Adran 5 – Canllawiau ynghylch ceisiadau i uno
9.Mae adran 5 yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i brif awdurdodau lleol ynghylch cais ar y cyd i uno’n wirfoddol, gan gynnwys canllawiau ar yr amcanion y dylai unrhyw gais geisio eu cyflawni; canllawiau ar faterion y bydd angen i’r prif awdurdodau lleol eu hystyried wrth lunio cais; canllawiau ynghylch sut y dylid cynnal yr ymgynghoriad y manylir arno yn adran 4; ac unrhyw ganllawiau eraill sy’n berthnasol i wneud cais o dan adran 3(1). Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i brif awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu dyroddi mewn perthynas â chais i uno’n wirfoddol; mae is-adran (3) yn egluro y gellir bodloni’r gofyniad hwn drwy fod wedi dilyn canllawiau a ddyroddwyd cyn i’r adran hon ddod i rym.