Adran 39 – Ymestyn dros dro swyddogaethau Panel sy’n ymwneud â phenaethiaid gwasanaethau i brif swyddogion
76.Mae adran 39 yn ymestyn cymhwysiad adran 143A o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n gymwys o ran cyflogau penaethiaid gwasanaeth cyflogedig, i gynnwys holl brif swyddogion holl brif awdurdodau lleol Cymru hyd 31 Mawrth 2020.
77.O ganlyniad, bydd y Panel yn gallu gwneud argymhellion ynghylch unrhyw bolisi, a amlinellir yn natganiad polisi tâl awdurdod, sy’n ymwneud â chyflog prif swyddog awdurdod ac unrhyw newid i gyflog prif swyddog sydd yn yr arfaeth; a rhaid i’r awdurdod roi sylw i unrhyw argymhelliad o’r fath gan y Panel. Bydd hefyd yn ofynnol i awdurdod lleol ymgynghori â’r Panel ynghylch unrhyw newid i gyflog prif swyddog sydd yn yr arfaeth nad yw’n gymesur â newid i gyflogau staff eraill yr awdurdod. Rhaid i’r awdurdod roi sylw i unrhyw argymhelliad a geir wedi hynny gan y Panel wrth benderfynu a yw am fwrw ymlaen â’r newid ai peidio. Mae’r adran hefyd yn ymdrin â phŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i’r Panel ynghylch arfer ei swyddogaethau estynedig, a rhaid i’r Panel roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.