Adran 7 – Awdurdodau cysgodol
11.Mae adran 7 yn darparu bod rhaid i reoliadau uno gynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu “awdurdod cysgodol” (a ddiffinnir yn adran 2(7)), sy’n cynnwys holl aelodau’r prif awdurdodau lleol a gyflwynodd y cais ar y cyd i uno’n wirfoddol. Rhaid i’r rheoliadau uno gynnwys darpariaeth ynghylch penodi gweithrediaeth gysgodol gan yr awdurdod cysgodol, a rhaid iddynt bennu swyddogaethau’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol ac ymdrin â’r ffordd y bydd y swyddogaethau hynny’n cael eu harfer yn ystod y cyfnod cysgodol. Rhaid iddynt hefyd wneud darpariaeth i’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol ddod yn brif awdurdod lleol a’i weithrediaeth yn ystod y “cyfnod cyn yr etholiad” (a ddiffinnir yn is-adran (3)); mae “dyddiad trosglwyddo”, a ddefnyddir yn y diffiniad hwnnw, yn cael ei ddiffinio yn adran 2(8).
12.Mae hyn yn golygu mai’r awdurdod cysgodol fydd y prif awdurdod lleol newydd yn y cyfnod rhwng y dyddiad y bydd prif awdurdod lleol newydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ei swyddogaethau (ar 1 Ebrill 2018, i gyd-daro â blwyddyn ariannol yr awdurdod), a dyddiad cynnal yr etholiadau eu hunain, ar ddydd Iau cyntaf y mis Mai canlynol mae’n debyg (gweler adran 8 ynglŷn â hynny). Mae hyn yn angenrheidiol gan na fydd yr etholiadau i’r prif awdurdod lleol newydd wedi eu cynnal eto, fel y nodwyd. Felly, yn ystod y cyfnod cychwynnol, bydd yr awdurdod newydd wedi ei ffurfio o’r aelodau a etholwyd i’r hen awdurdodau a oedd yn uno, er y bydd yr hen brif awdurdodau lleol sy’n uno wedi peidio â bodoli fel endidau ar wahân, bron yn sicr ar 31 Mawrth 2018, o dan y rheoliadau uno a wnaed oherwydd adran 6(2).
13.Mae’n debyg mai ar 7 Mai 2018 y cynhelir yr etholiadau cyffredin cyntaf (ystyr y term “etholiadau cyffredin” yw ethol yr holl gynghorwyr a fydd yn gwasanaethu ar y cyngor). Felly, yr awdurdod cysgodol fydd y prif awdurdod lleol newydd o 1 Ebrill 2018 (y dyddiad ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau) tan y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiadau cyffredin cyntaf (sef y saib arferol ar ôl etholiadau llywodraeth leol ar gyfer y trosglwyddo swyddogol, yn rhinwedd adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972). Bryd hynny, y cynghorwyr newydd fydd yn ffurfio’r prif awdurdod lleol newydd a bydd y cynghorwyr a etholwyd i’r hen gynghorau a ddiddymwyd yn sefyll i lawr. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 8(c).
14.Mae adran 7(2) a (3) yn diffinio’r “cyfnod cysgodol”, sef y cyfnod rhwng y dyddiad y bydd yr awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol yn arfer swyddogaethau am y tro cyntaf o dan y rheoliadau uno a’r dyddiad y trosglwyddir y cyfrifoldebau llawn ar y dyddiad trosglwyddo (sef 1 Ebrill 2018), a’r “cyfnod cyn yr etholiad”, a drafodir uchod.
15.Mae adran 7(4) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau ynghylch eu swyddogaethau i awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol roi sylw i ganllawiau o’r fath.