Adran 26 – Adroddiadau’r Panel
57.Mae adran 26 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Panel gynnwys ei benderfyniadau cyntaf ar dâl a phensiynau ar gyfer aelodau o brif awdurdod lleol newydd yn adroddiad blynyddol y Panel sy’n ymwneud â blwyddyn ariannol gyntaf yr awdurdod. Mae is-adran (1) yn cyfeirio at adran 146(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011; golyga hyn bod rhaid i’r panel gynnwys yn yr adroddiad ei benderfyniadau ar daliadau i aelodau o awdurdodau cysgodol ar gyfer busnes swyddogol ac ar gyfer absenoldeb teuluol (ymdrinnir â hyn yn adran 142(2) i (4) o Fesur 2011). Rhaid i’r Panel hefyd gynnwys ei benderfyniadau ar gyfer yr aelodau o awdurdod y bydd pensiynau yn daladwy iddynt, neu mewn perthynas â hwy.
58.Caniateir i’r materion sy’n ymwneud ag aelodau o awdurdod cysgodol gael eu cynnwys naill ai mewn adroddiad blynyddol neu mewn adroddiad atodol. Os cânt eu cynnwys mewn adroddiad atodol, fodd bynnag, rhaid ei gyhoeddi yn ddim hwyrach na 6 wythnos cyn i’r awdurdod cysgodol gael ei sefydlu neu ei ethol.