Adran 8 – Etholiadau a chynghorwyr
16.Mae adran 8 yn galluogi rheoliadau uno i gynnwys darpariaeth i ddileu etholiadau cyffredin ar gyfer prif awdurdodau lleol sy’n uno’n wirfoddol ac (o ganlyniad) i ymestyn tymhorau swyddi cynghorwyr yr awdurdodau hyn; darpariaeth i ddatgymhwyso, am gyfnod a bennir yn y rheoliadau uno, y gofynion yn adran 89 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n galw am gynnal is-etholiad i lenwi lleoedd gwag achlysurol (er enghraifft, lle gwag sy’n codi gan fod cynghorydd yn marw neu’n ymddiswyddo) ar gyngor prif awdurdod lleol sy’n uno’n wirfoddol; a darpariaeth i bennu dyddiad yr etholiadau cyffredin cyntaf i’r prif awdurdodau lleol newydd a thymhorau swyddi’r cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw. Mae’r ddarpariaeth i ddatgymhwyso’r gofyniad i lenwi lle gwag achlysurol yn angenrheidiol er mwyn osgoi sefyllfa lle gall fod angen cynnal is-etholiad ychydig ddyddiau cyn i’r prif awdurdodau lleol presennol gael eu diddymu, a fyddai’n wastraff arian ac adnoddau.
17.Mae adran 8(d) yn galluogi rheoliadau uno i gynnwys darpariaeth ar gyfer gohirio etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorau cymuned yn y prif awdurdod lleol newydd ac i ymestyn tymhorau swyddi’r cynghorwyr cymuned presennol. Fel rheol, cyfunir etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorau cymuned ag etholiadau cyffredin ar gyfer prif awdurdodau lleol, a’u cynnal yr un pryd, am resymau effeithlonrwydd. Mae adran 8(d), felly, yn galluogi symud etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorau cymuned mewn awdurdodau sy’n uno er mwyn iddynt gyd-daro â’r dyddiad newydd ar gyfer etholiadau cyffredin i’r prif awdurdod newydd. Dylai hynny arbed arian ac adnoddau.