Adran 25 - Cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i gyflawni swyddogaethau perthnasol
53.Mae adran 25 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo’r Panel i gyflawni ei swyddogaethau o dan adrannau 142 a 143 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, (sy’n ymwneud â’r taliadau y gellir eu gwneud neu y mae rhaid eu gwneud i aelodau o awdurdodau lleol penodol a’u hawl i bensiynau), mewn perthynas ag aelodau o awdurdod cysgodol, ac aelodau o brif awdurdod lleol arfaethedig yn y flwyddyn ariannol gyntaf y mae’n gweithredu.
54.Wrth wneud penderfyniadau ynghylch taliadau i aelodau o awdurdodau cysgodol, mae adran 25(4)(a) yn cael yr effaith o’i gwneud yn ofynnol i’r Panel ystyried effaith ariannol gwneud hynny ar yr awdurdodau cysgodol eu hunain; bydd ystyriaeth debyg yn gymwys i benderfyniadau ar gyfer prif awdurdodau lleol newydd.
55.Effaith adran 25(4)(b) yw y bydd yn ofynnol i’r Panel osod gofynion er mwyn osgoi dyblygu taliadau i’r rheini sy’n aelodau o fwy nag un awdurdod ar yr un pryd (megis bod yn aelodau o awdurdod sy’n uno ac o’r awdurdod cysgodol cysylltiedig ar yr un pryd).
56.Yn achos uno gwirfoddol, daw’r prif awdurdod lleol newydd i fodolaeth ar 1 Ebrill 2018. O dan reoliadau a wneir o dan adran 7(1)(f), daw aelodau’r awdurdod cysgodol yn aelodau o’r prif awdurdod lleol newydd am yr ychydig wythnosau cyntaf, gan arfer holl swyddogaethau’r awdurdod newydd hwnnw. Yn dilyn yr etholiadau cyntaf i’r awdurdod newydd (a gynhelir ym mis Mai 2018, fwy na thebyg), bydd corff newydd o aelodau etholedig yn cymryd yr awenau, a bydd yr aelodau a etifeddwyd o’r awdurdod cysgodol yn rhoi’r gorau iddi. Mae is-adran 25(5) yn ymdrin â hyn drwy alluogi’r Panel, wrth wneud penderfyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol gyntaf yr awdurdod newydd, i wneud penderfyniadau gwahanol ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiadau cyntaf a’r cyfnod ar ôl hynny.