Adrannau 2-9 – Sefydlu, statws, aelodaeth, pwyllgorau a staff Awdurdod Cyllid Cymru
7.Mae adran 2 yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fel corff corfforaethol gyda’i bersonoliaeth gyfreithiol ei hun. Bydd ACC yn gorff y Goron gyda statws adran anweinidogol, yn hytrach na statws Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.
8.Mae adrannau 3 i 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth ACC. Bydd y corff yn cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol a bydd rhwng wyth a thri ar ddeg o aelodau. Mae adran 3(3) yn sicrhau bod nifer yr aelodau anweithredol wastad yn uwch na nifer yr aelodau gweithredol. Mae adran 4 yn nodi’r swyddi hynny a fyddai’n anghymhwyso person rhag cael ei benodi’n aelod anweithredol o ACC.
9.Mae adrannau 5 a 7 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru benodi, ailbenodi a diswyddo aelodau anweithredol gan gynnwys cadeirydd a dirprwy gadeirydd, ac i wneud rheoliadau i ddiwygio nifer yr aelodau. Ceir darpariaethau hefyd ar gyfer diswyddo’r aelod gweithredol etholedig.
10.Mae adran 6 yn darparu ar gyfer penodi aelod gweithredol etholedig. Bydd yr aelod gweithredol etholedig yn cael ei benodi gan yr aelodau anweithredol yn dilyn pleidlais gudd ymhlith staff ACC a gynhelir gan ACC.
11.Mae adran 8 yn gwneud darpariaeth i ACC sefydlu pwyllgorau (a gaiff sefydlu is-bwyllgorau) at unrhyw ddiben sy’n ymwneud â’i swyddogaethau. Caiff ACC benderfynu ar gyfansoddiad y pwyllgorau a hefyd benodi pobl nad ydynt yn aelodau o ACC a thalu iddynt am y gwasanaethau a roddant, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
12.Mae adran 9 yn darparu ar gyfer penodi prif weithredwr ACC, sy’n atebol i ACC am redeg ACC mewn modd effeithlon ac effeithiol. Gweinidogion Cymru fydd yn penodi’r prif weithredwr cyntaf ac aelodau anweithredol ACC fydd yn gwneud y penodiadau dilynol, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Gwneir darpariaeth hefyd i ACC benodi staff, a bydd y staff hynny yn weision sifil.