweddaraf o’r canlynol—

(a)y diwrnod pan ddyfarnodd y tribiwnlys ynghylch apêl berthnasol y gellid bod wedi cyflwyno’r sail fel rhan ohoni (neu’r dyddiad y mae i’w thrin fel pe bai wedi ei dyfarnu felly);

(b)y diwrnod pan dynnodd yr hawlydd apêl berthnasol i’r tribiwnlys yn ôl;

(c)diwedd y cyfnod pan oedd gan yr hawlydd hawl i wneud apêl berthnasol i’r tribiwnlys.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “apêl berthnasol” yw apêl gan yr hawlydd sy’n ymwneud â’r swm a dalwyd neu’r swm sy’n agored i’w dalu.

(8)Achos 6 yw pan dalwyd y swm o dan sylw neu pan fo’n agored i’w dalu—

(a)o ganlyniad i achos sy’n gorfodi talu’r swm hwnnw a ddygwyd yn erbyn yr hawlydd gan ACC, neu

(b)yn unol â chytundeb rhwng yr hawlydd ac ACC sy’n setlo achos o’r fath.

(9)Achos 7 yw—

(a)pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn ormodol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo rhwymedigaeth yr hawlydd i dreth ddatganoledig, a

(b)pan wnaed y camgymeriad oherwydd bod rhwymedigaeth wedi ei chyfrifo yn unol â’r arfer a oedd yn bodoli’n gyffredinol ar y pryd.

(10)Nid yw achos 7 yn gymwys pan fo’r swm a dalwyd, neu’r swm sy’n agored i’w dalu, yn dreth ddatganoledig sydd wedi ei chodi’n groes i gyfraith yr UE.

(11)At ddibenion is-adran (10), caiff swm o dreth ddatganoledig ei chodi’n groes i gyfraith yr UEF24...—

(a)[F25os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i’r darpariaethau] sy’n ymwneud â rhydd symudiad nwyddau, personau, gwasanaethau a chyfalaf yn Nheitlau II a IV o Ran 3 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, [F26a]

[F27(b)os yw’r hawliau a roddir gan y darpariaethau hynny, ar yr adeg y codir y dreth, yn cael eu cydnabod ac ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno.]

[F28(12)Achos 8 yw—

(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I12A. 67 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources